Ailymgeisio am drwydded yrru yn dilyn cyflwr meddygol

Printable version

1. Sut i ailymgeisio

Bydd DVLA yn anfon llythyr atoch pan fydd eich trwydded yn cael ei chymryd i ffwrdd, neu os gwrthodir eich cais am drwydded yrru. Bydd y llythyr yn dweud wrthych os oes angen ichi aros am gyfnod cyn cael trwydded newydd.

Yna gallwch ailymgeisio 8 wythnos cyn diwedd y cyfnod hwn.

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer pryd y gallwch yrru eto os gwnaethoch ildio’ch trwydded yn wirfoddol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Trwydded gar neu feic modur

I ailymgeisio, llenwch y ffurflen ar gyfer eich cyflwr meddygol a ffurflen gais D1W, a’u hanfon i DVLA.

Dewiswch eich cyflwr meddygol i ddod o hyd i’r ffurflen gywir.

Gallwch gael ffurflen gais D1W gan Swyddfa’r Post sy’n cynnig gwasanaethau DVLA. cyn ichi fynd.

Gwiriwch gyda’ch meddyg eich bod yn gallu bodloni’r safonau meddygol ar gyfer gyrru cyn ailymgeisio am eich trwydded.

Efallai y bydd angen ichi anfon tystiolaeth o’ch ffitrwydd i yrru. Bydd y llythyr gan DVLA yn dweud wrthych os yw hyn yn wir.

Trwydded fws, coets neu lori

Llenwch ffurflen gais D2W a’r ffurflen ar gyfer eich cyflwr meddygol, a’u hanfon i DVLA.

Dewiswch eich cyflwr meddygol i ddod o hyd i’r ffurflen gywir.

Archebwch becyn D2, sydd â phopeth sydd ei angen arnoch i wneud cais.

Os ydych rhwng 45 a 65 oed, rhaid ichi hefyd lenwi D4 a’i anfon i DVLA os nad ydych wedi gwneud hynny yn y 5 mlynedd diwethaf. Anfonwch ef gyda’ch ffurflen D2W. Darllenwch y daflen wybodaeth i’ch helpu i lenwi’r D4.

Efallai y bydd angen ichi anfon tystiolaeth o’ch ffitrwydd i yrru. Bydd y llythyr gan DVLA yn dweud wrthych os yw hyn yn wir.

O 65 oed, bydd angen adnewyddu eich trwydded bob blwyddyn a rhaid i’ch cais gynnwys ffurflen adroddiad meddygol D4 wedi’i chwblhau.

Oedi os yw’ch cais yn cael ei gyfeirio at feddyg

Efallai y bydd eich cais yn cymryd mwy o amser nag arfer os oes angen ei gyfeirio at feddyg (oni bai eich bod yn gwneud cais am drwydded fws neu lori).

Os oes gennych drwydded yrru bresennol ac nad yw’ch meddyg neu optegydd wedi dweud wrthych na ddylech yrru, efallai y byddwch yn gallu gyrru tra bod DVLA yn ystyried eich cais. Darllenwch ‘Gaf i yrru tra bod fy nghais gyda DVLA?’ am ragor o ganllawiau.

Ble i anfon eich cais

Anfonwch eich cais wedi’i gwblhau i Grŵp Meddygol Gyrwyr drwy ffacs neu drwy’r post.

Grŵp Meddygol Gyrwyr
¶Ù³Õ³¢´¡ÌýÌýÌý
´¡²ú±ð°ù³Ù²¹·É±ðÌýÌýÌý
SA99 1TU
Ffacs: 0845 850 0095
Cael gwybod am gostau galwadau

2. Pryd y gallwch ddechrau gyrru eto

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer pryd y gallwch yrru eto yn dibynnu ar a gafodd eich trwydded ei hildio’n wirfoddol, neu os cafodd ei diddymu neu ei gwrthod am resymau meddygol.

Trwyddedau sydd wedi’u diddymu neu eu gwrthod am resymau meddygol

Gallwch ailymgeisio am eich trwydded pan fydd eich meddyg yn dweud eich bod yn bodloni’r safonau meddygol ar gyfer gyrru.

Trwyddedau sydd wedi’u hildio’n wirfoddol

Gallwch yrru tra bod eich trwydded yn cael ei hadnewyddu os ydych yn bodloni’r holl amodau canlynol:

  • mae gennych gefnogaeth eich meddyg i barhau i yrru

  • roedd gennych drwydded ddilys

  • rydych dim ond yn gyrru o dan amodau’r drwydded flaenorol

  • mae eich cais yn llai na blwydd oed

  • ni chafodd eich trwydded ddiwethaf ei diddymu na’i gwrthod am resymau meddygol

  • nid ydych wedi’ch gwahardd ar hyn o bryd

  • ni chawsoch eich gwahardd fel troseddwr risg uchel ar neu ar ôl 1 Mehefin 2013

Darllenwch y canllawiau ‘Gaf i yrru tra bod fy nghais gyda DVLA?’ am ragor o wybodaeth.