Herio penderfyniad budd-dal (ailystyriaeth orfodol)

Sgipio cynnwys

Cyn i chi ddechrau

Sicrhewch eich bod yn deall y rheswm dros y penderfyniad cyn i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol. Bydd hyn yn eich helpu i esbonio pam rydych yn anghytuno.

Os ydych chi鈥檔 gofyn am ailystyriaeth orfodol, bydd rhywun yn edrych ar eich cais budd-dal llawn eto. Efallai bydd eich budd-dal yn stopio, aros yr un peth, yn cynyddu neu鈥檔 gostwng.

Deall y penderfyniad a gawsoch

Os oes angen help arnoch i ddeall y rheswm dros eich penderfyniad budd-dal, ffoniwch y swyddfa budd-daliadau sy鈥檔 delio 芒鈥檆h hawliad. Byddant yn gallu esbonio鈥檙 rheswm dros eich penderfyniad budd-dal ac ateb unrhyw gwestiynau.

Gallwch barhau i ofyn am ailystyriaeth orfodol ar 么l i chi siarad 芒鈥檆h swyddfa budd-daliadau.

Os ydych chi eisiau esboniad ysgrifenedig

Gallwch ofyn am esboniad ysgrifenedig gan y swyddfa budd-daliadau sy鈥檔 delio 芒鈥檆h hawliad 鈥� a elwir yn 鈥榙atganiad ysgrifenedig o resymau鈥�.

Nid oes angen i chi wneud hyn ar gyfer Taliad Annibyniaeth Bersonol - bydd eich llythyr penderfyniad yn cynnwys datganiad ysgrifenedig.

Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol o hyd, ond rhaid i chi wneud hyn o fewn 14 diwrnod i鈥檙 dyddiad ar eich datganiad ysgrifenedig o resymau.

Cael help a chyngor

Gallwch gael cymorth a chyngor am ddim gan:

Gallwch hefyd ofyn am gyngor gan gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.