Apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynglŷn â’ch hawl i gael budd-daliadau, er enghraifft Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Chredyd Cynhwysol.
Mae yna broses wahanol neu os ydych eisiau .
Y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant, sy’n rhan o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF), sy’n penderfynu ar apeliadau. Mae’r tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth.
Bydd y tribiwnlys yn gwrando ar y ddwy ochr cyn gwneud penderfyniad.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael ynÌýSaesneg (English).
Cyn i chi apelio
Fel arfer mae’n rhaid i chi ofyn i’r penderfyniad am eich budd-daliadau gael ei ystyried eto cyn y gallwch apelio. Gelwir hyn yn ‘gorfodi i ailystyried’.
Bydd eich llythyr penderfyniad yn dweud os gallwch apelio ar unwaith ac nad oes angen i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol.
Sut i apelio
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal am ddim.
Dylech apelio i’r tribiwnlys o fewn mis i chi gael eich penderfyniad gorfodi i ailystyried. Os byddwch yn dechrau eich apêl ar ôl mis bydd yn rhaid i chi esbonio pam na wnaethoch yr apêl yn gynharach. Efallai na fydd eich apêl yn cael ei derbyn.
Ar ôl i chi gyflwyno’ch apêl, gallwch reoli eich apêl ar-lein a darparu tystiolaeth i’r tribiwnlys. Penderfynir ar eich apêl mewn gwrandawiad tribiwnlys.
Penderfyniadau budd-dal y gallwch apelio yn eu herbyn
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynglŷn â:
- 30 awr o gynllun gofal plant am ddim
- Lwfans Gweini
- Taliad Cymorth Profedigaeth
- Lwfans Gofalwr
- Budd-dal Plant
- Cynnal Plant neu Gynhaliaeth Plant
- Uned Adfer Iawndal
- Grŵp Cyflogaeth Wedi’i Eithrio
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Gwaith i’r Anabl
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
- Taliad Costau Angladd
- Lwfans Gwarcheidwad
- Grant Iechyd mewn Beichiogrwydd
- Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref
- Budd-dal Analluogrwydd
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Marwolaeth Diwydiannol
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Mamolaeth
- Credydau Yswiriant Gwladol
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Pensiwn Ymddeoliad
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
- Credydau Treth
- Gofal Plant Di-dreth
- Credyd Cynhwysol
- Taliad Tanwydd Gaeaf
- Taliad Niwed trwy Frechiad
Gwiriwch unrhyw lythyrau rydych wedi’u cael am eich budd-dal os nad ydych yn gwybod yr union enw.
Cael help a chyngor
Gallwch gael cymorth a chyngor am ddim gan:
Gallwch hefyd ofyn am gyngor gan gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.
2. Cyflwyno'ch apêl
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynglŷn â’ch hawl i gael budd-daliadau, er enghraifft Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) neu Gredyd Cynhwysol.
Cyn i chi apelio
Cyn y gallwch apelio, fel arfer bydd angen i chi ofyn i’r penderfyniad am eich budd-daliadau gael ei ystyried eto. Gelwir hyn yn ‘gorfodi i ailystyried’.
Bydd angen i chi ddarparu eich hysbysiad gorfodi i ailystyried pan fyddwch yn gwneud cais.
Os na fyddwch angen ailystyriaeth orfodol yna bydd eich llythyr penderfynu yn dweud pam. Dylech gynnwys yr esboniad hwn pan fyddwch yn cyflwyno’ch apêl.
Apelio ar-lein
Byddwch angen:
- eich Rhif Yswiriant Gwladol
- manylion y cynrychiolydd sy’n eich helpu gyda’ch apêl (os ydych yn defnyddio un)
- eich hysbysiad gorfodi i ailystyried (neu’r rheswm pam nad oedd angen i chi gael ailystyriaeth orfodol - bydd hyn yn eich llythyr penderfyniad)
Bydd angen i chi ddewis a ydych am fynd i’r gwrandawiad tribiwnlys i egluro’ch apêl yn bersonol. Os na fyddwch yn mynychu, bydd eich apêl yn cael ei phenderfynu ar sail eich ffurflen apêl ac unrhyw dystiolaeth ategol rydych yn ei darparu.
Parhau gydag apêl sy’n bodoli’n barod
.
Os oes arnoch angen cymorth i apelio ar-lein
Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar y math o help sydd ei angen arnoch.
Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cyfarwyddyd ar sut i apelio
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio dros y we i gael cymorth.
Gallwch ond defnyddio’r gwasanaeth sgwrsio dros y we os ydych yn defnyddio , neu .
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio dros y we, cysylltwch â llinell gymorth apeliadau budd-daliadau. Mae’r manylion ar waelod y dudalen hon.
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu os nad ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd
We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau
Apelio trwy’r post
Defnyddiwch ffurflen SSCS1 i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch budd-daliadau drwy’r post, ac eithirio os yw’n ymwneud â Taliad Niwed trwy Frechiad.
Defnyddiwch ffurflen SSCS2 i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch Cynhaliaeth Plant drwy’r post. Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch Cynhaliaeth Plant ar-lein.
Defnyddiwch ffurflen SSCS5 i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) drwy’r post. Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan HMRC ar-lein.
Penodi rhywun i helpu gyda’ch apêl
Gallwch benodi rhywun yn ‘gynrychiolydd’ i’ch helpu gyda’ch apêl. Gall cynrychiolydd:
- eich helpu i gyflwyno’ch apêl neu baratoi eich tystiolaeth
- gweithredu ar eich rhan
- rhoi cyngor i chi
Gall unrhyw un fod yn gynrychiolydd, gan gynnwys ffrindiau a theulu.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i gynrychiolydd trwy lyfrgell lleol neu gan sefydliad yn eich ardal sy’n rhoi cyngor ar hawlio budd-daliadau, fel .
Bydd gan eich cynrychiolydd ganiatâd i weithredu ar eich rhan, er enghraifft i ymateb i lythyrau. Anfonir yr holl wybodaeth atynt am eich apêl, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth feddygol.
I gofrestru cynrychiolydd, gallwch naill ai:
- enwi eich cynrychiolydd pan fyddwch yn cyflwyno’ch apêl
- cofrestru cynrychiolydd ar unrhyw adeg ar ôl i chi gyflwyno’ch apêl
Ysgrifennwch at Apeliadau Budd-daliadau GLlTEF i gofrestru cynrychiolydd ar ôl i chi gyflwyno’ch apêl.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr, ysgrifennwch at:
Apeliadau Budd-daliadau GLlTEF
PO Box 12626
Harlow
CM20 9QF
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, ysgrifennwch at:
Apeliadau Budd-daliadau GLlTEF
PO Box 13150
Harlow
CM20 9TT
Cysylltu â llinell gymorth apeliadau budd-daliadau
Gall y llinell gymorth eich helpu os oes gennych gwestiynau am apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch budd-daliadau.
Llinell gymorth apeliadau budd-daliadau (ar gyfer siaradwyr Cymraeg)
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Ffôn: 0300 303 5170
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm, dydd Gwener, 9am i 4:30pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Llinell gymorth apeliadau budd-daliadau (Cymru a Lloegr - siaradwyr Saesneg)
contactsscs@justice.gov.uk
Ffôn: 0300 123 1142
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Llinell gymorth apeliadau budd-daliadau (Yr Alban)
SSCSA-Glasgow@justice.gov.uk
Ffôn: 0300 790 6234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
3. Ar ôl i chi gyflwyno'ch apêl
Anfonir eich apêl at yr adran a wnaeth y penderfyniad ynglŷn â’ch hawl i fudd-daliadau. Byddant yn ymateb i’ch apêl gan egluro pam y gwnaethant y penderfyniad.
Byddwch yn cael copi o’r ymateb.
Rheoli eich apêl ar-lein
Gallwch greu cyfrif ar ôl cyflwyno’ch apêl trwy ddefnyddio’r ddolen yn eich e-bost cydnabyddiaeth. Gallwch hefyd greu cyfrif nes ymlaen trwy gysylltu â’r llinell gymorth apeliadau budd-daliadau a rhoi eich cyfeiriad e-bost iddynt.
Unwaith y byddwch wedi creu eich cyfrif, byddwch yn gallu:
-
dilyn trywydd eich apêl
-
uwchlwytho tystiolaeth i gefnogi eich apêl
-
gwneud datganiad i gefnogi eich apêl neu gofyn i’ch manylion gael eu diweddaru, er enghraifft, os ydych yn symud tŷ neu os bydd manylion eich cynrychiolydd yn newid
-
gofyn am recordiad sain o’ch gwrandawiad ar ôl iddo gael ei gynnal
Darparu tystiolaeth
Gallwch ddarparu tystiolaeth i helpu’r tribiwnlys i ddeall eich cyflwr neu’ch amgylchiadau fel y gallant wneud penderfyniad. Gall tystiolaeth gynnwys:
- adroddiad neu gynllun gofal gan arbenigwr, therapydd neu nyrs
- llythyr gan rywun sy’n eich adnabod.
Gallwch gyflwyno tystiolaeth ar-lein neu drwy’r post. Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth drwy’r post, fe gewch wybod yn eich llythyr cydnabyddiaeth i le dylech ei hanfon ar ôl i chi gyflwyno eich apêl.
Anfonwch y dystiolaeth cyn gynted ag y gallwch fel bod gan y tribiwnlys amser i’w darllen cyn y gwrandawiad.
Y gwrandawiad
Penderfynir ar eich apêl mewn gwrandawiad tribiwnlys. Bydd y tribiwnlys yn dweud wrthych ymhle a phryd cynhelir y gwrandawiad.
Byddwch yn cael y penderfyniad trwy’r post ar ôl y gwrandawiad. Efallai y cewch benderfyniad ar y diwrnod os byddwch yn mynd i’r gwrandawiad.
Pa mor hir mae’n ei gymryd
Fel arfer mae’n cymryd hyd at 6 mis i apêl gael ei gwrando gan y tribiwnlys.
Efallai y bydd eich apêl yn cael ei gohirio oni bai eich bod yn:
- anfon unrhyw dystiolaeth cyn gynted ag y gallwch cyn y gwrandawiad
- cyrraedd y gwrandawiad mewn pryd (os ydych chi’n mynychu)
- cofrestru eich cynrychiolydd cyn gynted ag y gallwch (os ydych chi’n defnyddio un)
4. Beth sy'n digwydd yn y gwrandawiad
Cyflwynwch unrhyw dystiolaeth cyn gynted â phosibl cyn y gwrandawiad fel bod gan y tribiwnlys amser i’w darllen. Fel arfer, bydd tystiolaeth yn cael ei rhannu gyda’r holl bartïon, gan gynnwys eich cynrychiolydd (os ydych yn defnyddio un).
Bydd barnwr ac un neu ddau o arbenigwyr yn gwneud penderfyniad am yr achos. Mae pwy yw’r arbenigwyr yn dibynnu ar ba fudd-dal rydych yn apelio yn ei erbyn. Mae’r barnwr a’r arbenigwyr yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth.
Mae’n rhaid i’r tribiwnlys ddilyn y rheolau yn Rheolau Trefniadaeth Tribiwnlys (Tribiwnlys Haen Gyntaf) (Siambr Hawliau Cymdeithasol) 2008.
Os ydych yn mynychu’r gwrandawiad
Bydd cyfle i chi egluro’ch apêl.
Bydd y barnwr neu’r arbenigwyr yn gofyn cwestiynau i chi am eich cyflwr neu’ch amgylchiadau.
Efallai y bydd yr adran a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol hefyd yn y gwrandawiad. Efallai y byddant yn gofyn cwestiynau, ond nid ydynt yn rhan o’r tribiwnlys ac nid ydynt yn penderfynu canlyniad yr apêl.
Os ydych chi neu eich cynrychiolydd y tu allan i’r DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi neu’ch cynrychiolydd a pha fath o dystiolaeth sy’n cael ei rhoi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.
Gallwch gael cymorth yn ystod y gwrandawiad, er enghraifft cyfieithydd, dolen clyw neu ystafell dribiwnlys hygyrch. Gallwch ofyn am gymorth pan fyddwch yn apelio.
Ni allwch ddefnyddio’ch cyfieithydd eich hun yn ystod y gwrandawiad.
Hawlio costau
Efallai y gallwch hawlio am gostau rhesymol am fynd i’r tribiwnlys, er enghraifft:
- costau teithio i dalu am eich tocyn os byddwch yn cyrraedd yno gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
- costau teithio o 12c y filltir os ydych yn gyrru, ynghyd â 2c y filltir ar gyfer hyd at 2 deithiwr
- prydau bwyd - £4.25 os ydych i ffwrdd am fwy na 5 awr, £9.30 am fwy na 10 awr neu £13.55 am fwy na 12 awr
- colli enillion - £38.96 os ydych i ffwrdd o’r gwaith am hyd at 4 awr neu £75.59 am 4 awr neu fwy
- costau gofal hyd at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, er enghraifft ar gyfer gwarchodwr plant
Bydd y clerc yn eich helpu i lenwi ffurflen hawlio pan ewch i’r gwrandawiad.
Bydd angen i chi gynnwys prawf, er enghraifft:
- derbynebau
- llythyr gan eich cyflogwr oherwydd colli enillion
Gwneud cais am recordiad sain o’r gwrandawiad
Ìý
Gallwch chi neu’ch cynrychiolydd gael recordiad sain o’ch gwrandawiad os cafodd ei gynnal wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy fideo.
Ìý
Mae recordiadau ar gael yn rhad ac am ddim.
Ìý
Gwnewch gais am gopi o’r recordiad sain o fewn 18 mis i ddyddiad y gwrandawiad.
Ìý
Gallwch ddefnyddio’r cyfrif a ddefnyddiwyd gennych i reoli eich apêl ar-lein i wneud cais, os oes gennych un.
Os na allwch wneud cais ar-lein, ysgrifennwch i’r cyfeiriad sydd ar y ddogfen dalen flaen a anfonwyd gyda’ch hysbysiad o benderfyniad. Cofiwch gynnwys cyfeirnod eich apêl.
5. Os ydych yn anfodlon gyda phenderfyniad y tribiwnlys
Efallai y gallwch:
- gael penderfyniad wedi’i ganslo (‘ei roi o’r neilltu’)
- apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
Mae rhagor o wybodaeth yn eich llythyr penderfyniad.
Cael penderfyniad wedi’i roi o’r neilltu
Fe’ch hysbysir sut i gael penderfyniad wedi’i ‘roi o’r neilltu’ (canslo) os credwch bod camgymeriad wedi bod yn y broses. Gallwch yna ddechrau’r broses eto fel y gall penderfyniad newydd cael ei wneud. Cysylltwch â os ydych angen help.
Apelio i’r Uwch Dribiwnlys - Siambr Apeliadau Gweinyddol
Dim ond os credwch fod y penderfyniad yn anghywir am reswm cyfreithiol y gallwch apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol), er enghraifft, os na wnaeth y tribiwnlys:
- roi rhesymau cywir dros ei benderfyniad, neu cefnogi’r penderfyniad â ffeithiau
- cymhwyso’r gyfraith yn gywir
Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol pan fyddwch yn apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) - gall hyn helpu i dalu am gyngor cyfreithiol.
Cysylltwch â os ydych angen help.
Yna mae’n rhaid i chi ddilyn 3 cam.
-
Gofynnwch i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant am ddatganiad o resymau llawn yn ysgrifenedig (a elwir yn ‘datganiad o resymau’) o fewn mis o ddyddiad y penderfyniad. Bydd y llythyr penderfyniad yn dweud wrthych sut i wneud hyn.
-
Gofynnwch i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol).
-
Os bydd y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant yn gwrthod, gofynnwch i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) am ganiatâd i apelio.