Arian ac eiddo pan fyddwch yn ysgaru neu'n gwahanu
Printable version
1. Cael cytundeb ariannol
Pan fyddwch yn ysgaru neu’n dod â phartneriaeth sifil i ben mae angen i chi a’ch cyn-bartner gytuno sut i rannu’ch arian.
Mae hyn yn cynnwys penderfynu sut rydych yn mynd i rannu:
- pensiynau
- eiddo
- cynilion
- buddsoddiadau
Efallai y byddwch yn cael pethau fel:
- cyfran o bensiwn eich partner - gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth neu
- taliadau cynhaliaeth rheolaidd i helpu gyda phlant neu gostau byw
Fel arfer, gallwch osgoi mynd i wrandawiadau llys os ydych yn cytuno ar sut i rannu eich arian ac eiddo.
Mae’r rheolau’n wahanol . Bydd yn rhaid i chi dal gytuno ar daliadau cynhaliaeth plant ar gyfer unrhyw blant.
Mae yna ac .
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gwneud cytundeb yn rhwymol gyfreithiol
Os ydych chi a’ch cyn-bartner yn cytuno ar sut i rannu arian ac eiddo, mae angen i chi wneud cais am orchymyn cydsynio i’w wneud yn rhwymol gyfreithiol.
Cael cymorth i gytuno
Gallwch ddefnyddio cyfryngwr neu gael help arall i ddatrys problemau y tu allan i’r llys.
Cael y llys i benderfynu
Os na allwch gytuno ar bopeth, gallwch ofyn i’r llys wneud gorchymyn ariannol.
2. Os ydych yn cytuno
Fel arfer, mae’n symlach ac yn costio llai os ydych yn cytuno sut i rannu eich arian a’ch eiddo. Cael cymorth i gytuno ar faterion.
Gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol
Er mwyn gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol mae angen i chi ddrafftio gorchymyn cydsynio a gofyn i lys ei gymeradwyo.
Os nad yw eich cytundeb yn rhwymol gyfreithiol, ni all llys ei orfodi os bydd unrhyw faterion yn codi yn ddiweddarach.
Mae gorchymyn cydsynio yn ddogfen gyfreithiol sy’n cadarnhau eich cytundeb. Mae’n esbonio sut rydych chi’n mynd i rannu asedau fel:
- pensiynau
- eiddo
- cynilion
- buddsoddiadau
Gall hefyd gynnwys trefniadau ar gyfer taliadau cynhaliaeth, gan gynnwys cynhaliaeth plant.
Gallwch geisio cyngor cyfreithiol neu gallwch ofyn i gyfreithiwr neu arbenigwr ysgariadau ddrafftio gorchymyn cydsynio ar eich cyfer.
Pryd i ofyn i’r llys am gymeradwyaeth
Gallwch ofyn i’r llys gymeradwyo eich gorchymyn cydsynio drafft pan fyddwch yn gwneud cais am eich ysgariad neu ddiddymiad, neu unrhyw bryd ar ôl hynny.
Fel arfer mae’n haws gofyn am gymeradwyaeth:
- ar ôl i chi gael eich gorchymyn amodol neu ddyfarniad nisi – ni all y llys gymeradwyo gorchymyn cydsynio cyn hyn
- cyn i chi gael eich gorchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt – os gofynnwch ar ôl hyn, efallai y bydd canlyniadau ariannol, yn enwedig ar gyfer pensiynau
Dim ond ar ôl i chi gael eich gorchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt y bydd y gorchymyn cydsynio yn dod i rym.
Sut i ofyn i’r llys am gymeradwyaeth
Rhaid i chi a’ch cyn-bartner:
- ddrafftio gorchymyn cydsynio
- llofnodi’r gorchymyn cydsynio drafft - mae angen 2 lungopi o’r copi gwreiddiol wedi’i lofnodi hefyd
- ±ô±ô±ð²Ô·É¾±Ìýffurflen datganiad o wybodaeth
Mae angen i un ohonoch hefyd lenwi hysbysiad o gais am orchymyn ariannol.
Os ydych yn dod â phartneriaeth sifil i ben neu’n gwahanu’n gyfreithiol, anfonwch y ffurflenni wedi’u llofnodi a chopïau ynghyd â’r ffi o £60 i’r  sy’n delio â’ch gwaith papur. Cadwch eich copïau eich hun.
Os ydych yn ysgaru, anfonwch y ffurflenni wedi’u llofnodi a chopïau ynghyd â’r ffi o £60 i:
HMCTS Financial Remedy
PO Box 12746
Harlow
CM20 9QZ
Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.
Fel arfer nid oes gwrandawiad llys. Bydd barnwr yn cymeradwyo eich gorchymyn cydsynio i’w wneud yn rhwymol yn gyfreithiol os yw’n meddwl ei fod yn deg.
Os nad yw’n meddwl ei fod yn deg, gallai ofyn i chi ei newid.
Faint mae’n ei gostio
Ffi’r llys yw £60.
Mae ffioedd cynghorydd cyfreithiol yn amrywio yn dibynnu ar eu profiad a’u lleoliad.
3. Cael cymorth i ddod i gytundeb
Gall cyfryngwr eich helpu chi a’ch cyn-bartner i gytuno ar sut i rannu arian ac eiddo, heb gymryd ochr.
Nid yw cyfryngu yr un peth â chwnsela. Gall eich helpu i gytuno ar sut rydych yn rhannu eich asedau, gan gynnwys:
- pensiynau
- eiddo
- cynilion
- buddsoddiadau
Gall cyfryngu fod yn gyflymach ac yn rhatach na gofyn i lys benderfynu ar eich rhan.
Bydd angen i chi fynychu cyfarfod asesu a gwybodaeth am gyfryngu (MIAM) cyn i chi ddechrau cyfryngu.
.
Gall y cyfryngwr benderfynu nad yw cyfryngu yn iawn i chi (er enghraifft, os bu cam-drin domestig a bod angen i chi fynd i’r llys yn lle).
Faint mae’n ei gostio
Fel arfer mae MIAM yn costio tua £120. Os oes angen mwy o sesiynau cyfryngu arnoch maen nhw’n costio mwy ac mae’r ffioedd yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu.
Gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol
Ar ddiwedd y broses cyfryngu byddwch yn cael dogfen yn dangos yr hyn y gwnaethoch gytuno arno. Nid yw’r cytundeb hwn yn rhwymol yn gyfreithiol.
Os ydych chi eisiau cytundeb sy’n rhwymol yn gyfreithiol mae angen i chi ddrafftio gorchymyn cydsynio a chael llys i’w gymeradwyo. Gall y gorchymyn cydsynio fod yn seiliedig ar yr hyn y cytunwyd arno wrth gyfryngu.
Os oes arnoch angen mwy o help i ddod i gytundeb
Gallwch wneud y canlynol:
- gofyn i gynghorydd cyfreithiol am ffyrdd eraill o ddatrys materion y tu allan i’r llys (fel cyflafareddu teuluol neu gyfraith gydweithredol)
- cael gwybodaeth a chyngor ganÂ
- darllen cyfarwyddyd i’ch helpu iÂ
- gweithio allan eich arian gydaÂ
Os nad ydych yn cytuno ar bopeth
³Ò²¹±ô±ô·É³¦³óÌýofyn i lys benderfynu ar unrhyw beth nad ydych wedi cytuno arno.
4. Cael y llys i benderfynu
Os na allwch chi a’ch cyn-bartner gytuno ar sut i rannu’ch arian, gallwch ofyn i lys wneud gorchymyn ariannol (a elwir hefyd yn llwybr ‘sy’n cael ei herio’ neu ‘orchymyn llareiddiad ategol’).
Mae hyn yn golygu y bydd y llys yn penderfynu sut y caiff asedau eu rhannu. Mae cael y llys i benderfynu fel arfer yn cymryd mwy o amser ac mae’n costio mwy nag os byddwch chi a’ch cyn-bartner yn dod i gytundeb.
Rhaid i chi fynychu cyfarfod am gyfryngu cyn y gallwch wneud cais i’r llys i benderfynu - ac eithrio mewn achosion penodol (os bu cam-drin domestig, er enghraifft).
Bydd gorchymyn ariannol yn disgrifio sut rydych yn mynd i rannu asedau fel:
- pensiynau
- eiddo
- cynilion
- buddsoddiadau
Gall hefyd gynnwys trefniadau ar gyfer taliadau cynhaliaeth, gan gynnwys cynhaliaeth plant.
Pryd i wneud cais am orchymyn ariannol
Gallwch wneud cais am orchymyn ariannol pan fyddwch yn gwneud cais am eich ysgariad neu ddiddymiad, neu unrhyw bryd ar ôl hynny.
Fel arfer mae’n haws gwneud cais:
- ar ôl i chi gael eich gorchymyn amodol neu ddyfarniad nisi – fel arfer, ni all y llys wneud gorchymyn ariannol cyn hyn
- cyn i chi gael eich gorchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt – os byddwch yn gwneud cais ar ôl hyn, efallai y bydd canlyniadau ariannol, yn enwedig ar gyfer pensiynau
Dim ond ar ôl i chi gael eich gorchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt y bydd y gorchymyn ariannol yn dod i rym.
Sut i wneud cais
Mae angen i chi lenwi ffurflen gais gorchymyn ariannol (Ffurflen A).
Ar ôl ei llenwi, anfonwch y ffurflen i’ch llys rhwymedi ariannol lleol. Cadwch gopi i chi’ch hun.
Os oes angen i chi anfon rhagor o ddogfennau ar ôl cyflwyno eich ffurflen gais am orchymyn ariannol (Ffurflen A), postiwch nhw i:
HMCTS Financial Remedy
PO Box 12746
Harlow
CM20 9QZ
³Ò²¹±ô±ô·É³¦³óÌýdalu cynghorydd cyfreithiol i’ch helpu i wneud cais am orchymyn ariannol gan y llys.
Ar ôl i chi wneud cais
Mae yna dri cham:
- yr apwyntiad cyntaf - gwrandawiad byr gyda’r barnwr i drafod eich cais
- apwyntiad datrys anghydfod ariannol (FDR) - i’ch helpu i ddod i gytundeb heb fod angen gwrandawiad terfynol (efallai y bydd angen mwy nag un apwyntiad arnoch)
- gwrandawiad terfynol - os na allwch ddod i gytundeb, dyma pryd y bydd barnwr yn penderfynu sut mae’n rhaid i chi rannu eich arian
Bydd y llys yn anfon manylion atoch chi a’ch cyn-bartner pan fydd yr apwyntiad cyntaf wedi’i drefnu. Mae hyn fel arfer 12 i 14 wythnos ar ôl i chi wneud cais.
Cyn yr apwyntiad cyntaf
Mae angen i chi a’ch cyn-bartner lenwi datganiad ariannol ar gyfer gorchymyn ariannol (Ffurflen E) i ddangos dadansoddiad o’ch eiddo a’ch dyledion. Mae hyn yn cynnwys rhoi amcangyfrif o’ch costau byw yn y dyfodol.
Bydd angen i chi hefyd gasglu dogfennau am eich arian, er enghraifft:
- cytundebau rhent neu forgais
- dogfennau pensiwn
- cytundebau benthyciadau
- prawf o’ch incwm cyflog, er enghraifft P60 neu slipiau cyflog diweddar
- manylion eiddo personol gwerth mwy na £500, er enghraifft car neu gynnwys tŷ
Pa mor hir mae’n ei gymryd
Mae’n dibynnu ar:
- faint o apwyntiadau datrys anghydfod ariannol sydd eu hangen arnoch
- os oes angen gwrandawiad terfynol arnoch
Gall fod sawl mis rhwng yr apwyntiadau.
Sut mae’r llys yn penderfynu
Os na allwch ddod i gytundeb, bydd barnwr yn penderfynu sut y caiff asedau eu rhannu. Byddant yn seilio eu penderfyniad ar ba mor hir yr ydych wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, yn ogystal â’ch:
- oedran
- gallu i ennill
- eiddo ac arian
- costau byw
- safon byw
- anghenion a chyfrifoldebau ariannol
- eich rôl o ran gofalu am y teulu, er enghraifft os mai chi oedd y prif enillydd neu’n gofalu am y teulu neu’r cartref
- anabledd neu gyflwr iechyd, os oes gennych rai
Bydd y barnwr yn penderfynu ar y ffordd decaf i rannu’r asedau os oes digon i ddiwallu anghenion pawb. Byddant yn gwneud trefniadau ar gyfer unrhyw blant yn gyntaf - yn enwedig eu trefniadau cartref a chynhaliaeth plant. Nid yw’r rheswm dros ysgariad neu ddiddymiad yn cael ei ystyried.
Bydd y barnwr fel arfer yn ceisio trefnu ‘toriad terfynol’, fel bod popeth yn cael ei rannu, ac nid oes gennych unrhyw gysylltiadau ariannol â’ch gilydd mwyach.
Faint mae’n ei gostio
Ffi’r llys yw £313.
Mae ffioedd cynghorydd cyfreithiol yn amrywio yn dibynnu ar eu profiad a lle rydych chi’n byw. Bydd cyfanswm y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint o apwyntiadau datrys anghydfod ariannol fydd eu hangen arnoch a ph’un a fydd gwrandawiad terfynol ai peidio.
Gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda chostau llys mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft os ydych yn gwahanu oddi wrth bartner treisgar.
Rhagor o gymorth a chyngor
Gallwch wneud y canlynol:
- cael gwybodaeth a chyngor ganÂ
- darllen cyfarwyddyd i’ch helpu iÂ
- dod o hyd i ragor o wybodaeth amÂ
5. Taliadau Cynhaliaeth
Weithiau bydd y llys yn dweud wrth yr unigolyn sydd â’r incwm uwch i wneud taliadau cynhaliaeth rheolaidd i helpu gyda chostau byw’r unigolyn arall.
Gelwir hyn yn ‘orchymyn cynhaliaeth’.
Gellir gosod taliad cynhaliaeth ar gyfer:
- cyfnod cyfyngedig o amser
- nes bydd un ohonoch yn marw, yn priodi neu’n ymrwymo i bartneriaeth sifil newydd
Gellir newid y taliad hefyd os bydd un ohonoch yn colli eich swydd neu’n cael gwaith sy’n talu’n well o lawer.
Cynhaliaeth plant
Gall y llys hefyd benderfynu ar gynhaliaeth plant, ond yn aml mae hyn yn cael ei drefnu gan ²âÌýGwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Darllenwch fwy am wneud trefniadau i ofalu am blant pan fyddwch yn ysgaru neu’n gwahanu.
6. Treth wrth drosglwyddo asedau
Fel arfer nid oes rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os ydych yn rhoi, neu fel arall yn ‘gwaredu’, asedau i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil cyn i chi derfynu’r ysgariad neu bartneriaeth sifil.
Mae asedau’n cynnwys cyfranddaliadau a buddsoddiadau, rhai eiddo personolÌý²¹³¦Ìýeiddo. Fel arfer nid oes rhaid i chi dalu treth os ydych yn trosglwyddo neu’n gwerthu eich prif gartref.
Os byddwch yn trosglwyddo ased pan fyddwch wedi gwahanu
Os oeddech yn byw gyda’ch gilydd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn dreth pan wnaethoch drosglwyddo’r ased, mae’r rheolau arferol ar gyfer priod a phartneriaid sifil yn berthnasol.
Fel arall efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf. Bydd angen i chi gael prisiad o’r ased ar y dyddiad trosglwyddo, a’i ddefnyddio i gyfrifo’r enillion neu’r colledion.
Mae’r flwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Os byddwch yn trosglwyddo ased ar ôl i chi ysgaru neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar asedau y byddwch yn eu trosglwyddo ar ôl i’ch perthynas ddod i ben yn gyfreithiol.
Mae’r rheolau ar gyfer cyfrifo’ch enillion neu golledion yn gymhleth. Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) neu ceisiwch gymorth treth proffesiynol, gan, er enghraifft, cyfrifydd neu gynghorydd treth. Bydd angen i chi ddweud wrthynt beth yw dyddiad:
- ²âÌýgorchymyn terfynol neu’r dyfarniad absoliwt os ydych wedi ysgaru
- ²âÌýgorchymyn terfynol os ydych wedi dod â phartneriaeth sifil i ben
- unrhyw orchymyn llys, pe trosglwyddwyd asedau fel hyn
- unrhyw gontract arall sy’n dangos trosglwyddo asedau