Benthyciadau Trefnu

Printable version

1. Sut maent yn gweithio

Gall Benthyciad Trefnu helpu i dalu am:

  • dodrefn neu nwyddau i’r cartref (er enghraifft, peiriant golchi neu ‘nwyddau gwyn’ eraill)
  • dillad neu esgidiau
  • rent ymlaen llaw
  • costau yn gysylltiedig â symud tÅ·
  • cynnal a chadw, gwelliannau neu ddiogelwch ar gyfer eich cartref
  • costau teithio o fewn y DU
  • costau yn gysylltiedig â chael swydd newydd
  • costau mamolaeth
  • costau angladd
  • talu benthyciadau hur-bwrcas yn ôl
  • talu benthyciadau a gymerwyd ar gyfer yr eitemau uchod yn ôl

Nid yw Benthyciad Argyfwng ar gael bellach.

Rydych ond yn gymwys am Fenthyciad Trefnu os ydych wedi bod ar fudd-daliadau penodol am 6 mis.

Nid oes ond rhaid i chi ad-dalu’r swm rydych chi’n ei fenthyg, a chymerir ad-daliadau o’ch buddion yn awtomatig.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat sy’n Hawdd i’w Ddeall.

2. Edrych os ydych yn gymwys

I gael Benthyciad Trefnu mae’n rhaid i chi fod wedi bod yn cael un neu fwy o’r budd-daliadau hyn am y 6 mis blaenorol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn

Os ydych wedi symud o Gredyd Cynhwysol i Gredyd Pensiwn, bydd unrhyw amser a dreuliwyd yn hawlio Credyd Cynhwysol yn cyfrif tuag at y 6 mis.

Mae ffordd wahanol i gael .

Pan na fyddwch yn gallu gwneud cais

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, ni allwch gael Benthyciad Trefnu. Gwnewch gais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yn lle hynny.

Ni allwch hefyd gael Benthyciad Trefnu os:

  • rydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd
  • rydych yn cymryd rhan mewn anghydfod diwydiannol (er enghraifft, streic, cerdded allan neu gael eich cloi allan)
  • mae arnoch fwy na £1,500 i gyd mewn Benthyciadau Argyfwng neu Fenthyciadau Trefnu

3. Beth allech chi ei gael

Y swm lleiaf y gallwch ei fenthyg yw £100. Gallech gael hyd at:

  • £348 os ydych yn sengl
  • £464 os oes gennych bartner
  • £812 os ydych chi neu’ch partner yn hawlio Budd-dal Plant

Mae faint allwch chi ei gael yn dibynnu os:

  • gallwch dalu’r benthyciad yn ôl
  • mae gennych gynilion o fwy na £1,000 (£2,000 os ydych chi neu’ch partner yn 63 oed neu drosodd)
  • rydych yn talu’n ôl Benthyciad Trefnu neu Fenthyciad Argyfwng ar hyn o bryd

Sut byddwch yn cael eich talu

Mae benthyciadau trefnu’n cael ei dalu i’r un cyfrif â’ch budd-dal. Os ydych am i’r taliad fynd i gyfrif gwahanol, naill ai:

4. Talu’r benthyciad yn ôl

Mae Benthyciad Trefnu yn ddi-log, felly rydych ond yn talu’n ôl beth rydych wedi’i fenthyg.

Bydd yr ad-daliadau yn cael eu tynnu allan o’ch budd-dal yn awtomatig. Mae faint y byddwch yn ei ad-dalu yn seiliedig ar faint o fudd-dal rydych yn ei gael a faint fedrwch chi ei fforddio.

Ar ôl i chi wneud cais am Fenthyciad Trefnu, cewch e-bost, neges destun neu lythyr yn dweud wrthych a ydych wedi cael cynnig benthyciad. Mae hyn yn esbonio faint fydd eich ad-daliadau wythnosol os derbyniwch y benthyciad.

Fel arfer mae rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad o fewn 2 flynedd (104 wythnos).

Os ydych yn stopio cael budd-daliadau

Byddwch yn cael llythyr gan Rheoli Dyled DWP yn egluro sut i ad-dalu a rheoli yr arian budd-dal sy’n ddyledus gennych. Gallwch dalu y benthyciad nôl yn gyflawn neu greu taliadau misol rheolaidd.

5. Gwneud cais

Gwiriwch a ydych yn gymwys cyn i chi wneud cais am Fenthyciad Trefnu.

Gallwch wneud cais ar-lein neu ddefnyddio’r ffurflen bapur. Mae’n gyflymach i wneud cais ar-lein.

Peidiwch â gwneud cais os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd. Gwnewch gais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yn lle os ydych yn cael Credyd Cynhwysol.

Mae ffordd wahanol i gael .

Gwneud cais ar-lein

Pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein, gallwch ddewis cael penderfyniad ar eich benthyciad gan naill ai:

  • e-bost
  • neges destun
  • llythyr

Mae’n gyflymach i gael y penderfyniad trwy e-bost neu neges destun a’i dderbyn ar-lein.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais a’ch bod yn aros i gael penderfyniad, peidiwch â gwneud cais eto. Os oes angen i chi newid manylion ar eich cais, cysylltwch â Llinell Ymholiadau’r Gronfa Gymdeithasol.

Gwneud cais drwy ddefnyddio’r ffurflen bapur

Bydd angen i chi lenwi ffurflen SF500W. Gallwch:

Dychwelwch eich ffurflen wedi’i chwblhau drwy’r post.

Cysylltwch â Llinell Ymholiadau’r Gronfa Gymdeithasol

Gall y llinell:

  • wneud newidiadau i’ch cais ar ôl i chi ei gyflwyno

  • anfon ffurflen gais atoch

Y Gronfa Gymdeithasol
Ffôn: 0800 169 0140
Llinell Gymraeg: 0800 169 0240
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Ffôn testun: 0800 169 286
(os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 169 0140
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

6. Ar ôl i chi wneud cais

Ar ôl i chi wneud cais byddwch yn cael penderfyniad ar eich cais. Mae angen i chi dderbyn y penderfyniad cyn i chi gael eich arian.

Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, cewch weld a ydych wedi cael cynnig benthyciad o fewn:

  • 7 diwrnod os cewch y penderfyniad trwy neges destun neu e-bost
  • 21 diwrnod os cewch y penderfyniad trwy lythyr

Os byddwch yn gwneud cais trwy’r post, cewch lythyr yn dweud wrthych a ydych wedi cael cynnig benthyciad o fewn 21 diwrnod.

Derbyn y benthyciad

Mae sut rydych yn derbyn y benthyciad yn dibynnu ar sut gwnaethoch gais.

Derbyn ar-lein

Gallwch trwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn y testun neu’r e-bost.

Derbyn trwy’r post

Gallwch ei dderbyn trwy lofnodi tudalen 4 o’r llythyr derbyn a’i ddychwelyd yn yr amlen ragdaledig a ddarperir. Sicrhewch fod y slip ateb wedi’i blygu fel bod y cyfeiriad dychwelyd yn gwbl weladwy yn ffenestr yr amlen.

Dychwelwch i’r cyfeiriad ar y llythyr. Peidiwch â’i anfon i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol oherwydd gallai hyn oedi cyn cael eich benthyciad.

Cael eich arian

Byddwch yn cael eich arian o fewn:

  • 7 diwrnod o dderbyn y cynnig benthyciad ar-lein
  • 21 diwrnod o’ch derbyniad benthyciad yn cael ei dderbyn trwy’r post

Os wnaethoch gais ar-lein, caiff yr arian ei dalu i’r un cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd y mae’ch budd-dal yn cael ei dalu iddo.

Os wnaethoch gais trwy’r post, caiff yr arian ei dalu i’r cyfrif wnaethoch nodi ar y ffurflen.

Byddwch yn cael neges destun yn cadarnhau bod hwn wedi cael ei wneud.

Cwestiynau am eich cais

Ffoniwch y Gronfa Gymdeithasol os oes gennych gwestiwn am gynnydd eich cais.

Dylech aros:

  • 14 diwrnod cyn ffonio os gwnaethoch gais ar-lein
  • 21 diwrnod cyn ffonio os gwnaethoch gais trwy’r post

Efallai na fydd eich cais wedi’i brosesu cyn hynny.

Y Gronfa Gymdeithasol
Ffôn: 0800 169 0240
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Saesneg: 0800 169 0140
Ffôn testun: 0800 169 286
(os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 169 0140
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn anghytuno a phenderfyniad

Gallwch ofyn am benderfyniad Benthyciad Trefnu gael ei edrych arno eto os:

  • oedd eich cais yn aflwyddiannus, ac rydych yn credu bod hynny’n anghywir
  • rydych wedi cael Benthyciad Trefnu, ond rydych yn anghytuno â’r swm

Ysgrifennwch at y cyfeiriad ar frig eich llythyr penderfyniad. Os nad oes gennych eich llythyr penderfyniad, cysylltwch â Llinell Gymorth y gronfa Gymdeithasol am fanylion.

Dylech gynnwys:

  • eich enw llawn
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeiriad a rhif ffôn
  • y rhesymau rydych yn anghytuno â’r penderfyniad

Rhaid i’ch cais gyrraedd o fewn 28 diwrnod o’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad.

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn cael llythyr yn eich hysbysu os yw eich penderfyniad wedi newid ai peidio, ac yn egluro’r rhesymau.

Os ydych yn anhapus â’r ymateb gallwch ofyn i swyddf²¹â€™r Archwilydd Achosion Annibynnol am adolygiad.

Rhaid i’ch cais gyrraedd o fewn 28 niwrnod i’r dyddiad ar eich ail lythyr penderfyniad.

7. Help arall allwch chi ei gael

Efallai y gallech gael mathau eraill o gymorth, gan gynnwys: