Gwneud cais am, ac ymdrin â, Budd-dal Plant ar ran rhywun arall
Os bydd eich plentyn yn cael babi
Os oes gan blentyn rydych chi’n gyfrifol amdano babi, gallant hawlio Budd-dal Plant neu gallwch hawlio ar ei ran ac ar ran ei fabi.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os yw’ch plentyn yn hawlio Budd-dal Plant, byddant yn cael:
- £26.05 yr wythnos, os yw’n ei blentyn hynaf neu ei unig blentyn
- credydau Yswiriant Gwladol sy’n cyfrif tuag at ei Bensiwn y Wladwriaeth
Os ydych yn hawlio ar ei ran:
- byddwch yn cael £17.25 yr wythnos am bob plentyn ychwanegol rydych yn hawlio ar ei ran - os byddwch yn talu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, ni fyddwch yn cael unrhyw arian ychwanegol
- ni fydd eich plentyn yn cael credydau Yswiriant Gwladol
Os yw’ch plentyn yn hawlio Budd-dal Plant, gallwch gasglu’r taliad ar ei ran trwy siarad â’u banc.
Gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu Budd-dal Plant i un cyfrif yn unig. Gall hwn fod yn gyfrif ar y cyd rydych yn ei rannu gyda’ch plentyn, ond rhaid i’w enw fod ar y cyfrif hefyd.