Pan na fyddwch yn cael eich effeithio

Nid yw’r cap yn effeithio arnoch os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn rhan o gwpl ac mae un ohonoch o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall y cap fod yn berthnasol.

Ni effeithir y cap arnoch os ydych chi neu’ch partner:

  • yn cael Credyd Treth Gwaith (hyd yn oed os yw’r swm a gewch yn £0)

  • yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich rhwystro rhag gweithio (gelwir hyn yn ‘allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’)

  • yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod yn gofalu am rywun ag anabledd

  • yn cael Credyd Cynhwysol ac rydych chi a’ch partner yn ennill £846 neu’n fwy y mis ar y cyd, ar ôl treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Ni fyddwch yn cael eich effeithio gan y cap os ydych chi neu eich partner neu unrhyw blant dan 18 oed yn byw gyda chi yn cael: 

  • Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog

  • Taliad Annibynol y Lluoedd Arfog

  • Lwfans Gweini

  • Lwfans Gofalwr

  • Taliad Cymorth Gofalwr

  • Taliad Anabledd Plant

  • Lwfans Byw i’r Anabl i Oedolion Yr Alban (SADLA)

  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os ydych yn cael yr elfen gymorth) 

  • Lwfans Gwarcheidwad 

  • Budd-dal Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfatebol fel rhan o Bensiwn Anabledd Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog) 

  • Taliad Anabledd Oedran Pensiwn

  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

  • Pensiwn Rhyfel 

  • Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Bensiwn Gŵr Gweddw

Os ydych yn cael eich effeithio, efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn dechrau am 9 mis - yn dibynnu ar eich enillion.