Codau treth
Printable version
1. Trosolwg
Mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn defnyddio’ch cod treth i gyfrifo faint o Dreth Incwm i’w chasglu o’ch cyflog neu’ch pensiwn. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod iddo pa god i’w ddefnyddio.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Dod o hyd i’ch cod treth
Gallwch ddod o hyd i’ch cod treth:
- drwy wirio’ch cod treth ar gyfer y flwyddyn bresennol ar-lein – bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein neu greu un
- ar ap CThEF
- ar eich slip cyflog
- ar lythyr ‘Hysbysiad o God Treth’ oddi wrth CThEF, os cewch un
Os byddwch yn gwirio’ch cod treth ar-lein neu ar ap CThEF, gallwch hefyd wneud y canlynol:
- dod o hyd i’ch cod treth ar gyfer blynyddoedd treth blaenorolÂ
- cofrestru i gael hysbysiadau di-bapur – mae hyn yn golygu y bydd CThEF yn anfon e-bost atoch pan fydd eich cod treth yn newid
2. Beth mae’ch cod treth yn ei olygu
Mae’ch cod treth yn cynnwys rhifau a llythrennau.
1257L yw’r cod treth a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd ag un gyflogaeth neu bensiwn.
Fel arfer, bydd CThEF yn cysylltu â chi i esbonio sut y cyfrifwyd eich cod treth unigol, os bydd eich cod treth yn newid.
Gwirio beth mae’ch cod treth yn ei olygu
Gallwch ddefnyddio’r i gael gwybod y canlynol:
-
yr hyn y mae’r rhifau a’r llythrennau yn eich cod treth yn ei olygu
-
faint o dreth y byddwch yn ei thalu
-
yr hyn y gall fod angen i chi ei wneud nesaf
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl y gofynnir i chi ynghylch:
-
eich incwm blynyddol, cyn unrhyw ddidyniadau (yn agor tudalen Saesneg)
-
unrhyw fuddiannau cwmni (yn agor tudalen Saesneg) rydych yn eu cael neu rydych wedi’u cael yn flaenorol
-
swm Pensiwn y Wladwriaeth rydych yn ei gael bob blwyddyn
Beth mae’r rhifau yn ei olygu
Mae’r rhifau yn eich cod treth yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn faint o incwm rhydd o dreth rydych yn ei gael yn ystod y flwyddyn dreth honno.
Mae CThEF yn cyfrifo’ch rhif unigol ar sail eich Lwfans Personol rhydd o dreth ac ar sail incwm nad ydych wedi talu treth arno (megis llog heb ei drethu neu enillion rhan amser). Maent hefyd yn ystyried gwerth unrhyw fuddiannau cwmni (yn agor tudalen Saesneg) (megis car cwmni).
·¡²Ô²µ³ó°ù²¹¾±´Ú´Ú³ÙÌý
Mae gennych hawl i’r Lwfans Personol rhydd o dreth safonol, sef £12,570, ond rydych hefyd yn cael yswiriant meddygol gan eich cyflogwr. Gan mai buddiant cwmni yw hwn, mae’n gostwng eich Lwfans Personol ac yn newid eich cod treth.
Mae’r buddiant yswiriant meddygol, sef £1,570, yn cael ei ddidynnu oddi wrth eich lwfans personol, gan olygu bod gennych Lwfans Personol rhydd o dreth o £11,000. 1100L fyddai’ch cod treth, felly.
Beth mae’r llythrennau yn ei olygu
Mae’r llythrennau yn eich cod treth yn cyfeirio at eich sefyllfa a sut y mae’n effeithio ar eich Lwfans Personol.
Llythrennau | Beth maent yn ei olygu |
---|---|
L | Mae gennych hawl i’r Lwfans Personol rhydd o dreth safonol |
M | Lwfans Priodasol: rydych wedi cael trosglwyddiad o 10% o Lwfans Personol eich partner |
N | Lwfans Priodasol: rydych wedi trosglwyddo 10% o’ch Lwfans Personol i’ch partner |
T | Mae’ch cod treth yn cynnwys cyfrifiadau eraill i gyfrifo’ch Lwfans Personol |
0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
BR | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
D0 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
D1 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ychwanegol (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
NT | Nid ydych yn talu unrhyw dreth ar yr incwm hwn |
S | Trethir eich incwm neu’ch pensiwn gan ddefnyddio’r cyfraddau yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) |
S0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol (yn yr Alban) i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
SBR | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
SD0 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ganolradd yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
SD1 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
SD2 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch bellach yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
SD3 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uchaf yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
C | Trethir eich incwm neu’ch pensiwn gan ddefnyddio’r cyfraddau yng Nghymru |
C0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol (yng Nghymru) i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
CBR | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
CD0 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
CD1 | Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ychwanegol yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
Os oes ‘W1’ neu ‘M1’ neu ‘X’ ar ddiwedd eich cod treth
Codau treth dros dro yw’r rhain.
Os oes ‘K’ ar ddechrau eich cod treth
Mae codau treth sydd â ‘K’ ar y dechrau yn golygu bod gennych incwm nad yw’n cael ei drethu mewn modd arall a bod yr incwm hwnnw’n werth mwy na’ch lwfans rhydd o dreth.
Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, mae hyn yn digwydd os ydych yn:
-
talu treth sydd arnoch o flwyddyn flaenorol drwy’ch cyflog neu’ch pensiwn
-
cael buddiannau y mae’n rhaid i chi dalu treth arnynt – gallai’r rhain fod yn fudd-daliadau’r Wladwriaeth ²Ô±ð³Ü‵µ fuddiannau cwmni (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn cymryd y dreth sy’n ddyledus ar yr incwm nad yw wedi’i drethu o’ch cyflog neu’ch pensiwn – hyd yn oed os oes sefydliad arall yn talu’r incwm heb ei drethu i chi.
Ni all cyflogwyr na darparwyr pensiwn gymryd mwy na hanner eich cyflog neu bensiwn cyn treth wrth ddefnyddio cod treth K.
3. Codau treth dros dro
Os yw’ch cod treth yn gorffen gyda ‘W1’ neu ‘M1’ neu ‘X’, mae hynny yn dangos bod gennych god treth dros dro. Er enghraifft:
- 1257L WI
- 1257L MI
- 1257L X
Efallai y caiff cod treth dros dro ei roi i chi os nad yw’ch manylion incwm yn cyrraedd CThEF mewn pryd ar ôl newid mewn amgylchiadau megis:
-
swydd newydd
-
gweithio i gyflogwr ar ôl bod yn hunangyflogedig
-
cael buddiannau cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth
Fel arfer bydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth pan fyddwch chi neu’ch cyflogwr yn darparu’ch manylion cywir. Gall hyn gymryd hyd at 35 diwrnod.
Os yw’r newid yn eich amgylchiadau yn golygu nad ydych wedi talu’r swm cywir o dreth, bydd y cod treth dros dro yn aros ar waith hyd nes eich bod wedi talu’r swm cywir o dreth ar gyfer y flwyddyn.
Diweddaru eich manylion
Mae’ch cyflogwr yn gallu eich helpu i ddiweddaru’ch cod treth drwy anfon manylion am eich pensiwn neu incwm blaenorol at CThEF.
Os ydych wedi dechrau swydd newydd
Rhowch P45 o’ch swydd flaenorol i’ch cyflogwr. Os nad oes gennych P45, dylai’ch cyflogwr ofyn i chi lenwi ffurflen er mwyn rhoi manylion unrhyw fuddiannau neu gyflogaethau blaenorol. Efallai mai rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn fydd hon.
Os ydych wedi dechrau gweithio i gyflogwr ar ôl bod yn hunangyflogedig
Dylai’ch cyflogwr ofyn i chi lenwi ffurflen er mwyn rhoi manylion eich buddiannau neu gyflogaethau blaenorol. Efallai mai rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn fydd hon.
Os ydych wedi dechrau cael buddiannau cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth
Gwiriwch eich cod treth ar-lein i wneud yn siŵr ei fod yn cynnwys y buddiant cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth. Os nad yw’n cynnwys y rhain, ewch ati i ddiweddaru’ch manylion drwy’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer codau treth, neu drwy gysylltu â CThEF.
Bydd y cod treth dros dro yn parhau i fod ar waith tan ddiwedd y flwyddyn dreth. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu’r swm cywir o dreth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Yn y flwyddyn dreth newydd, dylai CThEF roi cod treth i chi nad yw’n un dros dro.
4. Pam y gallai’ch cod treth newid
Efallai y bydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn dechrau swydd newydd
-
rydych yn cael budd-daliadau trethadwy’r Wladwriaeth
-
rydych yn dechrau cael incwm o bensiwn neu swydd ychwanegol
-
mae swm wythnosol eich Pensiwn y Wladwriaeth yn newid
-
mae’ch cyflogwr yn rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi dechrau neu stopio cael buddiannau o’ch swydd (yn agor tudalen Saesneg)
-
rydych yn hawlio Lwfans Priodasol
-
rydych yn hawlio treuliau rydych yn cael rhyddhad treth arnynt
Mae’n bosibl hefyd y rhoddir cod treth dros dro i chi os byddwch yn newid swydd ac os nad yw’ch manylion incwm yn cyrraedd CThEF mewn pryd.
Os yw’ch cod treth wedi newid, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio’ch Treth Incwm ar-lein er mwyn dysgu pam.
5. Sut i ddiweddaru’ch cod treth
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth yn awtomatig pan fydd eich incwm yn newid. Fel arfer, bydd yr wybodaeth hon yn dod oddi wrth eich cyflogwr.
Os oes gan CThEF yr wybodaeth anghywir am eich incwm, efallai y cewch god treth anghywir.
I gywiro’ch cod treth, gwnewch yn siŵr bod gan CThEF y manylion diweddaraf ynghylch eich incwm.
Gwiriwch beth mae angen i chi ei wneud os oes gennych god treth dros dro.
Os ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir
Os ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio’ch Treth Incwm ar-lein i wneud y canlynol:
-
diweddaru’ch manylion cyflogaethÂ
-
rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch incwm, a allai fod wedi effeithio ar eich cod treth
Er enghraifft, gallwch:
-
ychwanegu buddiannau cwmni
-
ychwanegu incwm neu gyflogwyr sydd ar gollÂ
-
hawlio treuliau cyflogaethÂ
-
diweddaru eich incwm trethadwy amcangyfrifedig
Efallai y bydd CThEF yn newid eich cod treth o ganlyniad i’r diweddariadau rydych yn eu gwneud drwy’r gwasanaeth ar-lein.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Os ydych yn meddwl bod eich cod treth yn anghywir ac na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch gysylltu â CThEF.
Ar ôl i chi ddiweddaru’ch manylion
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi os bydd yn newid eich cod treth.
Bydd hefyd yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn fod eich cod treth wedi newid.
Dylai’ch slip cyflog nesaf ddangos:
-
eich cod treth newydd
-
addasiadau i’ch cyflog os oeddech yn talu’r swm anghywir o dreth
Os ydych yn cysylltu â CThEF ar ran rhywun arall
Os oes angen i chi roi gwybod i CThEF am newid i incwm rhywun arall (er enghraifft, oherwydd mai chi yw cyfrifydd y person), llenwch .
Cael ad-daliad treth neu dalu’r dreth sydd arnoch
Os ydych wedi talu naill ai gormod neu dim digon o dreth ar ddiwedd y flwyddyn dreth, bydd CThEF yn anfon y naill neu’r llall o’r canlynol atoch:
-
llythyr cyfrifiad treth (a elwir yn ‘P800’)