Sut i wneud cais

Cyn i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn, gwiriwch a ydych yn gymwys.

Pryd gallwch wneud cais

Gallwch wneud eich cais hyd at 4 mis cyn i chi gyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch wneud cais unrhyw amser ar 么l i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond gall eich cais ddim ond cael ei 么l-ddyddio am 3 mis. Mae hyn yn golygu y gallwch gael hyd at 3 mis o Gredyd Pensiwn yn eich taliad cyntaf pe byddech yn gymwys yn ystod yr amser hynny.

Os ydych yn gwneud cais i gael Taliad Tanwydd Gaeaf

Gwiriwch eich bod yn bodloni鈥檙 meini prawf cymhwysedd ar gyfer Taliadau Tanwydd Gaeaf cyn gwneud cais am Gredyd Pensiwn.

Os ydych yn byw yn yr Alban, yn lle.

Rhaid i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn erbyn 21 Rhagfyr 2024 i fod yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd Gaeaf 2024 i 2025. (neu Daliad Gwresogi Gaeaf, os ydych yn byw yn yr Alban).

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch chi a鈥檆h partner os oes gennych un:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • gwybodaeth am unrhyw incwm, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych
  • gwybodaeth am eich incwm, cynilion a buddsoddiadau ar y dyddiad yr ydych am 么l-ddyddio鈥檆h cais iddo (fel arfer 3 mis yn 么l neu鈥檙 dyddiad y gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth)

Bydd hefyd angen manylion eich cyfrif banc arnoch. Yn dibynnu ar sut rydych yn gwneud cais, efallai y gofynnir i chi hefyd am enw eich banc neu gymdeithas adeiladu, cod didoli a rhif cyfrif.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Gwneud cais dros y ff么n

Gall ffrind neu aelod o鈥檙 teulu ffonio i chi os na allwch ddefnyddio鈥檙 ff么n.

Llinell gais Credyd Pensiwn
Ff么n: 0800 99 1234
Ff么n testun: 0800 169 0133
(os na allwch glywed neu siarad dros y ff么n): 18001 yna 0800 99 1234
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur 鈥� darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Gwneud cais drwy鈥檙 post

I wneud cais trwy鈥檙 post, argraffwch a chwblhewch ffurflen gais Credyd Pensiwn neu ffoniwch y llinell gais i ofyn am ffurflen.

Anfonwch y ffurflen gais at y Gwasanaeth Pensiwn, neu gofynnwch i rywun ei wneud ar eich rhan.

Freepost DWP Pensions Service 3

Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth ar yr amlen heblaw am y cyfeiriad freepost. Nid oes angen cod post neu stamp arnoch.

Cysylltwch 芒 sefydliad gwirfoddol fel neu os ydych angen help gyda鈥檙 ffurflen.

Os ydych yn anghytuno 芒 phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais Credyd Pensiwn. Gelwir hwn yn ailystyriaeth orfodol.