Cyfrif gyrwyr a cherbydau: mewngofnodi neu sefydlu
Defnyddiwch eich cyfrif i wirio eich manylion a gedwir gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Gallwch:
-
weld eich cofnod gyrru, er enghraifft cerbydau y gallwch eu gyrru
-
gwirio eich pwyntiau cosb neu waharddiadau
-
ychwanegu a gweld manylion eich cerbydau - gan gynnwys pan fydd yr MOT yn dod i ben
-
gwirio’r cyfraddau treth ar gyfer eich cerbydau
-
sefydlu nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy e-bost a neges destun - os ydych yn talu treth bob 6 neu 12 mis
-
dewis rhoi’r gorau i gael nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy’r post
-
adnewyddu eich trwydded yrru cerdyn-llun
-
gweld ffotograff o’ch trwydded yrru (bydd arnoch angen trwydded yrru ffotograff dilys)
-
creu ‘cod gwirio’ trwydded i rannu eich cofnod gyrru gyda rhywun, er enghraifft cwmni llogi car
-
gweld gwybodaeth eich Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gyrwyr (CPC) a thacograff, os oes gennych rhain
Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid ichi gael un o’r canlynol:
- trwydded yrru a gyhoeddwyd yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- llyfr log cerbyd (V5CW) yn eich enw
Ni allwch sefydlu nodiadau atgoffa treth cerbyd os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mewngofnodi neu greu cyfrif
Bydd angen ichi fewngofnodi i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi yn barod, byddwch yn gallu eu creu.
Byddwch yn cael gwybod pan rydych yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n golygu defnyddio dull adnabod â ffotograff fel pasbort neu drwydded yrru.
Ar ôl ichi greu cyfrif
Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch pan fyddwch wedi creu eich cyfrif.
Ffyrdd eraill o wirio manylion gyrru neu gerbyd
Gallwch wneud y canlynol heb greu cyfrif:
Cael nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy’r post
Os ydych yn talu am eich treth cerbyd bob 6 neu 12 mis, efallai y cewch nodyn atgoffa hefyd i drethu’ch cerbyd (llythyr V11W) drwy’r post.
Gallwch ddewis peidio â chael nodiadau atgoffa papur pan fyddwch yn sefydlu nodiadau atgoffa digidol yn eich cyfrif.