Cynhaliaeth plant os yw rhiant yn byw dramor
Printable version
1. Trosolwg
Ni allwch wneud cais newydd i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os yw’r plentyn a’r rhiant sydd gyda’r prif ofal o ddydd i ddydd yn byw dramor.
Mae yna amgylchiadau lle gall y gwasanaeth helpu os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn byw dramor.
Gallwch wneud trefniant cynhaliaeth plant preifat eich hun – os yw un neu’r ddau riant yn byw dramor.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gorfodi penderfyniad cynhaliaeth plant
Gallwch ofyn i lys am help os na fydd y rhiant arall yn talu’r gynhaliaeth plant sy’n ddyledus i chi ganddynt. Gelwir hyn yn cymryd ‘camau gorfodi’.
Ni allwch orfodi trefniant cynhaliaeth plant preifat a wnaethoch eich hun – rydych angen ei wneud yn gyfreithiol rwymol yn gyntaf.
Gallwch hefyd ofyn i’r llys newid penderfyniad cynhaliaeth plant presennol neu wneud un newydd.
Mae sut y gallwch orfodi, newid neu wneud penderfyniad yn dibynnu ar:
- ble mae’r rhiant arall yn byw
- lle y gwnaed eich penderfyniad gwreiddiol
Mae gan y DU gytundeb Cydorfodi Gorchmynion Cynhaliaeth (REMO) gyda nifer o wledydd eraill. Gall llysoedd mewn ‘gwledydd REMO’ orfodi penderfyniadau cynhaliaeth plant a wnaed gan lysoedd y DU.
Penderfyniadau cynhaliaeth plant a wnaed yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r broses yn wahanol os ydych eisiau gorfodi penderfyniad cynhaliaeth plant a wnaed yn wreiddiol yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.
Os gwnaed y penderfyniad yn yr Alban
Cysylltwch â Llywodraeth yr Alban am gyngor.
maintenanceenforcement@gov.scot
Rhif ffôn: 0131 244 3570 neu 0131 244 4829
Ffacs: 0131 244 4848
Gwybodaeth am gost galwadau
The Scottish Government Justice Directorate
Central Authority and International Law Team
St Andrew’s House
Regent Road
Edinburgh
EH1 3DG
Os gwnaed y penderfyniad yng Ngogledd Iwerddon
Cysylltwch â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Gogledd Iwerddon am gyngor.
reciprocalenforcement@courtsni.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 200 7812
Gwybodaeth am gost galwadau
Northern Ireland Courts and Tribunals Service
Laganside House
23 - 27 Oxford Street
Belfast
BT1 3LA
2. Os yw’r rhiant arall yn byw dramor
Mae sut y cewch benderfyniad ynghylch cynhaliaeth plant yn dibynnu ar p’un a yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad lle mae Cydorfodi Gorchmynion Cynhaliaeth (REMO) yn berthnasol. Gwiriwch y rhestr o wledydd REMO .
Os nad yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad REMO, ceisiwch gyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr i gael gwybod a allwch orfodi’r penderfyniad ai peidio.
Os yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad REMO
Sut i wneud cais
Os yw’r rhiant arall yn byw mewn gwlad REMO, cysylltwch â’r Ganolfan Fusnes Gorfodi Cynhaliaeth (MEBC) drwy’r post neu e-bost.
Bydd y MEBC yn gofyn cwestiynau i chi i wirio eich bod yn gymwys. Os ydych yn gymwys, byddant yn anfon ffurflen gais a chanllawiau atoch i’ch helpu i wneud cais.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y bydd angen i chi fynychu gwrandawiad llys yn y DU neu dalu ffi’r llys. Bydd eich canllawiau ategol yn esbonio hyn yn fanylach.
Dywedwch wrth y MEBC os nad ydych eisiau i’r rhiant arall weld gwybodaeth benodol amdanoch chi, fel eich cyfeiriad.
Llenwch y ffurflen a’i hanfon yn ôl i’r MEBC gydag unrhyw ddogfennau ategol.
Mae’r broses yn wahanol os ydych eisiau gorfodi penderfyniad cynhaliaeth plant a wnaed yn wreiddiol yn Yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.
Cysylltwch â’r MEBC os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Ar ôl ichi wneud cais
Bydd eich cais wedi’i lenwi yn cael ei anfon i’r llys yn y wlad lle mae’r rhiant arall yn byw.
Yna bydd y llys tramor yn penderfynu a ddylid talu (‘dyfarnu’) cynhaliaeth plant ai peidio. Gall hefyd benderfynu a ddylid gorfodi’r taliad ai peidio.
Gallwch gysylltu â’r MEBC i gael gwybod sut mae eich cais yn mynd rhagddo. Peidiwch â chysylltu â’r llys tramor.
Cysylltu â’r Ganolfan Fusnes Gorfodi Cynhaliaeth (MEBC)
Pan fyddwch yn cysylltu â’r MEBC, dywedwch wrthynt beth yw:
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad e-bost
- eich rhif ffôn
- rhif yr achos, os oes gennych un
Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf, bydd angen i chi hefyd ddweud wrthynt:
- ym mha wlad yr ydych yn byw
- ym mha wlad y mae’r rhiant arall yn byw
Canolfan Fusnes Gorfodi Cynhaliaeth
Triton House
St Andrews Street North
Bury St Edmunds
Suffolk
IP33 1TR
Dim ond un MEBC sydd yna yn awr ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae MEBC Cymru a MEBC Llundain wedi cau.
3. Os ydych chi'n byw dramor
Gallwch dal orfodi penderfyniad cynhaliaeth plant os yw’r rhiant arall yn byw yn y DU ond rydych chi’n byw mewn gwlad arall.
Gwiriwch os ydych yn byw mewn gwlad sy’n gallu gorfodi penderfyniad cynhaliaeth plant a wnaed yn y Deyrnas Unedig. Gelwir hyn yn gwlad Cydorfodi Gorchmynion Cynhaliaeth (REMO).
Os ydych yn byw mewn gwlad REMO, gofynnwch i’r llys ble rydych yn byw i orfodi’r penderfyniad.
Efallai y byddwch dal yn gallu gorfodi penderfyniad os nad ydych yn byw mewn gwlad REMO. Ceisiwch gyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr yn y wlad lle rydych chi’n byw neu yn y DU.
4. Os yw'r rhiant arall yn gweithio dramor i Sefydliad Prydeinig
Efallai y gallwch wneud hawliad cynhaliaeth plant newydd yn hytrach na gorfodi un presennol os yw’r rhiant arall yn gweithio dramor i rai sefydliadau Prydeinig, er enghraifft:
- fel gwas sifil
- i Wasanaeth Llysgenhadol Ei Fawrhydi
- fel aelod o’r Lluoedd Arfog
- i gwmni wedi’i leoli a’i gofrestru yn y DU
- i GIG
- i awdurdod lleol
Sut i wneud cais
Ni allwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth a chael cyfeirnod yn gyntaf.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth Cael cymorth i drefnu cynhaliaeth plant i gael gwybod beth yw’ch opsiynau ar gyfer talu am gynhaliaeth plant neu gael cynhaliaeth ar gyfer eich plentyn, gan gynnwys gwneud trefniant preifat eich hun.
Os ydych angen help i ddefnyddio’r gwasanaeth Cael cymorth i drefnu cynhaliaeth plant, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Rhif ffôn: 0800 171 2345
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0800 232 1979
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 ac yna 0800 171 2345
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gwybodaeth am gost galwadau
ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) -
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae yna rif ffôn gwahanol .
Os ydych wedi gwneud cais yn barod, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am gyngor.