Cysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn

Printable version

1. Cael gwybodaeth am eich Pensiwn y Wladwriaeth

Cysylltwch y Gwasanaeth Pensiwn i gael gwybodaeth am:

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, .

Os ydych yn byw dramor, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol yn lle.

Os ydych eisiau gwybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth rhywun arall, defnyddiwch y gwasanaeth ‘ymholiad eraill’

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn

Ffôn: 0800 731 0469
Ffôn testun: 0800 731 0464
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn: 18001 yna 0800 731 0469
Llinell Gymraeg: 0800 731 0453
Ffôn testun Cymraeg: 0800 731 0456
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus) Darganfyddwch am gostau galwadau

Ysgrifennu i’r Gwasanaeth Pensiwn

The Pension Service
Post Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1AF

2. Hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post.

Os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, mae angen i chi wneud cais am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn lle hynny. Os ydych dros 80 oed, efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am y pensiwn dros 80.

Os ydych eisiau gwneud cais ar ran rhywun arall, mae’n rhaid i chi allu rheoli eu cais

Gwneud cais dros y ffôn neu drwy’r post

Gallwch wneud cais dros y ffôn os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y 4 mis nesaf.

Os ydych am wneud cais trwy’r post, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn i gael ffurflen gais Pensiwn y Wladwriaeth wedi’i anfon atoch.

Rhif ffôn: 0800 731 7936
Ffôn testun: 0800 731 7013
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 7898
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Llinell Saesneg: 0800 731 7898
Ffôn testun Saesneg: 0800 731 7339
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (heblaw gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Rhyngwladol os ydych yn byw tramor.

3. Rhoi gwybod am newidiadau i’ch cyfeiriad, manylion banc, neu amgylchiadau eraill

Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu’r pensiwn dros 80, mae’n rhaid i chi roi gwybod os ydych yn:

  • symud i gyfeiriad newydd o fewn y DU (rhowch wybod ar ôl i chi symud)
  • symud neu’n bwriadu symud i wlad arall yn barhaol
  • symud i gartref gofal preswyl, hyd yn oed nad yw’n barhaol (rhowch wybod ar ôl i chi symud)
  • dechrau neu’n stopio cael budd-dal o’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
  • newid eich manylion banc
  • priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil
  • ysgaru neu’n diddymu eich partneriaeth sifil
  • weddw neu mae’ch partner sifil yn marw
  • mynd i’r carchar
  • cael eich cynnal yn nalfa gyfreithiol

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, mae yna newidiadau ychwanegol y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdanynt

Os ydych yn byw dramor, cysylltwch â’r Canolfan Pensiynau Rhyngwladol yn lle.

Os ydych yn rhoi gwybod ar ran rhywun arall, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ‘ymholiad arall’.

Rhoi gwybod am eich newid dros y ffôn

Ffôn: 0800 731 0453
Ffôn testun: 0800 731 0456
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0469
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Llinell Saesneg: 0800 731 0469
Ffôn testun Saesneg: 0800 731 0464
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Rhoi gwybod am eich newid trwy’r post

The Pension Service
Post Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1AF