Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Pwy sy鈥檔 gorfod anfon Ffurflen Dreth
Mae鈥檔 rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth os, yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf (6 Ebrill i 5 Ebrill), roedd unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- roeddech yn hunangyflogedig fel 鈥榰nig fasnachwr鈥� ac wedi ennill mwy na 拢1,000 (cyn tynnu unrhyw beth y gallwch hawlio rhyddhad treth arno)
- roeddech yn bartner mewn partneriaeth fusnes
- roedd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan wnaethoch werthu, neu 鈥榞ael gwared ar鈥�, rhywbeth a wnaeth gynyddu mewn gwerth
- roedd yn rhaid i chi dalu鈥檙 T芒l Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Efallai y bydd hefyd angen i chi anfon Ffurflen Dreth os oes gennych unrhyw incwm sydd heb ei drethu, megis:
- arian o roi eiddo ar osod
- cildyrnau a chomisiwn
- incwm o gynilion, buddsoddiadau a difidendau
- incwm tramor
Gwirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth
Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn si诺r.
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o鈥檙 blaen. Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Rhesymau eraill dros anfon Ffurflen Dreth
Gallwch ddewis llenwi Ffurflen Dreth er mwyn:
- hawlio rhai rhyddhadau Treth Incwm
- profi eich bod yn hunangyflogedig, er enghraifft i hawlio Gofal Plant sy鈥檔 Rhydd o Dreth neu Lwfans Mamolaeth
- talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol