Stori newyddion

Cydnabyddiaeth frenhinol i wyth o bobl

Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i wyth o bobl gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer De Morgannwg, Mrs Morfudd Meredith.

Copyright: RFCA for Wales

Dyma鈥檙 wyth a gafodd eu cydnabod: Prif Is-swyddog Paul Jones o HMS CAMBRIA; Is-swyddog Alan Lewis o Gorfflu Cadetiaid M么r Casnewydd; Capten Chris Cooper a鈥檙 Uwch-ringyll Hyfforddwr Staff Richard Cooper, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg; Capten Jayne Simpson o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Awyr-Lefftenant Jeffrey Thomas a鈥檙 Uwch-ringyll Hedfan Stuart Ansell, ill dau o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol; a Rick Hallet o Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.

Cyflwynwyd eu gwobr iddynt i gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a鈥檜 hymroddiad i ddyletswydd yn seremoni wobrwyo flynyddol yr Arglwydd Raglaw, a gynhaliwyd gan HMS CAMBRIA ym Mae Caerdydd ddydd Iau 22 Chwefror 2024.聽

Mae Paul Jones, Prif Is-swyddog o Gaerdydd, yn cael ei ddisgrifio fel arweinydd ysbrydoledig sydd wedi ymroi ei holl fywyd fel oedolyn i鈥檙 Gwasanaeth. Ar ran HMS CAMBRIA, Paul oedd yn gyfrifol am arwain seremoni Rhyddid Anrhydeddus Dinas a Sir Caerdydd; diwrnod gwych gyda HMS CAMBRIA a鈥檙 Llynges Frenhinol ehangach, a fu鈥檔 gorymdeithio鈥檔 falch y tu allan i Neuadd y Ddinas a thrwy strydoedd y Ddinas.

Bu Alan Lewis, Is-swyddog o Gaerdydd, yn helpu i ailadeiladu Uned Casnewydd ar 么l iddi gau oherwydd llifogydd a鈥檙 pandemig. Alan sy鈥檔 gyfrifol am yr holl waith arlwyo ar gyfer Rhanbarth De Cymru, a chymaint yw ei ymroddiad i鈥檞 r么l, pan dorrodd ei fan i lawr ar y ffordd i benwythnos ar gyfer y rhanbarth, fe ofynnodd i鈥檙 gwasanaeth RAC ei dynnu i Aberdaugleddau er mwyn osgoi gadael y cadetiaid a鈥檙 staff i lawr!

Mae Capten Chris Cooper, o鈥檙 Barri, wedi ysbrydoli nifer helaeth o gadetiaid i wthio ei hunain ac mae bob amser yn barod i fynd yr ail filltir. Ym mis Mawrth y llynedd, diolch i鈥檞 weithredoedd a鈥檌 feddwl chwim yn ystod argyfwng meddygol, llwyddodd i achub bywyd rhywun drwy roi cymorth cyntaf, a chafodd ei gydnabod gyda Thystysgrif Dadebru gan y Royal Humane Society.

Mae Richard Cooper, Uwch-ringyll Hyfforddwr o Gaerdydd, yn meddu ar amrywiaeth o gymwysterau a, hyd yma, mae wedi ymgymryd 芒 r么l cadlywydd yr awyrlu mewn tri lleoliad.

Mae Capten Jayne Simpson, o鈥檙 Barri, yn cael ei disgrifio fel arweinydd ieuenctid rhagorol, sydd bob amser yn barod i fynd yr ail filltir. Mae鈥檔 godwr arian heb ei hail, ac mae鈥檙 holl arian a godir yn cael ei ddefnyddio i wella profiad y cadetiaid trwy ddarparu cymorth ariannol i鈥檞 gwneud yn fwy fforddiadwy iddynt gymryd rhan.

Ymunodd Jeffrey Thomas, Awyr-Lefftenant o鈥檙 Barri, 芒 Sgwadron Dinas Llandaf 30F fel cad茅t ifanc yn 1994 鈥� gan ddychwelyd ar 么l gyrfa yn y Llu Awyr Brenhinol i fod yn Brif Swyddog yn 2006 鈥� r么l y bu ynddi am flynyddoedd lawer.

Mae Stuart Ansell, Uwch-ringyll Hedfan o Gaerdydd, yn Hyfforddwr Oedolion allweddol ac ymroddedig yn Adain Gymreig Rhif 1, ac mae wedi gweithio鈥檔 ddiflino i ddatblygu鈥檙 cyfleoedd cerddorol sydd ar gael i gadetiaid.聽

Yn ddiweddar bu i Rick Hallett ymddeol o鈥檌 r么l fel Pennaeth Cyllid ac Adnoddau Dynol yng Nghymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru, lle鈥檙 oedd yn gydweithiwr poblogaidd a gwerthfawr iawn. Bu hefyd yn aelod allweddol o鈥檙 uwch d卯m rheoli am ddegawd a mwy

Cafodd llwyddiannau dau gad茅t yr Arglwydd Raglaw hefyd eu cydnabod a鈥檜 dathlu yn ystod y noson wobrwyo.

Cafodd Kevin Titus, Cadet Rhingyll Hedfan o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, a Sean Edwards, Cad茅t Is-swyddog o Gorfflu Cadetiaid M么r y Barri, eu dewis ar gyfer r么l anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar 么l cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.

Mae r么l cad茅t yr Arglwydd Raglaw, sy鈥檔 para tan fis Medi, yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda鈥檙 Arglwydd Raglaw, sy鈥檔 gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin. Mae鈥檙 digwyddiadau hyn yn cynnwys digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol yn ogystal 芒 chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy鈥檔 rhoi o鈥檜 hamser rhydd gyda鈥檙 nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Roedd tua 80 o bobl yn bresennol yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei threfnu gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru 鈥� sefydliad sydd wedi cefnogi鈥檙 Lluoedd Arfog ers 100 mlynedd a mwy.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Chwefror 2024