Deg o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed
Mae ymdrechion deg o bobl o bob cwr o Ddyfed, gan gynnwys dau gad茅t ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Lord-Lieutenant of Dyfed Awards. Copyright: RFCA for Wales.
I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a鈥檜 hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bump o bobl gan Miss Sara Edwards, yn y seremoni yng Ngwesty鈥檙 Ivy Bush, Caerfyrddin, ddydd Iau 7 Mawrth.
Y pump oedd Colin Sharp a Hilary Anderson, ill dau o Gorfflu Cadetiaid M么r Aberdaugleddau; Is-lefftenant (SCC) Lucy Killick RNR o Gorfflu Cadetiaid M么r Llanelli; Hyfforddwr Rhingyll Staff Colleen Chinnery a Hyfforddwr Rhingyll Staff Kirsty Richards o Lu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg
Yn ystod y noson, cyflwynwyd tair gwobr am wasanaeth hir a gwasanaeth gwirfoddol i aelodau鈥檙 Corfflu Cadetiaid M么r hefyd.
Cafodd cyflawniadau dau gad茅t yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a鈥檜 dathlu yn ystod y digwyddiad a fynychwyd gan 80 a mwy o bobl.
Bu Is-swyddog Gad茅t Annis Henton o Gorfflu Cadetiaid M么r Abergwaun ac Is-swyddog Gad茅t Luke Coburn o Gorfflu Cadetiaid M么r Dinbych-y-pysgod yn s么n wrth y gynulleidfa am eu hamser yn y cadetiaid, gan gynnwys uchafbwyntiau eu r么l dros y 12 mis diwethaf.
Mae鈥檙 r么l, sy鈥檔 parhau tan fis Medi, yn cynnwys mynychu nifer o ymrwymiadau swyddogol gyda鈥檙 Arglwydd Raglaw fel digwyddiadau Sul y Cofio, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.
Dewiswyd y ddau i fod yn gadetiaid yr Arglwydd Raglaw, r么l mawr ei bri, ar 么l cael eu henwebu gan arweinwyr y gr诺p cadetiaid a Chymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.
Dyma鈥檙 tair gwobr am wasanaeth hir a gwasanaeth gwirfoddol a gyflwynwyd i aelodau Corfflu Cadetiaid y M么r:
Is-gomander (SCC) Peter Killick RNR o Gadetiaid M么r Llanelli a dderbyniodd y 5ed Bwcl i Fedal Lluoedd y Cadetiaid; Mrs Valerie Callaghan o Gadetiaid M么r Abergwaun a dderbyniodd y Wobr Aur i Gydnabod Gwasanaeth Gwirfoddolwyr, a dyfarnwyd Gwobr Efydd i Gydnabod Gwasanaeth Gwirfoddolwyr i Mr Brian Murphy o Gadetiaid M么r Abergwaun.
Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru sy鈥檔 ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gyda chymunedau lleol, elusennau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.
Mae鈥檙 maes llafur cadetiaid yn cael ei ddarparu gan 1,850 o oedolion sy鈥檔 gwirfoddoli fel Hyfforddwyr a chynorthwywyr sifil, sy鈥檔 rhoi o鈥檜 hamser hamdden yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Trefnwyd y digwyddiad gwobrwyo gan Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid (RFCA) Cymru - sefydliad sydd wedi cefnogi鈥檙 Lluoedd Arfog ers 100 a mwy o flynyddoedd.