The Rt Hon David Gauke
Bywgraffiad
Penodwyd David Gauke yn Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ar 11 Mehefin 2017. Cafodd ei ethol fel AS Ceidwadol dros Hertfordshire South West ym mis Mai 2005.
Addysg
Wedi鈥檌 eni yn 1971 ac wedi鈥檌 addysgu yn Northgate High School yn Ipswich, astudiodd David y gyfraith yn St Edmund Hall, Prifysgol Rhydychen. Wedi blwyddyn yn gweithio fel ymchwilydd seneddol, mynychodd Chester College of Law cyn dod yn gyfreithiwr dan hyfforddiant.
Gyrfa wleidyddol
Roedd David yn aelod o Bwyllgor Seneddol y trysorlys o fis Chwefror 2006 hyd nes iddo gael ei benodi鈥檔 Weinidog yr Wrthblaid dros y Trysorlys ym mis Mehefin 2007. Fel Gweinidog yr Wrthblaid dros y Trysorlys canolbwyntiodd ar bolisi treth, yn cynnwys materion fel symleiddio treth a diwygio treth gorfforaethol. Cafodd ei benodi鈥檔 Ysgrifennydd y Trysorlys ym mis Mai 2010, a鈥檌 ddyrchafu鈥檔 Ysgrifennydd Ariannol i鈥檙 Trysorlys ym mis Gorffennaf 2014 ble bu鈥檔 gwasanaethu tan fis Gorffennaf 2016.
Fe wasanaethodd fel Prif Ysgrifennydd y Trysorlys o fis Gorffennaf 2016 i fis Mehefin 2017.
Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth
Wedi cymhwyso fel cyfreithiwr yn 1997, gweithiodd David i gwmni blaenllaw yn y Ddinas cyn mynd i鈥檙 Senedd yn 2005.
Bywyd personol
Mae David yn byw yn Chorleywood gyda鈥檌 wraig, Rachel, a鈥檜 3 mab.