Sut i wneud cais i wneud penderfyniadau eiddo a chyllid ar ran rhywun (gan gynnwys Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant)
Diweddarwyd 10 Ionawr 2025
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn gwneud cais i ddod yn ddirprwy (COP1) i reoli eiddo a materion unigolyn, rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen COP1A.
Os yw’ch cais yn ymwneud â mater arall, efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen ychwanegol wahanol.
Mae’n rhaid i chi ddarllen y canllawiau llawn ar ddod yn ddirprwy i gael gwybod:
- pa ffurflenni eraill y gallai fod angen i chi eu cynnwys
- unrhyw ffioedd y gallai fod angen i chi eu talu
- lle i anfon eich ffurflenni pan fyddant yn gyflawn
Mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen COP1A gyda ffurflen COP1.
Llenwi’r ffurflen
Mae’n rhaid i chi ddarparu’r holl wybodaeth berthnasol i gefnogi’ch cais a llenwi pob adran o’r ffurflen sy’n berthnasol i chi. Os nad oes gennych fanylion llawn cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu a buddsoddiadau, efallai y bydd angen i chi wneud cais i’r llys am orchymyn dros dro i gael y manylion hyn.
Gallwch barhau ar ddalen bapur ar wahân os oes angen mwy o le arnoch i ateb cwestiwn. Os oes angen i chi wneud hyn, dylech gynnwys:
- eich enw
- enw’r unigolyn rydych chi’n gwneud cais i wneud penderfyniadau ar ei gyfer
- dyddiad geni’r unigolyn rydych chi’n gwneud cais i wneud penderfyniadau ar ei gyfer
- nifer y cwestiynau rydych chi’n eu hateb
Ar ddiwedd y ffurflen mae datganiad o wirionedd. Rhaid i hwn gael ei lofnodi gan un o’r canlynol:
- chi (a’ch cyd-geisydd os yw’n berthnasol)
- eich cyfreithiwr neu
- cyfaill cyfreitha (os yw’r ceisydd yn blentyn neu’n barti gwarchodedig)
Gwneud cais i gael mynediad i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo di-dreth tymor hir ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011. Daeth y cynllun i ben yn 2011. Gallwch ddod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant fel rhiant neu os ydych dros 16 oed.
Os ydych yn gwneud cais drwy’r post i gael mynediad at Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, bydd angen i chi lenwi ffurflenni COP1 a COP1A.
Gallwch hefyd wneud cais ar-lein yn lle llenwi’r COP1 - bydd angen i chi lenwi’r ffurflen COP1A o hyd.
Cyn gwneud cais, dylech ddarllen y broses o wneud penderfyniadau cyllid ar gyfer pobl ifanc: pecyn cymorth i rieni a gofalwyr.
Help i dalu ffioedd
Ni fydd angen i chi dalu’r ffi os ydych yn gwneud cais am fynediad i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn unig cyn pen-blwydd y plentyn yn 18 oed ac mae ganddo/ganddi:
- gynilion o lai na £4,250, neu
- incwm misol sy’n llai na £1,420
Mae’n debygol na fydd angen i chi dalu’r ffi hefyd os byddwch yn gwneud cais ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 18 oed ond mae’n rhaid i chi:
- ofyn am hepgoriad rhag talu ffioedd oherwydd amgylchiadau eithriadol
- Gwneud cais am help i dalu ffioedd y Llys Gwarchod (COP44A)
Dylech ddarllen y nodiadau cyfarwyddyd a gyhoeddwyd ochr yn ochr â ffurflen COP44A, sy’n cynnwys gwybodaeth am geisiadau Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Llenwch y ffurflen i gael mynediad at Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
Fel gyda mathau eraill o gais COP1A, rhaid i chi gwblhau pob rhan o’r ffurflen sy’n berthnasol i chi. Fodd bynnag, byddwch yn sylwi bod adrannau a fydd yn berthnasol i chi neu beidio:
- Adran 2 – Atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol
- Adran 3 – Ewyllys
- Adran 4 – Incwm ac asedau (is-adrannau tir, eiddo a busnes)
Os nad yw’r adrannau hyn yn berthnasol i chi, gallwch eu gadael nhw ac unrhyw adrannau eraill nad ydynt yn berthnasol yn wag.
Gwybodaeth am yr unigolyn gyda’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
Rhaid i chi lenwi Adran 6 – Gwybodaeth arall. Dylech ddarparu gwybodaeth fanwl am Gronfa Ymddiriedolaeth Plant y sawl yr ydych yn gwneud cais i gael mynediad ato.
Dylai hyn gynnwys:
- disgrifiad o’u hanghenion neu anableddau, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw anghenion cyfathrebu ychwanegol
- lle maent yn byw a phwy sy’n gofalu amdanynt yno
- p’un a oes ganddynt gefnogaeth ychwanegol, fel gofalwyr yn y cartref neu mewn amgylchedd ysgol arbenigol
- gwybodaeth ychwanegol am y cyfrif sy’n dal y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, fel arian pen-blwydd y gallent fod wedi’i dderbyn
- sut rydych yn bwriadu defnyddio’r arian o’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant a sut y bydd o fudd iddynt
- pa arian, incwm neu fudd-daliadau fydd yn weddill, fel Lwfans Byw i’r Anabl
- p’un a fydd angen i chi ond bod yn ddirprwy iddynt i gael mynediad i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
- p’un a ydych yn gofyn am hepgoriad rhag talu ffioedd am amgylchiadau eithriadol neu am help i dalu ffioedd
Cael help ac arweiniad
Rhagor o wybodaeth am y Llys Gwarchod
Ni all staff y Llys Gwarchod roi cyngor cyfreithiol i chi. Os oes angen cyngor cyfreithiol arnoch, gallwch ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol neu gysylltu â Chyngor ar Bopeth.
Cyngor ar Bopeth
Elusen a rhwydwaith o elusennau lleol, sy’n cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn, ac yn bersonol.