Welsh translation (HTML)
Updated 7 February 2023
Mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried bod y Bil yn cynnwys darpariaethau sy鈥檔 gwneud addasiadau i鈥檙 gyfraith fel y mae鈥檔 berthnasol i faterion cadwedig ac mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol sail resymol dros gredu y byddai ganddynt effaith andwyol ar weithrediad y gyfraith fel y mae鈥檔 berthnasol i faterion cadwedig. Mae鈥檙 rhesymau dros y gred hon wedi eu nodi yn Rhannau 2. 3 a 4.
Rhan 1: Effaith y Bil
Mae鈥檙 Bil yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 (Deddf 2004) ar gyfer yr Alban. Bydd y diwygiadau hyn yn newid yn sylweddol sut y gellir rhoi Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC) i ymgeiswyr o dan gyfraith yr Alban. Mae pobl yn gallu ymgeisio os ydynt wedi eu cofnodi ar gofrestr geni yn yr Alban neu os ydynt yn preswylio fel arfer yn yr Alban.
Mae鈥檙 diwygiadau a wneir gan y Bil i Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i ymgeiswyr o鈥檙 Alban gael GRC llawn, gan ddileu nifer o fesurau mae llywodraeth y DU yn eu hystyried yn drefniadau diogelu pwysig, gan gynnwys:
- dileu鈥檙 gofyn i ymgeisydd gael neu fod wedi cael diagnosis o ddysfforia rhywedd (ac, yn gyfatebol, dileu鈥檙 gofyn i ymgeisydd ddarparu adroddiadau meddygol gyda鈥檌 gais).
- gostyngiad yn yr isafswm oedran o 18 i 16
- gostyngiad yn y cyfnod mae鈥檔 rhaid bod ymgeisydd wedi byw yn ei rywedd/ rhywedd caffaeledig cyn cyflwyno cais, o 2 flynedd i 3 mis (neu 6 mis i ymgeiswyr o dan 18), ochr yn ochr 芒 chyflwyno cyfnod myfyrio 3 mis gorfodol
- dileu鈥檙 gofyn i ymgeisydd ddarparu unrhyw dystiolaeth ei fod/bod wedi byw yn ei rywedd/rhywedd caffaeledig wrth gyflwyno cais
- dileu鈥檙 gofyn i Banel fod yn fodlon fod yr ymgeisydd yn bodloni鈥檙 meini prawf, a cheisiadau yn cael eu gwneud yn hytrach i Gofrestrydd Cyffredinol yr Alban.
Gyda鈥檌 gilydd, mae鈥檙 gwelliannau hyn yn dileu unrhyw ofyn am ddilysu trydydd parti neu dystiolaeth o鈥檙 broses.
Mae鈥檙 Bil hefyd yn diwygio darpariaethau ar gyfer y broses y mae pobl o dramor yn gallu cael GRC o dan gyfraith yr Alban. Mae Adran 1(1)(b) o Ddeddf 2004 yn darparu llwybr tramor symlach sy鈥檔 galluogi person i ymgeisio am GRC os yw ei rywedd/rhywedd caffaeledig wedi cael ei gydnabod yn gyfreithiol mewn gwlad neu diriogaeth a gymeradwywyd. Yn hytrach, mae鈥檙 Bil yn darparu lle mae person wedi cael 鈥渃ydnabyddiaeth rhywedd dramor鈥, bydd y person yn cael ei drin yn awtomatig fel pe byddai Cofrestrydd Cyffredinol yr Alban wedi rhoi GRC llawn i鈥檙 person, oni bai ei fod yn amlwg yn groes i bolisi cyhoeddus. Nid yw鈥檙 ddarpariaeth hon yn berthnasol i bobl sydd 芒 GRC a roddwyd yng ngweddill y DU o dan Ddeddf 2004, oherwydd bod adran 8M yn darparu ar wah芒n eu bod yn cael eu trin fel petaent yn dystysgrifau GRC llawn wedi eu rhoi gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Mae gan y Bil eithriad ar gyfer amgylchiadau lle y byddai鈥檔 amlwg yn groes i bolisi cyhoeddus i wneud hynny (er enghraifft, mewn achos lle cafwyd cydnabyddiaeth rhywedd gyfreithiol dramor yn ifanc iawn), er nad yw鈥檙 Bil yn diffinio fel arall pryd y bydd yr eithriad hwn yn berthnasol.
Effaith ar weithrediad y gyfraith fel y mae鈥檔 berthnasol i faterion cadwedig.
Bydd y Bil yn gwneud addasiadau i鈥檙 gyfraith fel y mae鈥檔 berthnasol i鈥檙 materion cadwedig. Mae adrannau 2-6 a 16 y Bil yn gwneud addasiadau i Ddeddf 2004 trwy ddiwygio adrannau 1-8 (ac eithrio a.4(4)) o Ddeddf 2004 a rhoi adrannau 8A i 8E yn eu lle; mae adran 8 yn mewnosod adran 8M newydd; mae adran 16 hefyd yn diwygio adran 25 (sy鈥檔 cynnwys y diffiniadau perthnasol) o Ddeddf 2004. Mae鈥檙 Bil felly yn addasu Deddf 2004.
Y mater cadwedig y mae鈥檙 gyfraith yn berthnasol iddo yw (o leiaf yn gyntaf) 鈥渃yfleoedd cyfartal鈥.[footnote 1] Mae鈥檙 mater cadwedig yn cael ei ddiffinio鈥檔 benodol i olygu 鈥渁tal, dileu neu reoleiddio gwahaniaethu rhwng personau ar sail rhyw neu statws priodasol, ar sail hiliol, neu ar sail anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, iaith neu darddiad cymdeithasol, neu nodweddion personol eraill, gan gynnwys cred neu farn, megis cred grefyddol neu farn wleidyddol.鈥
Mae鈥檙 gyfraith wedi鈥檌 haddasu (Deddf 2004) yn berthnasol i鈥檙 mater cadwedig (cyfleoedd cyfartal) trwy ei rhyngberthynas 芒 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf 2010). Mae Deddf 2010 yn darparu fframwaith gyfreithiol Prydain Fawr i ddiogelu hawliau unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb.
Mae Deddf 2010 yn gwneud 鈥渞hyw鈥 yn nodwedd warchodedig ac mae鈥檔 gwneud darpariaethau ynghylch pan fydd ymddygiad yn ymwneud 芒鈥檙 nodwedd warchodedig honno yn anghyfreithlon. Mae Adran 9 o Ddeddf 2004 yn darparu oni bai fod eithriadau yn berthnasol, mai effaith GRC llawn yw y daw rhyw鈥檙 person 鈥渁t bob diben鈥 fel y mae wedi鈥檌 ardystio. Fel mater o egwyddor gyffredinol, mae gan GRC llawn yr effaith o newid y rhyw sydd gan berson yn nodwedd warchodedig at ddibenion Deddf 2010.[footnote 2] Mae hyn yn amodol ar sefydlu bwriad i鈥檙 gwrthwyneb mewn perthynas 芒鈥檙 dehongliad o ddarpariaethau penodol yn Neddf 2010.
Cafodd Deddf 2010 yn ei chyfanrwydd ei drafftio yng ngoleuni, a chan adlewyrchu, terfynau penodol Deddf 2004 Act a鈥檙 anhawster cymharol y gallai person ei gael wrth newid ei ryw/rhyw yn gyfreithiol 鈥渁t bob diben鈥 (ar gyfer adran 9), gan gynnwys Deddf 2010 ei hun. Mae鈥檙 Bil yn newid y cydbwysedd gofalus hwnnw.
Mae gan y Bil ganlyniadau ymarferol hefyd ar weithrediad y gyfraith fel y mae鈥檔 berthnasol i faterion cadwedig eraill. Yr enghreifftiau mwyaf nodedig yw鈥檙 weinyddiaeth o dreth, budd-d芒l a phensiynau Gwladwriaeth a reolir gan systemau integredig ar draws y DU sy鈥檔 rhychwantu swyddogaethau cadwedig a datganoledig. Y materion cadwedig y mae鈥檙 gyfraith yn berthnasol iddynt yw 鈥減olisi ariannol鈥 a 鈥渘awdd cymdeithasol鈥.[footnote 3]
Mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn credu y byddai鈥檙 addasiadau i Ddeddf 2004 fel y mae鈥檔 berthnasol i faterion cadwedig yn cael effaith andwyol ar weithredu鈥檙 gyfraith fel y mae鈥檔 berthnasol i faterion cadwedig.
Mae鈥檙 effeithiau andwyol hyn yn gallu cael eu grwpio i 3 maes pryder cyffredinol a nodir yn adrannau canlynol y ddogfen hon:
Rhan 2: Yr effeithiau o greu 2 drefn gyfochrog a gwahanol iawn ar gyfer rhoi a dehongli GRC o fewn y DU.
Rhan 3: Yr effeithiau y gallai dileu trefniadau diogelu eu cael ar ddiogelwch, yn enwedig i fenywod a merched, o ystyried y potensial sylweddol gynyddol i geisiadau twyllodrus fod yn llwyddiannus.
Rhan 4: Yr effeithiau ar weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 sy鈥檔 deillio o鈥檙 ffaith fod GRC yn newid nodwedd warchodedig rhyw person at ddibenion Deddf 2010, ac yn ehangu鈥檙 garfan o bobl sy鈥檔 gallu cael GRC. Mae hyn yn cynnwys (a) gwaethygu materion sy鈥檔 bodoli eisoes o dan y drefn GRC bresennol, a (b) creu rhai newydd.
Rhan 2: Effeithiau andwyol trefniadau GRC gwahanol ar draws y DU
Mae鈥檙 categori cyntaf o effeithiau andwyol a gr毛ir gan y Bil yn dod o鈥檙 addasiadau sylweddol mae鈥檔 eu gwneud i鈥檙 sail y gellir cael GRC arni, ac felly鈥檔 gwahanu cyfraith yr Alban oddi wrth gyfraith gweddill y DU, hynny yw, mae鈥檔 creu 2 drefn gyfochrog a gwahanol iawn ar gyfer rhoi a dehongli GRC.
Nid yw鈥檙 Bil yn honni y byddai gofyn na fyddai gan GRC a roddir yn yr Alban o dan ei thelerau unrhyw effaith gyfreithiol ac eithrio yng nghyfraith yr Alban; ni allai, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, fod wedi gwneud hynny. Mae鈥檔 broblemus iawn mewn egwyddor yn ogystal ag yn ymarferol pe bai gan un o ddinasyddion y DU rywedd gwahanol, a rhyw cyfreithiol (gan gynnwys at ddibenion Deddf 2010), yn dibynnu ar ble mae鈥檔 digwydd byw o fewn y DU, a pha system gyfreithiol sy鈥檔 berthnasol iddo/iddi. Mae鈥檔 annymunol yn ymarferol ac yn gyfreithiol i bawb, gan gynnwys deiliad unigol y GRC yn benodol, y bydd gan berson un rhyw cyfreithiol yn yr Alban ac un gwahanol yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Cydnabu鈥檙 cynnig cydsyniad deddfwriaethol a gafodd ei basio gan Senedd yr Alban ochr yn ochr 芒 GRC 2004, ar y pryd, ddymunoldeb cael un drefn gydlynol ar gyfer cael GRC a oedd yn berthnasol yn yr un modd ledled y DU. Nid yw鈥檙 dymunoldeb hwnnw wedi newid.
Mae鈥檔 glir fod nifer o effeithiau andwyol penodol a achosir gan system ddeuol, fel yr amlinellir isod, yn ogystal 芒鈥檙 effaith andwyol gyffredinol a gr毛ir gan ddiffyg eglurder cyffredinol ar gyfer deiliaid GRC yn ogystal 芒 darparwyr gwasanaeth, cyflogwyr ac ati y gall fod yn aneglur iddynt pa statws sydd gan GRC Albanaidd neu un i鈥檙 DU gyfan mewn cyd-destunau gwahanol, ac i ba raddau ac o dan ba amgylchiadau y bydd y cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth (am statws neu hanes GRC rhywun) a osodir gan adran 22 o Ddeddf 2004 yn berthnasol.
Mae鈥檙 effeithiau andwyol hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i鈥檙 rhain, yr enghreifftiau o effeithiau ar weithrediad Deddf Cydraddoldeb 2010 a nodir yn fanylach isod, gan gynnwys:
- clybiau neu gymdeithasau un rhyw: gallai fod gan glwb neu gymdeithas un rhyw ledled y DU aelodaeth wahanol mewn rhannau gwahanol o鈥檙 DU
- dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED): byddai鈥檔 rhaid i awdurdod cyhoeddus trawsffiniol wneud cais i ddefnyddio鈥檙 PSED yn wahanol yn yr Alban i Gymru a Lloegr
- t芒l cyfartal: byddai gan gyflogwr ledled y DU gyflogeion na fyddai鈥檔 gallu defnyddio cydweithiwr yn gymharydd mewn hawliad t芒l cyfartal pe byddai鈥檔 cael ei gyflwyno yn yr Alban, ond gallai wneud hynny yn Lloegr (a鈥檙 gwrthwyneb)
Byddai defnyddio鈥檙 Bil yng nghyd-destun adran 22 o Ddeddf 2004 yn debygol o waethygu pryderon cynyddol cyflogwyr a darparwyr sy鈥檔 codi o鈥檙 garfan newydd: mae鈥檙 niferoedd cynyddol o ddeiliaid GRC yn golygu y bydda pobl yn dod ar draws y materion a鈥檙 cyfyngiadau hyn yn amlach; a bod ystyriaethau ychwanegol ar gyfer deiliaid GRC 16 a 17 oed nad oeddent wedi eu rhagweld pan gafodd Deddf 2004 ei dyfeisio. Mae adran 22 yn ei gwneud yn drosedd i rywun sydd wedi derbyn gwybodaeth warchodedig yn rhinwedd ei swydd ddatgelu鈥檙 wybodaeth i rywun arall. Mae hon yn ddarostyngedig i eithriadau, gan gynnwys lle mae鈥檙 person yn cydsynio i鈥檙 datgeliad. Gwybodaeth warchodedig yw ffaith am gais person am GRC a chyn gynted ag y bydd wedi newid ei ryw/rhyw yn gyfreithiol, gwybodaeth fod ganddo/ganddi GRC, neu wybodaeth yn ymwneud 芒鈥檌 ryw/rhyw biolegol ( ac felly hunaniaeth flaenorol). Mae cwmpas adran 22 yn un eang. Mae鈥檔 ei gwneud yn anodd gofyn neu gofnodi rhyw cyfreithiol unigolyn mewn cyd-destun proffesiynol, gan y gallai newidiadau mewn cofnodion rhyw cyfreithiol rhywun dros amser ddatgelu bod ganddo/ganddi GRC, sy鈥檔 wybodaeth warchodedig.
Mae nifer o feysydd hefyd lle caiff creu system ddeuol ganlyniadau andwyol difrifol (ac mewn rhai achosion rhai nad oes modd eu rheoli o bosibl) ar weithrediad y gyfraith fel y mae鈥檔 berthnasol i faterion cadwedig eraill. Yr enghraifft fwyaf nodedig yw gweinyddiaeth treth, budd-daliadau a phensiynau鈥檙 Wladwriaeth sy鈥檔 cael eu rheoli gan systemau integredig ledled y DU ac sy鈥檔 cwmpasu swyddogaethau cadwedig a datganoledig, yn gweithredu ar gyfer llywodraethau鈥檙 DU yn ogystal 芒鈥檙 Alban. Mae seilwaith TG presennol yn caniat谩u un rhyw cyfreithiol yn unig ar unrhyw gofnod ac nid yw鈥檔 gallu newid y dynodwr ar gyfer pobl 16 i 17 oed. Mae鈥檙 rheini sy鈥檔 gyfrifol am y systemau hyn yn ystyried, hyd yn oed ag amser a chost sylweddol,[footnote 4] y gall fod yn amhosibl rheoli鈥檙 gwaith o鈥檜 hadeiladu gallu system i reoli hunaniaeth ddeuol ar gyfer yr un unigolyn os gallai rhyw cyfreithiol rhywun fod yn wahanol yng nghyfraith yr Alban a鈥檙 gyfraith ar gyfer Lloegr a Chymru.
Mae鈥檙 Bil hefyd yn creu system wahanol i ddinasyddion tramor gael tystysgrifau GRC rhwng tystysgrifau a gydnabyddir yn yr Alban ac yng ngweddill y DU. Gan y bydd y broses yn yr Alban yn caniat谩u i unrhyw ddeiliad GRC tramor gael GRC Albanaidd yn awtomatig (oni bai ei bod yn amlwg groes i bolisi cyhoeddus), gallai hyn arwain o bosibl at ddinasyddion tramor yn y DU (o wledydd neu diriogaethau nad ydynt ar y rhestr gymeradwy) yn ffafrio ymgeisio am dystysgrifau GRC yr Alban er mwyn osgoi鈥檙 broses fwy trwyadl o ymgeisio i鈥檙 Panel ar lwybr safonol y DU. Lle dibynnir ar y tystysgrifau GRC hyn mewn perthynas 芒 meysydd materion cadwedig - gan gynnwys o dan Ddeddf 2010 - byddant yn agwedd ychwanegol ar effaith anghydlynol y Bil ar weithredu鈥檙 gyfraith fel y mae鈥檔 berthnasol i faterion cadwedig.
Rhan 3: Effeithiau andwyol sy鈥檔 deillio o risg gynyddol ceisiadau twyllodrus
Bydd y gwelliannau a wneir gan y Bil i Ddeddf 2004 yn dileu nifer o fesurau y mae llywodraeth y DU yn eu hystyried yn drefniadau diogelu pwysig, fel yr amlinellir ym mharagraff 3 uchod. Gyda鈥檌 gilydd, mae鈥檙 addasiadau hyn yn tynnu unrhyw ofyniad am ddilysu trydydd parti neu dystiolaeth o鈥檙 broses.
Mae鈥檙 Bil yn creu trosedd o wneud datganiad statudol ffug neu wneud cais ffug am gydnabyddiaeth rhywedd, 芒 chosbau o hyd at 2 flynedd o garchar a dirwy anghyfyngedig.
Mae鈥檙 Bil hefyd yn gofyn i Brif Gwnstabl Heddlu鈥檙 Alban hysbysu Cofrestrydd Cyffredinol yr Alban os bydd yn gwneud cais i鈥檙 llys am orchymyn atal niwed rhywiol neu orchymyn atal troseddau rhywiol, fyddai鈥檔 cael yr effaith o atal person rhag gwneud cais am GRC.
Mae鈥檙 trothwy newydd ar gyfer ceisiadau yn newid y garfan o bobl sydd 芒 GRC mewn 2 ffordd sylweddol: mae鈥檔 newid natur y bobl sy鈥檔 gymwys i ymgeisio ac wrth wneud hynny, mae鈥檔 debygol o gynyddu鈥檔 sylweddol nifer y bobl sy鈥檔 gallu gwneud hynnyl.[footnote 5] Ar hyn o bryd, mae鈥檙 gofyn am ddiagnosis dysfforia rhywedd, yn ogystal 芒 thystiolaeth o 2 flynedd o fyw yn y rhywedd caffaeledig, yn golygu bod terfynau clir ar bwy sy鈥檔 gymwys i ymgeisio. Trwy ddileu鈥檙 angen am unrhyw ddilysu trydydd parti gan gynnwys y cyfnod gofynnol o fyw yn y rhywedd caffaeledig, a lleihau鈥檙 cyfnod hwnnw i 3 mis (6 mis i鈥檙 rheini sy鈥檔 16 i 17 oed),[footnote 6] mae鈥檙 trothwy wedi鈥檌 newid: o un sy鈥檔 anodd iawn i鈥檞 fodloni ac sy鈥檔 gofyn am ddilysu trydydd parti; i un sy鈥檔 llawer mwy dibynnol ar farn personol ymgeisydd. Mae鈥檔 eglur fod hyn yn newid y garfan o bobl a allai felly fod yn dal GRC, a thrwy hynny鈥檙 categori o bobl sy鈥檔 berthnasol i/sy鈥檔 elwa o ddarpariaethau rhyw penodol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd lefel y sicrwydd yngl欧n 芒鈥檙 tebygolrwydd y bydd yr unigolyn yn parhau鈥檔 ymrwymedig i fyw yn ei rywedd caffaeledig hefyd dipyn yn llai oherwydd y cyfnod dechreuol byrrach gofynnol, gan gynyddu鈥檙 tebygolrwydd o unigolion yn amrywio neu鈥檔 terfynu鈥檔 llwyr yr ymrwymiad hwn gan ei fod/bod wedi newid ei ryw/rhyw cyfreithiol. Mae鈥檙 newidiadau hyn felly yn agor y posibilrwydd ar gyfer heterogenedd arwyddocaol helaethach yn y garfan.
Mae鈥檙 newid mewn sut mae GRC yn gallu cael ei gaffael o dan y Bil yn effeithio ar yr amgylchiadau lle mae person yn gallu newid ei nodwedd warchodedig o ryw o dan Ddeddf 2010. Mae鈥檔 ehangu鈥檙 categori o bobl fydd yn cael eu hystyried yn fenywod[footnote 7] o dan Ddeddf 2010. Bellach nid benyw fiolegol fydd na benyw 18 oed neu drosodd sydd 芒 GRC o ganlyniad i gyflwr meddygol wedi鈥檌 ddiagnosio ac sydd 芒 2 flynedd o brofiad byw; bydd, yng nghyfraith yr Alban, yn fenyw fiolegol neu鈥檔 berson 16 oed neu drosodd sydd wedi hunanadnabod yn fenyw am 6 (neu 9 mis).[footnote 8] Mae hwn yn newid sylweddol i鈥檙 hyn yw 鈥榙yn鈥 neu 鈥榝enyw鈥 at ddibenion Deddf 2010.
Nid yw鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn credu bod y Bil yn cadw nac yn creu trefniadau diogelu digonol i liniaru鈥檙 risg o geisiadau twyllodrus a/neu faleisus ac mae鈥檔 credu y bydd y system ddiwygiedig yn agored i gamddefnydd a gweithredwyr maleisus. Er enghraifft, fel y nodwyd eisoes, nid yw鈥檙 cyfnod gofynnol ar gyfer byw yn y rhywedd caffaeledig yn cynnwys unrhyw dystiolaeth. Byddai hyn yn tanseilio gweithrediad dynodiad y BIl o ryw a鈥檌 ryngberthynas 芒 rhyw yn nodwedd warchodedig yn Neddf 2010, gan erydu hyder yn yr ail yn fframwaith credadwy i ddiogelu hawliau鈥檙 unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Mae pwyntiau tebyg wedi cael eu nodi gan Adroddwr Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Drais yn erbyn Menywod a Merched.[footnote 9]
Mae effeithiau andwyol a nodwyd o bryder arbennig mewn perthynas 芒 gweithredu darpariaethau Deddf 2010 yn ymwneud 芒 mannau wedi鈥檜 gwahanu o ran rhyw, gwasanaethau, chwaraeon cystadleuol a gofynion galwedigaethol. Mae鈥檙 rhain yn caniat谩u ar gyfer eithrio pobl sydd 芒鈥檙 nodweddion gwarchodedig ailbennu rhywedd, gan gynnwys y rheini sydd 芒 GRC, lle gellir cyfiawnhau鈥檔 wrthrychol eu heithrio. O ystyried y posibilrwydd sylweddol gynyddol y gall rhywun sydd 芒 bwriad maleisus gael GRC a chan y bydd y risg hon yn hysbys yn eang, mae risg berthynol o bobl ddim yn teimlo鈥檔 ddiogel mwyach mewn unrhyw leoliad wedi鈥檌 wahanu o ran rhyw ac yn hunaneithrio o鈥檙 lleoliadau hyn er y gallent gael budd sylweddol oddi wrthynt.
Rhan 4: Effeithiau andwyol mewn perthynas 芒 gweithrediad Deddf Cydraddoldeb 2010.
(a) Gwaethygu materion presennol gyda gweithredu Deddf Cydraddoideb 2010.
Bydd y gwelliannau a wneir gan y Bil i Ddeddf 2004 yn caniat谩u i gategori newydd a sylweddol ehangach o bobl, nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu cael GRC llawn, wneud hynny. Mae鈥檙 gr诺p hwn (y garfan newydd) yn cynnwys:
- ymgeiswyr 16 i 17 oed
- ymgeiswyr sydd 芒 diagnosis o ddysfforia rhywedd
- ymgeiswyr nad ydynt yn byw ers 2 flynedd yn eu rhywedd caffaeledig
Mae llywodraeth y DU wedi asesu y byddai creu鈥檙 garfan newydd a gwahanol iawn hon o ymgeiswyr cymwys yn effeithio鈥檔 andwyol ar weithredu Deddf 2010, gan nodi 4 prif faes:
- clybiau a chymdeithasau (lle mae eithriadau yn gymwys mewn perthynas 芒 rhyw ond nid mewn perthynas ag ailbennu rhywedd)
- gweithredu鈥檙 PSED
- t芒l cyfartal
- darpariaethau lle mae eithriadau yn berthnasol ar gyfer ailbennu rhyw yn ogystal 芒 rhywedd
Clybiau a chymdeithasau (lle mae eithriadau yn gymwys mewn perthynas 芒 rhyw ond nid mewn perthynas ag ailbennu rhywedd)
Mae鈥檙 darpariaethau yn Neddf 2010 yn ymwneud 芒 chymdeithasau sydd 芒 25 neu ragor o aelodau (Rhan 7) yn golygu bod cymdeithasau yn gallu cyfyngu aelodaeth i bobl sy鈥檔 rhannu nodwedd warchodedig, felly gallent gyfyngu aelodaeth i ddynion neu i fenywod. Bydd sawl math o grwpiau a chlybiau menywod, gan gynnwys unrhyw grwpiau cymorth seiliedig ar aelodaeth[footnote 10] i fenywod agored i niwed neu fenywod sydd wedi dioddef treisio neu drais rhywiol, neu鈥檙 rheini sydd wedi鈥檜 cynllunio i feithrin cyfranogiad menywod a merched mewn gweithgareddau neilltuol neu chwaraeon, wedi eu cynnwys mewn perthynas 芒 chymdeithasau sydd wedi rheoleiddio鈥檜 haelodaeth i fod yn fenywod yn unig. Lle mae unigolyn wedi newid ei ryw/rhyw at ddibenion Deddf 2010 trwy gael GRC llawn, nid yw鈥檙 gymdeithas felly yn gallu gwrthod aelodaeth ar sail ei ryw/rhyw blaenorol. Nid ydynt chwaith yn gallu cyfyngu aelodaeth i bobl nad ydynt wedi eu cynnwys gan y nodwedd ailbennu rhywedd oherwydd bod aelodaeth cymdeithas yn gallu cael ei seilio ar nodwedd warchodedig a rennir yn unig ac nid ei habsenoldeb.
Bydd y garfan newydd 芒鈥檙 gallu i newid eu rhyw cyfreithiol a gr毛ir gan y Bil yn newid yn sylweddol broffil a nifer yr unigolion na fydd cymdeithasau yn gallu eu eithrio o aelodaeth ar sail rhyw yn arwyddocaol.
Mae mesurau Deddf 2010 mewn perthynas 芒 chymdeithasau yn eu hatal rhag gwrthod aelodaeth i gr诺p bach o bobl sydd wedi鈥檜 diffinio鈥檔 fanwl ac sydd wedi newid eu rhyw cyfreithiol o dan Ddeddf 2004 fel y mae鈥檔 berthnasol ar hyn o bryd. Hwn oedd y cyd-destun y cafodd Deddf 2010 ei deddfu ynddo.
Bydd y Bil yn effeithio鈥檔 andwyol ar weithrediad Deddf 2010 trwy newid effaith ei gofynion ar gymdeithasau un rhyw, y bydd gofyn iddynt dderbyn, heb wahaniaethu, aelodau o garfan newydd, fwy a gwahanol, na fyddai wedi ateb y gofynion a amlinellir ar hyn o bryd yn Neddf 2004.
Tra bo derbynwyr presennol GRC wedi sefydlu hunaniaeth rhywedd sefydlog am o leiaf 2 flynedd, gall derbynwyr o dan y Bil fod wedi gwneud hynny am 6 mis yn unig[footnote 11] ac mewn modd sydd wedi鈥檌 hunanddiffinio. Lle roedd gan gymdeithas reswm i eithrio鈥檙 rhyw arall, mae鈥檔 rhesymol i ragdybio y bydd ystwytho鈥檙 broses ar gyfer newid rhyw cyfreithiol yn creu heriau, problemau neu bryderon newydd. Gall cymwysiadau, addasiadau a chyfaddawdau a all fod wedi cael eu darparu鈥檔 rhesymol ar sail eithriad, beidio 芒 bod yn bosibl i nifer fwy. Gall darpariaethau a allai wedi bod yn briodol i unigolion a fyddai wedi byw yn eu rhywedd caffaeledig dros gyfnod sylweddol o amser beidio 芒 bod yn addas pan nad yw hi felly.
Mae鈥檙 Bil felly yn newid natur a lefel disgwyliadau cymdeithasau un rhyw o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 rheini a nodir gan Ddeddf 2010 pan gaiff ei ddeddfu. Wrth wneud hynny, gall arwain at berygl uwch y gwelir bod cymdeithasau, gan gynnwys cymdeithasau hirsefydlog, yn gweithredu鈥檔 anghyfreithlon (trwy eithrio menywod trawsryweddol, er enghraifft) neu wneud penderfyniadau i beidio 芒 gweithredu oherwydd y risgiau canfyddedig. Yn yr un modd ni all sefydlwyr posibl y fath gymdeithasau newydd symud ymlaen oherwydd pryderon cyfatebol. Gallai鈥檙 newidiadau hyn arwain at golli鈥檙 ddarpariaeth hon, gan danseilio ymdrechion i feithrin cyfranogiad helaethach menywod mewn gweithgarwch neilltuol, neu at hunaneithrio menywod sydd, oherwydd cred grefyddol, athronyddol neu resymau eraill, ond yn teimlo eu bod yn gallu mynychu cymdeithas os ydynt yn deall eu bod wedi鈥檜 gwahanu fesul rhyw biolegol ac sy鈥檔 fwy tebygol o gredu, o ystyried y cynnydd a鈥檙 ehangu ar y garfan os daw鈥檙 Bil yn ddeddf, fod hyn yn annhebygol.
Gweithrediad Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED)
Mae ehangu carfan deiliaid GRC yn broblem sylweddol hefyd i weithrediad y PSED (adran 149). Mae hyn yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus a鈥檙 rheini sy鈥檔 cyflawni swyddogaethau cyhoeddus roi sylw dyledus i鈥檙 angen i 鈥榟yrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sy鈥檔 rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu鈥 ymhlith mesurau eraill.
Fel y sefydlwyd uchod, effaith meddu ar GRC lawn yw newid yn gyffredinol y rhyw sydd gan berson yn nodwedd warchodedig at ddibenion Deddf 2010. O ganlyniad, wrth ystyried yr angen i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy鈥檔 rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu, ni fydd llunwyr penderfyniadau bob amser yn ystyried yr effaith ar fenywod biolegol yn gr诺p clir o dan anfantais o鈥檌 chymharu 芒鈥檙 effaith ar ddynion biolegol, fel y rhai gwarchodedig.
Nid yw nodwedd rhyw yn gyfyngedig i fenywod biolegol.[footnote 12] Bydd y Bil, os caiff ei ddeddfu, yn gwaethygu鈥檔 sylweddol broblem sy鈥檔 bodoli eisoes oherwydd nifer ac amrediad cynyddol deiliaid GRC, a goblygiadau sylweddol ar gyfer darpariaethau cydraddoldeb ar sail grwpiau. O鈥檙 herwydd, mae鈥檔 bosibl y bydd ehangu carfan y bobl sy鈥檔 meddu ar GRC yn cael effaith uniongyrchol ar gymhwyso鈥檙 adran hon o Ddeddf 2010. Bydd hefyd yn mynd yn anos monitro anghydraddoldebau ledled y DU rhwng menywod a dynion cyfreithiol, neu bobl drawsryweddol ac annhrawsryweddol, os yw aelodaeth o鈥檙 grwpiau hyn yn gwahaniaethu rhwng yr Alban a gweddill y DU a鈥檌 bod yn newid yn gyflymach yn yr Alban nac yn Lloegr. Bydd newid aelodaeth y grwpiau hyn yn cael effaith neilltuol ar gyd-destunau mwy lleol a gweithredol lle mae niferoedd y bobl dan sylw yn gallu bod yn eithaf cyfyngedig ac y gallai effaith hyd yn oed nifer fach iawn o ddeiliaid GRC fod yn sylweddol.
Nodir hefyd fod dimensiwn rhyw yn berthnasol yng nghyd-destun pob nodwedd warchodedig arall a gall dealltwriaeth o effeithiau cydraddoldebau ar gyfer mater penodol ofyn am ystyriaeth o gyfuniadau o nodweddion gwarchodedig - er enghraifft, yr effaith ar fenywod lleiafrifoedd ethnig. Bydd yr hwylustod helaethach y gall pobl yn yr Alban newid eu rhyw cyfreithiol trwyddo yn ei gwneud yn anos asesu effeithiau鈥檙 polisi yn glir mewn perthynas 芒 phob nodwedd warchodedig, ac felly bydd yn anos defnyddio PSED, o ganlyniad i鈥檙 Bil
DylaI asesiadau effaith cydraddoldeb ddefnyddio鈥檙 data a鈥檙 dystiolaeth sydd ar gael. Yn y cyd-destun hwnnw, nodir y gall cynnwys hyd yn oed niferoedd bach o bobl drawsryweddol mewn dadansoddiad gael effaith anghymesur, gan ei bod yn annhebygol y bydd pobl drawsryweddol yn cael eu dosbarthu鈥檔 gyfartal yn y rhyngdoriad 芒 nodweddion gwarchodedig eraill a/neu eu lleoliad. Bydd edrych ar sut yr effeithir ar grwpiau mewn sefyllfaoedd penodol, yn hytrach nac ar raddfa genedlaethol, yn golygu y gallai cynnwys pobl drawsryweddol o fewn grwpiau wedi鈥檜 gwahanu o ran rhyw gael effaith anghymesur ar ddehongliad y data.
T芒l cyfartal
Gall y materion hyn godi鈥檔 anaml ond gallent fod yn arwyddocaol mewn achosion penodol - mae鈥檙 effaith andwyol felly鈥檔 ansoddol yn hytrach na meintiol. Mae Deddf 2010 yn darparu pan fydd hawlydd yn cyflwyno hawliadau o dan Bennod 3 Rhan 5, mae鈥檔 rhaid iddo/iddi ddangos ei fod/bod wedi cael llai o d芒l na pherson o鈥檙 rhyw arall a gyflogir ar waith cydradd (鈥榗ymharydd鈥).
Mae gan GRC lawn yr effaith o newid y rhyw sydd gan berson fel nodwedd warchodedig at ddibenion Deddf 2010, sy鈥檔 golygu bod menywod trawsryweddol 芒 GRC yn cael eu hystyried yn gyfreithiol yn hawlwyr a chynharwyr benywaidd, a dynion trawsryweddol fel hawlwyr a chymharwyr gwrywaidd.
Lle cyflwynir hawliad t芒l cyfartal gan hawlydd 芒 GRC, neu fod cymharydd 芒 GRC yn cael ei ddefnyddio yn yr hawliad, gall person fod wedi cael ei drin fel y gwrthwyneb i鈥檞 ryw/rhyw cyfreithiol presennol am gyfran sylweddol o鈥檌 yrfa/gyrfa 芒 thelerau gwell neu waeth yn ystod yr amser hwn na鈥檙 cymharydd neu hawlydd yn eu tro. Gall hyn arwain at y prawf cymharydd yn adnabod mater t芒l cyfartal lle nad oes un yn bodoli鈥檔 gywir, neu yn wir gan fethu ag adnabod y fath fater oherwydd statws unigolyn yn ddeiliad y GRC.
Lle gall hawlydd farnu mai cydweithiwr yw cymharydd mwyaf priodol y rhyw arall, ond fod y cydweithiwr hwnnw wedyn yn derbyn GRC, ni fyddai Deddf 2010 yn ei alluogi/galluogi i gael ei enwi/henwi yn gymharydd yn yr hawliad. Gallai hyn atal y prawf cymharydd rhag nodi鈥檔 gywir beth a allai fod wedi ei farnu鈥檔 anghyfreithlon fel arall.
Gan fod y meini prawf ar gyfer derbyn GRC o dan Ddeddf 2004 ar hyn o bryd yn golygu na ellir rhoi GRC ond i gr诺p bach sydd wedi byw yn eu rhywedd caffaeledig am o leiaf 2 flynedd, mae effaith hyn ar ddarpariaethau t芒l cyfartal wedi鈥檌 gyfyngu鈥檔 sylweddol.
Fodd bynnag, bydd y Bil yn caniat谩u i gategori newydd a sylweddol ehangach o bobl i newid eu rhyw cyfreithiol. A rhagor o unigolion yn gymwys i newid eu rhyw cyfreithiol, mae鈥檙 effaith andwyol ar weithrediad darpariaethau t芒l cyfartal Deddf 2010 yn tyfu. Yn neilltuol, byddai gallu unigolyn i ennill GRC lawn ar 么l byw yn ei rywedd/rhywedd caffaeledig am 6 i 9 mis yn cynyddu鈥檙 tebygolrwydd o hawliadau t芒l cyfartal yn ymwneud ag unigolion oedd wedi dechrau a chwblhau鈥檙 broses cydnabod rhywedd yn gymharol ddiweddar yn unig neu oedd wedi cael GRC tra bydd hawliad yn mynd rhagddo.
Mewn egwyddor, gall yr un materion godi yng nghyd-destun hawliad gwahaniaethu uniongyrchol yn seiliedig ar ryw. Fodd bynnag, yn y fath hawliadau gellir dibynnu ar gymharydd damcaniaethol, a bydd y posibilrwydd hwnnw yn golygu y bydd sefyllfa lle mae effaith andwyol yn codi o ganlyniad i鈥檙 Bil yn brin. Nid yw cymharwyr damcaniaethol yn cael eu defnyddio鈥檔 gyffredinol mewn hawliadau t芒l cyfartal.
Darpariaethau lle mae eithriadau yn berthnasol ar gyfer ailbennu rhyw yn ogystal 芒 rhywedd
Mae darpariaethau Deddf 2010 ar gyfer gwasanaethau wedi鈥檜 gwahanu o ran rhyw, chwaraeon cystadleuol a gofynion galwedigaethol yn caniat谩u eithrio pobl sydd 芒 nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd, lle gellir cyfiawnhau鈥檔 wrthrychol eu heithrio. Byddai unrhyw un sy鈥檔 dal GRC yn cael ei ddiogelu gan nodwedd ailbennu rhywedd, ond nid yw hyn yn ddibynnol ar feddu ar GRC.
Mae bodolaeth y system bresennol o gydnabod rhywedd cyfreithiol yn golygu bod problemau鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 darpariaethau hyn yn bodoli eisoes. Yn gyntaf, byddai rhywun sy鈥檔 drawsryweddol (hynny yw, mae ganddo/ganddi nodwedd ailbennu rhywedd) ond nad oes ganddo/ganddi GRC yn destun gwaharddiad cyffredinol rhag y gwasanaethau hyn, lleoliadau a rolau hyn ar sail ei ryw/rhyw cyfreithiol; tra nad yw rhywun sy鈥檔 drawsryweddol 芒 GRC ddim yn gallu cael ei eithrio/heithrio ar sail ei ryw/rhyw cyfreithiol, ond gall gael ei eithrio/heithrio ar sail ailbennu rhywedd os oes cyfiawnhad gwrthrychol dros wneud hynny. Byddai ehangu鈥檙 garfan o ddeiliaId GRC felly鈥檔 arwain at wneud rhagor o benderfyniadau fesul achos. Gall darparwyr hefyd ei chael yn anos cyfiawnhau eithrio niferoedd cynyddol o bobl 芒 GRC neu boeni am risg gynyddol o heriau gweithredol a/neu gyfreithiol. Gallai hyn arwain at gynnydd yn nifer y bobl drawsryweddol sy鈥檔 manteisio ar wasanaethau, mannau a rolau un rhyw, ac effaith oeri bosibl ar ddarparwyr presennol a rhai posibl, gan leihau鈥檙 cymhelliant dros y ddarpariaeth hon mewn gwirionedd.
Mae cynnydd yn nifer deiliaid GRC yn golygu y bydd canfyddiad pobl o a yw lleoliad yn debygol o fod wedi鈥檌 wahanu o ran rhyw yn newid, a gallant fod yn fwy tebygol o hunaneithrio o ganlyniad i鈥檞 canfyddiad fod pobl o鈥檙 rhyw biolegol arall yn fwy tebygol o fod yn bresennol. Ymhellach, mae natur y garfan newydd a gwahanol iawn o ddeiliaid GRC yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl yn cyfarfod eraill nad ydynt yn cydymffurfio 芒鈥檜 disgwyliadau o rywun y byddent yn disgwyl ei ganfod/chanfod mewn gwasanaeth, man neu r么l un rhyw, a allai arwain atynt yn teimlo鈥檔 anghyfforddus, neu hyd yn oed wedi鈥檜 trawmateiddio, ac yn tanseilio鈥檙 pwrpas o wneud y rhain wedi鈥檜 gwahanu o ran rhyw. Mae鈥檙 Bil yn gwaethygu鈥檙 mater hwn a bydd yn debygol o achosi effaith oeri a allai fod yr un mor niweidiol yn ymarferol ag effaith gyfreithiol.
(b) Materion newydd
Er bod nifer o鈥檙 effeithiau andwyol sy鈥檔 codi o鈥檙 Bil yn cynyddu arwyddoc芒d problemau sy鈥檔 bodoli eisoes gyda gweithrediad Deddf 2010, mae鈥檙 effaith ar weithrediad Deddf 2010 yngl欧n ag ysgolion o arwyddoc芒d arbennig yn yr ystyr ei fod yn creu anhawster na fu鈥檔 rhaid i ysgolion yn gyffredinol ymwneud ag ef o鈥檙 blaen.
Mae鈥檙 darpariaethau yn Neddf 2010 ynghylch ysgolion (yn Rhan 6) wedi鈥檜 heithrio o ddarpariaethau gwahaniaethau ar sail rhyw Deddf 2010 at ddibenion derbyniadau i ysgol un rhyw. Mae ysgolion un rhyw felly yn gallu rhoi polis茂au cyfreithlon mewn grym sy鈥檔 gwahaniaethu ar sail rhyw darpar ddisgyblion. Nid oes eithriad cyfatebol ar gyfer gwahaniaethu ailbennu rhywedd uniongyrchol. Lle mae unigolyn wedi newid ei ryw/rhyw cyfreithiol at ddibenion Deddf 2010 trwy gael GRC lawn, byddai gwrthodiad ysgol i dderbyn plentyn oherwydd ailbennu鈥檌 r(h)ywedd yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail ailbennu rhywedd.
Gan fod Deddf 2004 yn amlinellu isafswm oedran ymgeisio yn 18, nid yw鈥檔 bosibl i鈥檙 mwyafrif llethol o ddisgyblion ysgol newid eu statws cyfreithiol cyn gadael yr ysgol. Nid yw Adran Addysg y DU, sy鈥檔 gyfrifol am y system ysgolion yn Lloegr, yn ymwybodol o unrhyw enghreifftiau yn ymarferol naill ai yn Lloegr nac unrhyw le yn y DU. Hwn oedd y cyd-destun y cafodd Deddf 2010 ei deddfu ynddo. Felly, gellir rhagdybio ar hyn o bryd i raddau helaeth bod ysgolion un rhyw yn darparu ar gyfer rhyw biolegol unigol. Os yw鈥檙 Bil yn cael ei weithredu ac y ceisiodd yr ysgolion hyn eithrio o fynediad y rheini o fewn y garfan newydd oedd wedi newid eu rhyw cyfreithiol fel nad oedd yn cyfateb mwyach i ddarpariaeth yr ysgol, byddai hyn yn anghyfreithlon.
Nid yw Deddf 2010 yn caniat谩u[footnote 13] i ysgolion un rhyw dderbyn disgyblion trwy eithriad o鈥檙 rhyw arall na derbyn nifer gymharol fach o ddisgyblion o鈥檙 rhyw arall a chyfyngu鈥檙 disgyblion hynny i ddosbarthiadau neu gyrsiau neilltuol. Rhoddir felly ar hyn o bryd i ysgolion un rhyw yn ymarferol lefel disgresiwn o dan y Ddeddf mewn perthynas 芒 phenderfyniadau derbyniadau maent yn gallu eu defnyddio i ddisgyblion trawsryweddol, y bydd eu rhyw cyfreithiol (ym mhob enghraifft bron) heb newid.
Bydd y Bil yn effeithio鈥檔 andwyol ar weithrediad Deddf 2010 trwy gwtogi ar y disgresiwn mae鈥檔 ei roi i ysgolion yn yr Alban: bydd galluogi carfan newydd o ddisgyblion trawsryweddol 16 i 17 oed i newid eu rhyw cyfreithiol yn yr Alban yn golygu na fydd ysgolion un rhyw yn gallu gwrthod derbyniad iddynt ar sail eu rhyw. Pe byddai ysgol un rhyw yn yr Alban yn gwrthod derbyniad ar sail ailbennu rhywedd disgybl (yn hytrach na鈥檌 ryw), gallai fod yn wahaniaethu anghyfreithlon uniongyrchol ar sail ailbennu rhywedd. Gyda dim ond nifer fach iawn o ysgolion un rhyw yn yr Alban, mae darpariaeth un rhyw yn gyfyngedig iawn eisoes. Byddai darparwyr sy鈥檔 sefydlu ysgolion un rhyw newydd i ateb unrhyw gynnydd mewn galw i鈥檙 dyfodol yn cael eu gwahardd yn yr un modd rhag gwrthod derbyniad i ddisgyblion o鈥檙 garfan newydd o ddisgyblion trawsryweddol 16 i 17 oed oherwydd eu bod wedi newid eu rhyw cyfreithiol. Mae鈥檔 bosibl y gallai鈥檙 fath gyfyngiadau yn codi o鈥檙 Bil ar ysgolion un rhyw yn yr Alban gyfrannu at ysgolion unigol yn penderfynu dod yn gydaddysgol. Byddai hynny鈥檔 cael effaith andwyol i rieni a myfyrwyr presennol ac i鈥檙 dyfodol y byddai鈥檔 well ganddynt ysgol un rhyw, efallai yn benodol lle maent yn ystyried bod y fath leoliad yn llai tebygol nac ysgol gydaddysgol o greu problemau o ran aflonyddu rhywiol.
Byddai creu carfan newydd dan y Bil o bobl ifanc 16 i 17 oed yn yr Alban sydd 芒鈥檙 gallu i newid eu tystysgrif geni ac felly eu rhyw cyfreithiol hefyd yn effeithio鈥檔 andwyol ar weithrediad Deddf 2010 mewn ysgolion yn Lloegr, yn enwedig y rheini sy鈥檔 agos at y ffin sydd 芒 chanran uwch o fyfyrwyr wedi鈥檜 geni neu鈥檔 byw yn yr Alban. Gallai hyn greu amheuon ynghylch a ellid dibynnu ar dystysgrifau geni a roddir gan Gofresrydd Cyffredinol yr Alban yn dystiolaeth ddogfennol o ryw cyfreithiol person yng Nghymru a Lloegr i rai 16 i 17 oed. Byddai hyn yn gadael ysgolion yn ansicr ynghylch sut i gadarnhau rhyw cyfreithiol person trwy gyfeirio at y ddogfennaeth hon pe byddent wedi鈥檜 geni neu鈥檔 byw yn yr Alban a thros 16 oed.
Gyda鈥檙 fath amheuon am sut i gadarnhau rhyw cyfreithiol rhywun, os daw鈥檔 ddeddf gallai鈥檙 Bil ei gwneud yn anos i rai ysgolion un rhyw yn Lloegr weithredu. Gallai ansicrwydd neu ddiffyg ymwybyddiaeth o statws trawsryweddol disgybl (rhywbeth sy鈥檔 debygol o godi鈥檔 amlach oherwydd maint cynyddol y garfan yn yr Alban) hefyd olygu nad oes gan ysgolion yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i asesu risgiau diogelu, gan gynnwys sut i gynorthwyo disgyblion trawsryweddol orau.
-
Gweler 搂L2 o Atodlen 5 i Ddeddf 1998听鈫
-
For Women Scotland Ltd v Lord Advocate 2022 CSOH 90 - sylwer bod y Deisebwyr yn ceisio caniat芒d i apelio听鈫
-
Gweler 搂A1 a 搂F1 o Atodlen 5 i Ddeddf 1998听鈫
-
Pe byddai鈥檙 Bil yn cael ei droi鈥檔 ddeddf, byddai angen i Gyllid a Thollau ei Fawrhydi archwilio a fyddai newidiadau dilyniannol i seilwaith TG yn bosibl. Gall newidiadau i TG Cyllid a Thollau ei Fawrhydi gael effeithiau dilyniannol ar adrannau eraill oherwydd systemau integredig.听鈫
-
Mae Llywodraeth yr Alban yn disgwyl i nifer yr ymgeiswyr blynyddol gynyddu i 250 i 300 (yn seiliedig ar ddata o Iwerddon a gyflwynodd drefn debyg i boblogaeth o faint tebyg, er 芒 gwahaniaethau diwylliannol) o linell sylfaen o tua 30 y flwyddyn (yn 么l Cofnodion Cenedlaethol yr Alban mewn perthynas 芒鈥檙 rheini a gafodd eu geni yn yr Alban yn unig) - sy鈥檔 awgrymu cynnydd deng ngwaith. Mae amcangyfrifon Llywodraeth yr Alban fodd bynnag yn agored i ansicrwydd sylweddol. Maen nhw鈥檔 seiliedig ar ddata hanesyddol o wledydd Ewropeaidd eraill sydd heb systemau cyfatebol. Mae鈥檙 system agosaf o鈥檙 fath mewn gwlad sydd 芒 phoblogaeth debyg i鈥檙 Alban wedi gweld cyfartaledd o 550 o geisiadau y flwyddyn, yn sylweddol fwy nac amcangyfrif Llywodraeth yr Alban. Ni chafodd fframwaith rhesymu ei roi yn ystod yr ymgynghoriad na hynt y Bil ar gyfer amcangyfrifon cymharol isel Llywodraeth yr Alban o鈥檜 cymharu 芒鈥檙 boblogaeth amcangyfrifedig o鈥檙 gymuned draws. Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban, Shona Robinson, wrth gyflwyno鈥檙 Bil ar 3 Mawrth 2022: 鈥淢ae tua 25,000 o bobl yn y gymuned draws yn yr Alban ond dim ond tua 600 ohonynt sydd 芒 thystysgrif cydnabod rhywedd鈥yddai llawer rhagor o鈥檙 25,000 hynny wedi dymuno cael tystysgrif cydnabod rhywedd鈥. Ffynonellau ar gyfer fframweithiau rhyngwladol: , . Ffynonellau ar gyfer data/amcangyfrifon Llywodraeth yr Alban: , .听鈫
-
Mae鈥檙 Bil yn gofyn am gyfnod myfyrio 3 mis ychwanegol cyn i GRC gael ei rhoi.听鈫
-
Mae鈥檙 ffocws ar fenywod trawsryweddol er hwylustod iaith ac oherwydd, fel y mae鈥檙 datganiad hwn yn esbonio, hwn yw鈥檙 cyd-destun ar gyfer y pryderon ymarferol arwyddocaol a nodwyd; ni ddylid cymryd bod hyn yn eithrio鈥檙 posibilrwydd o faterion posibl neu gyfatebol yn codi mewn perthynas a phobl sy鈥檔 ddynion trwy rinwedd meddu ar GRC.听鈫
-
Y 3 neu 6 mis gofynnol ar adeg ymgeisio a 3 mis ychwanegol o gyfnod myfyrio cyn i GRC gael ei rhoi.听鈫
-
Llythyr gan Adroddwr Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar drais yn erbyn menywod a merched, 29 Tachwedd 2022 听鈫
-
os nad yw gweithgareddau tebyg yn cael eu trefnu鈥檔 ffurfiol ar sail aelodaeth, mae鈥檔 debygol y byddent yn cael eu hystyried yn wasanaethau a byddai darparwyr yn gallu cymhwyso鈥檙 eithriad ailbennu rhywedd lle byddai cyfiawnhad.听鈫
-
Y 3 neu 6 mis gofynnol ar adeg ymgeisio a 3 mis ychwanegol o gyfnod myfyrio cyn i GRC gael ei rhoi.听鈫
-
Gall rhai gwneuthurwyr penderfyniadau beidio 芒 bod yn ymwybodol ar hyn o bryd o鈥檙 gwahaniaeth rhwng rhyw biolegol a chyfreithiol ond, lle maent, mae鈥檙 ystyriaethau hyn yn annhebygol o fod yn rhan arferol o asesiadau PSED ar hyn o bryd: gall y data a鈥檙 dystiolaeth sydd ar gael gyfyngu ar ba ddadansoddi sy鈥檔 bosibl; a/neu gall natur y penderfyniad dan sylw olygu nad yw gwahaniaethu rhwng rhyw cyfreithiol a biolegol yn berthnasol.听鈫
-
Cafodd y ddarpariaeth hon ei datblygu yn Neddf 2010 i hwyluso blaenoriaethu plant staff ysgol, o鈥檙 naill ryw neu鈥檙 llall, mewn derbyniadau i unrhyw ysgol neilltuol; ni chafodd ei chynllunio ag ystyriaeth o ddisgyblion trawsryweddol.听鈫