Datgan nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A
Defnyddiwch y ffurflen hon os yw CThEF wedi anfon P11D(b) atoch ac nid ydych wedi rhoi treuliau a buddiannau trethadwy i gyflogeion.
Dim ond os yw鈥檙 canlynol yn wir y mae angen i chi roi gwybod i CThEF nad oes angen i chi gyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A:
- rydym wedi anfon P11D(b) atoch neu lythyr i鈥檆h atgoffa ynghylch eich ffurflen P11D(b)
- nid ydych wedi talu unrhyw dreuliau na buddiannau trethadwy i unrhyw gyflogeion
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn gyflogwr, bydd angen y canlynol arnoch:
- cyfeirnod TWE y Cyflogwr
- enw鈥檙 cyflogwr
- cod post y busnes
- dynodydd defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth 鈥 Os nad oes gennych ID, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein
Os ydych yn asiant, bydd angen y canlynol arnoch:
- eich enw
- cyfeirnod TWE yr asiant
- enw cyswllt
- rhif ff么n cyswllt
- cyfeiriad e-bost