Cam-drin Domestig: sut i gael help
Dysgwch sut mae cael help os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig.
Os ydych mewn perygl dybryd, galwch 999 a gofynwch am yr heddlu. Os na allwch siarad a’ch bod yn galw ar ff?n symudol gwasgwch 55 i drosglwyddo’ch galwad i’r heddlu. Dysgwch sut mae galw’r heddlu pan na allwch siarad.
Am gyngor cyfrinachol am ddim, 24 awr y dydd cysylltwch ? llinell gymorth cam-drin domestig.
Os oes angen i chi adael eich cartref i ddianc rhag cam-drin domestig, nid yw cyfarwyddiadau ynysu i’r aelwyd yn berthnasol.
Canllaw wedi’i gyfieithu
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, mae gwybodaeth wedi’i chyfieithu i sawl iaith yn ogystal ? fersiwn hawdd i’w ddarllen. Mae gan Cymorth i Fenywod ar gael mewn nifer o ieithoedd hefyd i ddioddefwyr, teulu a ffrindiau, ac aelodau’r gymuned hynny sydd wedi cael eu heffeithio.
Os ydych yn fyddar, gallwch sydd yn egluro sut i gael help os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig.
Adnabod cam-drin domestig
Ydy eich partner, cyn-bartner neu rywun sy’n byw gyda chi:
- Yn eich torri i ffwrdd oddi wrth deulu a ffrindiau ac yn eich ynysu yn fwriadol?
- Yn eich bwlio, bygwth neu’n eich rheoli?
- Yn cymryd rheolaeth ar eich arian?
- Yn monitro neu’n cyfyngu ar eich defnydd o dechnoleg?
- Yn eich cam-drin yn gorfforol a/neu’n rhywiol?
Nid yw cam-drin domestig yn golygu trais corfforol o reidrwydd. Gall hefyd gynnwys:
- Rheolaeth drwy orfodaeth a dibwyllo neu ‘gasleitio’
- Cam-drin economaidd
- Cam-drin ar-lein
- Bygythiadau a brawychu
- Cam-drin emosiynol
- Cam-drin rhywiol
Gall unrhyw un ddioddef cam-drin domestig, waeth beth fo’i ryw, oed, ethnigrwydd, crefydd, statws economaidd-gymdeithasol, rhywioldeb neu gefndir. Os ydych chi o’r farn eich bod yn dioddef cam-drin domestig, mae yna arwyddion y gallwch gadw llygad amdanynt gan gynnwys:
- Bod yn dawedog, neu gael eich ynysu oddi wrth eich teulu a’ch ffrindiau
- Cael cleisiau, lllosgiadau neu farciau cnoi arnoch
- Cael eich arian wedi ei reoli, neu beidio ? chael digon i allu prynu bwyd, meddyginiaeth neu dalu biliau
- Peidio ? chael gadael eich t?, neu wedi eich atal rhag mynd i’r coleg neu’r gwaith
- Cael eich defnydd o’r rhyngrwyd neu gyfryngau cymdeithasol wedi eu monitro, neu fod rhywun arall yn darllen eich negeseuon testun, e-byst neu lythyrau
- Cael eich bychanu’n barhaus, eich difr?o neu eich galw’n ddiwerth
- Cael pwysau wedi ei ddodi arnoch i gael rhyw neu gyswllt rhywiol
- Cael rhywun yn dweud mai eich bai chithau yw’r gamdriniaeth, neu eich bod yn gor-ymateb
Gweler mwy o arwyddion i chwilio amdanynt.
Cael help a chefnogaeth
Mae pob ffurf ar gam-drin domestig yn annerbyniol mewn unrhyw sefyllfa.
Os ydych chi’n profi cam-drin domestig ac yn teimlo’n ofnus o, neu wedi eich rheoli gan bartner, cyn-bartner neu aelod teuluol, mae’n bwysig cofio nad eich bai chi yw hwn a does dim cywilydd i’w deimlo wrth geisio am help.
Fe all ymddangos fel cam anodd i’w gymryd, ond mae cymorth ar gael a chofiwch #NidYdychArEich Hunan. Mae cymorth a chyngor cyfrinachol ar gael am ddim i ddioddefwyr ac aelodau eu teuluoedd a’u ffrindiau sy’n bryderus, 24 awr y dydd.
Cenedl | Llinell Gymorth | Cyswllt |
---|---|---|
Lloegr | 0808 2000 247 |
|
Gogledd Iwerddon | 0808 802 1414 help@dsahelpline.org |
|
Yr Alban | 0800 027 1234 helpline@sdafmh.org.uk |
|
Cymru | 0808 80 10 800 | |
Ar draws y DU | 0808 801 0327 info@mensadviceline.org.uk |
Ap Bright Sky
– ap ff?n symudol a gwefan ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig, neu sy’n poeni am rywun arall.
Gellir lawrlwytho’r ap am ddim o’r siopau ap. Lawrlwythwch yr ap yn unig os yw’n ddiogel i chi wneud hynny a’ch bod yn siwr nad yw eich ff?n yn cael ei fonitro.
Cyfeiriadur Gwasanaethau Lleol Cymorth i Fenywod
Mae gan Cymorth i Fenywod . Os ydych yn dioddef cam-drin domestig neu’n gofidio am ffrindiau neu deulu, gallwch gael mynediad at 7 dydd yr wythnos, 10am i 6pm.
Cefnogaeth i ddioddefwyr
Mae Cefnogaeth i Ddioddefwyr yn rhedeg y gwasanaethau hyn ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr unrhyw gamdriniaeth neu drosedd, waeth bynnag pryd y digwyddodd neu os cafodd y drosedd ei riportio i’r heddlu:
- Llinell gymorth am ddim, annibynol a chyfrinachol 24/7 08 08 16 89 111
Gair cod Gofyn am ANI
Os ydych chi’n profi camdriniaeth ddomestig ac angen help ar unwaith, gofynnwch am ANI (Angen Noddfa Iach) yn y fferyllfeydd a’r canolfannau gwaith sy’n cymryd rhan (Swyddfeydd Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon).
Pan fyddwch yn gofyn am ANI, byddwch yn cael cynnig lle preifat a ff?n a bydd y staff yn gofyn a oes arnoch chi angen cymorth gan yr heddlu neu wasanaethau cymorth camdriniaeth ddomestig eraill.
I ffeindio’ch darparwr agosaf sy’n cymryd rhan, chwiliwch drwy ddefnyddio’r gwiriwr codau post ar y .

Logo Gofyn am ANI sy’n cael ei ddefnyddio yn y fferyllfeydd a’r canolfannau gwaith sy'n cymryd rhan (Swyddfeydd Swyddi Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon).
Mannau Diogel
Mae ‘Gofyn am ANI’ yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth ? Mannau Diogel, sef stafell ddiogel a chyfrinachol lle gall dioddefwyr gymryd amser i fyfyrio, cael gafael ar wybodaeth am wasanaethau cymorth arbenigol neu ffonio ffrindiau neu deulu.
Mae [Mannau Diogel] (https://uksaysnomore.org/safespaces/) ar gael hefyd yn fferyllfeydd Boots, Morrisons, Superdrug a Well, banciau TSB a fferyllfeydd annibynnol ledled y Deyrnas Unedig.
Ffeindiwch eich .
Gwirio i weld os oes gan rywun orffennol camdriniol
Os ydych chi’n bryderus fod gan bartner newydd, cyn-bartner neu bartner presennol orffennol cam-driniol, gallwch ofyn i’r heddlu wirio hyn o dan y Cynllun Datgelu Trais Domestig (a elwir hefyd yn ‘Gyfraith Clare’). Dyma’ch ‘hawl i ofyn’. Os bydd cofnodion yn dangos y gallech fod mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig, bydd yr heddlu yn ystyried datgelu’r wybodaeth. Gelir gwneud datgeliad os yw’n gyfreithlon, cymesur ac angenrheidiol i wneud hynny.
Os ydych chi’n bryderus yngl?n ? chyfaill neu aelod teuluol, gallwch wneud cais am ddatgeliad ar ran rhywun rydych yn ei adnabod.
Gallwch wneud cais i’r heddlu am wybodaeth yngl?n ? throseddu treisgar blaenorol person drwy fynd yn bersonol i’r orsaf heddlu neu rywle arall, neu dros y ff?n, drwy e-bost, ar-lein neu fel rhan o ymchwiliad gan yr heddlu. Gall asiantaethau a gwasanaethau cymorth hefyd eich helpu chi i ofyn yr heddlu am hyn.
Cael gorchymyn llys i’ch amddiffyn chithau neu eich plentyn
Os ydych yn ddioddefwr cam-drin domestig gallwch wneud cais am orchymyn llys neu waharddeb er mwyn amddiffyn eich hun neu eich plentyn rhag:
- Eich partner presennol neu flaenorol
- Aelod o’r teulu
- Rhywun sydd yn byw gyda chi neu a fu’n byw gyda chi
Gelwir hyn yn orchymyn peidio ag ymyrryd neu feddiannaeth.
Gallwch wneud cais ar-lein, drwy e-bost neu’r post.
Cael gorchymyn llys os ydych wedi dioddef cam-drin domestig.
Cefnogi rhywun rydych yn ei adnabod
Os ydych chi’n poeni bod ffrind, cymydog neu anwylyd yn dioddef cam-drin domestig, gallwch alw’r Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cenedlaethol am gyngor cyfrinachol am ddim, 24 awr y dydd ar 0808 2000 247. Neu fe allwch ddod i gyswllt ?’r gwasanaethau cymorth eraill a restrir ar y dudalen hon.
Gall ceisio cael help ar gyfer rhywun yr ydych yn ei adnabod fod yn heriol, ond cofiwch #NidYdychArEichHun / #YouAreNotalone. Bydd ymgynghorwyr cam-drin domestig yn cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, heb farnu, yngl?n ?’r opsiynau sydd ar gael i chi er mwyn eich cadw yn ddiogel a’ch galluogi i wneud dewisiadau gwybodus.
Os ydych chi’n credu fod yna risg dybryd o niwed i rywun, neu ei fod yn argyfwng, dylech alw 999 bob tro.
Os yw rhywun yn ymddiried ynddoch, mae mwy o wybodaeth yngl?n ? sut mae cefngi ffrind sy’n cael ei gam-drin.
Os ydych yn gyflogwr
Gadewch i’r bobl rydych yn eu cyflogi wybod os ydyn nhw’n wynebu cam-drin domestig eich bod yn awyddus i’w helpu nhw i gael help. Cadwch mewn cyswllt rheolaidd gyda’ch gweithwyr cyflogedig rydych yn gwybod, neu eich bod yn poeni sy’n wynebu cam-driniaeth ac os byddwch yn colli cyswllt ? nhw, cymerwch gamau cyflym i ymweld ? nhw. Os ydych chi’n credu fod yna risg dybryd i rywun, neu ei fod yn argyfwng, dylech alw 999 bob tro.
Anogwch weithwyr cyflogedig i edrych allan am rai eraill a allai fod yn wynebu cam-drin domestig a chyfeiriwch nhw tuag at gymorth. Gallai eich staff fod yn poeni am eu hymddygiad camdriniol eu hunain hefyd ar yr adeg yma. Does dim esgus dros gam-drin domestig, waeth bynnag pa straen y byddwch chi’n ei ddioddef ac mae cymorth ar gael.
Mae Hestia yn adnodd am ddim i gyflogwyr. Gall cyflogwyr alw ?020 3879 3695 o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm, neu e-bostio adviceline.eb@hestia.org am gymorth, arweiniad neu wybodaeth yngl?n ? cham-drin domestig a sut mae cefnogi gweithwyr cyflogedig a chydweithwyr sydd yn profi cam-drin domestig.
Mae ?yn cynnig adnoddau i gefnogi cyflogwyr gan gynnwys .
Os ydych yn berson proffesiynol sydd yn gweithio o fewn y sector cam-drin domestig.
?yn cynnig arweiniad a chymorth i bobl broffesiynol a’r sawl sydd yn gweithio yn y sector cam-drin domestig, yn ogystal ? chyngor ychwanegol i’r rhai sydd mewn perygl.
Dod o hyd i wybodaeth a chymorth ychwanegol
Os ydych am gael cymorth yn benodol i ddarparu ar gyfer eich cefndir ac anghenion neu eich bod yn dymuno cael cymorth a help ar gyfer mathau arbennig o gam-drin mae yna nifer o fudiadau all helpu – gweler Cam-drin domestig: ffynonellau cymorth arbenigol.
Gallwch ddod o hyd hefyd i wybodaeth ychwanegol a chymorth yma ar bynciau gan gynnwys:
- help i blant a phobl ifanc
- budd-daliadau lles a chyngor ar dai
- help os nad oes gennych statws preswylydd sefydlog yn y DU
- cymorth ar gyfer mathau penodol o gam-drin
Cael help os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn gamdriniwr
Os ydych chi’n poeni am eich ymddygiad neu ymddygiad rhywun rydych chi’n ei adnabod, mae cymorth ar gael. Mae ?yn llinell gymorth ddienw a chyfrinachol ar gyfer dynion a menywod sydd yn cam-drin eu partneriaid a’u teuluoedd. Mae’n agored o Ddydd Llun i Ddydd Gwener o 9am hyd at 8pm. Mae’r Llinell Gymorth hefyd yn cymryd galwadau gan bartneriaid neu gynbartneriaid, ffrindiau a pherthnasau sy’n pryderu am gyflawnwyr camdriniaeth.
Mae gwasanaeth sgwrs dros y we ar gael ar ddyddiau Mercher, Iau a Gwener o 10am hyd at 11am ac o 3pm hyd at 4pm.
Ff?n: 0808 802 4040.
Sut i alw’r heddlu pan na allwch siarad
Os ydych mewn perygl ac yn methu ? siarad ar y ff?n, galwch 999 a gwrandewch ar gwestiynau’r swyddog sy’n trafod yr alwad ac os gallwch, ymatebwch drwy beswch neu roi tap i’r ff?n.
Galw 999 o ff?n symudol
Os cewch eich annog i wneud hynny, gwasgwch 55 i Eich Clywed a bydd hyn yn trosglwyddo eich galwad i’r heddlu. Mae gwasgu 55 yn gweithio ar ffonau symudol yn unig ac nid yw’n caniatáu i’r heddlu olrhain eich lleoliad.
Galw 999 o linell ddaearol
Os na all y swyddog sy’n trafod yr alwad glywed unrhyw beth heblaw am s?n cefndir ac yn methu penderfynu a oes angen gwasanaeth brys, byddwch yn cael eich cysylltu i swyddog rheoli galwadau’r heddlu. Os byddwch yn rhoi’r ff?n i lawr, gall cysylltiad y llinell ddaearol barhau am 45 eiliad rhag ofn y byddwch yn ei godi eto.
Pan fydd galwadau 999 yn cael eu gwneud o linellau daearol, dylai gwybodaeth am eich lleoliad fod ar gael yn awtomatig i’r swyddogion sy’n trafod y galwadau er mwyn helpu rhoi ymateb.
Os ydych yn fyddar neu’n methu defnyddio ff?n
Gallwch gofrestri gyda . Danfonwch neges testun COFRESTRU at 999. Fe gewch neges destun fydd yn dweud wrthych chi beth i’w wneud nesaf. Gwnewch hyn pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny fel y gallwch anfon neges testun pan fyddwch chi mewn perygl.
Updates to this page
-
Updated information about areas where you can apply for a domestic abuse protection order.
-
Added Cleveland to the list of locations for applying for a domestic abuse protection order.
-
Added information about applying for domestic abuse protection orders.
-
Added information about Domestic Abuse Protection Orders.
-
Information about 'Live Fear Free' service in Wales updated.
-
From 4 November 2024, the Ask for ANI scheme will no longer be available in pharmacies. The guidance has been updated to remove references to the Ask for ANI scheme.
-
Updated the information under the headings Ask for Ani and Safe Spaces in the translated versions.
-
Updates made to 'Ask for ANI codeword' and 'Safe Spaces' sections.
-
Added a link to an easy read version of the guidance.
-
Added translations of the page in Arabic, Bangla, Chinese, French, Gujarati, Hindi, Italian, Persian, Polish, Punjabi, Romanian, Somali, Spanish, Tamil, Urdu and Welsh.
-
Added information about support available from Women's Aid and Victim Support, as well as a link to a video in British Sign Language about how to get help.
-
Guidance restructured and reordered to improve layout. Some information moved to a new page about sources of support for specific situations.
-
Updated with Men's Advice Helpline details.
-
Added a new section on the Ask for ANI codeword scheme. New information on Safe Spaces and Hestia's Everyone's Business Advice Line.
-
Added link to easy read version.
-
Added more information about help for children and young people.
-
Welsh translation added.
-
Added more specific information about how to get help during the coronavirus (COVID-19) outbreak.
-
Information about additional support organisations added to the page.
-
Support contact points added for people who are deaf or hard of hearing, or who cannot communicate verbally.
-
Updates to the list of support services available.
-
Added a link to the factsheet 'Coronavirus (COVID-19): support for victims of domestic abuse'.
-
First published.