Amserlenni cwblhau amcangyfrifedig Cofrestrfa Tir EF
Amserlenni cwblhau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Ein hamcangyfrif presennol o pryd y caiff 90% o achosion o’r math hwn eu cwblhau yw’r dyddiad cwblhau amcangyfrifedig. Rhoddir y dyddiad oherwydd bod cwsmeriaid yn awyddus i wybod pryd mae’n debygol y caiff eu ceisiadau eu cwblhau (gan ofyn yn benodol am amcangyfrif ‘senario waethaf’). Fodd bynnag, gall profiad cwsmeriaid amrywio, fel yr adlewyrchir gan yr amserlenni isod. Am resymau gweithredol, efallai byddwn yn prosesu’r cais yn gynt.
Amserlenni
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Chwefror 2025
Newidiadau i deitlau cofrestredig sy’n bodoli
Perchnogaeth arferol (er enghraifft, prynu eiddo), morgais a newidiadau eraill i deitlau cofrestredig sy’n bodoli
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 1 diwrnod |
---|---|
Ar gyfartaledd | 2 i 25 diwrnod |
Bron pob un | 3 i 5 mis |
Newidiadau mwy cymhleth i deitlau cofrestredig sy’n bodoli, er enghraifft, ceisiadau aml-deitl a gyflwynir gan ddatblygwyr, rhannu teitlau sy’n bodoli neu gyflwyno prydles newydd
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 1 diwrnod |
---|---|
Ar gyfartaledd | 6 i 7 mis |
Bron pob un | 15 i 17 mis |
Sylwer: nid yw’r amseroedd prosesu hyn yn cynnwys diweddariadau awtomataidd i gofrestri sy’n bodoli, a chaiff y rhan fwyaf ohonynt eu cwblhau ar unwaith. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys rhyddhau morgeisi yn electronig a cheisiadau i gofrestru cyfyngiadau electronig
Cofrestru pryniannau lleiniau ar ddatblygiadau newydd
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 7 i 9 mis |
---|---|
Ar gyfartaledd | 10 i 12 mis |
Bron pob un | 17 i 19 mis |
Cofrestri pryniannau o ran o eiddo cofrestredig nad yw’n ddatblygiad newydd
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 10 i 14 mis |
---|---|
Ar gyfartaledd | 14 i 16 mis |
Bron pob un | 16 i 18 mis |
Cofrestru eiddo am y tro cyntaf
Caiff eich cais ei gwblhau o fewn:
Y cynharaf | 8 i 12 mis |
---|---|
Ar gyfartaledd | 15 i 17 mis |
Bron pob un | 15 i 17 mis |
Gofyn i gyflymu cais
Os oes angen inni brosesu cais yn gynt, gofynnwch inni gyflymu eich cais.
Gallwch wneud cais i gyflymu pe bai’r oedi’n:
-
achosi problemau cyfreithiol, ariannol neu bersonol nad ydynt yn gysylltiedig â thrafodiad tir
-
rhoi trafodiad eiddo mewn perygl, megis bargen ail-ariannu neu ddatblygiad
Os nad oes unrhyw frys a bod y dyddiad cwblhau amcangyfrifedig wedi mynd heibio, gallwch fod yn dawel eich meddwl bod eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â’r eiddo wedi eu gwarchod yn y Gofrestr Tir yr eiliad y cawn y cais, nid o’r diwrnod y caiff ei gofrestru. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd diweddariad.