Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru
Ff茂oedd ar gyfer ceisiadau cyffredin, ee trafodion Graddfa 1 a 2, arwystlon tir cofrestredig, prydlesi, ceisiadau graddfa fawr a ffi sefydlog.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Defnyddiwch ein i ddarganfod cost pob math o gais.
Ff茂oedd Graddfa 1
Gwerth neu swm | Gwneud cais trwy鈥檙 post | Gwneud cais trwy ddefnyddio鈥檙 porthol neu Business Gateway, ar gyfer trosglwyddiadau neu ildiadau sy鈥檔 effeithio ar y teitl cofrestredig cyfan | Gwneud cais trwy ddefnyddio鈥檙 porthol neu Business Gateway, ar gyfer cofrestru pob prydles a throsglwyddiad neu ildiad sy鈥檔 effeithio ar ran o deitl cofrestredig | Cofrestriad cyntaf gwirfoddol (ffi ostyngol) |
---|---|---|---|---|
0 i 拢80,000 | 拢45 | 拢20 | 拢45 | 拢30 |
拢80,001 i 拢100,000 | 拢95 | 拢40 | 拢95 | 拢70 |
拢100,001 i 拢200,000 | 拢230 | 拢100 | 拢230 | 拢170 |
拢200,001 i 拢500,000 | 拢330 | 拢150 | 拢330 | 拢250 |
拢500,001 i 拢1,000,000 | 拢655 | 拢295 | 拢655 | 拢495 |
拢1,000,001 ac uwch | 拢1,105 | 拢500 | 拢1,105 | 拢830 |
Wrth asesu ff茂oedd o dan Raddfa 1, rhaid talu ff茂oedd ar y gydnabyddiaeth ar 么l cynnwys TAW neu rent.
Ff茂oedd gostyngol pan ddefnyddir Graddfa 1
Ceir ff茂oedd gostyngol ar gyfer:
- ceisiadau am gofrestriad cyntaf (mae ceisiadau am gofrestriad cyntaf yn seiliedig ar feddiant gwrthgefn neu weithredoedd coll yn cael eu hystyried yn geisiadau gwirfoddol, oni bai bod y cais yn cynnwys gweithred sy鈥檔 peri cofrestriad gorfodol) (gostyngiad o 25% o leiaf)
- trosglwyddiadau o鈥檙 cyfan ac ildiadau o鈥檙 cyfan ar gyfer teitlau cofrestredig pan ddefnyddir y porthol neu Business Gateway (gostyngiad o tua 55%)
Ni cheir ff茂oedd gostyngol ar gyfer:
- ceisiadau am gofrestriad cyntaf teitl i rent-d芒l, rhydd-fraint neu broffid, neu fwynfeydd a mwynau a gedwir ar wah芒n i鈥檙 wyneb (oherwydd ni ch芒nt eu trin fel ceisiadau gwirfoddol at ddibenion ff茂oedd)
- trosglwyddiadau o ran a cheisiadau eraill sy鈥檔 effeithio ar ran o deitlau cofrestredig hyd yn oed pan ddefnyddir y porthol neu Business Gateway
- ceisiadau i gofrestru prydlesi pan ddefnyddir y porthol neu Business Gateway
Trafodion o dan Raddfa 1
- cofrestriadau cyntaf
- cofrestriad cyntaf rhent-d芒l
- prydlesi ac ildiadau
- ceisiadau graddfa fawr
- ff茂oedd gostyngol Graddfa 1
Cofrestriadau cyntaf
Os yw鈥檙 cais yn cael ei wneud o fewn blwyddyn o werthu ar y farchnad agored, seiliwch y ffi ar y gydnabyddiaeth (gan gynnwys y swm sydd ar 么l i鈥檞 dalu o dan unrhyw arwystl sy鈥檔 parhau). Fodd bynnag, ar gyfer y cofrestriadau cyntaf canlynol, mae鈥檙 ffi鈥檔 daladwy ar werth marchnad agored cyfredol llawn yr eiddo sy鈥檔 cael ei gofrestru:
- cydsyniadau
- cyfnewidiadau
- trosglwyddiadau rhyddhau ecwiti
- morgeisi cyntaf
- cofrestriadau cyntaf lle y mae trawsgludiad y gwerthiant yn fwy na blwydd oed
- rhyddfreintiau
- proffidiau
- trosglwyddo trwy rodd
- trosglwyddo cyfran mewn eiddo
Yn yr achosion hyn byddwn yn derbyn datganiad o werth wedi鈥檌 lofnodi gan y ceisydd, cynrychiolydd cyfreithiol y ceisydd neu unigolyn arall sy鈥檔 gymwys i wneud datganiad o鈥檙 fath.
Weithiau bydd y weithred sy鈥檔 peri cofrestriad (er enghraifft trosglwyddiad, cydsyniad neu arwystl) o dir cofrestredig a digofrestredig. Yn yr achosion hyn mae angen ffurflen gais AP1 ar wah芒n arnom ar gyfer y tir cofrestredig, a ffurflen gais FR1 ar gyfer y tir digofrestredig. Mae ffioedd ar wah芒n yn ofynnol ar gyfer y ddwy ran, yn seiliedig ar werth dosranedig.
Os yw Cofrestrfa Tir EF yn penderfynu bod angen archwilio鈥檙 eiddo, codir ffi ychwanegol o 拢40 o dan erthygl 11. Caiff y ffi ei had-dalu os na chynhelir yr archwiliad am unrhyw reswm.
Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ff茂oedd Graddfa 1.
Cofrestriad cyntaf rhent-d芒l
Nid yw ff茂oedd Graddfa 1 yn gymwys i rent-daliadau. Y ffi yw 拢40, beth bynnag fo gwerth y rhent-d芒l.
Trosglwyddo tir cofrestredig am gydnabyddiaeth ariannol
Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau sy鈥檔 arwain at waredu cyfrannau mewn ystadau cofrestredig. Mae鈥檙 ffi sy鈥檔 daladwy yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth, sef y pris prynu fel arfer.
Os oes pris prynu gan y trosglwyddiad, defnyddiwch hwn fel y gydnabyddiaeth i asesu鈥檙 ffi. Os yw鈥檙 trosglwyddiad yn cynnwys cydnabyddiaeth sydd heb fod mewn punnoedd (ee ewros neu gyfrannau mewn cwmni), bydd yn rhaid ichi roi鈥檙 gwerth cyfatebol inni mewn punnoedd ac asesu鈥檙 ffi yn unol 芒 hynny.
Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ff茂oedd Graddfa 1.
Enghreifftiau
- Mae Dewi yn prynu eiddo am 拢575,000. Mae鈥檙 ffi yn daladwy o dan Raddfa 1 ar y pris a dalwyd.
- Mae Portffolio Eiddo Cymru a Lloegr Cyfyngedig yn prynu adeilad swyddfa newydd am 拢900,000. Codir TAW o 拢180,000 ar y trafodiad. Mae鈥檙 ffi yn daladwy o dan Raddfa 1, wedi鈥檌 hasesu ar y pris o 拢1,080,000 ar 么l cynnwys TAW.
- Mae Tir Ewropa Cyfyngedig yn prynu eiddo am 鈧900,000. Mae鈥檙 ffi yn daladwy o dan Raddfa 1 ar y swm cyfatebol mewn sterling.
- Mae Cynllun Datblygu Cyfyngedig yn gosod safle at ei gilydd i鈥檞 ddatblygu trwy brynu safleoedd oddi wrth dri thirfeddiannwr unigol am 拢1.2 miliwn, 拢1.7 miliwn a 拢850,000. Mae tair ffi Graddfa 1 yn daladwy, wedi eu hasesu ar y pris a dalwyd ym mhob gwerthiant unigol, heb ystyried a ddefnyddiwyd 1 ffurflen drosglwyddo neu 3 ffurflen drosglwyddo.
- Mae Yamada Taro yn prynu t欧 am 拢350,000. Mae鈥檙 t欧 yn gofrestredig, ond nid y modurdy. Mae鈥檔 dosrannu bod y gwerth yn 拢325,000 ar gyfer y tir cofrestredig a 拢25,000 ar gyfer y tir digofrestredig. Mae ffi Graddfa 1 ar wah芒n yn daladwy ar gyfer y ddwy ran (pe bai hyn yn drosglwyddiad heb fod am werth, byddai鈥檙 rhan sy鈥檔 ffurfio鈥檙 tir cofrestredig yn talu o dan raddfa 2 a鈥檙 rhan ddigofrestredig o dan raddfa 1).
- Mae Caroline yn cofrestru ei th欧 yn wirfoddol am 拢400,000. Gan ei fod yn gofrestriad cyntaf gwirfoddol mae鈥檔 talu ffi Graddfa 1 gyda gostyngiad o 25%.
- Mae Fitzwilliam Darcy yn trosglwyddo 2 eiddo 鈥 rhifau teitl CS1 a CS2 鈥 am 拢250,000 i Elizabeth Bennett, gan ddefnyddio un ffurflen drosglwyddo. Mae ffi graddfa 1 yn daladwy ar gyfanswm y gydnabyddiaeth. Fodd bynnag, bydd gwahanol gydnabyddiaethau yn gymwys os yw鈥檙 eiddo o dan wahanol berchnogaeth. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 21.
- Mae Belvedere LLP yn prynu 2 eiddo, rhan o 1 teitl am 拢30,000 a鈥檙 llall i gyd am 拢300,000. Mae un ffi Graddfa 1 yn daladwy yn seiliedig ar gyfanswm y gydnabyddiaeth o 拢330,000 os defnyddir trosglwyddiad sengl oherwydd bod y trosglwyddiad yn effeithio ar ran o deitl cofrestredig. Byddai ff茂oedd ar wah芒n yn daladwy pe bai trosglwyddiadau ar wah芒n yn cael eu defnyddio.
- Ar 么l i鈥檞 priodas chwalu mae鈥檙 llys yn gorchymyn bod Mr Jones yn trosglwyddo eiddo i Mrs Jones o dan Ddeddf Achosion Priodasol 1973, a bod Mrs Jones yn talu 拢50,000. Caiff hyn ei asesu o dan Raddfa 2: ceisiadau eraill sy鈥檔 effeithio ar ystadau cofrestredig. Mae cydnabyddiaethau tebyg yn gymwys i drosglwyddiadau gan orchmynion llys ond nid gorchmynion llys o dan unrhyw ddeddf arall.
Prydlesi ac ildiadau
Darllenwch yr adran prydlesi.
Ceisiadau graddfa fawr
Pan fydd gweithred yn effeithio ar 20 neu ragor o deitlau cofrestredig, neu pan fydd cofrestriad cyntaf yn cynnwys 20 neu ragor o unedau o dir, cyfeiriwch at ein cyfarwyddyd 鈥楥eisiadau graddfa fawr (Cyfrifo Ff茂oedd)鈥.
Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ff茂oedd Graddfa 1.
Ff茂oedd Graddfa 2
Gwerth neu swm | Gwneud cais trwy鈥檙 post | Gwneud cais trwy ddefnyddio鈥檙 porthol neu Business Gateway, ar gyfer trosglwyddiadau o鈥檙 cyfan, arwystlon o鈥檙 cyfan, trosglwyddo arwystlon a cheisiadau o鈥檙 cyfan eraill ar gyfer teitlau cofrestredig | Gwneud cais trwy ddefnyddio鈥檙 porthol neu Business Gateway ar gyfer cofrestru trosglwyddiad o ran, a phob cais Graddfa 2 arall nad yw鈥檔 effeithio ar deitl cofrestredig cyfan |
---|---|---|---|
0 i 拢100,000 | 拢45 | 拢20 | 拢45 |
拢100,001 i 拢200,000 | 拢70 | 拢30 | 拢70 |
拢200,001 i 拢500,000 | 拢100 | 拢45 | 拢100 |
拢500,001 i 拢1,000,000 | 拢145 | 拢65 | 拢145 |
拢1,000,001 ac uwch | 拢305 | 拢140 | 拢305 |
Ff茂oedd gostyngol pan ddefnyddir Graddfa 2
Mae鈥檙 ff茂oedd gostyngol yn y tabl uchod yn gymwys o dan yr amgylchiadau canlynol:
- trosglwyddiadau neu gydsyniadau o鈥檙 cyfan
- arwystlon o鈥檙 cyfan
- trosglwyddo arwystlon
a nifer o geisiadau o鈥檙 cyfan eraill ar gyfer teitlau cofrestredig pan ddefnyddir y porthol neu Business Gateway.
Ni cheir ff茂oedd gostyngol ar gyfer:
- trosglwyddiadau o ran
- ceisiadau eraill sy鈥檔 effeithio ar ran o deitlau cofrestredig hyd yn oed pan ddefnyddir y porthol neu Business Gateway
Trafodion o dan Raddfa 2
- trosglwyddo neu gydsynio ystadau cofrestredig nad ydynt am gydnabyddiaeth ariannol
- trosglwyddo arwystlon cofrestredig
- arwystlon ystadau cofrestredig
- ceisiadau eraill sy鈥檔 effeithio ar ystadau cofrestredig
- ildio prydlesi nad ydynt am gydnabyddiaeth ariannol
- ceisiadau graddfa fawr
- arwystlon tir cofrestredig
- ff茂oedd gostyngol Graddfa 2
Trosglwyddo neu gydsynio ystadau cofrestredig nad ydynt am gydnabyddiaeth ariannol
Dylid asesu鈥檙 ffi ar werth yr ystad, llai鈥檙 cyfanswm sydd ar 么l i鈥檞 dalu ar unrhyw arwystl sy鈥檔 parhau neu arwystl newydd (gweler nodyn 1). Lle bo trosglwyddiad nad yw am gydnabyddiaeth ariannol yn arwain at drosglwyddo cyfran o ystad gofrestredig, mae鈥檙 ffi yn daladwy ar werth y gyfran honno.
Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ff茂oedd graddfa 2.
Enghreifftiau: Eiddo heb forgais
-
Mae Gareth Evans yn trosglwyddo eiddo trwy rodd i Bethan Davies sy鈥檔 werth 拢200,000. Caiff y ffi ei hasesu ar y gwerth llawn o 拢200,000 ac mae鈥檔 daladwy o dan Raddfa 2.
-
Mae Gareth Evans yn trosglwyddo eiddo trwy rodd i鈥檞 hunan ac i Bethan Davies mewn cyfrannau cyfartal. Mae鈥檔 werth 拢200,000. Caiff y ffi ei hasesu ar hanner gwerth yr eiddo, hynny yw 拢100,000, ac mae鈥檔 daladwy o dan Raddfa 2.
-
Yn dilyn marwolaeth Gareth Evans, mae Bethan Davies yn cael profiant ac yn cael ei phenodi鈥檔 ysgutor ei ystad. Mae鈥檔 trosglwyddo鈥檙 eiddo sy鈥檔 werth 拢200,000 i鈥檙 buddiolwr o dan ewyllys Gareth trwy gydsyniad. Caiff y ffi ei hasesu ar y gwerth llawn o 拢200,000, ac mae鈥檔 daladwy o dan Raddfa 2.
-
Mae Gareth Evans, Steffan Williams a Bethan Davies yn ymddiriedolwyr ymddiried sy鈥檔 berchen ar eiddo gwerth 拢200,000. Maent yn penodi Gwen Bowen yn ymddiriedolwr newydd naill ai trwy weithred neu ffurflen drosglwyddo Cofrestrfa Tir EF. Asesir y ffi o dan Raddfa 2 ar werth llawn yr eiddo.
-
Roedd Gareth Evans, Steffan Williams a Bethan Davies yn ymddiriedolwyr ymddiried oedd yn berchen ar eiddo gwerth 拢200,000. Trwy gyfres o benodiadau ac ymddeoliad ymddiriedolwyr nad ydynt wedi eu cofrestru, yr ymddiriedolwyr newydd yw Gwen Bowen a Geraint James, sy鈥檔 penodi Arwel Rowlands fel ymddiriedolwr ychwanegol. Maent nawr yn gwneud cais i gofrestru鈥檙 holl newidiadau. Mae鈥檙 ffi yn daladwy o dan Raddfa 2 ar benodiad olaf Arwel Rowlands yn unig, wedi ei hasesu ar y gwerth llawn o 拢200,000.
Enghreifftiau: Eiddo sy鈥檔 cael ei drosglwyddo yn ddarostyngedig i forgais
-
Mae Gareth Evans yn trosglwyddo eiddo trwy rodd i Bethan Davies. Mae鈥檔 werth 拢200,000 ac mae鈥檔 ddarostyngedig i forgais i Gymdeithas Adeiladu Cymru lle y mae 拢100,000 ar 么l i鈥檞 dalu. Caiff gwerth yr eiddo ei gyfrifo trwy gymryd y gwerth o 拢200,000 ac yna tynnu鈥檙 cyfanswm sydd ar 么l i鈥檞 dalu ar y morgais (gweler nodyn 1). Felly caiff y ffi ei hasesu ar y gwerth o 拢100,000 ac mae鈥檔 daladwy o dan Raddfa 2.
- Mae Gareth Evans yn trosglwyddo eiddo trwy rodd i鈥檞 hunan ac i Bethan Davies mewn cyfrannau cyfartal. Mae鈥檔 werth 拢200,000 ac mae鈥檔 ddarostyngedig i forgais i Gymdeithas Adeiladu Cymru lle y mae 拢100,000 ar 么l i鈥檞 dalu (gweler nodyn 1). Caiff gwerth y gyfran sy鈥檔 cael ei throsglwyddo ei gyfrifo trwy gymryd y gwerth o 拢200,000 ac yna tynnu鈥檙 cyfanswm sydd ar 么l i鈥檞 dalu ar y morgais, yna ei haneru oherwydd ei fod yn drosglwyddiad o Gareth i鈥檞 hunan a Bethan. Felly caiff y ffi ei hasesu ar werth o 拢50,000 ac mae鈥檔 daladwy o dan Raddfa 2.
- Mae Gareth Evans yn trosglwyddo eiddo trwy rodd i鈥檞 hunan a Bethan Davies mewn cyfrannau cyfartal. Mae鈥檔 werth 拢200,000 ac mae鈥檔 ddarostyngedig i forgais i Gymdeithas Adeiladu Cymru lle mae 拢100,000 ar 么l i鈥檞 dalu. Mae鈥檙 morgais presennol yn cael ei ad-dalu a morgais newydd yn cael ei gymryd allan o blaid Banc Sir Fwyn i sicrhau 拢120,000. Caiff gwerth y gyfran sy鈥檔 cael ei throsglwyddo ei gyfrifo trwy gymryd y gwerth o 拢200,000 ac yna tynnu鈥檙 swm sydd ar 么l i鈥檞 dalu ar y morgais newydd (拢120,000), yna ei haneru oherwydd ei fod yn drosglwyddiad oddi wrth Gareth i鈥檞 hunan a Bethan. Felly, asesir y ffi ar werth o 拢40,000 ac mae鈥檔 daladwy o dan Raddfa 2.
- Mae Gareth Evans, Rhodri Williams a Bethan Davies yn dal eiddo mewn cyfrannau anghyfartal. Mae Gareth yn dal cyfran o 20% y mae鈥檔 ei rhoi i Rhodri a Bethan ac maen nhw鈥檔 trosglwyddo鈥檙 eiddo i gyd-enwau Rhodri a Bethan. Gwerth yr eiddo yw 拢200,000. Mae Rhodri a Bethan yn cymryd morgais newydd o 拢40,000. Caiff gwerth y gyfran sy鈥檔 cael ei throsglwyddo ei gyfrifo trwy gymryd y gwerth o 拢200,000 ac yna tynnu鈥檙 swm sydd ar 么l i鈥檞 dalu ar y morgais newydd (拢40,000) sy鈥檔 gadael 拢160,000. Gwerth y gyfran yw 20% o 拢160,000, sef 拢32,000. Felly asesir y ffi ar werth o 拢32,000 ac mae鈥檔 daladwy o dan raddfa 2.
- Mae Gareth Evans a Bethan Davies yn berchen ar eiddo gwerth 拢300,000 mewn cyfrannau cyfartal. Mae Bethan yn trosglwyddo ei chyfran o 50% i Gareth, sy鈥檔 cymryd morgais o 拢170,000. Roedd gan Gareth a Bethan ddau forgais ar yr eiddo, bydd y cyntaf yn cael ei ryddhau ar 么l cwblhau鈥檙 trosglwyddiad, bydd yr ail yn aros ar y gofrestr ar 么l cwblhau, wedi ei ohirio o blaid y morgais newydd mae Gareth wedi ei drefnu. Y swm sy鈥檔 ddyledus ar yr arwystl sydd ar 么l yw 拢40,000. Y cyfanswm sy鈥檔 ddyledus felly fydd 拢210,000. Cyfrifwch werth y gyfran sy鈥檔 cael ei throsglwyddo trwy ddidynnu鈥檙 cyfanswm sy鈥檔 ddyledus ar yr arwystlon newydd a pharhaus, 拢210,000, o werth llawn yr eiddo, 拢300,000. Yna lluoswch y canlyniad, 拢90,000, 芒 50% (sef cyfran Bethan), gan adael 拢45,000. Felly asesir y ffi ar 拢45,000 ac mae鈥檔 daladwy o dan Raddfa 2.
Nodyn 1
Mae鈥檙 cyfeiriad at 鈥榮wm sydd ar 么l i鈥檞 dalu鈥 yn cynnwys:
- yr arwystlon cofrestredig neu arwystlon a nodwyd presennol ar yr amod nad ydynt wedi eu rhyddhau ar 么l cwblhau鈥檙 trosglwyddiad; ac
- unrhyw arwystl newydd, ar yr amod bod y cais i gofrestru鈥檙 arwystl yn cael ei gyflwyno gyda鈥檙 cais i gofrestru鈥檙 trosglwyddiad (h.y. rhaid cwblhau cofrestriad yr arwystl a鈥檙 trosglwyddiad ar yr un pryd)
Trosglwyddo arwystlon cofrestredig
Mae鈥檙 ffi yn daladwy ar y gydnabyddiaeth, neu lle nad yw鈥檙 trosglwyddiad am werth, ar y swm sy鈥檔 cael ei warantu gan yr arwystl ar adeg y trosglwyddiad. Lle bo trosglwyddiad nad yw am werth yn arwain at drosglwyddo cyfran o arwystl cofrestredig, mae鈥檙 ffi yn daladwy ar werth y gyfran honno.
Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ff茂oedd Graddfa 2.
Arwystlon ystadau cofrestredig
Darllenwch yr adran arwystlon.
Ceisiadau eraill sy鈥檔 effeithio ar ystadau cofrestredig
Mae鈥檙 ffi ar gyfer cofrestru鈥檙 canlynol yn daladwy ar werth yr ystad llai swm unrhyw arwystl cofrestredig sy鈥檔 parhau:
- perchnogi
- cydsyniadau ystadau cofrestredig (nid cofrestriad cyntaf)
- trosglwyddiadau cartrefi priodasol neu bartneriaeth sifil o ganlyniad i orchmynion llys (o dan Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004), yn daladwy ar werth yr eiddo hyd yn oed os yw鈥檙 llys yn gorchymyn i un parti dalu cydnabyddiaeth
- trosglwyddiadau trwy weithredu鈥檙 gyfraith ar farwolaeth neu fethdaliad
- gorchmynion neu ddatganiadau breinio (o dan adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ff茂oedd Graddfa 2.
Enghreifftiau
-
Mae Owain Williams yn marw yn berchen ar eiddo gwerth 拢500,000 heb unrhyw forgais. Mae ei ysgutor, Tomos Davies, yn cymryd profiant ac yn cydsynio鈥檙 eiddo i鈥檙 buddiolwr Emyr Jones. Asesir y ffi ar werth yr eiddo ac mae鈥檔 daladwy o dan Raddfa 2.
-
Mae John a Mari Griffiths yn berchen ar eiddo gwerth 拢250,000 yn ddarostyngedig i forgais i Gymdeithas Adeiladu Sir Forgannwg ac mae 拢100,000 yn ddyledus arno. Maen nhw鈥檔 ysgaru. Mae鈥檙 Llys yn gorchymyn i John a Mary drosglwyddo鈥檙 eiddo i Mary, ac i Mary dalu 拢50,000 i John. Asesir y ffi ar hanner gwerth yr eiddo llai gwerth y morgais (拢75,000, hynny yw gwerth 拢250,000 llai morgais o 拢100,000, ac yna ei rannu 芒 2) ac mae鈥檔 daladwy o dan Raddfa 2. Diystyrir yr arian a delir at ddibenion ff茂oedd.
Ildio prydlesi nad ydynt am gydnabyddiaeth ariannol
Darllenwch yr adran prydlesi.
Ceisiadau graddfa fawr
Pan fydd gweithred yn effeithio ar 20 neu ragor o deitlau cofrestredig, cyfeiriwch at ein cyfarwyddyd 鈥楥eisiadau graddfa fawr (Cyfrifo Ff茂oedd)鈥.
Arwystlon tir cofrestredig
Ff茂oedd sy鈥檔 daladwy
Mae鈥檙 ff茂oedd yn daladwy trwy ddefnyddio Graddfa 2, yn seiliedig ar swm yr arwystl (gweler Nid oes ffi yn daladwy am eithriadau):
- lle bo鈥檙 arwystl yn sicrhau swm sefydlog, seiliwch y ffi ar y swm hwnnw
- lle bo鈥檙 arwystl yn sicrhau benthyciadau pellach ac mae鈥檙 swm uchaf posibl y gellir ei fenthyg neu a all fod yn ddyledus ar unrhyw adeg benodol wedi鈥檌 gyfyngu, seiliwch y ffi ar yr uchafswm
- lle bo鈥檙 arwystl yn sicrhau benthyciadau pellach ac nid oes cyfyngiad ar y cyfanswm y gellir ei fenthyg neu a all fod yn ddyledus ar unrhyw adeg benodol, seiliwch y ffi ar werth yr eiddo arwystledig
- lle bo鈥檙 arwystl yn arwystl ychwanegol neu newidiol neu warant, seiliwch y ffi ar y lleiaf o鈥檙:
- swm a sicrhawyd neu a warantwyd
- gwerth yr eiddo arwystledig
- lle bo鈥檙 arwystl yn sicrhau rhwymedigaeth neu atebolrwydd sy鈥檔 dibynnu ar rywbeth yn digwydd yn y dyfodol, seiliwch y ffi ar naill ai:
- uchafswm neu werth y rhwymedigaeth
- os yw鈥檙 uchafswm hwnnw yn fwy na gwerth yr eiddo a arwystlwyd, neu nid yw wedi鈥檌 gyfyngu gan yr arwystl, neu ni ellir ei asesu adeg y cais, gwerth yr eiddo arwystledig
- ar gyfer ceisiadau graddfa fawr pan fydd arwystl yn effeithio ar fwy nag 20 o deitlau cofrestredig, cyfeiriwch at geisiadau graddfa fawr
Bydd arwystlon ar wah芒n wedi eu cynnwys mewn dogfennau ar wah芒n yn denu ffi Graddfa 2 ar wah芒n. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os ydynt yn sicrhau dyled sengl ac yn cael eu cyflwyno ar yr un pryd.
Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ff茂oedd Graddfa 2.
Enghreifftiau
- Mae Manon eisoes yn berchen ar d欧 sy鈥檔 werth 拢300,000 ac yn cymryd morgais. Mae鈥檙 morgais yn sicrhau 拢150,000 ac unrhyw fenthyciadau pellach y gall y rhoddwr benthyg eu rhoi. Yn yr achos hwn, caiff y ffi ei hasesu o dan Raddfa 2 ar 拢150,000 sef y swm uchaf posibl y gellir ei sicrhau.
- Mae Gwilym yn cynllunio t欧 hunanadeiladu. Bydd y banc yn benthyca 拢100,000 iddo brynu鈥檙 tir, a 拢150,000 pellach mewn rhandaliadau wrth i鈥檙 gwaith gael ei gwblhau. Caiff y ffi ei hasesu o dan Raddfa 2 ar 拢250,000 sef y swm uchaf posibl y gellir ei sicrhau.
- Mae Carwyn, sy鈥檔 berchen ar d欧 sy鈥檔 werth 拢500,000 wedi cymryd morgais i sicrhau gorddrafft yn ei fanc gyda therfyn o 拢70,000. Mae鈥檙 swm a sicrhawyd yn amrywio yn dibynnu ar y cyfrif gorddrafft. Yn yr achos hwn caiff y ffi ei hasesu o dan Raddfa 2 ar y terfyn o 拢70,000.
- Mae Anwen am ailforgeisio ei chartref i gael cyfradd llog well. Mae鈥檙 morgais yn sicrhau 拢200,000. Yn yr achos hwn, caiff y ffi ei hasesu o dan Raddfa 2 ar 拢200,000, sef y swm uchaf posibl y gellir ei sicrhau. Nid oes ffi i鈥檞 thalu i gofrestru rhyddhau鈥檙 benthyciad sy鈥檔 bodoli eisoes.
- Mae gr诺p o gwmn茂au cysylltiedig yn berchen ar sawl teitl 鈥 mae Teracorp 1 Limited yn berchen ar rifau teitl CS1 ac CS2, mae Teracorp 2 Limited yn berchen ar CS3, CS4 ac CS5, ac mae Teracorp 3 Cyfyngedig yn berchen ar CS6. Maent yn morgeisio pob un o鈥檙 chwe eiddo mewn un weithred morgais i sicrhau 拢10m. At ddibenion ff茂oedd, mae hyn yn cael ei drin fel tri morgais ar wah芒n, un gan bob cwmni. Felly, mae tair ffi yn daladwy (un ar gyfer pob morgais) a chaiff pob ffi ei hasesu o dan Raddfa 2 ar y lleiaf o 拢10m neu werth yr eiddo ym mhob un o鈥檙 tri morgais.
- Mae cwmni鈥檔 berchen ar 10 teitl ac mae鈥檔 morgeisio鈥檙 holl deitlau hyn mewn un weithred morgais i sicrhau 拢10m. Gwerth yr eiddo gyda鈥檌 gilydd yw 拢15m. At ddibenion ff茂oedd, caiff hyn ei drin fel un morgais ac mae鈥檙 ffi yn daladwy o dan Raddfa 2 ar y swm o 拢10m.
Nid oes ffi yn daladwy
Nid oes ffi yn daladwy ar gyfer arwystlon tir cofrestredig ar gyfer:
- arwystl a gyflwynir gyda chais ffi ar raddfa lle daw鈥檙 arwystlwr yn berchennog cofrestredig y tir
- arwystl a gyflwynir cyn cwblhau cais am gofrestriad cyntaf gorfodol neu i gofrestru trosglwyddiad tir cofrestredig. Nid yw cais i gofrestru arwystl nad yw鈥檔 cael ei gyflwyno gyda chais am gofrestriad cyntaf gwirfoddol ond a gyflwynir cyn ei gwblhau, wedi ei eithrio rhag ffi Graddfa 2.
Mewn achos arferol o brynu t欧, bydd trosglwyddiad i鈥檙 prynwr ynghyd 芒 morgais sy鈥檔 galluogi鈥檙 prynwr i brynu鈥檙 eiddo (mewn morgais, gelwir y cymerwr benthyg yn 鈥渁rwystlwr鈥). Yn yr achos hwn, yr unig ffi i鈥檞 thalu yw ar y trosglwyddiad.
Enghreifftiau
- Mae Eifion yn prynu t欧 am 拢350,000 gyda morgais i sicrhau 拢150,000. Mae鈥檔 cyflwyno鈥檙 ddau ar 1 Mehefin ac mae鈥檙 cais yn cael ei gwblhau ar 8 Mehefin. Mae鈥檙 ffi yn daladwy o dan Raddfa 1 ar y pris a dalwyd am y t欧; nid oes unrhyw ffi ychwanegol i鈥檞 thalu ar gyfer y morgais. Mae hyn yn wir hefyd os yw鈥檙 morgais yn cael ei gyflwyno鈥檔 hwyrach cyn i鈥檙 achos gael ei gwblhau.
- Mae Eifion yn prynu t欧 am 拢350,000 gyda morgais i sicrhau 拢150,000. Mae鈥檔 cyflwyno鈥檙 trosglwyddiad ar 1 Mehefin ac mae鈥檙 cais yn cael ei gwblhau ar 8 Mehefin. Mae鈥檔 cyflwyno鈥檙 arwystl ar 12 Mehefin. Mae鈥檙 ffi yn daladwy o dan Raddfa 1 ar y pris a dalwyd am y t欧, ond y tro hwn asesir ffi Graddfa 2 ychwanegol sy鈥檔 cael ei hasesu ar werth y morgais oherwydd y cais am forgais fydd y cais newydd.
Prydlesi
Cofrestru
Mae鈥檙 ffi am gais gan y prydlesai gwreiddiol neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd personol i gofrestru teitl i brydles, neu i gofrestru rhoi prydles, yn cael ei hasesu naill ai ar:
- swm sy鈥檔 gyfartal 芒 chyfanswm y premiwm a鈥檙 rhent
- os nad oes premiwm, ar swm y rhent, neu
- os nad oes premiwm a naill ai nad oes rent neu os na ellir cyfrif y rhent, ar werth y brydles, a asesir o dan erthygl 7 o Orchymyn Ffi Cofrestru Tir 2021, yn amodol ar ffi o 拢40 o leiaf
Ystyr 鈥榬hent鈥 yw鈥檙 swm uchaf o rent blynyddol y mae鈥檙 brydles wedi ei neilltuo yn ystod pum mlynedd gyntaf ei chyfnod y gellir ei gyfrif ar adeg cyflwyno鈥檙 cais i gofrestru鈥檙 brydles neu, os yw cyfnod y brydles yn llai na blwyddyn, swm y rhent am y cyfnod. Sylwch: pan fydd y rhent yn rhent hedyn pupur neu rent arall heb werth ariannol, caiff y rhent ei drin fel pe bai鈥檔 ddim byd.
Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ff茂oedd Graddfa 1.
Enghreifftiau
- Mae Glenys Lewis yn prynu fflat newydd ar brydles 99 mlynedd am 拢150,000. 拢100 yw鈥檙 rhent blynyddol, sy鈥檔 codi i 拢125 ym mlwyddyn 5 a 拢150 ym mlwyddyn 10. Byddai鈥檙 ffi yn cael ei hasesu ar 拢150,000 (premiwm) + 拢125 (rhent uchaf yn y 5 mlynedd gyntaf) = 拢150,125.
- Mae Hefin Rhys yn prynu fflat newydd ar brydles 125 mlynedd am 拢200,000. Y rhent yw 6.25% o gyfanswm y costau gwasanaeth. Yn yr achos hwn, byddai鈥檙 ffi yn cael ei hasesu ar y premiwm o 拢200,000 yn unig oherwydd ni ellir cyfrif y rhent.
- Mae Celfi Cymru yn caffael les-ddaliad masnachol newydd am 10 mlynedd. Nid oes unrhyw bremiwm, ond mae鈥檙 rhent yn 拢100,000 ym mlwyddyn 1 ac yn codi i 拢150,000 ym mlwyddyn 5 a 拢200,000 ym mlwyddyn 8. Yn yr achos hwn, caiff y ffi ei hasesu ar 拢150,000 (y rhent uchaf yn y 5 mlynedd gyntaf).
Ildio prydles gofrestredig am gydnabyddiaeth ariannol
Mae鈥檙 ffi yn seiliedig ar swm neu werth y gydnabyddiaeth ariannol sy鈥檔 cael ei thalu neu ei rhoi gan y landlord ar gyfer yr ildiad.
Nid oes ffi i gofrestru ildio prydles gofrestredig pan fydd ffi ar raddfa i鈥檞 thalu i gofrestru prydles newydd ac mae鈥檙 perchennog cofrestredig a鈥檙 eiddo, i raddau helaeth, yn aros yr un fath.
Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ff茂oedd Graddfa 1.
Ildio prydles ac eithrio am gydnabyddiaeth ariannol
Mae hyn yn cynnwys pan fydd tenant wedi talu premiwm i鈥檙 landlord mewn perthynas 芒鈥檙 ildiad neu i ryddhau cyfamodau鈥檙 tenant. Mae鈥檙 ffi yn seiliedig ar werth y brydles cyn ei hildio.
Nid oes ffi yn daladwy i gofrestru ildio prydles gofrestredig pan fydd ffi ar raddfa i鈥檞 thalu i gofrestru prydles newydd ac mae鈥檙 perchennog cofrestredig a鈥檙 eiddo, i raddau helaeth, yn aros yr un fath.
Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ff茂oedd Graddfa 2.
Enghreifftiau
- Mae Sara yn ildio prydles siop i鈥檙 landlord. Mae blwyddyn ar 么l ar y brydles ac mae鈥檔 werth 拢8,000. Nid oes arian yn newid dwylo. Caiff y ffi ei hasesu ar werth y brydles ar y dyddiad ildio (拢8,000) ac mae鈥檙 ffi yn daladwy o dan Raddfa 2.
- Mae Sara yn estyn y brydles ar ei fflat o 99 mlynedd i 999 mlynedd. Yn 么l y gyfraith, caiff hyn ei drin fel ildio鈥檙 brydles sydd eisoes yn bodoli a rhoi prydles newydd. Mae鈥檙 ffi ar gyfer y brydles newydd yn daladwy fel yr amlinellir yn yr adran prydlesi. Fodd bynnag, y tro hwn nid oes unrhyw ffi ar gyfer ildio鈥檙 brydles sydd eisoes yn bodoli oherwydd caiff ei wneud i gydnabod rhoi鈥檙 brydles newydd.
Ceisiadau eraill yn ymwneud 芒 phrydlesi
Byddwch yn talu ffi sefydlog o 拢40 (neu 拢20 os cyflwynir y cais trwy ddefnyddio鈥檙 porthol neu Business Gateway) ar gyfer pob teitl cofrestredig os yw鈥檆h cais ar gyfer:
- terfynu prydles gofrestredig trwy dreigl amser, cyd-doddiad neu fforffediad
- dileu cofnod am rybudd o brydles ddigofrestredig
- nodi prydles yn nheitl y landlord
Nid oes ffi yn daladwy os yw鈥檙 cais yn cael ei gyflwyno gyda chais lle mae ffi ar raddfa yn daladwy amdano.
Nid oes ffi yn daladwy os yw cais i nodi prydles yn nheitl y landlord yn cael ei gyflwyno gyda chais i gofrestru鈥檙 hawddfreintiau sydd wedi eu cynnwys yn y brydles, lle mae ffi ychwanegol yn daladwy o dan Erthygl 12 (拢40 am faint bynnag o deitlau yr effeithir arnynt, neu 拢20 os cyflwynir y cais yn electronig).
Ceisiadau ar raddfa fawr
Mae ceisiadau graddfa fawr yn geisiadau ffi ar raddfa sy鈥檔 cynnwys 20 uned o dir neu ragor. Ystyr 鈥榰ned o dir鈥 yw:
- parsel o dir cofrestredig o dan un rhif teitl
- parsel o dir digofrestredig nad yw鈥檔 cyffinio 芒 darn arall o dir digofrestredig sy鈥檔 cael ei effeithio gan yr un cais
Y ffi ar gyfer cais ar raddfa fawr yw鈥檙 uchaf o鈥檙:
- ffi ar raddfa sy鈥檔 daladwy ar gyfer y cais
- ffi a gyfrifir fel a ganlyn:
- os yw鈥檙 cais yn ymwneud 芒 500 uned o dir neu lai, 拢10 am bob uned o dir
- os yw鈥檙 cais yn ymwneud 芒 mwy na 500 uned o dir, 拢5,000 a 拢5 ar gyfer pob uned o dir dros 500
Enghreifftiau
- Mae Latifundia Cyfyngedig yn trosglwyddo portffolio o 50 teitl am 拢1.2 miliwn. Y ffi o dan Raddfa 1 fyddai 拢910, a 拢500 fyddai鈥檙 ffi am bob teitl o dan erthygl 6. Felly, gan ei bod yn uwch, mae鈥檙 ffi Graddfa 1 yn gymwys.
- Mae Latifundia Cyfyngedig yn trosglwyddo portffolio o 400 teitl am 拢1.2 miliwn. Y ffi o dan Raddfa 1 fyddai 拢910, a 拢4,000 fyddai鈥檙 ffi am bob teitl o dan erthygl 6. Felly, gan ei bod yn uwch, mae鈥檙 ffi erthygl 6 yn gymwys.
- Mae Latifundia Cyfyngedig yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf o ddarn mawr o dir sy鈥檔 werth 拢1.2 miliwn. Gan ddefnyddio鈥檙 diffiniad uchod mae鈥檔 cynnwys 120 uned o dir. Y ffi o dan Raddfa 1 fyddai 拢1,105, a 拢1,200 fyddai鈥檙 ffi am bob uned o dir o dan erthygl 6. Felly, gan ei bod yn uwch, mae鈥檙 ffi erthygl 6 yn gymwys.
I gael manylion am sut i baratoi cais ar gyfer nifer fawr o eiddo a chyfrifo鈥檙 ff茂oedd sy鈥檔 daladwy, darllenwch ein cyfarwyddyd: Ceisiadau graddfa fawr (cyfrifo ff茂oedd).
Ceisiadau gyda ffi sefydlog
Math o gais | Gwneud cais trwy ddefnyddio鈥檙 porthol neu Business Gateway | Gwneud cais trwy鈥檙 post neu鈥檔 bersonol |
---|---|---|
1. Y ceisiadau canlynol: - cyfyngiadau safonol - rhybuddion - buddiolwyr newydd neu ychwanegol o rybudd unochrog - ymrwymiad i wneud blaensymiau ychwanegol - cytuno ar uchafswm sicrwydd neu newid blaenoriaeth arwystlon cofrestredig. Sylwer: nid oes ffi i鈥檞 thalu os yw鈥檙 cais, ar gyfer pob teitl yr effeithir arno, yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa neu gais arall y mae ffi yn daladwy amdano o dan y paragraff hwn. |
拢20 ar gyfer hyd at dri theitl 拢10 ar gyfer pob teitl ychwanegol |
拢40 ar gyfer hyd at dri theitl 拢20 ar gyfer pob teitl ychwanegol |
2. Cyfyngiadau ansafonol | 拢45 y teitl | 拢90 y teitl |
3. Rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf | Ddim ar gael | 拢40 y cais |
4. Newid cofrestr rhybuddiad | Ddim ar gael | 拢40 y gofrestr |
5. Cau teitl prydlesol neu rent-d芒l (ddim yn achos ildio). Am ff茂oedd ildio, darllenwch yr adran prydlesi. Sylwer: nid oes ffi sefydlog i鈥檞 thalu os yw鈥檙 cais yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa |
拢20 y teitl | 拢40 y teitl |
6. Uwchraddio teitl (er enghraifft: o brydlesol meddiannol i rydd-ddaliol llwyr) Sylwer: nid oes ffi sefydlog i鈥檞 thalu os yw鈥檙 cais yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa |
拢20 y teitl | 拢40 y teitl |
7. Dileu rhybudd o brydles ddigofrestredig neu rent-d芒l digofrestredig (Gweler Rhybudd: dileu (CN1)) Sylwer: nid oes ffi sefydlog i鈥檞 thalu os yw鈥檙 cais yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa |
拢20 y teitl | 拢40 y teitl |
8. Cofnodi neu ddileu cofnod o gamgymeriad mewn teitl o dan adran 64(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Sylwer: nid oes ffi sefydlog i鈥檞 thalu os yw鈥檙 cais yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa |
拢20 y teitl | 拢40 y teitl |
9. Gorchymyn i ddatgymhwyso neu addasu cyfyngiad o dan adran 41(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 | 拢20 y teitl | 拢40 y teitl |
10. Meddiant gwrthgefn ystad gofrestredig (yn cynnwys ffi archwilio safle) | 拢130 y teitl | 拢130 y teitl |
11. Hysbysiad o gais am feddiant gwrthgefn | 拢20 y teitl | 拢40 y teitl |
12. Terfynu terfyn | 拢90 y cais | 拢90 y cais |
13. Newid y gofrestr | 拢20 y cais | 拢40 y cais |
14. Cofnod hawl i reoli yn y gofrestr | 拢20 y cais | 拢40 y cais |
15. Ystad rydd-ddaliol mewn cyfunddaliad heb uned-ddalwyr | Ddim ar gael | 拢40 ar gyfer hyd at 20 uned 拢10 ar gyfer hyd at 20 uned ar 么l hynny |
16. Ychwanegu tir: (a) at deitl y rhannau cyffredin (b) at uned gyfunddaliadol (c) ychwanegu unedau cyfunddaliadol |
Ddim ar gael | 拢40 ar gyfer hyd at 20 uned 拢10 ar gyfer hyd at 20 uned ar 么l hynny |
17. Mae鈥檙 tir yn peidio 芒 bod yn dir cyfunddaliadol yn ystod y cyfnod trosiannol | Ddim ar gael | 拢40 |
18. Ystad rydd-ddaliol mewn tir cyfunddaliadol gydag uned-ddalwyr | Ddim ar gael | 拢40 yr uned a droswyd |
19. Datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig sy鈥檔 newid y stent: (a) rhannau cyffredin (b) unedau cyfunddaliadol. Sylwer: nid oes ffi i鈥檞 thalu os yw鈥檙 cais, ar gyfer pob teitl yr effeithir arno, yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa neu gais arall y mae ffi yn daladwy amdano o dan yr adran hon, hy adrannau 1 i 23 o鈥檙 tabl hwn |
Ddim ar gael | 拢40 ar gyfer hyd at 3 uned 拢40 ar gyfer hyd at 3 uned 拢20 ar gyfer pob uned ddilynol |
20. Datganiad cymuned cyfunddaliad nad yw鈥檔 newid y stent. Sylwer: nid oes ffi i鈥檞 thalu os yw鈥檙 cais, ar gyfer pob teitl yr effeithir arno, yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa neu gais arall y mae ffi yn daladwy amdano o dan yr adran hon, hy adrannau 1 i 23 o鈥檙 tabl hwn |
Ddim ar gael | 拢40 |
21. Newid i Femorandwm neu Erthyglau Cyweithio cymdeithas cyfunddaliad | Ddim ar gael | 拢40 |
22. Terfynu cofrestriad cyfunddaliad | Ddim ar gael | 拢40 y teitl |
23. Nodi ildio hawl i ddatblygu o dan adran 58 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Les-ddaliad 2002 | Ddim ar gael | 拢40 |
24. Dynodi dogfen yn ddogfen gwybodaeth eithriedig | 拢12 y ddogfen | 拢25 y ddogfen |
Ceisiadau nas cyfeirir atynt fel arall
Mae ffi sefydlog o 拢40 (neu 拢20 os c芒nt eu cyflwyno trwy ddefnyddio鈥檙 porthol neu Business Gateway) yn daladwy am geisiadau lle nad oes ffi arall wedi鈥檌 rhagnodi gan y Gorchymyn Ffi.
Mae鈥檙 ceisiadau hyn yn cynnwys cofrestru rhoi neu gaffael hawddfraint (ond nid nodi hawddfreintiau), cyfuno neu isrannu o dan reol 3 o Reolau Cofrestru Tir 2003 a chofrestru rhent-d芒l a roddir o ystad gofrestredig. Mae鈥檙 ffi yn daladwy hyd yn oed os daw鈥檙 cais gyda cheisiadau eraill y mae ffi ar raddfa neu ffi sefydlog yn daladwy ar eu cyfer. Lle bo鈥檔 gymwys a chyflwynir y cais yn electronig, caiff y ffi sy鈥檔 daladwy ei lleihau gan hanner cant y cant.
Ceisiadau nad oes ffi yn daladwy ar eu cyfer
Nid oes ffi yn daladwy ar gyfer y ceisiadau canlynol:
-
Newid disgrifiad yr eiddo neu enw, cyfeiriad neu ddisgrifiad unrhyw unigolyn y cyfeirir ato ar y gofrestr.
-
Newid y perchennog cofrestredig yn dilyn breinio statudol penodol.
-
Cofrestru ildiad prydles gofrestredig pan fydd ffi ar raddfa i鈥檞 thalu i gofrestru prydles newydd ac mae鈥檙 perchennog cofrestredig a鈥檙 eiddo, i raddau helaeth, yn aros yr un fath (darllenwch yr adran prydlesi).
-
Rhyddhau arwystl cofrestredig.
-
Cofrestru neu adnewyddu rhybudd hawliau cartref neu adnewyddu rhybuddiad hawliau cartref priodasol o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.
-
Cofrestru marwolaeth perchennog.
-
Dileu rhybudd (ac eithrio rhybudd o brydles ddigofrestredig, neu rent-d芒l digofrestredig), rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf, rhybuddiad yn erbyn deliadau, gan gynnwys tynnu rhybudd am adnau neu鈥檙 bwriad i adneuo yn 么l, gwaharddiad, cyfyngiad neu nodyn.
-
Dileu dynodiad dogfen yn ddogfen gwybodaeth eithriedig.
-
Cymeradwyo cynllun gosodiad ystad neu unrhyw ddogfen ddrafft gyda chynllun neu hebddo.
-
Gweithredu gorchymyn gan y cofrestrydd (ac eithrio gorchymyn o dan adran 41(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
-
Datgofrestru maenor.
-
Cofnodi diddymiad corfforaeth.
-
Cofrestru cyfyngiad cydberchnogaeth ar ffurf A yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003.
-
Cais am wybodaeth o鈥檙 rhestr ddydd ar unrhyw un achlysur trwy ddulliau electronig.
-
Cofnod ar y gofrestr mewn perthynas 芒 rhybudd ymwadiad a roddir gan ymddiriedolwr mewn methdaliad, datodwr, Cyfreithiwr y Trysorlys (ar ran y Goron), neu Gyfreithiwr Dugiaeth Caerhirfryn neu Ddugiaeth Cernyw.
Sut i dalu ff茂oedd
Gallwch dalu am wasanaethau a cheisiadau safonol trwy鈥檙 canlynol:
- debyd uniongyrchol newidiol, os oes cyfrif E-wasanaethau busnes gennych
- siec neu archeb bost yn daladwy i 鈥楥ofrestrfa Tir EF鈥. Anfonwch gyda鈥檆h cais i鈥檔 cyfeiriad safonol
Nid yw Treth Ar Werth (TAW) yn daladwy ar ff茂oedd Cofrestrfa Tir EF.
Wrth dalu gyda siec:
- ysgrifennwch y swm sy鈥檔 daladwy mewn geiriau ar ochr chwith y siec ac mewn rhifau yn y blwch ar y dde
- ysgrifennwch y dyddiad yn llawn, er enghraifft 7 Mawrth 2025
- gwnewch yn siwr eich bod yn llofnodi鈥檙 siec cyn ichi ei hanfon
Mae鈥檔 ddefnyddiol os ydych yn ysgrifennu rhif teitl neu gyfeiriad yr eiddo yn eich cais ar gefn y siec.
Efallai bydd oedi gyda鈥檆h taliad os na fyddwch yn llenwi鈥檆h siec yn gywir.
Enghraifft

Mae鈥檙 geiriad 鈥淭aler Cofrestrfa Tir EF Cant a hanner o bunnoedd a saith deg pum ceiniog鈥 ar ochr chwith y siec. Mae鈥檙 dyddiad 鈥7 Mawrth 2025鈥 ar ochr dde uchaf y siec, gyda鈥檙 swm 鈥溌150.75鈥 mewn rhifau yn y blwch ar yr ochr dde o dan y dyddiad. Mae鈥檙 llofnod o dan y swm.
Rhagor o wybodaeth
Mae yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud 芒:
- graddfa 1: o dan erthyglau 2 a 3
- graddfa 2: o dan erthyglau 4 a 5
- arwystlon tir cofrestredig: o dan erthyglau 5 ac 8
- prydlesi: o dan erthygl 2
- ceisiadau graddfa fawr: o dan erthygl 6
- ceisiadau nas cyfeirir atynt fel arall: o dan erthygl 12
- ceisiadau pan fydd ffi sefydlog yn gymwys: o dan atodlen 3, Rhan 1
- ceisiadau nad oes ffi yn daladwy ar eu cyfer: o dan atodlen 4 o Orchymyn Ffi Cofrestru Tir 2021
Daeth y ff茂oedd hyn i rym ar 31 Ionawr 2022 ac maent yn dal i fod yn gymwys.
Os nad ydych yn sicr o鈥檙 ffi o hyd, defnyddiwch ein i gysylltu 芒 ni.
Updates to this page
-
We have updated information in the section 'Transactions under Scale 2' under the heading 鈥楾ransfers or assents of registered estates not for monetary consideration鈥 to clarify the fees for transfer of shares subject to a mortgage.
-
Clarified the fees payable when a transfer deed contains multiple transfers.
-
Increase to scale 1 and scale 2 fees.
-
Edited Scale 2 section to clarify the fees payable on a transfer as a result of an order of the court under the Matrimonial Causes Act 1973 or the Civil Partnership Act 2004. Not a change in practice.
-
We have added an example to show the fees payable where you have a transfer of the whole of one title and part of another.
-
We have clarified the fees payable when two or more charges are submitted together.
-
Note 1 added to better define the term 鈥榓mount outstanding鈥 in transfers subject to a mortgage, to reflect the meaning of the Fee Order.
-
Section on first registrations has been updated to clarify the fees for inspections.
-
Section about 'Applications not otherwise referred to' has been amended to clarify when Article 12 fees are payable.
-
Section 'Charges of registered land': examples 5 improved and example 6 added.
-
Two updates under 'Transaction under scale 1'. Section 'First registration': information to clarify fee when a transfer includes registered and unregistered land added. Section 'Transfers of registered land for monetary consideration': examples 5 and 6 added.
-
Added translation