Canllawiau

Sut i drosglwyddo asedau elusennol i elusen arall

Sut i drosglwyddo holl asedau eich elusen i elusen arall os yw'n uno, yn newid strwythur neu'n cau.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae鈥檙 canllawiau hyn yn ymwneud 芒 throsglwyddo holl asedau a rhwymedigaethau elusen i elusen arall, fel arfer cyn cau.

Er enghraifft, pan fydd elusen yn:

  • uno gydag elusennau eraill
  • newid strwythur, megis o ymddiriedolaeth i Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO)
  • cau鈥檔 wirfoddol

Nid yw鈥檔 ymwneud 芒 rhoi arian na gwneud grantiau i elusen arall.

Yn y canllawiau hyn, gelwir yr elusen sy鈥檔 trosglwyddo ei hasedau a鈥檌 rhwymedigaethau yn 鈥榚lusen drosglwyddo鈥�, a gelwir yr elusen sy鈥檔 derbyn asedau a rhwymedigaethau yn 鈥榚lusen sy鈥檔 derbyn鈥�.

Yn y canllawiau hyn, mae鈥檙 term 鈥榓sedau鈥�, y gellir eu galw鈥檔 鈥榚iddo鈥� weithiau, yn cynnwys:

  • arian mewn cyfrifon banc
  • buddsoddiadau, er enghraifft stociau a chyfranddaliadau
  • tir ac adeiladau
  • asedau sefydlog eraill, er enghraifft cerbydau neu offer
  • eiddo deallusol

Mae鈥檙 canllawiau hyn yn nodi鈥檙 meysydd allweddol i鈥檞 hystyried, megis:

  • defnyddio鈥檙 pwerau a鈥檙 prosesau cywir
  • ystyried dibenion yr elusennau sy鈥檔 gysylltiedig
  • trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig
  • p鈥檜n a ydych angen awdurdod y Comisiwn Elusennau

Os ydych angen awdurdod y Comisiwn, cysylltwch 芒 ni bob amser yn gynnar yn enwedig os oes gennych ddyddiad cau fel diwedd y flwyddyn ariannol.

Mynnwch gyngor proffesiynol perthnasol os oes ei angen arnoch, er enghraifft os ydych chi鈥檔 uno neu鈥檔 newid strwythur ac mae gennych chi weithwyr - efallai y bydd materion pensiwn neu TUPE i鈥檞 hystyried. Mae TUPE yn sefyll am Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Transfer of Undertakings (Protection of Employment) Regulations).

Nid yw鈥檙 canllawiau hyn yn berthnasol i:

  • CIOs yn defnyddio鈥檙 camau cyfreithiol a ddisgrifir yn ein canllawiau Sut i uno CIO gyda CIOs eraill. Mae鈥檙 camau cyfreithiol hyn yn trosglwyddo asedau鈥檔 awtomatig, nid oes angen gweithredu pellach
  • Elusennau鈥檙 Siarter Frenhinol sy鈥檔 ceisio trosglwyddo eu hasedau. Gwiriwch bwerau yn eich Siarter, mynnwch gyngor proffesiynol os oes ei angen arnoch, neu cysylltwch 芒 Swyddfa鈥檙 Cyfrin Gyngor drwy e-bostio enquiries@pco.gov.uk

1. Y p诺er i drosglwyddo asedau elusennol

Mae鈥檔 rhaid bod gennych y p诺er i drosglwyddo asedau a rhwymedigaethau eich elusen i elusen arall.

Gwnewch yn si诺r eich bod yn gwybod pa b诺er rydych chi鈥檔 ei ddefnyddio a鈥檆h bod yn:

  • ei ddefnyddio鈥檔 gywir 鈥� rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau sy鈥檔 dod gyda鈥檙 p诺er
  • ei ddefnyddio at ei ddiben priodol, nid at ddiben na fwriadwyd ar ei gyfer
  • sicrhau bod gan yr elusen sy鈥檔 derbyn ddibenion sy鈥檔 addas, o ystyried telerau鈥檙 p诺er rydych chi鈥檔 ei ddefnyddio

Uno neu newid strwythur

Os ydych yn trosglwyddo asedau a rhwymedigaethau eich elusen oherwydd eich bod yn:

  • uno, darllenwch ein canllawiau ynghylch uno鈥檙 uno er mwyn deall y pwerau y gallwch eu defnyddio
  • Newid strwythur eich elusen, darllenwch ein canllawiau am y pwnc hwn er mwyn deall sut y gallwch wneud hyn

Os ydych yn trosglwyddo asedau eich elusen am unrhyw reswm arall, darllenwch weddill yr adran hon.

P诺er cyffredinol

Gallwch drosglwyddo asedau eich elusen i elusen arall os yw hyn yn hyrwyddo dibenion eich elusen.

Dylech:

  • gwirio geiriad eich elusen a dibenion yr elusen sy鈥檔 derbyn i wneud yn si诺r y byddai鈥檙 trosglwyddiad yn hyrwyddo dibenion eich elusen, a
  • gwirio gweddill eich dogfen lywodraethu, er mwyn sicrhau nad yw鈥檔 cynnwys rheolau eraill sy鈥檔 eich atal rhag bwrw ymlaen

Os nad ydych yn si诺r y gallwch fynd ymlaen, gallwch:

  • ystyried newid dibenion eich elusen fel eu bod yn ddigon tebyg i ddibenion yr elusen sy鈥檔 derbyn
  • gwirio a oes gennych b诺er yn eich dogfen lywodraethol y gallech ei defnyddio yn lle hynny (gweler y pennawd nesaf)
  • cael cyngor proffesiynol

Os penderfynwch newid dibenion eich elusen, rhaid i chi wneud hyn yn gyntaf. Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn Elusennau i newid dibenion eich elusen, a bydd angen yr awdurdod hwn arnoch cyn y gallwch ddefnyddio鈥檙 p诺er cyffredinol.

Deall y rheolau ynghylch newid dogfennau llywodraethu.

Pwerau mewn dogfennau llywodraethu

Gwiriwch eich dogfen lywodraethol am y pwerau y gallwch eu defnyddio. Er enghraifft:

  • p诺er datganedig i drosglwyddo asedau i elusen arall, neu uno ag elusen arall. Un enghraifft yw cymal 5(7) o weithred ymddiriedolaeth enghreifftiol y Comisiwn.
  • p诺er cyffredinol i wneud unrhyw beth sy鈥檔 angenrheidiol neu鈥檔 ddymunol i gyflawni dibenion yr elusen. Er enghraifft, Cymal 5(10) o weithred ymddiriedolaeth enghreifftiol y Comisiwn
  • cymal diddymu elusen

Os nad yw eich dogfen lywodraethol yn cynnwys p诺er, gallwch ychwanegu un. Efallai y bydd angen i鈥檙 Comisiwn Elusennau awdurdodi鈥檙 newid hwn. Darllenwch ein canllawiau ar newid dogfennau llywodraethu, sy鈥檔 nodi sut y gallwch wneud cais am awdurdod.

Mynnwch gyngor proffesiynol os oes ei angen arnoch.

2. Y dull o drosglwyddo asedau elusennol

Ar 么l sefydlu pa b诺er y byddwch chi鈥檔 ei ddefnyddio, dylech:

  • ystyried sut y byddwch yn trosglwyddo鈥檙 asedau (pa ddogfennaeth y byddwch yn ei defnyddio)
  • cytuno ar ddyddiad trosglwyddo gyda鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn
  • deall pa gamau eraill y gallai fod angen i chi eu cymryd yn dibynnu ar y math o ased rydych yn ei drosglwyddo

Dylech gael cyngor proffesiynol perthnasol os oes ei angen arnoch.

Gellir cwblhau鈥檙 rhan fwyaf o drosglwyddiadau gan ddefnyddio:

  • datganiad breinio cyn uno a/neu
  • cytundeb trosglwyddo

Deallwch os oes gan eich elusen:

  • asedau cyffredinol yn unig neu
  • waddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig yn ogystal ag asedau cyffredinol

Gellir defnyddio asedau cyffredinol mewn unrhyw ffordd i hyrwyddo dibenion eich elusen; nid oes ganddynt unrhyw reolau eraill ar sut y gellir eu defnyddio.

Datganiad breinio cyn uno

Mae defnyddio datganiad breinio cyn uno yn ddull syml i鈥檞 ddefnyddio pan:

  • rydych yn trosglwyddo holl asedau a rhwymedigaethau eich elusen i鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn a
  • byddwch yn cau eich elusen neu
  • ni fyddwch yn cau eich elusen ond dim ond am fod gan eich elusen waddol parhaol na fyddwch yn ei throsglwyddo

Datganiad breinio cyn uno hefyd yw鈥檙 dull mwyaf syml pan fyddwch chi鈥檔:

  • trosglwyddo gwaddol parhaol a
  • bod yr elusen sy鈥檔 derbyn yn CIO

I gael rhagor o wybodaeth am hyn, darllenwch yr adran isod ar 鈥楾ir dynodedig, gwaddol parhaol ac ymddiriedolaethau arbennig鈥�.

Mae yna demplad datganiad breinio cyn-uno (#template) y gallwch ei ddefnyddio wrth drosglwyddo asedau i CIO.

Ni ellir trosglwyddo pob eiddo gan ddefnyddio datganiad breinio cyn uno. Mynnwch gyngor proffesiynol os nad ydych yn si诺r.

Trosglwyddo i elusen anghorfforedig

Wrth drosglwyddo asedau i elusen anghorfforedig, byddai鈥檙 trosglwyddiad i ymddiriedolwyr unigol yr elusen anghorfforedig i ddal yr asedau ar ymddiriedaeth - nid i鈥檙 elusen ei hun.

Mae hyn oherwydd, yn wahanol i CIO neu gwmni, nid oes gan elusen anghorfforedig bersonoliaeth gyfreithiol ar wah芒n i鈥檞 haelodau a/neu ymddiriedolwyr. O ganlyniad, ni all ddal tir neu asedau eraill.

Camau eraill

Ar neu ar 么l y dyddiad trosglwyddo, gallwch gymryd camau eraill megis trosglwyddo arian mewn cyfrifon banc a chofrestru鈥檙 newid ym mherchnogaeth tir y Gofrestrfa Tir.

Bydd beth arall sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu ar beth yw鈥檙 ased. Er enghraifft:

  • buddsoddiadau (fel stociau a chyfranddaliadau)
  • asedau sefydlog, er enghraifft cerbydau neu offer
  • rhwymedigaethau

Dylech gael cyngor proffesiynol perthnasol. Er enghraifft, byddech fel arfer yn cynnwys trawsgludwr os ydych yn trosglwyddo tir.

Cyfrifo am y trosglwyddiad

Bydd angen i鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn ystyried sut mae trosglwyddo asedau yn cael eu trin yn ei chyfrifon. Mynnwch gyngor proffesiynol perthnasol os ydych yn ansicr.

Temple datganiad breinio model

Gallwch ddefnyddio鈥檙 templed hwn os ydych yn trosglwyddo asedau i CIO.

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email usability@charitycommission.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

3. Tir dynodedig, gwaddol parhaol ac ymddiriedolaethau arbennig

Mae tir dynodedig yn dir y mae鈥檔 rhaid ei ddefnyddio at ddiben penodol eich elusen yn 么l y ddogfen sy鈥檔 esbonio sut y mae鈥檔 rhaid defnyddio鈥檙 tir. Er enghraifft, eiddo y mae鈥檔 rhaid ei ddefnyddio fel tir hamdden.

Mae gwaddol parhaol yn eiddo y mae鈥檔 rhaid i鈥檆h elusen ei gadw yn hytrach na鈥檌 wario. Mae eiddo a roddir i鈥檆h elusen y mae鈥檔 rhaid ei ddefnyddio at ddiben penodol (fel tir dynodedig) yn un enghraifft o waddol parhaol. Un arall yw arian neu asedau eraill a roddir i鈥檆h elusen i鈥檞 buddsoddi lle mai dim ond yr incwm buddsoddi y gellir ei wario.

Ymddiriedolaeth arbennig yw arian neu asedau y mae鈥檔 rhaid i鈥檆h elusen eu defnyddio at ddibenion penodol sy鈥檔 gulach na dibenion eich elusen. Gall gwaddol parhaol fod yn ymddiriedolaeth arbennig ond nid bob amser.

Deall sut i ddelio 芒 gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig yn gywir.

Ni allwch gau eich elusen ar 么l trosglwyddo eich asedau i鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn os nad ydych yn delio鈥檔 iawn ag unrhyw waddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig sydd gan eich elusen.

Trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig, neu ymddiriedolaethau arbennig i CIO

Defnyddio datganiad breinio cyn uno yw鈥檙 ffordd fwyaf syml o drosglwyddo鈥檙 CIO oherwydd bydd yn (ar yr un pryd):

  • trosglwyddo鈥檙 rhan fwyaf o asedau cyffredinol yr elusen i鈥檙 CIO, fel eu bod yn dod yn rhan o eiddo corfforaethol y CIO
  • penodi鈥檙 CIO yn ymddiriedolwr gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig ar eu hymddiriedolaethau presennol
  • breinio titil cyfreithiol yn y CIO i ddal gwaddol parhaol, tir dynodedig ney ymddiriedolaethau arbennig ar eu hymddiriedolaethau presennol
  • yn golygu bod y gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig yn dod yn rhan o鈥檙 CIO at ddibenion cyfrifeg, adrodd a chofrestru. Mae hyn yn golygu y bydd y CIO yn gallu, er enghraifft, eu cynnwys yn ei chyfrifon.

Os nad ydych yn defnyddio datganiad breinio cyn uno, bydd angen i chi benodi CIO ar wah芒n fel ymddiriedolwr y gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaeth arbennig drwy weithred. A bydd angen i chi gyfrif am waddol parhaol nad yw鈥檔 ymddiriedolaeth arbennig ar wah芒n.

Trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig i elusen anghorfforedig

Drafftiwch eich cytundeb trosglwyddo fel gweithred fel y bydd (ar yr un pryd):

  • yn trosglwyddo asedau cyffredinol eich elusen i ymddiriedolwyr yr elusen anghorfforedig, i ddal ymddiriedaeth (mae hyn oherwydd na allwch drosglwyddo鈥檙 asedau i elusen anghorfforedig)
  • yn penodi ymddiriedolwyr yr elusen anghorfforedig yn ymddiriedolwyr gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig i鈥檞 dal ar yr un ymddiriedolaethau

Trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig i gwmni elusennol

Drafftiwch eich cytundeb trosglwyddo fel gweithred fel y bydd (ar yr un pryd) yn:

  • trosglwyddo asedau cyffredinol eich elusen i鈥檙 cwmni elusennol
  • penodi鈥檙 cwmni elusennol yn ymddiriedolwr gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaeth arbennig

Os na fyddwch yn trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig yn y ffyrdd a ddisgrifir uchod

Yn ymarferol, mae trosglwyddo gwaddol parhaol, tir dynodedig, ac ymddiriedolaethau arbennig yn ymwneud 芒 newid pwy yw鈥檙 ymddiriedolwyr o鈥檙 mathau hyn o asedau.

Os byddwch yn dilyn y canllawiau uchod, dylech benodi鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn (neu, yn achos elusen anghorfforedig, ei hymddiriedolwyr) yn ymddiriedolwyr y gwaddol parhaol, tir dynodedig, neu ymddiriedolaethau arbennig.

Os na fyddwch yn dilyn y canllawiau uchod, bydd angen i chi benodi鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn (neu, yn achos elusen anghorfforedig, ei hymddiriedolwyr) fel ymddiriedolwr gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaeth arbennig.

Gall pwerau i benodi ymddiriedolwyr ddod o鈥檙 gyfraith neu gellir eu canfod yn y ddogfen lywodraethol. Gwiriwch a oes dogfen lywodraethol ar wah芒n, neu a yw鈥檙 ased (lle nad yw eich elusen wedi鈥檌 hymgorffori) wedi鈥檌 chynnwys yn nogfen lywodraethol eich elusen.

Mynnwch gyngor proffesiynol os oes ei angen arnoch.

Effaith newid ymddiriedolwyr

Nid yw newid pwy sy鈥檔 ymddiriedolwr yn newid unrhyw beth am waddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig, er enghraifft eu dibenion. Rhaid iddynt beidio 芒 chael eu huno 芒 chronfeydd ac asedau cyffredinol yr elusen sy鈥檔 derbyn a rhaid iddynt barhau i gael eu cadw ar eu hymddiriedolaethau gwreiddiol.

Cyfrifo ar gyfer gwaddol parhaol

Os ydych wedi trosglwyddo gwaddol parhaol nad yw鈥檔 ymddiriedolaeth arbennig a naill ai:

  • mae鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn yn CIO ac ni wnaethoch ddefnyddio datganiad breinio cyn uno neu
  • nid yw鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn yn CIO

rhaid i鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn gynhyrchu cyfrifon ar wah芒n ar gyfer y gwaddol parhaol.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, gallwch wneud cais i鈥檙 Comisiwn am gyfeiriad cysylltu sy鈥檔 galluogi鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn, er enghraifft, i gynnwys gwaddol parhaol nad yw鈥檔 ymddiriedolaeth arbennig yn ei chyfrifon elusennol ei hun.

Darllenwch am cyfarwyddiadau cysylltu.

Mynnwch gyngor proffesiynol os oes ei angen arnoch.

4. Pryd y gallai fod angen awdurdod y Comisiwn Elusennau arnoch

Efallai y bydd angen awdurdod ar elusennau gan y Comisiwn fel rhan o drosglwyddo asedau.

Mynnwch gyngor proffesiynol ar y meysydd hyn os oes ei angen arnoch.

Mae sut i wneud cais wedi鈥檌 nodi ar ddiwedd yr adran hon.

Atebolrwydd cyfyngedig

Mae ymddiriedolwyr cwmn茂au elusennol a CIOs yn elwa ar atebolrwydd cyfyngedig. Mae hyn yn golygu nad yw鈥檙 ymddiriedolwyr fel arfer yn atebol (neu鈥檔 gyfrifol) am ddyledion yr elusen. Pe na bai鈥檙 elusen yn gallu talu ei dyledion, gallai credydwyr (y rhai yr oedd yr elusen mewn dyled ariannol iddynt) gymryd camau yn erbyn yr elusen, ond nid yr ymddiriedolwyr.

Mae ymddiriedolwyr elusen anghorfforedig yn cael budd o 鈥榓tebolrwydd cyfyngedig鈥�:

  • pan fydd eu helusen yn uno 芒, neu鈥檔 newid strwythur, cwmni elusennol neu CIO ac
  • maent yn dod yn ymddiriedolwyr y cwmni elusennol neu鈥檙 CIO

Oherwydd y byddant yn cael y budd hwn, mae gan ymddiriedolwyr yr elusen anghorfforedig sydd hefyd yn ymddiriedolwyr yr elusen sy鈥檔 derbyn wrthdaro buddiannau ac ni ddylent bleidleisio yn y penderfyniad i uno neu newid strwythur. Bydd angen awdurdod arnoch os nad oes gennych ddigon o ymddiriedolwyr a all reoli鈥檙 gwrthdaro buddiannau hyn a gwneud y penderfyniad.

Felly, bydd angen awdurdod arnoch os:

  • mai elusen heb ei hymgorffori (ymddiriedolaeth neu gymdeithas anghorfforedig) yw鈥檙 elusen drosglwyddo, a
  • mae鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn yn CIO neu鈥檔 gwmni elusennol, a
  • rydych yn trosglwyddo asedau er mwyn uno neu newid strwythur, a
  • nad oes digon o ymddiriedolwyr yn yr elusen anghorfforedig nad ydynt yn ymddiriedolwyr i鈥檙 CIO neu鈥檙 cwmni elusennol (neu sydd wedi鈥檜 cysylltu ag ymddiriedolwr yn yr elusennau hyn) i reoli鈥檙 gwrthdaro buddiannau a gwneud y penderfyniad i uno neu newid strwythur

Yr elusen drosglwyddo sy鈥檔 gwneud cais am awdurdod a rhaid iddo dderbyn awdurdod.

Darperir awdurdod o dan adran 105 o Ddeddf Elusennau 2011 (fel y鈥檌 diwygiwyd).

Caniat谩u indemniad am rwymedigaethau yr eir iddynt

Mae hyn yn ymwneud 芒鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn amddiffyn ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo am atebolrwydd am unrhyw golledion o ganlyniad i benderfyniadau a wnaethant fel ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo.

Gwerth yr indemniad yw鈥檙 swm y mae鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn yn cytuno i鈥檞 dalu i dalu am unrhyw golledion o鈥檙 fath.

Gall ymddiriedolwyr yr elusen sy鈥檔 derbyn benderfynu a ddylid rhoi indemniad ai peidio, a鈥檙 gwerth. Os ydynt yn penderfynu rhoi indemniad, mae angen awdurdod oherwydd bod hwn yn fath o fudd i ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo.

Dyma鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn ceisiadau am, ac mae鈥檔 rhaid iddo dderbyn awdurdod i roi indemniad.

Mae鈥檙 Comisiwn yn darparu awdurdod o dan adran 105 o Ddeddf Elusennau 2011 (fel y鈥檌 diwygiwyd). Bydd angen i chi ddangos bod rhoi鈥檙 indemniad yn hwylus er budd yr elusen sy鈥檔 derbyn.

Byddai鈥檙 Comisiwn fel arfer yn darparu鈥檙 awdurdod hwn os na fydd yr ymddiriedolwyr sy鈥檔 ennill yr indemniad mewn sefyllfa well wedyn.

Mae hyn yn golygu na fydd yr indemniad yn rhoi hawl i ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo i fwy o amddiffyniad nag yr oedd ganddynt hawl iddo yn yr elusen drosglwyddo.

Dylai鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn ofyn i ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo gadw cofnod clir o鈥檙 hyn y mae ganddynt hawl iddo ar hyn o bryd. Os yw eich penderfyniad i roi indemniad ar y gwerth a ddewiswyd yn golygu y bydd ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo mewn sefyllfa well ar 么l y trosglwyddiad, dylech egluro hyn yn eich cais.

Trosglwyddo ased sylweddol nad yw鈥檔 arian parod

Bydd angen awdurdod arnoch os:

  • naill ai bod yr elusen trosglwyddo neu鈥檔 derbyn yn anghorfforedig ac
  • mai cwmni elusennol yw鈥檙 elusen arall, a
  • yw o leiaf un unigolyn sy鈥檔 ymddiriedolwr yn yr elusen trosglwyddo a derbyn (neu sydd wedi鈥檌 gysylltu ag ymddiriedolwr yn yr elusen trosglwyddo a derbyn) a
  • yw鈥檙 uno yn golygu trosglwyddo 鈥榓sed sylweddol nad yw鈥檔 arian parod鈥�

鈥楢sed sylweddol nad yw鈥檔 arian parod鈥� yw:

  • unrhyw fath o ased (neu fuddiant mewn ased) ac eithrio balansau banc neu arian tramor a
  • mae ei werth naill ai鈥檔 fwy na 拢100,000 neu鈥檔 fwy na 10% o werth asedau鈥檙 cwmni ac mae鈥檔 fwy na 拢5,000

Y cwmni elusennol sy鈥檔 gwneud cais am awdurdod a rhaid iddo dderbyn awdurdod. Bydd angen i chi gadarnhau eich bod wedi pasio penderfyniad yr aelodau perthnasol.

Mae angen awdurdod o dan adran 201 o Ddeddf Elusennau 2011 (fel y鈥檌 diwygiwyd)).

Unrhyw wrthdaro buddiannau na ellir ei reioli

Bydd angen awdurdod arnoch bob tro y bydd penderfyniad yn arwain at gwrthdaro buddiannau ac ni allwch ei reoli.

Mae gan yr elusen sy鈥檔 derbyn neu鈥檔 trosglwyddo unig ymddiriedolwr corfforaethol

Pan fyddwch yn ystyried y senarios hyn a lle mae gan unrhyw un o鈥檙 elusennau unig ymddiriedolwr corfforaethol, byddai gwrthdaro buddiannau pe bai cyfarwyddwyr yr ymddiriedolwr corfforaethol naill ai:

  • yn ymddiriedolwyr yr elusen arall, neu
  • lle mae gan yr elusen arall ymddiriedolwr corfforaethol hefyd, maent yn gyfarwyddwyr ar yr ymddiriedolwr corfforaethol hwnnw

Gwneud cais am awdurdod

Anfonwch un cais os oes angen awdurdod arnoch am fwy nag un rheswm.

Ar gyfer pob cais:

  • rhowch enwau a rhifau cofrestredig yr elusennau sy鈥檔 trosglwyddo ac yn derbyn, a dweud pa rai sy鈥檔 trosglwyddo a pha un sy鈥檔 derbyn
  • datganwch ddibenion elusennol y ddwy elusen
  • eglurwch sut mae trosglwyddo asedau a rhwymedigaethau er budd gorau pob elusen
  • nodwch pa asedau a rhwymedigaethau sy鈥檔 cael eu trosglwyddo, gan roi eu gwerth a thynnu sylw at unrhyw rwymedigaethau sylweddol (potensial)
  • eglurwch a yw unrhyw un o鈥檙 asedau yn waddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig
  • cadarnhewch bod gan yr elusen drosglwyddo鈥檙 p诺er i drosglwyddo asedau a rhwymedigaethau i鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn
  • dywedwch pa awdurdod rydych chi鈥檔 ei geisio a pham
  • gwiriwch bod gan y Comisiwn gyfrifon diweddaraf yr elusennau dan sylw, ac os nad oes, darparwch gopi o鈥檙 rhain
  • dywedwch wrthym os oes dyddiad cau ar gyfer y trosglwyddiad, beth ydyw ac a yw鈥檙 dyddiad cau yn arbennig o bwysig

Ar gyfer atebolrwydd cyfyngedig:

  • cadarnhewch na allwch reoli鈥檙 gwrthdaro buddiannau, fel yr eglurir uchod

Ar gyfer indemniad ymddiriedolwyr:

  • rhowch fanylion am yr indemniad sy鈥檔 cael ei ddarparu
  • cadarnhewch a fydd hyn yn cynrychioli鈥檙 un sefyllfa neu鈥檔 well ar gyfer ymddiriedolwyr yr elusen drosglwyddo. Os yw鈥檔 well, rhowch fanylion (gweler y canllawiau uchod)
  • eglurwch pam fod rhoi鈥檙 indemniad, ar y gwerth yr ydych wedi鈥檌 benderfynu, yn hwylus er budd yr elusen sy鈥檔 derbyn

Ar gyfer trosglwyddo ased sylweddol nad yw鈥檔 arian parod:

  • cadarnhewch eich bod wedi pasio penderfyniad yr aelodau perthnasol

.

5. Ar 么l y trosglwyddiad

Rhowch i鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn:

  • copi o benderfyniadau鈥檙 ymddiriedolwyr neu benderfyniadau sy鈥檔 awdurdodi鈥檙 trosglwyddiad
  • copi o鈥檙 cytundeb breinio neu drosglwyddo cyn uno
  • copi o鈥檙 dogfennau perthnasol sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 ased a drosglwyddwyd
  • copi o unrhyw awdurdod y Comisiwn a dderbyniwyd
  • lle bo鈥檔 berthnasol, dogfennau ar wah芒n am benodi ymddiriedolwyr newydd gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig

Os ydych wedi uno neu newid strwythur, efallai y byddwch hefyd yn darparu cofnodion eich elusen i鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn, er enghraifft cofnodion cyfarfodydd ymddiriedolwyr.

6. Cau eich elusen

Unwaith y byddwch wedi:

  • trosglwyddo eich holl asedau a rhwymedigaethau i鈥檙 elusen sy鈥檔 derbyn
  • ymdrin yn briodol ag unrhyw waddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig

gallwch gau eich elusen.

Darllenwch ganllawiau ynghylch cau eich elusen. Mae鈥檔 rhaid i chi ddweud wrth y Comisiwn am y cau fel y gallwn dynnu eich elusen o鈥檙 gofrestr. Byddwn hefyd yn rhoi鈥檙 gorau i ysgrifennu atoch 鈥� er enghraifft i ffeilio ffurflenni blynyddol.

Cofrestrwch drosglwyddo asedau ar y gofrestr uno

Ystyriwch a allwch, neu os oes rhaid cofrestru鈥檙 uno (mae hyn hefyd yn berthnasol i newid strwythur).

Mae cofrestru yn ymwneud 芒 helpu elusennau i sicrhau rhoddion yn y dyfodol (fel cymynroddion) ar 么l iddynt uno a chau.

Darllenwch canllawiau am fwy o wybodaeth a sut i wneud cais.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Mawrth 2024
  1. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  2. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon