Canllawiau

Credyd Cynhwysol: arian, cynilion a buddsoddiadau

Sut mae arian a buddsoddiadau yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol. Rydym yn galw hyn yn 'cyfalaf'.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Beth rydym yn ei ystyried

Pan fyddwn yn asesu eich hawl i Gredyd Cynhwysol, rydym yn ystyried fel 鈥榗yfalaf鈥 gwerth yr holl arian, cynilion a buddsoddiadau rydych yn berchen arnynt, neu rydych yn berchen ar y cyd 芒 rhywun arall.

Gall faint o arian, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych chi (a鈥檆h partner) effeithio ar:

  • p鈥檜n ag ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol

  • faint o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei dderbyn

Mae鈥檙 holl arian, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych yn y DU a thramor yn cael eu hystyried, gan gynnwys:

  • arian parod

  • arian yn eich cyfrif banc, gan gynnwys eich prif gyfrif banc

  • cyfrifon cyfredol a chyfrifon digidol yn unig fel PayPal

  • cyfrifon cynilo: cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu, undeb credyd, Help i Gynilo, cyfrifon Swyddfa鈥檙 Post a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)

  • cynilion i blant yn eich enw chi

  • arian sy鈥檔 eiddo i rywun arall, ond sydd yn eich enw chi

  • cynilion ar gyfer gwaith adeiladu hanfodol (oni bai eu bod o grant neu fenthyciad)

  • cynilion ar gyfer gofal meddygol

  • Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs): arian parod, cyfranddaliadau, Cyllid Arloesi, Cymorth i Brynu, ac ISAs Gydol Oes

  • Bondiau Premiwm, difidendau a chyfranddaliadau

  • asedau cryptoa

  • eiddo rydych yn berchen arno ond ddim yn byw yno eich hun (ar wah芒n i amgylchiadau penodol)

  • eiddo, tir a chynilion tramor

  • taliadau etifeddiaeth

  • cyfrifon busnes ac asedau ar gyfer busnesau a gaeodd dros 6 mis yn 么l

  • arian mewn cronfeydd ymddiriedolaeth, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau

  • budd-daliadau heb eu gwario, er enghraifft Budd-dal Plant, Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA)

  • incwm heb ei wario

Nid ydym yn ystyried eich dyled pan fyddwn yn cyfrifo cyfanswm eich arian, cynilion a buddsoddiadau.

Os ydych yn byw gyda鈥檆h partner

Mae eich arian, cynilion a buddsoddiadau cyfun yn cael eu hystyried hyd yn oed os nad yw鈥檆h partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.聽

Beth sydd ddim yn cael ei gyfrif fel arian, cynilion a buddsoddiadau

Nid yw eich eiddo personol yn cael eu hystyried.

Efallai na fydd rhai mathau o arian, cynilion, buddsoddiadau neu asedau eraill yn effeithio ar eich cais am Gredyd Cynhwysol. Mae angen i chi barhau i ddweud wrthym am y rhain fel y gallwn benderfynu a ddylid eu tynnu oddi ar eich arian, cynilion a buddsoddiadau cyffredinol.

Mae鈥檔 rhaid i chi ddweud wrthym am:

Nid oes angen i chi ddweud wrthym am:

  • bolis茂au yswiriant bywyd sydd heb dalu allan

  • contractau cynllun angladd

  • cynilion neu fuddsoddiadau sy鈥檔 perthyn i鈥檆h plant yn enw eich plant. Darllenwch fwy am Credyd Cynhwysol a chynilion plant

  • cyfrifon busnes ac asedau ar gyfer busnesau sy鈥檔 dal i weithredu neu sydd wedi cau yn ystod y 6 mis diwethaf

Incwm

Mae eich incwm yn cael ei gyfrif fel cynilion os nad yw wedi鈥檌 wario erbyn diwedd y cyfnod asesu ar 么l yr un y cafodd ei dderbyn ynddo.

Enghraifft

Mae cyfnod asesu Katie ar gyfer Credyd Cynhwysol yn rhedeg o鈥檙 8fed o鈥檙 mis i鈥檙 7fed o鈥檙 mis nesaf.聽

Cafodd Katie gyflog o 拢2,000 ar 1 Ebrill. Roedd hyn o fewn ei chyfnod asesu rhwng 8 Mawrth a 7 Ebrill.聽

Erbyn diwedd ei chyfnod asesu nesaf (8 Ebrill i 7 Mai), mae hi wedi gwario 拢1,500 o鈥檙 incwm hwn.聽

Ar gyfer y cyfnod asesu nesaf (8 Mai i 7 Mehefin) dylai adrodd am y 拢500 a gynilwyd fel rhan o鈥檌 chynilion.

Mae ad-daliadau treth ac ad-daliadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu cyfrif fel incwm.

Eiddo

Eiddo rydych yn berchen arno ac yn byw ynddo

Nid yw gwerth yr eiddo rydych yn berchen arno ac yn byw ynddo yn cael ei ystyried wrth asesu eich Credyd Cynhwysol.

Cronfeydd o werthu eich cartref

Mae鈥檔 rhaid i chi ddweud wrthym am arian o werthu鈥檆h cartref, hyd yn oed os ydych yn bwriadu ei ddefnyddio i brynu cartref arall i chi鈥檆h hun. Ni fyddwn yn ystyried yr arian hwn am 6 mis.聽Gellir ymestyn hyn o dan amgylchiadau arbennig.

Grantiau neu fenthyciadau i atgyweirio neu newid eich cartref

Nid yw grantiau neu fenthyciadau ar gyfer atgyweiriadau neu addasiadau hanfodol i鈥檆h prif gartref yn cael eu hystyried am 6 mis.聽Gellir ymestyn hyn os bydd y gwaith atgyweirio neu鈥檙 newidiadau yn cymryd mwy na 6 mis.

Eiddo rydych yn berchen arno, ond nid ydych yn byw ynddo

Mae eiddo yn eich enw nad ydych yn byw ynddo yn cael ei ystyried oni bai ei fod yn brif gartref i:

  • berthynas agos sydd wedi ymddeol neu sydd 芒 chyflwr iechyd difrifol

  • cyn-bartner sy鈥檔 rhiant unigol

Rydym angen gwybod am werth unrhyw eiddo y mae gennych ddiddordeb ariannol ynddo, er enghraifft:

  • tai gwyliau

  • carafannau

  • tir

  • eiddo rydych yn ei osod allan

  • eiddo mae rhywun arall yn byw ynddo, lle mae eich enw wedi鈥檌 ychwanegu at y morgais

Er enghraifft, os ydych wedi cael eich ychwanegu at y morgais ar gyfer y cartref y mae eich chwaer yn byw ynddo, mae鈥檙 cartref hwn yn eich enw chi a bydd angen ei ddatgan.

Eiddo busnes

Nid yw eiddo rydych yn berchen arno i gynnal masnach, fel gwesty neu wely a brecwast, yn cael ei ystyried ar gyfer Gredyd Cynhwysol.

Terfynau arian, cynilion a buddsoddiadau

I wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel arfer mae鈥檔 rhaid i chi beidio 芒 bod gyda mwy na 拢16,000 mewn arian, cynilion a buddsoddiadau fel hawlydd sengl neu os ydych yn byw gyda phartner.

Os oes gennych lai na 拢6,000, ni fydd yn effeithio ar eich dyfarniad.

Mae rheolau cymhwysedd arian, cynilion a buddsoddiadau gwahanol os ydych chi wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo ac wedi cael cais i symud i Gredyd Cynhwysol.

Os oes gennych rhwng 拢6,000 a 拢16,000

Os oes gennych arian, cynilion a buddsoddiadau rhwng 拢6,000 a 拢16,000 bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau.

Bydd eich taliadau yn cael eu gostwng 拢4.35 am bob 拢250 sydd gennych rhwng 拢6,000 a 拢16,000.

Bydd 拢4.35 arall yn cael ei dynnu am unrhyw swm sy鈥檔 weddill nad yw鈥檔 拢250 cyflawn.

Enghreifftiau

Mae gan Sam gynilion o 拢6,300.聽
Mae ganddi 拢300 o gynilion dros y terfyn o 拢6,000.聽
Mae ei Chredyd Cynhwysol yn cael ei leihau 2 x 拢4.35 y mis, sef 拢8.70.

Mae gan Leeroy gynilion o 拢14,500.聽
Mae ganddo 拢8,500 o gynilion dros y terfyn o 拢6,000.聽
Mae ei Gredyd Cynhwysol yn cael ei leihau 34 x 拢4.35 y mis, sef 拢147.90.

Mae gan Helen gynilion o 拢17,000.聽
Nid yw hi鈥檔 gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Cynilion plant

Nid yw arian, cynilion a buddsoddiadau sy鈥檔 perthyn i鈥檆h plant, ac sydd yn eu henw nhw, yn cael eu hystyried wrth asesu eich Credyd Cynhwysol.聽Er enghraifft, nid oes angen i chi ddweud wrthym am gyfrifon cynilo plant yn eu henw nhw fel ISAs Iau a Chronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.

Sut i ddweud wrthym am eich arian, cynilion a buddsoddiadau

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Gofynnir i chi ddweud wrthym am yr holl arian, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych pan fyddwch yn gwneud eich cais. Os nad yw math wedi鈥檌 restru, er enghraifft tystysgrifau Cynilo Cenedlaethol, gallwch roi gwybod i ni gan ddefnyddio鈥檙 opsiwn 鈥榗ynilion a buddsoddiadau eraill鈥.

Rhoi gwybod am newidiadau i鈥檆h arian, cynilion a buddsoddiadau

Rhaid i chi roi gwybod am newidiadau i鈥檆h arian, cynilion a buddsoddiadau cyn gynted ag y byddant yn digwydd.聽Gwnewch hyn drwy fewngofnodi i鈥檆h cyfrif Credyd Cynhwysol, 鈥榬hoi gwybod am newid mewn amgylchiadau鈥 a diweddaru eich 鈥榓rian, cynilion a buddsoddiadau鈥.

Os byddwch yn dweud wrthym yn hwyr neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid, gallech gael gormod o Gredyd Cynhwysol. Gelwir hyn yn ordaliad. Byddwch yn cael llai o Gredyd Cynhwysol bob mis hyd nes y byddwch yn ad-dalu鈥檙 gordaliad.

Mae鈥檔 rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newid yn eich arian, cynilion a buddsoddiadau neu eu gwerth. Gall hyn gynnwys:

  • taliadau etifeddiaeth

  • t芒l diswyddo

  • cyfandaliadau pensiwn ac yswiriant bywyd

  • taliadau iawndal

  • setliadau ysgariad

  • newid yng ngwerth buddsoddiadau neu asedau eraill

Cyplau a newidiadau mewn amgylchiadau

Os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner

Yn eich cyfrif mae angen i chi 鈥榬oi gwybod am newid mewn amgylchiadau鈥 a diweddaru eich manylion 鈥榖yw gyda phartner鈥.聽Yna dylech roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau mewn 鈥榓rian, cynilion a buddsoddiadau鈥.

Os yydych nawr yn rhan o gwpl sy鈥檔 byw gyda鈥檌 gilydd

Yn eich cyfrif mae angen i chi 鈥榬oi gwybod am newid mewn amgylchiadau鈥 a diweddaru eich manylion 鈥榖yw gyda phartner鈥.

Lleihau eich arian, cynilion a buddsoddiadau ar bwrpas

Os ydych yn fwriadol yn lleihau eich arian, cynilion a buddsoddiadau, neu鈥檔 eu trosglwyddo i rywle arall i gael neu gynyddu eich Credyd Cynhwysol, gelwir hyn yn 鈥榓mddifadu cyfalaf鈥.

Nid ydych wedi lleihau eich arian, cynilion a buddsoddiadau yn fwriadol os yw wedi cael ei ddefnyddio i:

  • dalu neu leihau dyled

  • talu am nwyddau a gwasanaethau a oedd yn rhesymol o dan eich amgylchiadau

Os penderfynwn eich bod wedi lleihau eich arian, cynilion neu fuddsoddiadau yn fwriadol, bydd eich Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar pe byddech yn dal gydag ef. Gelwir hyn yn 鈥榞yfalaf tybiannol鈥.

Twyll

Efallai y cewch eich erlyn neu bydd angen i chi dalu cosb os ydych yn ceisio effeithio ar eich dyfarniad Credyd Cynhwysol drwy:

  • leihau eich arian, cynilion neu fuddsoddiadau yn fwriadol

  • rhoi gwybodaeth ffug yn fwriadol am eich arian, cynilion neu fuddsoddiadau

Taliadau iawndal a chymorth lles

Nid yw rhai taliadau iawndal a chymorth lles yn cael eu hystyried fel cynilion naill ai am gyfnod amhenodol neu hyd at 12 mis.

Byddwn angen gwybod manylion am daliadau iawndal a lles rydych wedi鈥檜 derbyn.

Iawndal salwch ac anaf personol

Ni chymerir taliadau iawndal salwch ac anaf personol i ystyriaeth am y 12 mis cyntaf ar 么l i chi eu derbyn.

Ar 么l 12 mis, dim ond taliadau anaf personol neu salwch sy鈥檔 cael eu rhoi mewn ymddiriedolaeth neu a ddefnyddir i brynu blwydd-dal sydd ddim yn cael eu hystyried.

Cynlluniau iawndal arbennig

Nid yw taliadau o鈥檙 cynlluniau iawndal arbennig canlynol yn cael eu cyfrif fel arian, cynilion neu fuddsoddiadau:

  • Cynllun Ymddiriedolaeth Ymfudwyr Plant ar gyfer cyn-fewnfudwyr plant o Brydain

  • T芒n T诺r Grenfell ar 14 Mehefin 2017

  • System TG Horizon neu Bates and Others v Post Office Ltd gan Swyddfa鈥檙 Post neu鈥檙 ysgrifennydd gwladol

  • carcharu, llafur dan orfod, anaf, colli eiddo, neu golli plentyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd

  • cynlluniau iawndal gwaed heintiedig: Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Lloegr, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru, Infected Blood Payment Scheme for Northern Ireland, Macfarlane Trust, Eileen Trust, MFET Ltd, Skipton Fund, Caxton Foundation

  • Cam-drin Plant Sefydliadol yn y DU

  • Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol LGBT

  • Bomio Llundain ar 7 Gorffennaf 2005

  • Bomio Manceinion ar 22 Mai 2017

  • Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol

  • ymosodiadau terfysgol yn Llundain ar 22 Mawrth 2017 neu 3 Mehefin 2017

  • Cynllun Talu Difrod Brechlyn

  • diagnosis amrywiolyn Clefyd Creutzfeldt-Jacob (vCJD)

  • Dioddefwyr Cynllun Iawndal Terfysgaeth Dramor

  • Croes Fictoria neu Croes Sior

  • Cynllun Iawndal Windrush

Nid yw鈥檙 rhestr hon o gynlluniau iawndal arbennig yn gynhwysfawr.

Taliadau cymorth lles

Nid yw鈥檙 taliadau cymorth lles canlynol yn cael eu cyfrif fel arian, cynilion neu fuddsoddiadau am hyd at 12 mis ar 么l i chi eu derbyn:

  • taliadau 么l-daliadau budd-daliadau, gyda neu heb iawndal am daliad hwyr

  • Taliadau Cymorth Profedigaeth (Lwfans Rhiant Gweddw yn gynt)

  • taliadau lles cynghorau lleol o dan y Ddeddf Plant, y Ddeddf Gwaith Cymdeithasol neu Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

  • Taliadau鈥檙 Gronfa Gymdeithasol, o dan y Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau

Nid yw鈥檙 taliadau cymorth lles yr Alban canlynol yn cael eu cyfrif fel arian, cynilion neu fuddsoddiadau am hyd at 12 mis ar 么l i chi eu derbyn:

  • Cymorth i Ofalwyr (Grantiau Gofalwyr Ifanc)

  • Cymorth Blynyddoedd Cynnar

  • Cymorth Costau Angladd

  • Cymorth Gwresogi Gaeaf

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Chwefror 2025 show all updates
  1. Added LGBT Financial Recognition Scheme to the list of special compensation schemes that are not counted as money, savings or investments.

  2. Added 'infected blood compensation schemes' to the list of special compensation schemes that are not counted as money, savings or investments.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon