Gwasanaeth rheithgor

Printable version

1. Sut mae gwasanaeth rheithgor yn gweithio

Os cewch wÅ·s rheithgor yn y post, rhaid i chi ymateb o fewn 7 diwrnod a chadarnhau a allwch chi fod yn bresennol.

Dewiswyd eich enw ar hap o’r gofrestr etholiadol.

Byddwch yn rhan o reithgor o 12 o bobl a fydd yn penderfynu ar ganlyniad treial troseddol.

Gallwch wylio . Mae yna .

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer gwasanaeth rheithgor a .

Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pa mor hir y mae gwasanaeth rheithgor yn para

Fel arfer, mae gwasanaeth rheithgor yn para hyd at 10 diwrnod gwaith.

Os yw’r treial yn debygol o bara mwy na 10 diwrnod, bydd staff y rheithgor yn rhoi gwybod i chi. Os yw’r treial yn fyrrach na 10 diwrnod, efallai y gofynnir i chi fod yn rheithiwr mewn treialon eraill.

Fel arfer bydd angen i chi fod yn y llys rhwng 10am a 5:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond gall yr amseroedd amrywio.

Bydd angen i chi gyrraedd y llys yn gynharach ar eich diwrnod cyntaf. Edrychwch ar eich llythyr gwÅ·s i gael gwybod yr union amser.

Beth allwch ei hawlio

Ni fyddwch yn cael eich talu am wneud gwasanaeth rheithgor, ond gallwch hawlio rhywfaint o arian yn ôl os byddwch yn colli enillion. Gallwch hefyd hawlio rhai costau, er enghraifft teithio.

Darganfyddwch beth allwch chi ei hawlio:

2. Beth allwch ei hawlio os ydych yn weithiwr cyflogedig

Ni fyddwch yn cael eich talu am wasanaethu ar reithgor, ond gallwch hawlio rhywfaint o arian yn ôl os effeithir ar eich enillion. Am bob diwrnod rydych chi yn y llys, fel arfer gallwch hawlio:

  • hyd at £64.95 i helpu i dalu am golli enillion a chost unrhyw ofal neu ofal plant y tu allan i’ch trefniadau arferol
  • £5.71 ar gyfer bwyd a diod
  • cost teithio i’r llys ac o’r llys

Byddwch yn cael gwybod sut i hawlio treuliau ar ôl i’ch gwasanaeth rheithgor ddod i ben.

Cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith

Rhowch gopi o’ch gwŷs rheithgor i’ch cyflogwr.

Rhaid i’ch cyflogwr ganiatáu amser i ffwrdd o’r gwaith i chi ond gall ofyn ichi ohirio eich gwasanaeth rheithgor os bydd eich absenoldeb yn cael effaith fawr ar fusnes.

Problemau gyda’ch cyflogwr

Os na chaniateir i chi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i wasanaethu ar reithgor, gallwch wneud cwyn i dribiwnlys cyflogaeth.

Os cewch eich diswyddo oherwydd eich bod yn gwasanaethu ar reithgor, efallai y gallwch wneud hawliad am ddiswyddo annheg.

Cael eich talu yn ystod gwasanaeth rheithgor

Gall eich cyflogwr ddewis eich talu neu beidio eich talu yn ystod eich gwasanaeth rheithgor.

Os na fydd yn eich talu, gallwch wneud cais i’r llys am golli enillion.

Os ydych yn cael budd-daliadau neu gymorth ariannol

Dangoswch eich gwŷs rheithgor i’ch swyddfa fudd-daliadau neu eich hyfforddwr gwaith cyn gynted ag y byddwch yn ei chael.

Byddwch yn dal i gael cymorth ariannol a budd-daliadau (fel Credyd Cynhwysol) am yr 8 wythnos gyntaf. Ar ôl hynny, bydd y llys yn rhoi ffurflen colli enillion i chi er mwyn ichi ei rhoi i’ch swyddfa fudd-daliadau neu hyfforddwr gwaith.

Beth allwch ei hawlio

Mae yna gyfyngiad ar faint allwch chi ei hawlio am bob diwrnod rydych yn y llys.

Colli enillion, gofal plant a chostau gofal eraill

Mae faint y gallwch ei hawlio am golli enillion a chostau gofal yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth rheithgor a faint o oriau y byddwch chi’n eu treulio yn y llys bob diwrnod.

Am 10 diwrnod cyntaf y gwasanaeth rheithgor, gallwch hawlio hyd at:

  • £64.95 y diwrnod os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
  • £32.47 y diwrnod os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys

Os yw eich gwasanaeth rheithgor yn para’n hirach na 10 diwrnod gwaith, mae’r swm y gallwch ei hawlio yn cynyddu. Byddwch yn gallu hawlio hyd at:

  • £129.91 y diwrnod os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
  • £64.95 y diwrnod os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys

Costau teithio a pharcio

Mae’r swm y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar sut rydych yn teithio i’r llys

Sut rydych yn teithio i’r llys Bydd y llys yn talu
Bws neu drên danddaearol Cost y tocyn
°Õ°ùê²Ô Cost y tocyn (tocyn dwy ffordd safonol)
Beic 9.6c y filltir
Beic modur 31.4c y filltir
Car 31.4c y filltir - gwiriwch a fydd y llys yn talu am gostau parcio
Car - gydag un rheithiwr arall fel teithiwr 4.2c y filltir
Car - ar gyfer pob teithiwr ychwanegol 3.2c y filltir
Tacsi Y pris – gofynnwch am ganiatâd gan y llys cyn defnyddio tacsi

Bwyd a diod

Mae faint y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar faint o oriau rydych chi’n eu treulio yn y llys bob diwrnod.

Amser a dreulir bob diwrnod: Bydd y llys yn talu hyd at
Hyd at ac yn cynnwys 10 awr y diwrnod £5.71 y diwrnod
Dros 10 awr y diwrnod £12.17 y diwrnod

Amcangyfrifwch eich treuliau

Gallwch .

3. Beth allwch ei hawlio os ydych yn hunangyflogedig

Ni fyddwch yn cael eich talu am wasanaeth rheithgor, ond fe allwch hawlio peth o’r arian yn ôl os cafodd eich enillion eu heffeithio. Am bob diwrnod fyddwch chi’n y llys, fel arfer gallwch hawlio:

  • hyd at £64.95 i helpu tuag at dalu am enillion a gollwyd a’r gost o unrhyw ofal neu ofal plant y tu allan i’ch trefniadau arferol
  • £5.71 ar gyfer bwyd a diod
  • y gost o deithio i’r llys ac yn ôl

Byddwch yn cael gwybod sut i hawlio treuliau ar ôl i’ch gwasanaeth rheithgor ddod i ben.

Gallwch ofyn am gael gohirio eich gwasanaeth rheithgor os na allwch wasanaethu ar reithgor ar y dyddiadau yn eich llythyr gŵys.

Os ydych yn cael budd-daliadau neu gymorth ariannol

Dangoswch eich gŵys i’ch swyddfa budd-daliadau neu’ch hyfforddwr gwaith cyn gynted â’ch bod yn ei gael.

Byddwch yn parhau i gael cymorth ariannol a budd-daliadau (fel Credyd Cynhwysol) am yr 8 wythnos cyntaf. Wedi hynny, bydd y llys yn rhoi ffurflen colli enillion i chi i’w rhoi i’ch swyddfa budd-daliadau neu hyfforddwr gwaith.

Beth allwch ei hawlio

Mae yna gyfyngiad ar faint allwch chi ei hawlio am bob diwrnod rydych yn y llys.

Enillion a gollwyd, gofal plant a chostau gofal eraill

Mae faint allwch chi ei hawlio i gymryd lle enillion a gollwyd a chostau gofal yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth rheithgor a faint o oriau fyddwch chi’n eu treulio yn y llys bob diwrnod.

Am 10 diwrnod cyntaf y gwasanaeth rheithgor, gallwch hawlio hyd at:

  • £64.95 y dydd os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
  • £32.47 y dydd os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys

Os bydd eich gwasanaeth rheithgor yn parhau am fwy na 10 diwrnod gwaith, bydd faint allwch chi ei hawlio yn cynyddu. Byddwch yn gallu hawlio hyd at:

  • £129.91 y dydd os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
  • £64.95 y dydd os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys

Costau teithio a pharcio

Bydd faint allwch chi ei hawlio yn dibynnu ar sut fyddwch chi’n teithio i’r llys.

Sut fyddwch chi’n teithio i’r llys Bydd y llys yn talu
Bws neu drên danddaearol Cost y tocyn
°Õ°ùê²Ô Cost y tocyn (pris dosbarth safonol dwyffordd)
Beic 9.6c y filltir
Beic modur 31.4c y filltir
Car 31.4c y filltir – gwiriwch a fydd y llys yn talu am gostau parcio
Car - gydag un rheithiwr arall fel teithiwr 4.2c y filltir
Car – ar gyfer pob teithiwr ychwanegol 3.2c y filltir
Tacsi Y pris – gofynnwch i’r llys am ganiatâd cyn defnyddio tacsi

Bwyd a diod

Bydd faint allwch chi ei hawlio yn dibynnu ar faint o oriau fyddwch chi’n ei dreulio yn y llys bob dydd.

Amser a dreulir bob dydd Bydd y llys yn talu hyd at
Hyd at ac yn cynnwys 10 awr y dydd £5.71 y dydd
Dros 10 awr y dydd £12.17 y dydd

Amcangyfrif eich costau

Gallwch .

4. Beth allwch ei hawlio os nad ydych yn gweithio

Ni fyddwch yn cael eich talu am wasanaethu ar reithgor, ond gallwch hawlio rhywfaint o arian yn ôl os effeithir ar eich enillion. Am bob diwrnod rydych chi yn y llys, fel arfer gallwch hawlio:

  • hyd at £64.95 i helpu i dalu am golli enillion a chost unrhyw ofal neu ofal plant y tu allan i’ch trefniadau arferol
  • £5.71 ar gyfer bwyd a diod
  • cost teithio i’r llys ac o’r llys

Byddwch yn cael gwybod sut i hawlio treuliau ar ôl i’ch gwasanaeth rheithgor ddod i ben.

Gallwch ofyn am gael gohirio eich gwasanaeth rheithgor os na allwch wasanaethu ar reithgor ar y dyddiadau yn eich llythyr gwÅ·s.

Os ydych yn cael budd-daliadau neu gymorth ariannol

Dangoswch eich gwŷs rheithgor i’ch swyddfa fudd-daliadau neu eich hyfforddwr gwaith cyn gynted ag y byddwch yn ei chael.

Byddwch yn dal i gael cymorth ariannol a budd-daliadau (fel Credyd Cynhwysol) am yr 8 wythnos gyntaf. Ar ôl hynny, bydd y llys yn rhoi ffurflen colli enillion i chi er mwyn ichi ei rhoi i’ch swyddfa fudd-daliadau neu hyfforddwr gwaith.

Beth allwch ei hawlio

Mae yna gyfyngiad ar faint allwch chi ei hawlio am bob diwrnod rydych yn y llys.

Costau gofal plant a chostau gofal eraill os nad ydych yn gweithio

Mae faint y gallwch ei hawlio ar gyfer costau gofal yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth rheithgor a faint o oriau y byddwch chi’n eu treulio yn y llys bob diwrnod.

Am 10 diwrnod cyntaf y gwasanaeth rheithgor, gallwch hawlio hyd at:

  • £64.95 y diwrnod os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
  • £32.47 y diwrnod os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys

Os yw eich gwasanaeth rheithgor yn para’n hirach na 10 diwrnod gwaith, mae’r swm y gallwch ei hawlio yn cynyddu. Byddwch yn gallu hawlio hyd at:

  • £129.91 y diwrnod os ydych yn treulio mwy na 4 awr yn y llys
  • £64.95 y diwrnod os ydych yn treulio 4 awr neu lai yn y llys

Costau teithio a pharcio

Mae’r swm y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar sut rydych yn teithio i’r llys.

Sut rydych yn teithio i’r llys Bydd y llys yn talu
Bws neu drên danddaearol Cost y tocyn
°Õ°ùê²Ô Cost y tocyn (tocyn dwy ffordd safonol)
Beic 9.6c y filltir
Beic modur 31.4c y filltir
Car 31.4c y filltir - gwiriwch a fydd y llys yn talu am gostau parcio
Car – gydag un rheithiwr arall fel teithiwr 4.2c y filltir
Car - ar gyfer pob teithiwr ychwanegol 3.2c y filltir
Tacsi Y pris – gofynnwch am ganiatâd gan y llys cyn defnyddio tacsi

Bwyd a diod

Mae faint y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar faint o oriau rydych chi’n eu treulio yn y llys bob diwrnod.

Amser a dreulir bob diwrnod Bydd y llys yn talu hyd at
Hyd at ac yn cynnwys 10 awr y diwrnod £5.71 y diwrnod
Dros 10 awr y diwrnod £12.17 y diwrnod

Amcangyfrifwch eich treuliau

Gallwch .

5. Gofyn am gael newid y dyddiad neu gael eich esgusodi

Os na allwch wneud gwasanaeth rheithgor ar y dyddiadau yn eich llythyr gwÅ·s, gallwch ofyn am newid y dyddiad neu gael eich esgusodi.

Gofyn am newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor

Efallai y byddwch yn gallu newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor i ddyddiad arall o fewn y 12 mis nesaf. Bydd angen rheswm da arnoch chi, er enghraifft:

  • rydych yn cael llawdriniaeth
  • rydych chi’n sefyll arholiad
  • ni fydd eich cyflogwr yn rhoi amser i ffwrdd o’r gwaith ichi
  • rydych wedi trefnu gwyliau
  • rydych chi’n rhiant newydd

Dim ond unwaith y gallwch ofyn am newid y dyddiad.

I newid y dyddiad, dylech ymateb i’ch gwŷs rheithgor gan esbonio’ch rhesymau yn fanwl. Pan fyddwch yn ateb gallwch awgrymu 3 dyddiad posibl yn y 12 mis nesaf sy’n gyfleus i chi.

Gofyn am gael eich esgusodi o wasanaeth rheithgor

Os nad yw’n bosibl i chi wneud gwasanaeth rheithgor yn ystod y 12 mis nesaf, gallwch ofyn am gael eich esgusodi. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir i chi wneud hyn, er enghraifft:

  • mae gennych salwch neu anabledd difrifol sy’n eich atal rhag gwneud gwasanaeth rheithgor
  • rydych yn ofalwr llawn amser i rywun sydd â salwch neu anabledd
  • rydych yn rhiant newydd ac ni fyddwch yn gallu gwasanaethu ar unrhyw adeg arall yn ystod y 12 mis nesaf

Gallwch hefyd ofyn am gael eich esgusodi rhag gwasanaethu ar reithgor os ydych chi wedi gwneud hynny yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.

Os na fyddwch chi’n gwneud gwasanaeth rheithgor y tro hwn, fe allech chi gael gwŷs arall yn y dyfodol.

I ofyn am gael eich esgusodi, dylech ymateb i’ch gwŷs rheithgor gan esbonio’ch rhesymau yn fanwl. Efallai y bydd angen i chi roi tystiolaeth, er enghraifft, os ydych chi’n sâl, efallai y gofynnir am lythyr gan eich meddyg.

Os caiff eich cais ei wrthod, gallwch ofyn am newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor.

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad

Gallwch apelio os gwrthodir eich cais i newid dyddiad eich gwasanaeth rheithgor neu gael ei esgusodi. Ysgrifennwch at y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor, gan nodi:

  • pam rydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad
  • eich rhif rheithiwr (mae hwn ar eich llythyr gwÅ·s)
  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • eich dyddiad geni
  • enw a chyfeiriad y llys yr ydych wedi cael eich gwysio iddo
  • dyddiadau eich gwasanaeth rheithgor

Pennaeth y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
Phoenix House
Bradford
BD3 7BH

ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Cael help

Cysylltwch â’r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor os oes gennych gwestiynau am wasanaeth rheithgor.

Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5173
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

6. Gofyn am addasiadau rhesymol

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, gall y llysoedd wneud addasiadau rhesymol i’ch helpu pan fyddwch yn gwasanaethu ar reithgor.

Gall addasiadau gynnwys:

  • rampiau
  • mynediad i doiledau hygyrch
  • dolen clyw
  • canllawiau mewn fformatau amgen, fel print bras, sain neu braille
  • Cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Gofynnwch am y cymorth y bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn ymateb i’ch gwŷs rheithgor

Os hoffech drafod eich anghenion neu drefnu ymweliad â’r llys, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor hyd at wythnos cyn i’ch gwasanaeth rheithgor ddechrau.

E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5173
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Os bydd eich gwasanaeth rheithgor yn dechrau mewn llai nag wythnos, dylech gysylltu â’r llys i drafod addasiadau.

Os ydych chi eisoes yn y llys er mwyn gwasanaethu ar reithgor a bod arnoch angen addasiadau, siaradwch â’r swyddog rheithgor.

7. Ymateb i'r wÅ·s

Mae’n rhaid i chi ymateb i’ch gwŷs rheithgor o fewn 7 diwrnod o’i chael.

Gallwch naill ai:

Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen neu’n dod i’r llys i wasanaethu ar y rheithgor.

Ar ôl i chi ymateb

Bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn anfon llythyr atoch i gadarnhau manylion eich gwasanaeth rheithgor, gan gynnwys pryd a ble y bydd yn digwydd.

Os gwnaethoch ofyn am newid y dyddiad neu gael eich esgusodi, bydd y llythyr yn egluro a dderbyniwyd eich cais.

Bydd angen i chi ddod â’ch gwŷs neu eich llythyr cadarnhau i’r llys gyda chi ar ddiwrnod cyntaf eich gwasanaeth rheithgor.

Cael help

Cysylltwch â’r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor os oes gennych gwestiynau am wasanaeth rheithgor neu am benderfyniad.

Efallai y bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn gallu newid lleoliad eich gwasanaeth rheithgor os ydych wedi cael eich galw i lys ymhell o ble rydych chi’n byw. Er enghraifft, os ydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar neu os ydych chi yn y brifysgol a’ch bod chi wedi cael eich galw i lys ger eich cartref teuluol.

Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5173
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Cysylltwch â’r llys:

  • os ydych angen cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y llys
  • os oes gennych gwestiwn am hawlio treuliau

8. Mynd i'r llys fel rheithiwr

Ar eich diwrnod cyntaf, dylech ddod â’r canlynol efo chi:

  • eich ffurflen wÅ·s rheithgor neu lythyr yn cadarnhau eich gwasanaeth rheithgor
  • dogfen i brofi pwy ydych, fel eich pasbort, trwydded yrru gyda llun neu ddogfennau gan y Swyddfa Gartref sy’n dangos eich statws mewnfudo yn y DU

Os nad oes gennych ddogfen felly, gallwch ddod ag unrhyw 2 ddogfen o blith y canlynol:

  • eich tystysgrif geni
  • eich cerdyn credyd gyda 3 cyfriflen a phrawf o’ch llofnod
  • eich llyfr siec a’ch cerdyn banc gyda 3 cyfriflen banc a phrawf o’ch llofnod
  • 3 bil cyfleustodau yn dangos eich enw a’ch cyfeiriad

Gliniaduron, tabledi a ffonau symudol

Gallwch ddod â ffôn symudol, tabled neu liniadur i mewn i adeilad y llys a’i ddefnyddio yn ardal ymgynnull y rheithgor.

Ni allwch fynd â ffôn, gliniadur na thabled i’r ystafell drafod. Mae gan bob llys loceri neu rywle y gallwch chi storio’ch eitemau personol yn ddiogel.

Mae Wi-Fi am ddim yn y rhan fwyaf o lysoedd.

Beth i’w wisgo

Nid oes cod gwisg caeth a gallwch wisgo’r dillad rydych chi’n gyffyrddus ynddynt, fel jîns a chrys-t.

Ni allwch wisgo:

  • dillad anffurfiol iawn, fel dillad glan môr
  • unrhyw beth ar eich pen, oddieithr am resymau crefyddol

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn cyrraedd y llys

Caniatewch amser ychwanegol i fynd trwy’r drefn ddiogelwch yn y llys

Bydd staff y llys yn dangos i chi ble mae ardal ymgynnull y rheithgor a bydd rheolwr y rheithgor yn:

  • rhoi eglurhad ichi ynglÅ·n â gwasanaeth rheithgor
  • egluro eich cyfrifoldebau
  • dweud wrthych pa dreuliau y gallwch eu hawlio a sut i’w hawlio

9. Trafod y treial

Peidiwch â thrafod y treial gydag unrhyw un nes y bydd wedi gorffen, ac eithrio gydag aelodau eraill y rheithgor yn yr ystafell drafod.

Ar ôl y treial, ni ddylech siarad am yr hyn a ddigwyddodd yn yr ystafell drafod, hyd yn oed gydag aelodau’r teulu. Gallwch siarad am yr hyn a ddigwyddodd yn y llys.

Peidiwch â rhoi sylwadau am y treial ar wefannau cyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed ar ôl i’r treial ddod i ben. Mae hyn yn ddirmyg llys a gallwch gael dirwy neu eich anfon i’r carchar.

Os bydd rhywun yn dod atoch i geisio siarad am y treial

Dywedwch wrth swyddog llys os bydd rhywun yn cysylltu â chi ynglŷn â’r achos. Os daw rhywun atoch i geisio siarad am y treial y tu allan i’r llys, dywedwch wrth swyddog heddlu.

Os bydd y treial yn peri gofid ichi

Efallai y bydd y treial yn peri gofid i chi ac y byddwch eisiau siarad â rhywun yn breifat. Siaradwch â staff y llys - byddant yn rhoi cyngor i chi.

Am gymorth emosiynol, siaradwch â’ch meddyg teulu i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael. Gallwch hefyd gysylltu â’r - er na allant roi cyngor.

10. Sut i hawlio treuliau

Gwnewch gais am dreuliau ar ddiwedd eich gwasanaeth rheithgor - a dim mwy na 12 mis ar ôl i’ch gwasanaeth rheithgor ddechrau.

Fel arfer byddwch yn cael eich talu o fewn 7 i 10 diwrnod gwaith ar ôl ichi gyflwyno’ch ffurflen.

Efallai y bydd y llys yn gallu talu eich treuliau yn ystod y treial os yw’n debygol o bara am amser hir neu os ydych yn wynebu caledi ariannol. Gofynnwch i staff y rheithgor am fwy o wybodaeth.

Costau bwyd, diod a theithio

Llenwch y ffurflen gais a gawsoch ar ddechrau eich gwasanaeth rheithgor. Dychwelwch hi i’r llys gyda’r derbynebau perthnasol.

Colli enillion

Mae’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu ar pa un a ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig.

Os ydych chi’n weithiwr cyflogedig

Mae angen i’ch cyflogwr lenwi ffurflen golli enillion os yw wedi dweud wrthych nad yw’n mynd i’ch talu yn ystod y gwasanaeth rheithgor. Dewch â’r ffurflen i’r llys ar ddiwrnod cyntaf eich gwasanaeth rheithgor.

Os ydych yn hunangyflogedig

Llenwch ffurflen golli enillion ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig. Bydd angen i chi gynnwys tystiolaeth o enillion a gollwyd, fel eich ffurflen dreth ddiweddaraf.

Costau gofal a gofal plant

Mae angen i chi a’r gofalwr lenwi’r ffurflen dreuliau gofal i hawlio costau y tu allan i’ch trefniadau gofal arferol.

Os ydych chi’n defnyddio gwarchodwr plant cofrestredig, mae angen i’r gwarchodwr ysgrifennu ei rif Ofsted ar y ffurflen. Os yw aelod o’r teulu neu ffrind yn gofalu am eich plant, rhaid iddynt ysgrifennu llythyr yn dweud faint o oriau y maent wedi gofalu am eich plentyn.

Dewch â thystysgrif geni neu basbort eich plentyn i’r llys yn ystod eich gwasanaeth neu atodwch gopi at y ffurflen hawlio.

Dychwelwch y ffurflen i’r llys gyda thystiolaeth o gost y gofal, er enghraifft anfonebau neu dderbynebau.

Cwestiynau am dreuliau

Cysylltwch â’r llys lle gwnaethoch eich gwasanaeth rheithgor os oes gennych gwestiynau am dreuliau.