Hawlio budd-daliadau os ydych yn byw, symud neu鈥檔 teithio dramor
Credyd Cynhwysol
Credyd Cynhwysol
Os ewch dramor, gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol am fis.
Mae鈥檔 rhaid i chi:
- fod yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol pan fyddwch yn mynd dramor
- parhau i fod yn gymwys ar ei gyfer tra byddwch dramor
- dywedwch wrth eich anogwr gwaith eich bod yn mynd
Os bydd perthynas agos yn marw tra鈥檆h bod dramor ac na fyddai鈥檔 rhesymol i chi ddod yn 么l i鈥檙 DU, gallwch gael Credyd Cynhwysol am fis arall.
Ni allwch gael Credyd Cynhwysol os ydych yn symud dramor yn barhaol.
Ni allwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych eisoes dramor.
Mynd dramor am driniaeth feddygol
Gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol am hyd at 6 mis os:
- ydych yn mynd dramor i gael triniaeth feddygol
- mae eich partner neu blentyn yn mynd dramor i gael triniaeth feddygol a鈥檆h bod yn mynd gyda nhw
Os ydych chi鈥檔 forwr neu鈥檔 weithiwr silff cyfandirol
Os oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn mynd dramor, gallwch barhau i鈥檞 gael am hyd at 6 mis.