Cymorth ariannol os ydych yn anabl
Trosolwg
Mae ystod eang o gymorth ariannol sy鈥檔 gysylltiedig ag anabledd, gan gynnwys budd-daliadau, credydau treth, taliadau, grantiau a consesiynau.
Rhai budd-daliadau y gallech eu cael yw:
- Credyd Cynhwysol
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA)
- Lwfans Gweini
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) Dull Newydd
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael:
- Budd-dal Anafiadau Diwydiannol os ydych yn anabl o ganlyniad i waith
- Lwfans Gweini Cyson os oes angen gofal a sylw bob dydd arnoch oherwydd anabledd
惭补别鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cerbydau a thrafnidiaeth
Os ydych yn anabl gallwch wneud cais am y canlynol:
- eithriad o dalu treth cerbyd
- manteision parcio - Bathodyn Glas
- tocyn bws i bobl anabl neu
- cymorth i brynu neu brydlesu car o y
Cartref a thai
Os ydych wedi鈥檆h hasesu gan eich cyngor lleol fel bod angen gwasanaethau gofal a chymorth, gallwch gael:
- 鈥 sydd yn eich galluogi i brynu i mewn a threfnu help eich hun yn hytrach na鈥檌 gael yn uniongyrchol gan y gwasanaethau cymdeithasol
- Grantiau Cyfleusterau i鈥檙 Anabl 鈥 sydd yn arian tuag at gostau addasiadau cartref i鈥檆h galluogi i barhau i fyw yno
Os ydych ar incwm isel
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a gallech gael cymorth gyda chostau tai.
Os nad ydych, gwiriwch os ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth Cyngor gan eich cyngor lleol.
Help os ydych yn gyflogedig
Efallai y gallwch ychwanegu at gyflog isel trwy hawlio Credyd Cynhwysol.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael grant Mynediad at Waith i dalu am:
- offer arbennig, addasiadau neu wasanaethau gweithwyr cymorth i鈥檆h helpu i wneud pethau fel ateb y ff么n neu fynd i gyfarfodydd
- helpu i gyrraedd gwaith ac i ddod yn 么l o鈥檙 gwaith
- cefnogaeth iechyd meddwl
- cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd (er enghraifft, dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu wefuslefarydd)
Rhyddhad TAW ar rai nwyddau a gwasanaethau
Nid oes rhaid talu VAT ar rai nwyddau a gwasanaethau os ydynt ar gyfer eich defnydd eich hun ac rydych yn anabl neu鈥檔 dioddef o salwch hirdymor.
Iawndal lluoedd arfog
Efallai y gallwch chi cael iawndal os ydych wedi鈥檆h anafu neu wedi dod yn anabl wrth wasanaethu yn y lluoedd arfog.