Lawrlwytho Offer TWE Sylfaenol CThEF

Mae Offer TWE Sylfaenol yn feddalwedd gyflogres sy’n rhad ac am ddim gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar gyfer busnesau sydd â llai na 10 cyflogai.

²Ñ²¹±ð’r arweiniad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Yr hyn y mae’n ei wneud

²Ñ²¹±ð’r feddalwedd yn eich galluogi i weithredu’r rhan fwyaf o dasgau’r gyflogres, gan gynnwys cyfrifo’r dreth a’r Yswiriant Gwladol ar gyfer eich cyflogeion ac anfon yr wybodaeth hon at CThEF.

Os oes gennych feddalwedd gyflogres na all wneud rhai tasgau, gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol ochr yn ochr â hi (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gwneud y canlynol:

  • gwirio rhif Yswiriant Gwladol cyflogai newydd
  • anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr
  • anfon Diweddariad Blwyddyn Gynharach - ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020

Mae gan Offer TWE Sylfaenol rai cyfyngiadau. Nid yw wedi’i gynllunio ar gyfer asiantau na llyfrifwyr. Mae meddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) arall ar gael.

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda CThEF fel cyflogwr a bod â’r gallu i fewngofnodi ar gyfer TWE Ar-lein cyn y gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol.

Lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf o Offer TWE Sylfaenol

Bydd y feddalwedd yn gweithio gyda’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron newydd a’r porwyr mwyaf diweddar.

Os yw’ch cyfrifiadur yn rhan o rwydwaith o gyfrifiaduron, efallai ni fydd modd i chi lawrlwytho unrhyw feddalwedd. Cysylltwch â Gwasanaethau TG eich rhwydwaith i gael cymorth.

Os ydych yn cael anawsterau wrth lawrlwytho neu wrth agor Offer TWE Sylfaenol, gwiriwch argaeledd y gwasanaeth ac a oes unrhyw broblemau ynghylch y gwasanaeth (yn agor tudalen Saesneg) am beth fedrwch chi ei wneud.

²Ñ²¹±ð’r arweiniad ynghylch sut i ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol (yn agor tudalen Saesneg) yn esbonio sut i lawrlwytho’r feddalwedd, ei gosod, a’i defnyddio i ddechrau anfon gwybodaeth am y gyflogres i CThEF.

Diweddaru’r feddalwedd

Bydd y fersiwn ddiweddaraf o Offer TWE Sylfaenol yn gwirio am ddiweddariadau yn awtomatig, fel arfer pan fydd y flwyddyn dreth yn newid neu pan ddaw rheolau newydd i rym. Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn dewis yr opsiwn i ddiweddaru yn ‘gosodiadau’ y feddalwedd pan fyddwch yn ei gosod am y tro cyntaf.

Y fersiwn ddiweddaraf yw 25.1.25092.226. Caiff rhif y fersiwn ei ddangos yn y gornel chwith ar waelod yr offeryn.

Peidiwch â dadosod y fersiwn o’r feddalwedd yr ydych wedi bod yn ei defnyddio, neu byddwch yn colli data’r gyflogres.

Gofynion sylfaenol o ran caledwedd

Dyma’r gofynion sylfaenol o ran caledwedd sydd ei angen arnoch er mwyn defnyddio’r Offer TWE Sylfaenol:

  • Intel(R) Core (i3/i5/i7/i9), AMD cyfatebol, neu fwy
  • 4 GB RAM
  • 80 GB, disg caled 7200 rpm
  • Caledwedd fideo abl DirectX 11 (neu fwy)

Systemau gweithredu sy’n cael eu cynnal

²Ñ²¹±ð’r systemau gweithredu canlynol yn cael eu cynnal:

  • Windows 10 a 11Ìý
  • macOS fersiwn 14 ‘Sonoma’ ac 15 ‘Sequoia’
  • Ubuntu Linux fersiwn 24.04 LTS a 24.10

Dim ond systemau gweithredu sy’n cydweddu â fersiynau 64-bit Intel/AMD sy’n cael eu cynnal. Mae MacOS hefyd wedi’i gynnal ar broseswyr Apple Silicon (M1).

Porwyr sy’n cael eu cynnal

Gallwch ddefnyddio’r porwyr canlynol os oes angen meddalwedd gynorthwyol arnoch:

  • Microsoft Edge (Windows yn unig)
  • Google Chrome
  • Mozilla Firefox
  • Apple Safari (macOS yn unig)

Anghenion eraill

Mae angen cysylltiad gweithredol i’r rhyngrwyd arnoch ar gyfer y canlynol:

  • cyflwyno gwybodaeth am y gyflogres ar-lein
  • diweddariadau awtomatig
  • nodweddion e-bost
  • cysylltiadau i’r we

Bydd angen Adobe Reader, neu feddalwedd gyfatebol sy’n cydweddu, i allu agor ffurflenni argraffadwy.