Lwfans Pâr Priod

Printable version

1. Trosolwg

Gallai Lwfans Pâr Priod leihau eich bil treth gan swm sydd rhwng £436 a £1,127 y flwyddyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallwch hawlio Lwfans Pâr Priod os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil 

  • rydych yn byw gyda’ch priod neu bartner sifil

  • ganed un ohonoch cyn 6 Ebrill 1935

Ar gyfer priodasau cyn 5 Rhagfyr 2005, defnyddir incwm y gŵr i gyfrifo’r Lwfans Pâr Priod. Ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil ar ôl y dyddiad hwn, incwm y sawl sy’n ennill y mwyaf o gyflog sy’n cael ei ddefnyddio.

Os cawsoch chi a’ch partner eich geni ar neu ar ôl 6 Ebrill 1935, efallai fod modd i chi hawlio Lwfans Priodasol yn lle hynny.

2. Beth y byddwch yn ei gael

Gallai Lwfans Pâr Priod leihau eich bil treth bob blwyddyn os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, gallai ostwng eich bil treth gan swm sydd rhwng £436 a £1,127 y flwyddyn.

Defnyddiwch y gyfrifiannell Lwfans Pâr Priod (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’r hyn y gallech ei gael.

Os byddwch yn priodi neu’n cofrestru partneriaeth sifil, cewch y lwfans ar sail pro rata am weddill y flwyddyn dreth honno.

Os bydd un ohonoch yn marw neu os byddwch yn ysgaru neu’n gwahanu, bydd y lwfans yn parhau hyd nes diwedd y flwyddyn dreth.

Gallwch drosglwyddo’ch Lwfans Pâr Priod i’ch priod neu bartner sifil.

Os ydych chi a’ch priod neu’ch partner sifil wedi gwahanu oherwydd eich amgylchiadau yn hytrach nag yn sgil penderfyniad ffurfiol i wahanu, gallwch hawlio Lwfans Pâr Priod o hyd.

3. Cymhwystra

Gallwch hawlio Lwfans Pâr Priod os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil 

  • rydych yn byw gyda’ch priod neu’ch partner sifil

  • ganed un ohonoch cyn 6 Ebrill 1935

Gallwch hawlio Lwfans Pâr Priod o hyd os na allwch fyw gyda’ch priod neu’ch partner sifil oherwydd:

  • salwch neu henaint, er enghraifft lle bo’ch priod neu’ch partner sifil mewn gofal preswyl

  • gweithio oddi cartref

  • penodiad gan y lluoedd arfog

  • bod mewn carchar

  • hyfforddiant neu addysg  

Defnyddiwch y gyfrifiannell Lwfans Pâr Priod (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’r hyn y gallech ei gael.

4. Sut i hawlio

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad bob blwyddyn

Hawliwch drwy lenwi adran ‘Lwfans Pâr Priod’ y Ffurflen Dreth.

Os nad ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad bob blwyddyn

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF gyda manylion eich:

  • tystysgrif briodas neu bartneriaeth sifil

  • priod neu bartner sifil - gan gynnwys eu dyddiad geni

5. Rhagor o wybodaeth

Trosglwyddo Lwfans Pâr Priod sydd heb ei ddefnyddio ar ôl i’r flwyddyn dreth ddod i ben

Os yw’ch priod neu bartner sifil yn talu treth, gallwch drosglwyddo unrhyw Lwfans Pâr Priod nad ydych wedi’i ddefnyddio oherwydd:

  • nid ydych yn talu treth

  • nid yw’ch bil treth yn ddigon uchel

Llenwch ffurflen 575 neu ofyn i Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i anfon copi atoch drwy’r post. 

Rhannu neu drosglwyddo’ch Lwfans Pâr Priod cyn i’r flwyddyn dreth ddechrau

Gallwch chi neu’ch priod (neu’ch partner sifil) wneud y canlynol:

  • rhannu isafswm y Lwfans Pâr Priod

  • trosglwyddo isafswm cyfan y Lwfans Pâr Priod o’r naill i’r llall

Llenwch ffurflen 18 (yn agor tudalen Saesneg) cyn dechrau’r flwyddyn dreth. Gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael copi drwy’r post.

Lwfansau treth a rhoi i elusen

Os ydych yn talu treth ac yn rhoi arian i elusen yn y DU gan ddefnyddio Rhodd Cymorth, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Gall gynyddu’r lwfansau treth os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1938.