Newid dosbarth treth eich cerbyd

Printable version

1. Newidiadau i gerbydau sy'n effeithio ar dreth

Os byddwch yn gwneud newidiadau i’ch cerbyd gallai effeithio ar:

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae newidiadau sy’n effeithio ar eich cerbyd yn cynnwys:

  • maint yr injan (cc)
  • y math o danwydd
  • y pwysau (cerbydau nwyddau yn unig)
  • nifer y seddi (bysiau yn unig)
  • ar gyfer beth rydych chi’n defnyddio’r cerbyd, er enghraifft defnyddio bws mini i wneud elw

Ni fydd yn rhaid ichi dalu treth cerbyd, neu byddwch yn talu cyfradd is, os yw’n cael ei defnyddio gan:

  • berson anabl
  • sefydliad sy’n darparu cludiant i bobl anabl

Sut i newid dosbarth treth eich cerbyd

Mae sut y byddwch yn newid dosbarth treth eich cerbyd yn dibynnu ar y canlynol:

2. Cyfrifo'r gyfradd dreth newydd

Mae angen ichi gyfrifo a fydd angen ichi dalu mwy o dreth oherwydd y newid.

  1. Darganfod y gyfradd newydd o dreth cerbyd.

  2. Cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau hen a newydd eich treth cerbyd. Er enghraifft, os yw’r hen gyfradd yn £100 a’r gyfradd newydd yn £130, y gwahaniaeth yw £30.

  3. Rhannu’r gwahaniaeth â nifer y misoedd y byddwch yn talu eich treth. Er enghraifft, £30 wedi’i rannu â 12 mis yw £2.50.

  4. Lluosi hwn â nifer y misoedd sy’n weddill ar y dreth. Er enghraifft, £2.50 wedi’i luosi â 4 mis yw £10.

  5. Talu’r dreth cerbyd ychwanegol. Yn yr enghraifft hon byddai angen ichi dalu £10 o dreth ychwanegol.

Os bydd y gyfradd dreth yn cynyddu

Mae’n rhaid ichi dalu’r gyfradd uwch o ddiwrnod cyntaf y mis y byddwch yn newid y gyfradd dreth ynddo.

Er enghraifft Os byddwch yn newid y dosbarth treth ar 25 Mawrth, bydd yn rhaid ichi dalu’r gyfradd uwch o 1 Mawrth.

Os bydd y gyfradd dreth yn gostwng

Rydych yn talu’r gyfradd ostyngol o ddiwrnod cyntaf y mis nesaf.

Er enghraifft Os byddwch yn newid y dosbarth treth ar 25 Mawrth, byddwch yn talu’r gyfradd ostyngol o 1 Ebrill.

3. Y dreth ddim ar fin dod i ben

Defnyddiwch ffurflen V70W i newid dosbarth treth eich cerbyd os nad yw’r dreth ar fin dod i ben.

Rydych yn gwneud cais mewn ffordd wahanol os ydych chi wedi cael llythyr atgoffa neu lythyr rhybudd ‘cyfle olaf’.

Beth i’w hanfon

Anfonwch y ffurflen i DVLA gyda:

  • thystysgrif gofrestru cerbyd V5CW (llyfr log) gydag unrhyw newidiadau wedi’u nodi arni
  • siec neu archeb bost yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe’ am unrhyw dreth cerbyd ychwanegol y mae’n rhaid ichi dalu - ni dderbynnir sieciau sydd wedi’u difrodi neu sydd wedi’u newid
  • prawf o MOT gyfredol (os oes angen un ar eich cerbyd) - er enghraifft, copi o hanes MOT eich cerbyd neu’ch tystysgrif MOT, os oes gennych un
  • prawf ysgrifenedig os ydych wedi lleihau maint yr injan neu wedi newid y math o danwydd, er enghraifft derbynneb injan newydd neu lythyr gan y garej a wnaeth y newid

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, mae hefyd angen ichi anfon:

  • tystysgrif MOT sy’n ddilys pan fydd y dreth yn dechrau
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn sicrwydd

Os nad yw’r V5CW gennych, lawrlwythwch a llenwch ffurflen V62W. Anfonwch i DVLA gyda’r ffi o £25.

DVLA
Abertawe
SA99 1BF

Lorïau a bysiau

Mae angen ichi hefyd anfon y canlynol os oes eu hangen ar gyfer eich cerbyd:

Beth sy’n digwydd nesaf

  1. Byddwch yn cael cadarnhad gan DVLA bod y newid wedi cael ei wneud.

  2. Bydd DVLA yn anfon V5CW sydd wedi’i diweddaru atoch.

  3. Byddwch yn derbyn ad-daliad os oes un yn ddyledus ichi.

Gallwch barhau i ddefnyddio’ch cerbyd tra bod eich cais yn cael ei brosesu.

4. Y dreth ar fin dod i ben neu mae pwrpas neu ddyluniad y cerbyd wedi newid

Fel arfer gallwch newid dosbarth treth eich cerbyd mewn Swyddfa’r Post, ond mewn rhai achosion efallai y bydd angen ichi wneud cais drwy’r post.

Pan fyddwch yn gallu newid dosbarth treth mewn Swyddfa’r Post

Gallwch newid dosbarth treth eich cerbyd mewn os:

  • yw’r dreth cerbyd ar fin dod i ben (rydych wedi cael nodyn atgoffa neu lythyr rhybudd ‘cyfle olaf’)
  • ydych chi’n newid p’un ai bod cerbyd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd neu beidio, er enghraifft, os yw’n cael ei ddefnyddio gan berson anabl

Pan fydd angen ichi newid dosbarth treth drwy’r post

Bydd angen ichi wneud cais drwy’r post i newid dosbarth treth os yw unrhyw un o’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi newid am beth y defnyddir y cerbyd, er enghraifft wedi dechrau defnyddio bws mini am elw
  • rydych wedi newid math o gorff y cerbyd, er enghraifft trawsnewid car i gerbyd nwyddau ysgafn
  • rydych wedi newid strwythur y cerbyd, er enghraifft trawsnewid car gyda phedair olwyn i gar gyda thair olwyn

Os ydych yn gymwys i gael gostyngiad treth cerbyd oherwydd eich bod yn anabl, mae ffordd wahanol i wneud cais drwy’r post.

Y dogfennau sydd eu hangen arnoch

Cymerwch y rhain i Swyddfa’r Post neu eu postio i DVLA:

  • y dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) yn eich enw, os oes gennych un
  • eich llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W) os oes gennych un
  • prawf o MOT gyfredol (os oes angen un ar eich cerbyd) - er enghraifft, copi o hanes MOT eich cerbyd neu’ch tystysgrif MOT, os oes gennych un
  • prawf os yw’ch cerbyd wedi’i eithrio rhag MOT (V112W)
  • prawf o unrhyw gymhwysedd ar gyfer eithriad anabledd
  • taliad ar gyfer treth cerbyd (os oes rhaid ichi dalu am eich dosbarth treth newydd)

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, bydd hefyd arnoch angen:

  • tystysgrif MOT sy’n ddilys pan fydd y dreth yn dechrau
  • tystysgrif yswiriant neu nodyn sicrwydd

Os ydych yn gyrru lori neu fws, mae angen ichi hefyd gymryd neu bostio tystysgrif prawf blynyddol ddiweddaraf y cerbyd neu’r ffurflen sy’n profi ei fod wedi’i eithrio (V112G).

Os ydych yn postio dogfennau, bydd angen ichi bostio’r rhai gwreiddiol.

Os nad oes gennych dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)

Bydd angen ichi gymryd y canlynol neu eu postio ynghyd â’r dogfennau eraill:

  • cais wedi’i gwblhau am dystysgrif gofrestru newydd - naill ai lawrlwythwch ffurflen V62W neu ewch i gael un o Swyddfa’r Post
  • eich slip ‘ceidwad newydd’, os ydych newydd brynu’r cerbyd

Mae tystysgrif gofrestru newydd am ddim os oes gennych slip ‘ceidwad newydd’. Fel arall y gost yw £25.

Os ydych yn gwneud cais drwy’r post ac mae angen ichi dalu’r £25, dylech gynnwys siec neu archeb bost yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe’.

Ble i anfon ceisiadau drwy’r post

Anfonwch eich cais drwy’r post i:

DVLA
Abertawe
SA99 1BF

Beth sy’n digwydd nesaf

  1. Byddwch yn cael cadarnhad gan DVLA bod y newid wedi cael ei wneud.

  2. Bydd DVLA yn anfon V5CW sydd wedi’i diweddaru atoch.

  3. Bydd DVLA yn anfon ad-daliad atoch os bydd un yn ddyledus ichi.

Gallwch barhau i ddefnyddio’ch cerbyd tra bod eich cais yn cael ei brosesu.