Newid y ffotograff ar eich trwydded yrru

Mae angen ichi adnewyddu eich trwydded yrru lawn neu dros dro os ydych am ddiweddaru eich ffotograff. Byddwch yn cael trwydded newydd.

Byddwch yn gallu defnyddio eich ffotograff pasbort neu lanlwytho un newydd.

Mae’n costio £14 pan rydych yn gwneud cais ar-lein.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gaelÌýyn Saesneg (English).

I adnewyddu ar-lein bydd rhaid ichi:

  • fod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr (maeÌý)Ìý
  • Ìýpeidio â bod wedi eich gwahardd rhag gyrru

Cyn ichi ddechrau

Ni allwch adnewyddu eich trwydded yrru ar-lein os:

  • yw’ch enw neu deitl wedi newid ers ichi gael eich trwydded yrru bresennol
  • oes gennych drwydded fws neu lori 5-mlynedd.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch wneud cais drwy’r post.

Mewngofnodi i wneud cais

Bydd angen ichi fewngofnodi i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi yn barod, byddwch yn gallu eu creu.

Byddwch yn cael gwybod pan rydych yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n golygu defnyddio dull adnabod â ffotograff fel pasbort neu drwydded yrru.

Ar ôl ichi adnewyddu ar-lein

µþ²â»å»åÌýDVLAÌýyn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.

Os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun, mae’n rhaid ichi ei hadnewyddu bob 10 mlynedd - byddwch yn derbyn nodyn atgoffa cyn i’ch trwydded bresennol ddod i ben.

Faint mae’n ei gostio

Mae trwydded newydd yn costio £14. Gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd Mastercard, Visa, Electron neu Delta (nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded yrru cyfnod byr am resymau meddygol).Ìý

Gwneud cais drwy’r post

Gallwch gael ‘pecyn D1W’ o ffurflenni o sy’n delio ag adnewyddu trwyddedau cerdyn-llun DVLA.

Bydd angen cynnwys y pethau canlynol gyda’ch ffurflenni wedi’u llenwi:

  • ffotograff math pasbort wedi’i argraffu yn ddiweddar
  • y cerdyn-llun a’r gwrthddalen bapur o’ch trwydded bresennol (os ydych wedi colli un neu’r llall, ticiwch y blwch perthnasol ar y ffurflen D1W)Ìý
  • siec neu archeb bost am £17 yn daladwy i DVLA (nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded yrru cyfnod byr am resymau meddygol)ÌýÌý

Anfonwch eich cais a’r ffi (os oes angen) i DVLA.

DVLAÌý
Abertawe
SA99 1DH

Os ydych wedi newid eich enw, bydd hefyd angen ichi gynnwys dogfennau adnabod.

Ar ôl ichi wneud cais drwy’r post

Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn 3 wythnos. Efallai y bydd yn cymryd yn hirach os bydd angen gwirio eich manylion personol neu feddygol.

Gallwch barhau i yrru tra rydych yn aros am eich trwydded newydd gyrraedd.