Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn ymddeol dramor
Printable version
1. Gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dramor
Gallwch wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dramor os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU i fod yn gymwys.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os rydych wedi byw neu weithio dramor.
Dylech gael Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth os ydych angen darganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Gwneud cais
Rhaid i chi fod o fewn 4 mis i’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth i wneud cais.
I wneud cais am eich pensiwn, gallwch naill ai:
- gysylltu â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol
- anfon y ffurflen gais ryngwladol i’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen)
Os ydych eisiau hawlio pensiwn y wladwriaeth o wlad arall
Os oeddech yn byw neu’n gweithio dramor, efallai y byddwch yn gallu hawlio pensiwn y wladwriaeth dramor cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y DU.
Cysylltwch â’r awdurdod pensiwn yn y wlad rydych yn byw ynddi. Efallai y gallant hysbysu cynlluniau pensiwn y wladwriaeth yn y gwledydd rydych wedi byw neu weithio ynddynt.
Bydd y cynlluniau yn cysylltu â chi os ydych yn gymwys.
Cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol os oes angen help arnoch gyda’ch cais.
Os ydych yn byw rhan o’r flwyddyn dramor
Mae’n rhaid i chi ddewis ym mha wlad rydych am i’ch pensiwn gael ei dalu ynddi. Ni allwch gael eich talu mewn un wlad am ran o’r flwyddyn ac un arall am weddill y flwyddyn.
Cyfrifon banc y gellir talu eich pensiwn iddynt
Gellir talu eich Pensiwn y Wladwriaeth i:
- fanc yn y wlad rydych yn byw ynddi
- banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU
Gallwch ddefnyddio:
- cyfrif yn eich enw chi
- cyfrif ar y cyd
- cyfrif rhywun arall - os oes gennych eu caniatâd ac yn cadw at delerau ac amodau’r cyfrif
Byddwch angen rhif cyfrif banc rhyngwladol (IBAN) a rhifau Cod Adnabod y Busnes (BIC) os oes gennych gyfrif tramor.
Byddwch yn cael eich talu mewn arian lleol - gallai’r swm a gewch newid oherwydd cyfraddau cyfnewid.
Pryd fyddwch yn cael eich talu
Gallwch ddewis cael eich talu bob 4 neu 13 wythnos.
Os yw eich Pensiwn y Wladwriaeth o dan £5 yr wythnos, byddwch yn cael eich talu unwaith y flwyddyn ym mis Rhagfyr.
Oedi i daliadau o amgylch gwyliau ffederal yr Unol Daleithiau
Os ydych yn byw dramor a bod eich taliad yn ddyledus yn yr un wythnos â , gallai gyrraedd un diwrnod yn hwyr. Mae hyn oherwydd bod cwmni o’r Unol Daleithiau yn prosesu’r taliadau hyn.
2. Sut mae eich pensiwn yn cael ei effeithio
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth ond yn cynyddu bob blwyddyn os ydych yn byw yn:
- yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) -Gibraltar -Swistir
- gwledydd sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU (ond ni allwch gael cynnydd yng Nghanada na Seland Newydd)
Ni chewch gynnydd blynyddol os ydych yn byw y tu allan i’r gwledydd hyn.
Bydd eich pensiwn yn mynd i fyny i’r gyfradd gyfredol os dychwelwch i fyw yn y DU.
Cael cyngor
[Cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol] (/international-pension-centre) os ydych eisiau cyngor ar sut y gallai eich pensiwn gael ei effeithio os ydych chi eisoes wedi ymddeol ac yn meddwl am symud dramor.
3. Talu treth
Mae faint o dreth y byddwch yn ei thalu a ble rydych yn ei thalu yn dibynnu ar ble yr ystyrir eich bod yn breswylydd.
Preswylwyr y DU
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ar eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn byw dramor ond yn cael eich ystyried yn breswylydd y DU at ddibenion treth. Mae’r swm rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich incwm.
Preswylwyr tramor
Efallai y cewch eich trethu ar eich Pensiwn y Wladwriaeth gan y DU a’r wlad lle rydych yn byw.
Os ydych yn talu treth ddwywaith, fel arfer gallwch hawlio gostyngiad treth i gael y cyfan neu rywfaint ohono’n ôl.
Os oes gan y wlad rydych yn byw ynddi ‘gytundeb trethiant dwbl’ gyda’r DU, dim ond unwaith y byddwch yn talu treth ar eich pensiwn. Gall hyn fod i’r DU neu’r wlad lle rydych yn byw, yn dibynnu ar gytundeb treth y wlad honno.
4. Rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau
Dylech roi gwybod am newidiadau (fel newid cyfeiriad neu fanylion banc) i’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol dros y ffôn neu’n ysgrifenedig - peidiwch ag anfon newidiadau drwy e-bost.
Os gofynnir i chi lenwi ‘tystysgrif bywyd’
Efallai y cewch ffurflen ‘tystysgrif bywyd’ gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i wirio eich bod yn dal yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae angen i chi gael y ffurflen wedi’i llofnodi gan dyst. Gwiriwch pwy all llofnodi fel tyst a dilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen.
Nid oes rhaid i’ch tyst fyw yn y DU na chael pasbort o unrhyw wlad benodol.
Efallai y bydd eich taliadau yn cael eu hatal os na fyddwch yn anfon y ffurflen yn ôl.
Dychwelyd i’r Deyrnas Unedig
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn - byddwch angen eich dyddiad dychwelyd a’ch manylion cyswllt, dramor ac yn y DU.
Ffoniwch Cyllid a Thollau EF (CThEF) i ddweud eich bod yn dychwelyd i’r DU.