Rhoi gwybod i CThEF am dwyll treth neu arbed treth
Rhowch wybod am berson neu fusnes nad yw鈥檔 talu digon o dreth yn eich barn chi neu sy鈥檔 cyflawni math arall o dwyll yn erbyn Cyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae hyn yn cynnwys:
-
arbed treth neu osgoi treth
-
twyll Budd-dal Plant neu dwyll credydau treth
-
cuddio neu symud asedion, arian neu grypto
-
tanwydd ffordd, tybaco ac alcohol anghyfreithlon
-
smyglo metelau gwerthfawr
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Rhoi gwybod am fathau eraill o dwyll neu drosedd
Mae ffordd wahanol o roi gwybod am y canlynol:听
-
twyll budd-daliadau (ac eithrio twyll Budd-dal Plant a thwyll credydau treth)
-
troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol (yn agor tudalen Saesneg)听
-
troseddau sy鈥檔 ymwneud 芒 mewnfudo neu droseddau wrth y ffin (yn agor tudalen Saesneg)听
-
, megis dwyn hunaniaeth, (i Action Fraud)
-
e-byst, negeseuon testun a galwadau ff么n amheus gan CThEF (yn agor tudalen Saesneg)
-
bygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol (yn agor tudalen Saesneg)
Os ydych mewn perygl neu os yw鈥檔 argyfwng, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr heddlu.
Sut i roi gwybod i ni
Llenwch y ffurflen ar-lein er mwyn rhoi gwybod i CThEF am yr hyn rydych yn ei wybod am y person neu鈥檙 busnes.
Bydd yn helpu os ydych yn rhannu鈥檆h enw, lleoliad a manylion cyswllt. Yna, bydd CThEF yn gallu cysylltu 芒 chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt.
Does dim rhaid i chi roi鈥檆h manylion personol. Cedwir unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn breifat ac yn gyfrinachol.
Peidiwch ag anfon gwybodaeth ategol. Gallwch roi gwybod i CThEF os oes gennych wybodaeth ategol pan fyddwch yn cyflwyno鈥檆h adroddiad. Os ydych yn rhoi鈥檆h manylion cyswllt, byddant yn gofyn am ragor o wybodaeth os oes ei hangen arnynt.
I鈥檆h diogelu, ni ddylech geisio dod o hyd i ragor o wybodaeth na rhoi gwybod i unrhyw un eich bod yn cyflwyno adroddiad.
Dulliau eraill o roi gwybod i ni
Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os na allwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein.
Ff么n: 0300 200 1900
O鈥檙 tu allan i鈥檙 DU: +44 300 200 1900
Dydd Llun i ddydd Gwener, 08:30 i 17:00 (ac eithrio gwyliau banc)
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau
Peidiwch 芒 chyflwyno鈥檆h adroddiad drwy ddull arall, er enghraifft drwy鈥檙 post neu sgwrs dros y we.