Dod yn landlord preswyl

Rydych yn landlord preswyl os ydych yn rhoi rhan o’ch prif gartref, neu’ch unig gartref, ar osod.

Os mai dim ond yn achlysurol y byddwch yn rhoi rhan o’ch cartref ar osod (er enghraifft drwy apiau rhentu tymor byr), gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.

Os felly, bydd gennych gyfrifoldebau a hawliau penodol:

  • byddwch yn gyfrifol am gadw’r eiddo yn ddiogel ac mewn cyflwr da (yn agor tudalen Saesneg)
  • nid oes gan denant neu lojer yr hawl i herio’r rhent a gytunwyd arno
  • mae’n bosibl y gallwch ennill hyd at £7,500 y flwyddyn yn rhydd o dreth (neu £3,750 os ydych yn rhannu’r incwm gyda rhywun arall) o dan y Cynllun Rhentu Ystafell
  • gallwch roi llai o rybudd pan fyddwch yn dod â thenantiaeth i ben o gymharu â’r rhybudd y mae’n rhaid i chi ei roi os ydych yn rhoi’r holl eiddo ar osod

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Gofynnwch am eirda gan denantiaid neu lojers posibl, a gwirio’r rhain cyn llofnodi unrhyw gytundeb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllaw ynghylch rhoi ystafelloedd yn eich cartref ar osod (yn agor tudalen Saesneg).