T芒l ac absenoldeb mamolaeth

Sgipio cynnwys

Sut i hawlio

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

O leiaf 15 wythnos cyn eich dyddiad disgwyl, rhowch wybod i鈥檆h cyflogwr pryd y disgwylir i鈥檙 babi gael ei eni a phryd rydych am ddechrau鈥檆h absenoldeb mamolaeth. Gall eich cyflogwr ofyn am hyn yn ysgrifenedig.

Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h cyflogwr ysgrifennu atoch cyn pen 28 diwrnod yn cadarnhau鈥檆h dyddiadau dechrau a gorffen.

Defnyddiwch y cynlluniwr mamolaeth i gyfrifo pryd y mae鈥檔 rhaid i chi hawlio鈥檆h absenoldeb mamolaeth.

T芒l Mamolaeth Statudol (SMP)

Rhowch wybod i鈥檆h cyflogwr eich bod am roi鈥檙 gorau i weithio i gael babi a鈥檙 diwrnod rydych am i鈥檆h T芒l Mamolaeth Statudol ddechrau. Mae鈥檔 rhaid i chi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i鈥檆h cyflogwr (yn ysgrifenedig os yw鈥檔 gofyn am hyn) a thystiolaeth eich bod yn feichiog.

Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h cyflogwr gadarnhau cyn pen 28 diwrnod faint o D芒l Mamolaeth Statudol y byddwch yn ei gael a phryd y bydd yn dechrau ac yn dod i ben.

Os bydd eich cyflogwr yn penderfynu nad ydych yn gymwys, mae鈥檔 rhaid iddo roi ffurflen SMP1 i chi cyn pen 7 diwrnod ar 么l dod i benderfyniad ac egluro pam.

Tystiolaeth eich bod yn feichiog

Mae angen i chi roi tystiolaeth o鈥檆h beichiogrwydd i鈥檆h cyflogwr i gael T芒l Mamolaeth Statudol. Nid oes angen tystiolaeth arnoch ar gyfer absenoldeb mamolaeth.

Cyn pen 21 diwrnod i ddyddiad dechrau鈥檆h T芒l Mamolaeth Statudol (neu cyn gynted 芒 phosibl os yw鈥檙 babi wedi鈥檌 eni鈥檔 gynnar) rhowch y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol i鈥檆h cyflogwr:

  • llythyr gan eich meddyg neu fydwraig
  • eich tystysgrif MATB1 鈥� bydd meddygon a bydwragedd yn rhoi hyn i chi ddim mwy nag 20 wythnos cyn y dyddiad disgwyl

Ni chewch D芒l Mamolaeth Statudol os nad ydych yn rhoi tystiolaeth o ddyddiad disgwyl eich babi i鈥檆h cyflogwr.