Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Printable version
1. Trosolwg
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel os oes gennych chi neu’ch partner incwm unigol sydd dros y trothwy a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
rydych chi neu’ch partner yn cael Budd-dal Plant
-
mae rhywun arall yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sy’n byw gyda chi, ac mae’r person hwnnw’n cyfrannu swm sydd o leiaf yn gyfartal â’r swm rydych chi’n ei dalu tuag at gostau cynnal y plentyn
Does dim ots os nad eich plentyn eich hun yw’r plentyn sy’n byw gyda chi.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Y trothwy
Mae incwm unigol dros y trothwy os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
mae’r incwm dros £60,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025
-
mae’r incwm dros £50,000 ar gyfer blynyddoedd treth hyd at a chan gynnwys 2023 i 2024
Yr hyn sy’n cyfrif fel incwm
I weld a yw’ch incwm dros y trothwy, bydd yn rhaid i chi gyfrifo’ch ‘incwm net wedi’i addasu’.
Eich incwm net wedi’i addasu yw cyfanswm eich incwm trethadwy cyn unrhyw lwfansau, ac nid yw’n cynnwys pethau megis Rhodd Cymorth. Mae cyfanswm eich incwm trethadwy yn cynnwys llog o gynilion a difidendau.
Defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i gael amcangyfrif o’ch incwm net wedi’i addasu.
Pwy sy’n talu’r tâl treth
Os yw’r incwm net wedi’i addasu ar eich cyfer chi a’ch partner hefyd dros y trothwy, yna’r person sydd â’r incwm uwch sy’n gyfrifol am dalu’r tâl treth.
Mae ‘partner’ yn golygu rhywun nad ydych wedi gwahanu oddi wrtho’n barhaol – rhywun yr ydych yn briod ag ef, mewn partneriaeth sifil ag ef, ²Ô±ð³Ü‵µ byw gydag ef fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Os yw’ch incwm dros y trothwy
Gallwch ddewis naill ai:
- cael taliadau Budd-dal Plant a thalu unrhyw dâl treth ar ddiwedd pob blwyddyn dreth
- optio allan o gael taliadau a thrwy hynny beidio â thalu’r tâl treth
Os byddwch yn dewis optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant
Dylech lenwi’r ffurflen hawlio Budd-dal Plant o hyd. Mae angen i chi ddatgan ar y ffurflen nad ydych yn dymuno cael taliadau.
Mae angen i chi lenwi’r ffurflen hawlio os ydych yn dymuno:
- cael credydau Yswiriant Gwladol sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth
- cael rhif Yswiriant Gwladol ar gyfer eich plentyn heb iddo orfod gwneud cais am un – fel arfer, bydd yn cael y rhif cyn troi’n 16 oed
Os ydych eisoes yn cael taliadau Budd-dal Plant
Gallwch ddewis i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant
- parhau i gael taliadau Budd-dal Plant a thalu unrhyw dâl treth ar ddiwedd pob blwyddyn dreth
2. Talu’r tâl treth
I dalu’r tâl treth, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
-
±ô±ô±ð²Ô·É¾±ÌýFfurflen Dreth Hunanasesiad bob blwyddyn dreth a thalu’r hyn sydd arnoch
Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Os nad ydych fel arfer yn anfon Ffurflen Dreth, bydd angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’n rhaid i chi dalu’r tâl treth ar ei chyfer.
Gallwch wynebu cosb os na fyddwch yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad neu os na fyddwch yn datgan Budd-dal Plant ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Cewch lythyr yn rhoi gwybod am yr hyn i’w wneud nesaf ar ôl i chi gofrestru.
Os na allwch gael gwybodaeth gan eich partner neu gyn-bartner
Gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EF (CThEF) i ofyn p’un a yw’ch partner neu gyn-bartner yn cael Budd-dal Plant, neu a yw ei incwm yn uwch na’ch incwm chi. Bydd CThEF yn rhoi ateb i chi – ni fydd yn rhoi unrhyw wybodaeth ariannol i chi.
Gallwch ond gofyn am yr wybodaeth hon os ydych chi a’ch partner naill ai’n byw gyda’ch gilydd neu wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych am gael gwybodaeth ar ei chyfer.
Ysgrifennu at CThEF
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF pa flwyddyn dreth yr ydych yn gofyn yn ei chylch, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ganlynol amdanoch:
- enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un gennych
- ‘incwm net addasedig’ - defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo hyn
- enw partner neu gyn-bartner
Os gallwch, rhowch yr wybodaeth ganlynol am eich partner neu gyn-bartner:
- cyfeiriad
- dyddiad geni
- rhif Yswiriant Gwladol, os ydych yn gwybod beth ydyw
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un ganddo
Anfonwch eich llythyr i:
Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
3. Optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant
I optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu lenwi’r ffurflen ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant dros y ffôn neu drwy’r post i optio allan.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein na’r ffurflen ar-lein os ydych yn benodai ²Ô±ð³Ü‵µ asiant awdurdodedig.
Ni allwch optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant os ydych yn eu defnyddio i ad-dalu gordaliad neu i ad-dalu rhai budd-daliadau eraill o wlad arall.
Cyfrifoldebau ar ôl i chi optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dâl treth sydd arnoch am bob blwyddyn dreth hyd at y dyddiad y daw eich taliadau Budd-dal Plant i ben.
Defnyddiwch y gyfrifiannell dreth ar gyfer Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif faint a allai fod arnoch bob blwyddyn dreth.
Hyd yn oed os byddwch yn optio allan o gael taliadau, mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich bywyd teuluol sy’n effeithio ar eich hawl i Fudd-dal Plant.
4. Ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant
Gallwch ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych wedi optio allan o’r blaen oherwydd y tâl treth
-
rydych yn dal i fod yn gymwys i gael Budd-dal Plant
I ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant, dylech wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu lenwi’r ffurflen ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant dros y ffôn neu drwy’r post i ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein na’r ffurflen ar-lein os ydych yn benodai ²Ô±ð³Ü‵µ asiant awdurdodedig.
Pryd y byddwch yn dechrau cael taliadau
Gall gymryd hyd at 28 diwrnod ar ôl i’ch cais gyrraedd y Swyddfa Budd-dal Plant cyn i chi gael eich taliad cyntaf.
Bydd y swyddfa’n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi faint o arian y byddwch yn ei gael o daliadau wedi’u hôl-ddyddio (os o gwbl).
Cyfrifoldebau ar ôl i’ch Budd-dal Plant ailddechrau
Bydd yn rhaid i chi neu’ch partner dalu unrhyw dâl treth ar y budd-dal a gafwyd o’r dyddiad ailddechrau os yw’ch ‘incwm net wedi’i addasu’ dros y trothwy.
Defnyddiwch y gyfrifiannell dreth ar gyfer Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif eich incwm net wedi’i addasu ac i weld a allai’r tâl treth effeithio arnoch.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau i’ch bywyd teuluol sy’n effeithio ar eich Budd-dal Plant.
5. Os bydd eich amgylchiadau’n newid
Newid yn eich incwm
Ni fydd yn rhaid i chi dalu’r tâl treth os yw’ch ‘incwm net wedi’i addasu’ unigol chi, neu ‘incwm net wedi’i addasu’ unigol eich partner, o dan y trothwy am y flwyddyn dreth gyfan.
Defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif y newidiadau i’ch incwm net wedi’i addasu ac i weld os byddan nhw’n effeithio ar y tâl treth.
Gallwch ddewis optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant neu eu hailddechrau unrhyw bryd.
Os yw’ch incwm net wedi’i addasu yn disgyn o dan y trothwy a does dim angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad bellach, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF.
Mae gennych blentyn newydd
Mae hawlio Budd-dal Plant yn eich helpu i fod yn gymwys i gael y canlynol:
-
credydau Yswiriant Gwladol, sy’n diogelu’ch hawl i Bensiwn y Wladwriaeth
-
budd-daliadau eraill, megis Lwfans Gwarcheidwad
Mae Budd-dal Plant yn profi eich bod chi (neu’ch partner) yn rhoi cymorth i blentyn arall. Efallai y byddwch yn talu llai o gynhaliaeth plant ar gyfer plant nad ydynt yn byw gyda chi.
Gallwch wneud hawliad newydd neu ddiogelu’ch hawl i’r uchod drwy wneud y canlynol:
-
²¹²Ô´Ú´Ç²ÔÌýffurflen hawlio Budd-dal Plant
-
ticio’r opsiwn i beidio â chael y budd-dal wedi’i dalu
Mae partner yn symud i mewn neu allan
Efallai y bydd eich sefyllfa’n newid os yw’ch incwm net wedi’i addasu dros y trothwy ac rydych yn symud i fyw ²Ô±ð³Ü‵µ gwahanu â rhywun sy’n cael Budd-dal Plant.
Os oes gennych chi a’ch partner incwm unigol sydd dros y trothwy, yna bydd y sawl sydd â’r incwm net wedi’i addasu uchaf yn gyfrifol am dalu’r tâl.
Mae’r tâl treth yn gymwys o’r dyddiad yr ydych yn symud i mewn gyda’ch gilydd hyd nes y dyddiad yr ydych yn gwahanu’n barhaol, neu’r dyddiad y mae’r taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben – er enghraifft gan fod y plentyn yn rhy hen i fod yn gymwys ar gyfer Budd-dal Plant.
Nid yw cyfnodau byr ar wahân, megis aros yn yr ysbyty neu weithio oddi cartref, yn cyfrif fel gwahanu.