Taliad Cymorth Profedigaeth
Printable version
1. Sut mae’n gweithio
Efallai y gallwch gael Taliad Cymorth Profedigaeth os bu farw eich partner.  Mae wedi disodli’r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Rhiant Gweddw - os ydych eisoes yn cael hyn, bydd eich taliadau’n parhau hyd nes nad ydych yn gymwys mwyach
- Lwfans Profedigaeth (Pensiwn Gwraig Weddw yn flaenorol)
- Taliad Profedigaeth
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.
2. Cymhwysedd
Nid yw Taliad Cymorth Profedigaeth yn destun i brawf modd. Mae hyn yn golygu na fydd yr hyn rydych yn ei ennill na faint sydd gennych mewn cynilion yn effeithio ar yr hyn a gewch.
Pan fu farw eich partner mae’n rhaid eich bod:
- wedi bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- yn byw yn y DU neu wlad sy’n talu budd-daliadau profedigaeth
- yn briod â’ch partner, mewn partneriaeth sifil, neu’n byw gyda nhw fel petaech yn briod
Mae’n rhaid bod eich partner naill ai:
- wedi talu swm penodol o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 neu Ddosbarth 2 mewn unrhyw flwyddyn dreth ers 6 Ebrill 1975
- wedi marw oherwydd damwain yn y gwaith neu afiechyd a achoswyd gan waith
Gallwch barhau i wneud cais os nad ydych yn siwr a wnaeth eich partner dalu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd y Gwasanaeth Profedigaeth yn rhoi gwybod i chi.
Ni allwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth os ydych yn y carchar.
Pan fyddwch yn gwneud eich cais
Fel arfer mae angen i chi wneud cais o fewn 21 mis i farwolaeth eich partner.
Os yw dros 21 mis ers marwolaeth eich partner, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio o hyd os mai dim ond yn ddiweddar y cadarnhawyd achos y farwolaeth. Ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth am help.
Gall pa mor fuan y byddwch yn gwneud eich cais hefyd effeithio ar faint o arian y byddwch yn ei gael. Fel arfer mae angen i chi wneud cais o fewn 3 mis i farwolaeth eich partner i gael y swm llawn o daliadau.
Os bu farw eich partner cyn 6 Ebrill 2017, efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Rhiant Gweddw yn lle.
Os oeddech yn byw gyda’ch partner fel petaech yn briod
Oni bai eich bod yn gwneud cais am daliad wedi’i ôl-ddyddio, mae’n rhaid bod un o’r canlynol yn berthnasol pan fu farw eich partner:
- roeddech yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi
- dywedwyd wrthych gan y Swyddfa Budd-dal Plant fod gennych hawl i Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi, hyd yn oed os gwnaethoch ddewis peidio â’i gael
- roeddech chi’n feichiog
Os oedd eich partner yn cael neu’n gymwys i gael Budd-dal Plant yn lle, bydd angen i chi wneud cais newydd am Fudd-dal Plant yn eich enw chi cyn y gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth.
3. Beth fyddwch yn ei gael
Bydd swm y Taliad Cymorth Profedigaeth y gallwch ei gael yn dibynnu ar:
- eich perthynas â’r person a fu farw
- pryd rydych yn gwneud eich cais
- pryd rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Bydd eich taliadau’n cael eu talu i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Eich perthynas â’r person a fu farw
Os oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig
Byddwch yn cael y gyfradd uwch os oedd un o’r canlynol yn berthnasol pan fu farw eich partner:
- roeddech yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi
- dywedwyd wrthych gan y Swyddfa Budd-dal Plant fod gennych hawl i Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi
- roeddech chi’n feichiog
Y mwyaf y gallwch ei gael yw:
- taliad untro o £3,500
- 18 taliad misol o £350
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y gyfradd uwch, byddwch yn cael y gyfradd is yn lle hynny.
Y mwyaf y gallwch ei gael yw:
- taliad untro o £2,500
- 18 taliad misol o £100
Os oeddech chi’n byw gyda’ch gilydd fel petaech chi’n briod
Y mwyaf y gallwch ei gael yw:
- taliad untro o £3,500
- 18 taliad misol o £350
Pan fyddwch yn gwneud eich cais
Rhaid i chi wneud cais o fewn 3 mis i farwolaeth eich partner i gael y taliad untro a phob un o’r 18 taliad misol.
Os yw dros 3 mis ond yn llai na 12 mis ers marwolaeth eich partner, gallwch gael y taliad untro ond dim ond rhai o’r taliadau misol.
Os yw wedi bod dros 12 mis ond yn llai na 21 mis ers marwolaeth eich partner, ni allwch gael y taliad untro ond gallwch gael rhai taliadau misol o hyd.
Os yw dros 21 mis ers marwolaeth eich partner, fel arfer ni allwch gael unrhyw daliadau.
Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth o fewn 18 mis i farwolaeth eich partner, efallai y cewch lai o daliadau misol.
Os ydych yn cael budd-daliadau
Ni fydd Taliad Cymorth Profedigaeth yn effeithio ar eich budd-daliadau am flwyddyn ar ôl eich taliad cyntaf. Ar ôl blwyddyn, gallai arian sydd gennych ar ôl o’ch taliad cyntaf effeithio ar y swm a gewch os byddwch yn adnewyddu neu’n gwneud cais am fudd-dal arall.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch swyddfa budd-daliadau (er enghraifft, ) pan fyddwch yn dechrau cael Taliad Cymorth Profedigaeth.
4. Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth ar-lein, dros y ffôn neu trwy’r post.
I wneud cais, bydd angen:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
- y dyddiad y bu farw’ch partner
- rhif Yswiriant Gwladol eich partner
Gwneud cais ar-lein
Gwneud cais dros y ffôn
Llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth
Ffôn: 0800 151 2012
Llinell Ffôn Cymraeg: 0800 731 0453
Ffôn testun: 0800 731 0464
Ffôn testun Cymraeg: 0800 731 0456
(os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon mae dros y ffôn.
Gwneud cais drwy’r post
I gael ffurflen gais, gallwch naill ai:
- lawrlwytho ffurflen Taliad Cymorth Profedigaeth (BSP1)
- cysylltu â llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth i gael un trwy’r post – gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt uchod.
Anfonwch hi i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon mae trwy’r post.
Os ydych dramor
Ffoniwch y Ganolfan Bensiwn Ryngwladol i wneud cais.
Canolfan Bensiwn Ryngwladol
Ffôn: +44 (0) 191 206 9390
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau