Talu’r Doll Peiriannau Hapchwarae
Printable version
1. Trosolwg
Rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) a gwneud taliad cyn pen 30 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod cyfrifyddu. Cyfnod o 3 mis yw’r cyfnod cyfrifyddu, oni bai bod gennych gytundeb â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i ddefnyddio cyfnod cyfrifyddu gwahanol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno’ch datganiad a bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny, oni bai’ch bod yn gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach) neu dalu drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein.
Dulliau o dalu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu CThEF erbyn y dyddiad cau. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb a llog (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn talu’n hwyr.
Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
- trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach neu CHAPS
- drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
- cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
- yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
3 diwrnod gwaith
- trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn drwy ddefnyddio Bacs
- siec drwy’r post
- Debyd Uniongyrchol – os ydych yn gwneud taliad unigol ac rydych wedi sefydlu Debyd Uniongyrchol gyda CThEF yn flaenorol
5 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol – os ydych yn gwneud taliad unigol ac nid ydych wedi sefydlu Debyd Uniongyrchol gyda CThEF yn flaenorol
10 diwrnod gwaith cyn i chi gyflwyno’ch datganiad cyntaf
- Debyd Uniongyrchol – os ydych yn trefnu taliad awtomatig (a elwir yn ‘cynllun taliadau newidiol’)
Cosbau am ddatganiadau hwyr
Codir cosb arnoch os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiadau.
Pryd y codir y gosb | Cosb |
---|---|
1 diwrnod ar ôl y dyddiad cau | Rhwng £100 a £400, yn dibynnu ar sawl datganiad hwyr rydych wedi’i gyflwyno’n flaenorol |
6 mis ar ôl y dyddiad cau | £300 neu 5% o’r MGD sy’n ddyledus (p’un bynnag sydd uchaf) |
12 mis ar ôl y dyddiad cau | £300 neu 5% o’r MGD sy’n ddyledus (p’un bynnag sydd uchaf) |
Os ydych yn anghytuno â chosb
Os ydym wedi codi cosb arnoch ac rydych o’r farn ei bod yn anghywir, gallwch apelio ar CThEF.
2. Debyd Uniongyrchol
Dim ond os ydych wedi cofrestru ar gyfer Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) ar-lein y gallwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Defnyddiwch eich er mwyn trefnu Debyd Uniongyrchol.
Gallwch drefnu:
-
taliad unigol bob tro rydych yn cyflwyno’ch datganiad
-
taliad awtomatig o’r doll a ddangosir ar eich datganiad (a elwir yn ‘cynllun taliadau newidiol’)
Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.
Taliad unigol
Gallwch wneud un taliad unigol drwy Ddebyd Uniongyrchol ar-lein.
Mae’n cymryd 5 diwrnod gwaith i brosesu taliad Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn ei drefnu y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.
Cynllun taliadau newidiol
Dim ond ar-lein y gallwch drefnu taliadau Debyd Uniongyrchol awtomatig rheolaidd. Dewiswch ‘cynllun taliadau newidiol’ pan fyddwch yn trefnu’ch Debyd Uniongyrchol.
Mae’n cymryd o leiaf 10 diwrnod gwaith i brosesu taliad pan fyddwch yn ei drefnu y tro cyntaf. Sicrhewch y bydd eich taliad yn cyrraedd CThEF cyn y dyddiad cau.
Ar ôl hynny, bydd eich taliad yn cael ei gymryd yn awtomatig bob tro ei fod yn ddyledus.
Bydd angen i chi ganslo’ch Debyd Uniongyrchol os ydych am newid i ddull gwahanol o dalu.
3. Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’ch Toll Peiriannau Hapchwarae yn uniongyrchol drwy’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif bancio drwy’ch ffôn symudol.
Pan fyddwch yn barod i dalu, . Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif bancio drwy’ch ffôn symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad Toll Peiriannau Hapchwarae.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gwnewch eich taliad i gyfrif Cyllid a Thollau EF.
Enw’r cyfrif | Cod didoli | Rhif y cyfrif |
---|---|---|
HMRC Shipley | 08 32 10 | 12001020 |
Defnyddiwch eich cyfeirnod
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) wrth wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Bydd hwn i’w weld ar:
- eich
- y Dystysgrif Cofrestru MGD anfonodd CThEF atoch
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, mae taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Taliadau tramor
Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor.
Rhif y cyfrif (IBAN) | Cod Adnabod y Busnes (BIC) | Enw’r cyfrif |
---|---|---|
GB03BARC20114783977692 | BARCGB22 | HMRC Shipley |
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
5. Drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
Gallwch .
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) wrth wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Bydd hwn i’w weld ar:
- eich
- y Dystysgrif Cofrestru MGD anfonodd CThEF atoch
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Os na allwch dalu eich bil MGD yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull talu arall megis trosglwyddiad o’r banc.
6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Gallwch dim ond talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) yn eich banc neu gymdeithas adeiladu os ydych yn cyflwyno datganiad MGD ar bapur.
Defnyddiwch y slip talu y mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi’i anfon atoch.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd y cyfeirnod talu i’w weld ar y slip talu.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (os ydych yn ei dalu o ddydd Llun i ddydd Gwener) ac nid ar y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Talwch ar-lein os ydych am dalu gyda cherdyn debyd neu gerdyn gredyd.
7. Talu â siec drwy’r post
Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.
CThEF
Direct
BX5 5BD
Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Bydd eich cyfeirnod talu MGD i’w weld ar naill ai:
- y slip talu anfonodd CThEF atoch, os ydych yn cyflwyno datganiad papur
- eich , os ydych yn cyflwyno’ch datganiad ar-lein
Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.
Os byddwch yn cyflwyno datganiad papur, anfonwch eich slip talu ynghyd â’ch siec.
Os ydych yn cyflwyno ar-lein, anfonwch lythyr sy’n cynnwys y canlynol:
- eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
- eich cyfeirnod talu MGD
- y swm yr ydych yn ei dalu
Peidiwch â phlygu na rhoi staplen yn eich siec.
8. Gwirio bod eich taliad wedi dod i law
Dylech fwrw golwg dros eich i weld a yw’ch taliad wedi dod i law – dylai ddiweddaru o fewn 6 diwrnod gwaith.
9. Rhoi gwybod i CThEF nad oes toll yn ddyledus
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad hyd yn oed os ydych yn cyfrifo nad oes arnoch Doll Peiriannau Hapchwarae (MGD). Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os na wnewch hynny.
Os oes arnoch swm negyddol (hynny yw, rydych wedi talu mwy allan mewn enillion na’r hyn rydych wedi ei gael mewn costau chwarae), caiff ei ddwyn ymlaen i’ch datganiad nesaf a’i didynnu o’r swm MGD sy’n ddyledus.