Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad

Printable version

1. Trosolwg

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 i helpu i fod yn gymwys i gael rhai budd-daliadau fel Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn hunangyflogedig.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu’r cyfraniadau hyn fel rhan o’u bil treth Hunanasesiad neu mae eu cyfraniadau yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu.

Pryd y gallech ddewis talu

Mae’n bosibl y byddwch yn dewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os yw’r canlynol yn wir:

  • nid ydych yn talu drwy Hunanasesiad
  • rydych am lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol - gallwch wirio’ch bod yn gymwys ar gyfer cyfnodau pan oeddech yn hunangyflogedig
  • rydych yn gweithio neu’n byw dramor, neu wedi gwneud yn y gorffennol

Os ydych fel arfer yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 fel rhan o’ch bil Hunanasesiad ond wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer talu, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i gael cyfeirnod a gwneud eich taliad.

Gallwch hefyd ddewis talu oherwydd nad ydych yn gymwys i gael eich trin fel rhywun sydd wedi talu cyfraniadau Dosbarth 2. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi’n un o’r canlynol:

  • yn arholwr, safonwr, goruchwyliwr neu berson sy’n gosod cwestiynau arholiad
  • yn weinidog yr efengyl nad yw’n cael cyflog na thâl
  • yn berson sy’n gwneud buddsoddiadau – ond nid fel busnes a heb gael ffi na chomisiwn
  • landlord ac yn gymwys i dalu cyfraniadau Dosbarth 2

Sut i wneud cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol

Mae gwahanol ffyrdd o wneud cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol yn dibynnu ar p’un a ydych:

Ar ôl i chi dalu

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.

2. Os ydych yn byw yn y DU

Bydd angen i chi i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad.

Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg ac fel arfer gallwch dalu cyfraniadau am y 6 blynedd dreth ddiwethaf. Gwiriwch y dyddiadau cau ar gyfer talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol.

Ar ôl i chi gofrestru

Bydd CThEF yn anfon cais am daliad atoch rhwng mis Medi a diwedd mis Hydref yn rhoi gwybod i chi faint i’w dalu.ÌýÌý

Bydd y cais am daliad yn cynnwys cyfeirnod 18 digid y bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud taliad. Ìý

Cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol os na fyddwch yn derbyn cais am daliad erbyn diwedd mis Tachwedd.

Dulliau o dalu

Bydd eich cais am daliad yn rhoi dyddiad cau i chi dalu CThEF.

Mae faint o amser y mae angen i chi ganiatáu i CThEF gael eich taliad yn dibynnu ar sut rydych yn talu.

Gallwch wneud taliadau sy’n cyrraedd ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf:

Caniatewch 3 diwrnod i daliadau fynd drwodd drwy’r canlynol:Ìý

Sicrhewch eich bod yn caniatáu 21 diwrnod gwaith i drefnu Debyd Uniongyrchol os nad ydych wedi trefnu un o’r blaen.

Os bydd y dyddiad cau ar ddiwrnod dros y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny. Nid oes angen i chi wneud hyn os ydych chi’n talu gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn Taliadau Cyflymach.

Os ydych yn methu’r dyddiad cau ar gyfer talu

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau y mae CThEF wedi’i roi i chi, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gall hefyd effeithio ar eich hawl i rai budd-daliadau.

Cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol i ddarganfod faint sydd angen i chi ei dalu.

Cadarnhad o’r taliad

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.

3. Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os ydych yn byw dramor ac rydych yn un o’r canlynol:

  • hunangyflogedig yn y DU

  • hunangyflogedig dramor

Os ydych wedi gweithio dramor yn y gorffennol, gallwch wirio a allwch dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau.

Sut i wneud cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol

Mae ffordd wahanol o dalu yn dibynnu a oes gennych dystysgrif yswiriant (yn agor tudalen Saesneg) ai peidio.Ìý

Nid oes angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych yn gweithio ynddi os oes gennych dystysgrif yswiriant.Ìý

Gwiriwch a allwch wneud cais am dystysgrif yswiriant (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes gennych dystysgrif yswiriant

Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol os yw’ch elw o hunangyflogaeth yn is na £6,725. Bydd hyn yn diogelu’ch hawl i rai budd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth.Ìý

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon cais am daliad atoch yn awtomatig rhwng mis Medi a diwedd mis Hydref.

Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad yw CThEF yn cysylltu â chi erbyn diwedd mis Tachwedd.

Mae’n rhaid i chi dalu naill ai drwy’r un o’r canlynol:

Os nad oes gennych dystysgrif yswiriant

Gallwch wneud cais i dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol i ddiogelu’ch hawl i rai budd-daliadau a Phensiwn y Wladwriaeth.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych chi ynddi.

Pan na fydd angen i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol

Fel arfer, nid oes angen i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:Ìý

  • mae gennych dystysgrif yswiriant

  • mae’ch elw yn £6,725 neu’n fwyÌý

Y rheswm am hyn yw y bydd eich cyfraniadau yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu, sy’n golygu bod eich cofnod Yswiriant Gwladol wedi’i ddiogelu’n awtomatig.

Er mwyn i’ch cyfraniadau gael eu trin fel pe baent wedi’u talu, bydd angen i chi anfon eich cyfrifon at CThEF.Ìý

Anfon eich cyfrifon

Bydd angen i chi roi naill ai:

  • cyfrifon ffurfiol o elw a cholledÌý

  • cyfrifon 3 llinell sy’n dangos enillion neu enillion busnes gros (gan gynnwys unrhyw gomisiwn neu awgrymiadau), cyfanswm treuliau a ffigurau elw net neu golled

Anfonwch eich cyfrifon ynghyd â’ch enw llawn, cyfeiriad a rhif Yswiriant Gwladol i:

Gwasanaethau HunangyflogaethÌý
Gogledd Ddwyrain Lloegr / North East England
CThEFÌý
BX9 1ST

Y dyddiad cau ar gyfer anfon eich cyfrifon yw 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth y mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn cael eu trin fel rhai a dalwyd. Er enghraifft, bydd angen i chi anfon eich cyfrifon at CThEF erbyn 31 Ionawr 2026 ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2025.Ìý

Os na fyddwch yn anfon eich cyfrifon erbyn y dyddiad cau gall un o’r canlynol fod yn wir:

  • gallech orfod talu cyfradd uwch o Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn dreth honno

  • ni allech gael eich cyfraniadau eu trin fel pe baent wedi’u talu am y flwyddyn dreth honno

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Bydd CThEF yn cysylltu â chi i gadarnhau a yw’ch cyfraniadau wedi’u trin fel pe baent wedi’u talu.

Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad yw CThEF yn cysylltu â chi erbyn diwedd mis Tachwedd.

4. Talu ar-lein

Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu symudol os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU.

Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor, bydd angen i chi wneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn yn lle hynny.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich manylion bancio ar-lein

  • y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad, a anfonwyd gan CThEF

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, ²¹â€™c³ó bod eisoes wedi cofrestru gyda CThEF, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir. Mae’n bosibl y bydd CThEF hefyd yn anfon nodyn atgoffa atoch i dalu.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Cadarnhad o’r taliad

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.

5. Debyd Uniongyrchol

Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol (yn agor tudalen Saesneg) i wneud taliadau rheolaidd o gyfrif banc yn y DU.

Ni allwch dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol o gyfrif banc tramor neu os oes gennych dystysgrif yswiriant (yn agor tudalen Saesneg).Ìý

Dylech ganiatáu 21 diwrnod i drefnu Debyd Uniongyrchol newydd.Ìý

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi swm y taliadau a fydd yn cael eu cymryd, a phryd y bydd hynny’n digwydd.Ìý

Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC NI-DD’. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch os bydd eich taliadau’n newid am unrhyw reswm.Ìý

Os oes gennych gwestiwn ynghylch eich taliadau Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

6. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu drwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.

Fel arfer, bydd Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Talu o gyfrif banc yn y DU

Gallwch dalu CThEF drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs, gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

  • cod didoli - 08 32 20

  • rhif y cyfrif - 12001004

  • enw’r cyfrif - HMRC NIC Receipts

Cyfeirnod i’w ddefnyddio

Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU, mae’r cyfeirnod y mae angen i chi ei ddefnyddio yn dibynnu ar p’un a ydych:Ìý

  • yn byw ac wedi gweithio yn y DU

  • yn byw dramor

  • yn byw yn y DU ond yn talu am gyfnod pan oeddech yn gweithio dramorÌý

Mae’n bosibl y bydd oedi gyd²¹â€™c³ó taliad os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir. Mae’n bosibl y bydd CThEF hefyd yn anfon nodyn atgoffa atoch i dalu.

Os ydych yn byw ac yn gweithio yn y DU, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad gan CThEF wrth i chi wneud taliad. Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng y digidau.Ìý

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid ac rydych eisoes wedi cofrestru gyda CThEF, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Os ydych naill ai’n byw dramor neu’n byw yn y DU ond yn talu am gyfnod pan oeddech yn gweithio dramor, mae angen i chi ddefnyddio cyfeirnod gwahanol.

Defnyddiwch eich rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’, eich cyfenw ac yna priflythyren eich enw cyntaf.

Os yw’ch banc yn eich cyfyngu i nifer benodol o gymeriadau, dylech ddefnyddio’ch rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’ a chymaint o’ch cyfenw ag sy’n bosibl.

Enghreifftiau

Os mai Anne Jones yw eich enw a bod eich rhif Yswiriant Gwladol yn QQ123456A, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICJONESA

Os mai’ch enw chi yw John Douglas-Hamilton a bod eich rhif Yswiriant Gwladol yn QQ123456A, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICDOUGLAS-HAMILTONJ

Talu o gyfrif banc tramor

Gallwch dalu o gyfrif tramor os ydych yn byw neu’n gweithio dramor dros dro.

Defnyddiwch y manylion canlynol:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB49 BARC 2020 4830 9447 93

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22ÌýÌý

  • enw’r cyfrif - HMRC NIC receipts

Cyfeirnod i’w ddefnyddio

Defnyddiwch eich rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’, eich cyfenw ac yna priflythyren eich enw cyntaf.

Os yw’ch banc yn eich cyfyngu i nifer benodol o gymeriadau, dylech ddefnyddio’ch rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’ a chymaint o’ch cyfenw ag sy’n bosibl.

Enghreifftiau

Os mai Anne Jones yw eich enw a bod eich rhif Yswiriant Gwladol yn QQ123456A, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICJONESA

Os mai’ch enw chi yw John Douglas-Hamilton a bod eich rhif Yswiriant Gwladol yn QQ123456A, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICDOUGLAS-HAMILTONJ

Os ydych yn gyflogwr sy’n talu am gyflogai sy’n byw dramor, dylech ddefnyddio’ch rhif cyflogwr 13 cymeriad.

Cyfeiriad bancioÌýÌý

Cyfeiriad bancio CThEF yw:ÌýÌý

Barclays Bank plc
1 Churchill PlaceÌý
LlundainÌý
Y Deyrnas UnedigÌý
E14 5HP

Cadarnhad o’r taliad

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.

7. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen.Ìý

Bydd angen eich slip cyflog Cyllid a Thollau EF (CThEF). Fe welwch hyn ar y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF.Ìý

Os byddwch yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener, bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y bydd yn cyrraedd cyfrif CThEF.

Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.Ìý

Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod i’w weld ar y slip cyflog neu ar y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF.

Os nad oes gennych gais am daliad neu gyfeirnod, gallwchÌýgael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir. Mae’n bosibl y bydd CThEF hefyd yn anfon nodyn atgoffa atoch i dalu.

Cadarnhad o’r taliad

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.

8. Talu â siec drwy’r post

Gallwch dalu o gyfrif banc yn y DU drwy anfon siec at:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEFÌý
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
BX5 5BD

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF. Caniatewch fwy o amser os ydych yn anfon y taliad o dramor.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad gan CThEF - ysgrifennwch hwn ar gefn y siec

  • y slip cyflog a anfonwyd atoch ar waelod eich cais am daliad gan CThEF

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir. Mae’n bosibl y bydd CThEF hefyd yn anfon nodyn atgoffa atoch i dalu.

Peidiwch â phlygu’ch slip cyflog na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid

Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda CThEF, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Os nad oes gennych slip cyflog CThEF

Dylech gynnwys nodyn sy’n nodi:

Cadarnhad o’r taliad

Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.

Gallwch hefyd wirio eich cofnod Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó cyfrif treth bersonol. Caniatewch hyd at 8 wythnos i’ch taliad ymddangos.