Toll Peiriannau Hapchwarae
Printable version
1. Trosolwg
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r Doll Peiriannau Hapchwarae (MGD) os oes gennych beiriannau sy’n rhoi gwobrau ariannol (megis peiriannau ceiniogau, ffrwythau neu gwis) ar eich safle.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Nid ydych yn talu’r doll ar unrhyw un o’r canlynol:
- peiriannau lle bo’r wobr yn llai na’r gost o chwarae
- enillion a gafwyd o ddigwyddiadau ar gyfer elusennau, twrnameintiau neu beiriannau loteri
- peiriannau at ddefnydd domestig
Mae enillion o beiriannau hapchwarae wedi’u heithrio rhag TAW os ydych yn talu’r Doll Peiriannau Hapchwarae.
Pwy sy’n gorfod cofrestru a thalu
Rydych chi’n gyfrifol am gofrestru ar gyfer y Doll Peiriannau Hapchwarae, ac am roi gwybod amdani a’i thalu, os mai chi yw deiliad presennol unrhyw un o’r canlynol ar gyfer y safle:
- trwydded ar gyfer hapchwarae neu werthu alcohol
- trwydded peiriannau hapchwarae ar gyfer canolfan adloniant teuluol
- tystysgrif safle clwb
- trwydded peiriannau neu drwydded hapchwarae ar gyfer clwb
- trwydded hapchwarae am wobrwyon neu drwydded ddiddanu
- tystysgrif cofrestru clwb
- trwydded swyddfa bwci neu drwydded clwb bingo
Mae rheolau gwahanol os ydych yn denant tafarn. Chi sy’n gyfrifol am y Doll Peiriannau Hapchwarae, nid perchennog y drwydded safle (fel arfer perchennog y dafarn).
Os nad yw’r safle’n drwyddedig, y rheolwr neu’r perchennog fydd yn gorfod cofrestru. Os ydych ond yn darparu’r peiriannau, nid ydych yn gyfrifol am y doll.
Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud
Os ydych yn gyfrifol am y doll, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
Cofrestru ar gyfer y Doll Peiriannau Hapchwarae cyn i’ch peiriannau fod ar gael i’w chwarae.
-
Cyfrifo’r hyn sydd arnoch ac anfon Ffurflen Dreth i CThEF bob 3 mis.
-
Talu’r hyn sydd arnoch cyn pen 30 diwrnod ar ôl anfon Ffurflen Dreth.
-
Cadw cofnodion o’r enillion o’ch peiriannau hapchwarae a’ch Ffurflenni Treth am 4 blynedd.
Os byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn gyfrifol am y doll – er enghraifft os bydd eich tenantiaeth tafarn yn dod i ben, neu os byddwch yn cael gwared ar y peiriannau – bydd yn rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad. Os na fyddwch yn canslo, bydd CThEF yn parhau i ofyn am Ffurflenni Treth gennych a thaliadau yn seiliedig ar amcangyfrifon o’r hyn sydd arnoch (a elwir yn ‘asesiadau canolog’).
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os na fyddwch yn cofrestru pan ddylech chi.
2. Cofrestru
Cofrestrwch ar gyfer y Doll Peiriannau Hapchwarae (MGD) o leiaf 14 diwrnod cyn i’ch peiriannau fod ar gael i’w chwarae.
Mae’n rhaid i chi fod â chyfrif treth busnes gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) er mwyn cofrestru. Os nad oes gennych un, gallwch .
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, bydd angen y canlynol arnoch er mwyn cofrestru ar gyfer y Doll Peiriannau Hapchwarae:
- unrhyw rifau trwyddedau ar gyfer eich safle
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad neu Dreth Gorfforaeth
- eich rhif TAW, os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- gwybodaeth am sawl peiriant sydd gennych
- cyfeirnod asiant Toll Peiriannau Hapchwarae eich cyfrifydd a’i god post, os ydych am iddo gyflwyno Ffurflenni Treth ar eich rhan
Byddwch yn cael nodynnau atgoffa pan fydd angen i chi gyflwyno’ch Ffurflenni Treth os byddwch yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost wrth gofrestru.
Os ydych am gyflwyno Ffurflenni Treth papur
Os ydych am gyflwyno Ffurflenni Treth papur, llenwch ac anfonwch y ffurflen gofrestru.
Ar ôl i chi gofrestru
Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cyfrifo’r hyn sydd arnoch a chyflwyno Ffurflen Dreth bob 3 mis
- cadw eich Ffurflenni Treth, derbynebau o’r enillion o’ch peiriannau, a manylion eich cyfrifiadau am 4 blynedd
3. Faint rydych yn ei dalu
Rydych yn talu’r Doll Peiriannau Hapchwarae (MGD) ar gyfanswm yr enillion net o’ch peiriannau hapchwarae.
Dyma’r swm rydych yn ei godi i chwarae’r gemau, llai’r swm rydych yn ei dalu fel enillion, gan gynnwys gwobrwyon nad ydynt yn arian parod.
Nid ydych yn ei thalu ar enillion a gafwyd o ddigwyddiadau ar gyfer elusennau, twrnameintiau, peiriannau loteri nac o beiriannau at ddefnydd domestig.
Cyfraddau’r Doll Peiriannau Hapchwarae
Cost chwarae | Y wobr | Y gyfradd rydych yn ei thalu | |
---|---|---|---|
Peiriant math 1 - cyfradd is | 20 ceiniog neu lai | £10 neu lai | 5% |
Peiriant math 2 - cyfradd safonol | 21 ceiniog i £5 | £11 neu fwy | 20% |
Mathau eraill o beiriant - cyfradd uwch | Mwy na £5 | Unrhyw wobr | 25% |
Os oes gan eich peiriant fwy nag un math o gêm, rydych yn talu’r MGD ar y gyfradd sy’n berthnasol i’r gêm â’r gyfradd uchaf – a hynny ar yr holl enillion o’r peiriant hwnnw.
Enghraifft
Os oes gan eich peiriant 5 gêm sy’n costio 20 ceiniog yr un i’w chwarae, ac un gêm sy’n costio £6 i’w chwarae, byddech yn talu 25% ar eich enillion net a gafwyd o’r peiriant. Felly, byddech yn talu toll o £100 ar enillion net o £400.
4. Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth
Mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) bob 3 mis.
Rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth cyn pen 30 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- cofnodion o gyfanswm eich enillion net o beiriannau hapchwarae
- manylion am sut rydych wedi cyfrifo’r ffigurau
Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth atom, hyd yn oed os nad oes arnoch unrhyw beth, neu os nad yw eich busnes wedi masnachu yn ystod y cyfnod cyfrifyddu am unrhyw reswm. Nodwch ‘0’ ym mhob blwch.
Os gwnaethoch ddewis cyflwyno Ffurflenni Treth papur
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon ffurflenni papur atoch pan fydd angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth. Os na fydd y ffurflenni yn eich cyrraedd, cysylltwch â’r llinell gymorth Cymraeg.
Ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth
Talwch eich bil Toll Peiriannau Hapchwarae cyn pen 30 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os bydd eich Ffurflen Dreth neu’ch taliad yn hwyr. Gall CThEF hefyd godi arnoch amcangyfrif o’r hyn sydd arnoch.
Mae’n rhaid i chi gadw eich Ffurflenni Treth, derbynebau o’r enillion o’ch peiriannau, a manylion eich cyfrifiadau am 4 blynedd.
5. Newid eich manylion neu ganslo’ch cofrestriad
er mwyn gwneud y canlynol:
- diweddaru’ch manylion personol
- canslo’ch cofrestriad, er enghraifft os nad ydych yn gyfrifol am y doll mwyach, neu os byddwch yn cael gwared ar y peiriannau, neu’n rhoi’r gorau i fasnachu
- cofrestru fel rhan o grŵp o gwmnïau yn hytrach na fel unigolyn
- ychwanegu, newid, neu ddileu unrhyw asiant sydd â’r awdurdod i gyflwyno Ffurflenni Treth ar eich rhan
Gallwch hefyd gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF). Bydd angen i chi roi’ch rhif cofrestru iddynt.
Newid i gyflwyno ar-lein yn lle anfon Ffurflenni Treth papur
Os oes eisoes gennych gyfrif CThEF ar-lein, .
Fel arall, a chofrestru ar gyfer y Doll Peiriannau Hapchwarae.