Treth pan fyddwch yn cael pensiwn
Printable version
1. Yr hyn sy’n cael ei drethu
Rydych yn talu treth os yw cyfanswm eich incwm blynyddol dros eich Lwfans Personol. Dysgwch ragor am eich Cyfraddau Treth Incwm a Lwfansau Personol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallai cyfanswm eich incwm gynnwys y canlynol:
- y fath o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch (hynny yw, Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth neu Bensiwn Newydd y Wladwriaeth)
- Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
- pensiwn preifat (gweithle neu bersonol) – gallwch gymryd rhywfaint o’r pensiwn hwn fel swm sy’n rhydd o dreth
- enillion o gyflogaeth neu hunangyflogaeth
- unrhyw fudd-daliadau trethadwy a gewch
- unrhyw incwm arall, megis arian o fuddsoddiadau, eiddo neu gynilion
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar y gyfradd uwch os cymerwch swm mawr o’ch pensiwn preifat. Mae hefyd yn bosibl y bydd arnoch dreth ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Os ydych yn cymryd eich holl bensiwn, neu rywfaint ohono, fel cyfandaliad
Byddwch yn talu Treth Incwm ar unrhyw ran o’r cyfandaliad sy’n mynd dros y naill neu’r llall o’r canlynol:
- y lwfans cyfandaliad sydd ar gael i chiÌý
- y lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth sydd ar gael i chi
Dysgwch ragor am y lwfans cyfandaliad sydd ar gael i chi (yn agor tudalen Saesneg).
Y sefyllfa dreth os bydd rhywun yn etifeddu’ch pensiwn
Mae rheolau eraill ar waith os bydd rhywun yn etifeddu eich Pensiwn y Wladwriaeth ²Ô±ð³Ü’c³ó pensiwn preifat (yn agor tudalen Saesneg).
2. Yr hyn sy’n rhydd o dreth
Fel arfer, os yw cyfanswm eich incwm blynyddol o dan eich Lwfans Personol, ni fydd angen i chi dalu unrhyw dreth.
Cyfandaliadau o’ch pensiwn
Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o’r swm a gronnwyd mewn unrhyw bensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth. Y mwyaf y gallwch ei gymryd yw £268,275.
Os oes gennych lwfans wedi’i ddiogelu, gall hyn gynyddu swm y cyfandaliad rhydd o dreth (yn agor tudalen Saesneg) y gallwch ei gymryd o’ch pensiynau.
Nid yw’r cyfandaliad rhydd o dreth yn cael effaith ar eich Lwfans Personol.
Caiff dreth ei didynnu o’r swm sy’n weddill cyn i chi ei gael.
Enghraifft:Ìý
Mae gennych bensiwn sydd werth £60,000 yn ei gyfanrwydd. Rydych yn cymryd £15,000 yn rhydd o dreth. Mae’ch darparwr pensiwn yn didynnu treth o’r £45,000 sy’n weddill.
Bydd rheolau’ch pensiwn yn pennu pryd y gallwch gymryd eich pensiwn. Fel arfer, ni allwch gymryd eich pensiwn cyn i chi droi’n 55.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar y gyfradd uwch os cymerwch swm mawr o’ch pensiwn. Mae hefyd yn bosibl y bydd arnoch dreth ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Sut y gallwch gymryd eich pensiwn
Pensiwn sydd werth hyd at £10,000
Fel arfer, os yw pensiwn werth hyd at £10,000, gallwch ei gymryd yn ei gyfanrwydd. Yr enw a roddir ar hyn yw cyfandaliad ‘cronfa fechan’. Os dewiswch i wneud hyn, bydd 25% o’r swm hwn yn rhydd o dreth.
Fel arfer, gallwch gael y canlynol:
-
hyd at 3 chyfandaliad cronfa fechan o unrhyw bensiynau personol gwahanol sydd gennych
-
nifer ddiderfyn o gyfandaliadau cronfa fechan o unrhyw bensiynau gweithle gwahanol sydd gennych
Pensiwn sydd werth hyd at £30,000 ac yn cynnwys pensiwn buddiannau diffiniedig
Fel arfer, os oes gennych bensiynau preifat sydd werth £30,000 neu lai yn eu cyfanrwydd, gallwch gymryd y swm llawn sydd gennych yn eich pensiwn buddiannau diffiniedig ²Ô±ð³Ü’c³ó pensiwn cyfraniadau diffiniedig (yn agor tudalen Saesneg) fel cyfandaliad ‘cymudiad pitw’. Os dewiswch i wneud hyn, bydd 25% o’r swm hwn yn rhydd o dreth.
Os daw’r cyfandaliad hwn o fwy nag un pensiwn, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
-
cael y darparwr i brisio’r cynilion sydd gennych ym mhob cynllun – rhaid i hyn ddigwydd ar yr un diwrnod, a hynny ddim mwy na 3 mis cyn i chi gael y taliad cyntaf
-
cael pob taliad cyn pen 12 mis o’r taliad cyntaf
Os byddwch yn cymryd taliadau o bensiwn cyn cymryd y swm sy’n weddill fel cyfandaliad, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y cyfandaliad cyfan.
Arian parod o bensiwn cyfraniadau diffiniedig
Gwiriwch â’ch darparwr ynghylch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau diffiniedig. Gallwch gymryd:
-
yr holl arian a gronnwyd yn eich pensiwn fel arian parod
-
symiau llai o arian parod o’ch pensiwn
Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o’r swm a gronnwyd mewn unrhyw bensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth. Y mwyaf y gallwch ei gymryd yw £268,275.
Os oes gennych lwfans wedi’i ddiogelu, gall hyn gynyddu swm y cyfandaliad rhydd o dreth y gallwch ei gymryd o’ch pensiynau (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu tâl treth ar arian a gaiff ei dalu i’ch pensiwn ar ôl i chi godi arian parod ohono.
Os yw’ch disgwyliad oes yn llai nag un flwyddyn
Mae’n bosibl y gallwch gymryd yr holl arian sydd yn eich pensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
-
mae’ch disgwyliad oes yn llai nag un flwyddyn oherwydd salwch difrifol
-
rydych o dan 75 oed
-
mae cyfanswm yr arian sydd yn eich pensiwn o dan y lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth (yn agor tudalen Saesneg) sydd ar gael i chi
Byddwch yn talu Treth Incwm ar yr holl gyfandaliad, neu rywfaint ohono, os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych dros 75 oed
-
mae cyfanswm yr arian sydd yn eich pensiwn dros y lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth (yn agor tudalen Saesneg) sydd ar gael i chi
Gwiriwch hyn gyda’ch darparwr pensiwn. Bydd rhai cronfeydd pensiwn yn cadw o leiaf 50% o’ch pensiwn ar gyfer eich priod ²Ô±ð³Ü’c³ó partner sifil.
3. Sut mae’ch treth yn cael ei thalu
Mae’r ffordd y mae treth yn cael ei thalu yn dibynnu ar y fath o bensiwn a gewch, a ph’un a oes gennych unrhyw incwm arall.
Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth yn ogystal â phensiwn preifat
Fel arfer, bydd eich darparwr pensiwn yn didynnu unrhyw dreth sydd arnoch cyn eich talu chi. Bydd eich darparwr pensiwn hefyd yn didynnu unrhyw dreth sydd arnoch ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn cael taliadau o fwy nag un darparwr (er enghraifft, taliadau o bensiwn gweithle a thaliadau o bensiwn preifat), bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gofyn un o’ch darparwyr i ddidynnu’r dreth o’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, byddwch yn cael ffurflen P60 gan eich darparwr pensiwn yn nodi faint o dreth a dalwyd gennych.
Os Pensiwn y Wladwriaeth yw’ch unig incwmÌý
Os byddwch yn mynd dros eich Lwfans Personol a bod treth gennych i’w thalu, bydd CThEF yn anfon bil treth Asesiad Syml atoch. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch a sut i’w dalu.
Ar ôl eich blwyddyn gyntaf o gael Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn talu treth pob blwyddyn yn seiliedig ar 52 wythnos o daliadau.
Fel arfer, os yw’ch incwm o dan eich Lwfans Personol, ni fydd angen i chi dalu treth.
Os byddwch yn parhau i weithio
Fel arfer, bydd eich cyflogwr yn didynnu unrhyw dreth sy’n ddyledus o’ch enillion a’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Yr enw a roddir ar hyn yw Talu Wrth Ennill (TWE).
Os ydych yn hunangyflogedig, mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Mae’n rhaid i chi ddatgan eich incwm cyffredinol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth ac arian o’ch pensiynau preifat, er enghraifft eich pensiwn gweithle.
Os oes gennych incwm arall
Rydych yn gyfrifol am dalu unrhyw dreth sydd arnoch ar unrhyw incwm a gewch, ac eithrio’r arian a gewch o’ch pensiynau. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os oes arnoch unrhyw dreth ar incwm o fuddsoddiadau, bydd CThEF yn anfon cyfrifiad atoch yn esbonio’r hyn sydd arnoch a sut i’w dalu.
Gallwch hawlio ad-daliad treth os ydych wedi talu gormod o dreth.
Codau treth
Fel arfer, os yw’ch incwm yn dod o un ffynhonnell yn unig, bydd gennych un cod treth.
Os yw’ch incwm yn dod o fwy nag un ffynhonnell, mae’n bosibl y bydd gennych fwy nag un cod treth.
Gallwch gywiro’ch cod treth os ydych o’r farn ei fod yn anghywir.
4. Treth pan fyddwch yn byw dramor
Mae’n bosibl y cewch eich trethu ar eich pensiwn gan y wlad lle’r ydych yn breswyl a chan y DU.
Byddwch yn talu treth y DU ar eich pensiwn naill ai:
- os ydych yn cael eich pensiwn gan ddarparwr yn y DU
- os ydych yn cael eich ystyried yn breswyl yn y DU at ddibenion treth (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’r swm rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich incwm. Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os byddwch yn symud dramor (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n bosibl na fydd yn rhaid i chi dalu ddwywaith os oes gan y wlad rydych chi’n preswylio ynddi ‘cytundeb trethiant dwbl’(yn agor tudalen Saesneg) gyda’r DU. Bydd eich cytuniad treth (yn agor tudalen Saesneg) yn rhoi gwybod i chi ble i dalu treth.
5. Treth uwch ar daliadau heb eu hawdurdodi
Os bydd eich darparwr pensiwn yn gwneud ‘taliad heb ei awdurdodi’ (yn agor tudalen Saesneg), byddwch yn talu hyd at 55% o dreth ar y taliad hwnnw. Dyma daliadau a wneir y tu allan i reolau treth y Llywodraeth ac, fel arfer, mae’r taliadau hyn yn cynnwys y canlynol:
-
unrhyw daliadau a wneir cyn i chi droi’n 55 (mae eithriadau (yn agor tudalen Saesneg) i’r rheol hwn)
-
cyfandaliad ‘cymudiad pitw’ sydd werth dros £30,000
-
taliadau rheolaidd i’ch cyfrif ar ôl eich marwolaethÌý
Mae rhai cwmnïau yn hysbysebu benthyciadau personol neu arian parod ymlaen llaw os cymerwch eich pensiwn yn gynnar. Mae’r taliadau hyn yn daliadau heb eu hawdurdodi, a bydd yn rhaid i chi dalu treth arnynt.