TWE Ar-lein i Gyflogwyr
Printable version
1. Defnyddio TWE Ar-lein
Fel cyflogwr, mae angen i chi ddefnyddio gwasanaeth TWE Ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i wneud y canlynol:
-
gwirio’r hyn sydd arnoch i CThEF
-
talu’ch bil
-
bwrw golwg dros hanes eich taliadau
-
cael mynediad at godau treth a hysbysiadau ynghylch eich cyflogeion
-
apelio yn erbyn cosb
-
cael rhybuddion gan CThEF pan fyddwch yn anfon adroddiad neu’n talu’n hwyr, neu pan na fyddwch yn anfon y nifer disgwyliedig o adroddiadau yn ystod y mis
-
anfon datganiadau treuliau a buddiannau, megis P46 (car), P11D a P11D(b)
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyn i chi ddechrau
Er mwyn defnyddio TWE Ar-lein, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:Â
-
cofrestru fel cyflogwrÂ
-
ymrestru ar gyfer TWE ´¡°ù-±ô±ð¾±²ÔÌý
-
actifadu’r gwasanaethÂ
Os ydych wedi cofrestru ar-lein fel cyflogwrÂ
Rydych yn ymrestru’n awtomatig ar gyfer TWE Ar-lein pan fyddwch yn cofrestru fel cyflogwr ²¹°ù-±ô±ð¾±²Ô.Ìý
Ar ôl i chi gofrestru, bydd CThEF yn gyrru cod actifadu o fewn 10 diwrnod i chi drwy’r post. Mae’n rhaid i chi o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad sydd ar y llythyr.ÌýÂ
Os nad ydych yn actifadu eich cyfrif o fewn y terfyn amser, bydd yn rhaid i chi ymrestru ar gyfer TWE ar-lein unwaith eto.ÌýÂ
Os ydych wedi cofrestru fel cyflogwr dros y ffôn neu drwy’r postÂ
Bydd angen i chi ymrestru ar gyfer TWE Ar-lein cyn i chi allu defnyddio’r gwasanaeth.
Mewngofnodi i TWE Ar-lein
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Codau treth a hysbysiadauÂ
Mae CThEF yn anfon gwybodaeth ynghylch eich cyflogeion atoch drwy ddefnyddio TWE Ar-lein. Gallwch fewngofnodi i fwrw golwg dros y canlynol:
-
hysbysiadau cod treth (P6 a P9)
-
hysbysiadau benthyciadau myfyrwyr (SL1 ac SL2)
-
hysbysiadau gwirio Yswiriant Gwladol (NVR a NOT)
-
hysbysiadau ynghylch cyflwyno’n hwyr a thaliadau hwyr (yn agor tudalen Saesneg) (Mae CThEF yn galw’r rhain yn ‘hysbysiadau cyffredinol’)
Gallwch gyrchu’r rhain drwy rai mathau o feddalwedd gyflogres, neu drwy’r Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE.
2. Ymrestru os nad ydych wedi cofrestru ar-lein
Er mwyn defnyddio TWE Ar-lein, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol: Â
-
ymrestru ar gyfer y gwasanaeth (bydd angen eich Cyfeirnod TWE a Chyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon arnoch o’ch llythyr cofrestru)Â
-
actifadu’r gwasanaethÂ
Mae’r dull o ymrestru’n dibynnu a oes gennych gyfrif ar-lein eisoes ar gyfer trethi busnes eraill, e.e. Treth Gorfforaeth.Ìý
Ymrestru os oes gennych gyfrif eisoesÂ
-
.Ìý
-
Dewiswch ‘Cyflogwyr neu gyfryngwyr, er enghraifft TWE i gyflogwyr neu CIS’ sydd yn y rhestr.Ìý
-
Dewiswch ‘TWE ar gyfer cyflogwyr’.
Ymrestru os nad oes gennych gyfrifÂ
-
.Ìý
-
Dewiswch ‘Cyflogwyr neu gyfryngwyr, er enghraifft TWE i gyflogwyr neu CIS’ sydd yn y rhestr.Ìý
-
Dewiswch ‘TWE ar gyfer cyflogwyr’. Â
Ar ôl i chi ymrestruÂ
Ar ôl i chi ymrestru bydd angen i chi cyn y gallwch chi ddefnyddio TWE Ar-lein.Ìý
Byddwn yn anfon cod actifadu atoch o fewn 10 diwrnod gwaith. Mae’n rhaid i chi actifadu’r gwasanaeth o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad sydd ar y llythyr.ÌýÂ
Os nad ydych yn actifadu eich cyfrif o fewn y terfyn amser, bydd yn rhaid i chi ymrestru ar gyfer TWE ar-lein unwaith eto.
3. Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE
Mae’r Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE yn rhaglen gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) sy’n eich caniatáu i fwrw golwg dros chwilio am a threfnu nifer fawr o godau treth a hysbysiadau ynghylch eich cyflogeion.
Gallwch ei ddefnyddio hefyd i lawrlwytho hysbysiadau er mwyn edrych arnynt all-lein yn hytrach na’u cael mynediad drwy wasanaeth TWE Ar-lein CThEF, neu’ch meddalwedd cyflogres (yn agor tudalen Saesneg), os yw’n cynnwys y nodwedd hon.