Absenoldeb a Thâl ar y cyd i Rieni
Printable version
1. Sut mae’n gweithio
Efallai y byddwch chi a’ch partner yn gallu cael Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP) os ydych yn:
- cael babi
- defnyddio mam fenthyg i gael babi
- mabwysiadu plentyn
- maethu plentyn rydych chi’n bwriadu ei fabwysiadu
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch rannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb a hyd at 37 wythnos o dâl rhyngoch.
Mae angen i chi rannu’r tâl ²¹â€™r absenoldeb yn y flwyddyn gyntaf ar ôl i’ch plentyn gael ei eni neu ei leoli gyda’ch teulu.
Gallwch ddefnyddio SPL i gymryd absenoldeb mewn blociau wedi’u gwahanu gan gyfnodau o waith, neu gymryd y cyfan ar yr un pryd. Gallwch hefyd ddewis bod i ffwrdd o’r gwaith gyda’ch gilydd neu rannu’r absenoldeb ²¹â€™r tâl dros gyfnod.
I gael SPL ac ShPP, mae angen i chi a’ch partner:
- bodloni’r meini prawf cymhwystra – mae yna wahanol feini prawf ar gyfer rhieni biolegol ac ar gyfer rhieni mabwysiadol neu rieni sy’n defnyddio mam fenthyg
- rhoi rhybudd i’ch cyflogwyr
- ildio rhywfaint o’ch absenoldeb a’ch tâl mamolaeth neu’ch absenoldeb a’ch tâl mabwysiadu
Ildio absenoldeb a thâl mamolaeth neu absenoldeb a thâl mabwysiadu
I gael SPL ac ShPP mae’n rhaid i chi neu’ch partner:
- cymryd llai n²¹â€™r 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu a defnyddio’r gweddill fel SPL
- cymryd llai n²¹â€™r 39 wythnos o dâl mamolaeth neu dâl mabwysiadu (neu Lwfans Mamolaeth) a defnyddio’r gweddill fel ShPP
Er enghraifft, os mai chi yw’r fam a’ch bod wedi cymryd 22 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth a Thâl Mamolaeth Statudol, gallwch rannu 30 wythnos o SPL ac 17 wythnos o ShPP gyda’ch partner.
2. Cymhwystra ar gyfer rhieni biolegol
I fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP), mae’n rhaid i’r ddau riant:
- rhannu cyfrifoldeb am y plentyn ar ei enedigaeth
- bodloni meini prawf gwaith a thâl - mae’r rhain yn wahanol yn dibynnu ar ba riant sydd am ddefnyddio’r absenoldeb ²¹â€™r tâl ar y cyd i rieni
Nid ydych yn gymwys os gwnaethoch ddechrau rhannu’r cyfrifoldeb am y plentyn ar ôl iddo gael ei eni.
Mae’r meini prawf cymhwystra’n wahanol os ydych yn rhieni mabwysiadol neu rieni sy’n defnyddio mam fenthyg.
Gallwch . Bydd angen i chi wybod:
- dyddiad disgwyl neu ddyddiad geni eich plentyn
- eich statws cyflogaeth a’ch enillion chi a statws ac enillion eich partner
- p’un a allwch chi a’ch partner gael Tâl Mamolaeth Statudol neu Dâl Tadolaeth Statudol
Os yw’r ddau riant am rannu’r SPL ²¹â€™r ShPP
Rhaid i’r ddau riant fodloni’r un meini prawf cymhwystra i gael SPL ac ShPP. Mae’n rhaid i chi:
- bod wedi’ch cyflogi’n barhaol gan yr un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad y disgwylir y plentyn
- aros gyd²¹â€™r un cyflogwr nes i chi ddechrau’ch SPL
I fod yn gymwys ar gyfer SPL, mae’n rhaid i chi fod yn ‘gyflogeion’ (nid ‘gweithwyr’) – gwiriwch eich statws cyflogaeth. Os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn ‘weithiwr’, efallai y gallwch rannu ShPP ond nid SPL.
I fod yn gymwys ar gyfer ShPP, mae’n rhaid i’r naill ²¹â€™r llall ohonoch ennill o leiaf £125 yr wythnos ar gyfartaledd. Os ydych fel arfer yn ennill £125 neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, a gwnaethoch ennill llai yn ystod rhai wythnosau dim ond oherwydd eich bod ar ffyrlo o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, gallech fod yn gymwys o hyd.
Os yw partner y fam eisiau cymryd yr SPL ²¹â€™r ShPP
Er mwyn i bartner y fam gymryd SPL ac ShPP, mae’n rhaid i’r fam a phartner y fam fodloni rhai gofynion o ran cymhwystra.
Mae’n rhaid i’r fam:
- bod wedi gweithio am o leiaf 26 wythnos allan o’r 66 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni (nid oes angen i’r 26 wythnos fod yn olynol)
- bod wedi ennill cyfanswm o £390 o leiaf ar draws unrhyw 13 o’r 66 wythnos (ychwanegwch at ei gilydd yr wythnosau pan dalwyd y symiau uchaf – does dim angen iddyn nhw fod yn olynol)
Mae’n rhaid i bartner y fam:
- bod wedi’i gyflogi’n barhaol gan yr un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos, erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i’r babi gael ei eni
- aros gyd²¹â€™r un cyflogwr hyd nes iddo ddechrau ei SPL
I fod yn gymwys ar gyfer SPL, mae’n rhaid i’r partner fod yn ‘gyflogai’ (nid ‘gweithiwr’) – gwiriwch ei statws cyflogaeth. Os yw’r partner yn ‘weithiwr’, efallai y bydd yn gallu cael ShPP ond nid SPL.
I fod yn gymwys i gael ShPP, rhaid i’r partner ennill o leiaf £125 yr wythnos ar gyfartaledd.
Os enillodd naill ai’r fam neu ei phartner lai n²¹â€™r swm oedd ei angen oherwydd ffyrlo o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, gall fod yn gymwys o hyd.
Os yw’r fam am gymryd yr SPL ²¹â€™r ShPP
Er mwyn i’r fam gymryd SPL ac ShPP, mae’n rhaid i’r fam a phartner y fam fodloni rhai gofynion o ran cymhwystra.
Mae’n rhaid i bartner y fam:
- bod wedi gweithio am o leiaf 26 wythnos allan o’r 66 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni (nid oes angen i’r 26 wythnos fod yn olynol)
- bod wedi ennill cyfanswm o £390 o leiaf yn ystod 13 o’r 66 wythnos (ychwanegwch at ei gilydd yr wythnosau pan dalwyd y symiau uchaf, nid oes angen iddynt fod yn olynol)
Mae’n rhaid i’r fam:
- bod wedi’i chyflogi’n barhaol gan yr un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos, erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i’r babi gael ei eni
- aros gyd²¹â€™r un cyflogwr hyd nes iddi ddechrau ei SPL
I fod yn gymwys ar gyfer SPL, mae’n rhaid i’r fam fod yn ‘gyflogai’ (nid ‘gweithiwr’) – gwiriwch ei statws cyflogaeth. Os yw’r fam yn ‘weithiwr’, efallai y bydd yn gallu cael ShPP ond nid SPL.
I fod yn gymwys i gael ShPP, rhaid i’r fam ennill o leiaf £125 yr wythnos ar gyfartaledd.
Os enillodd naill ai’r fam neu ei phartner lai n²¹â€™r swm oedd ei angen oherwydd ffyrlo o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, gall fod yn gymwys o hyd.
3. Cymhwystra ar gyfer mabwysiadwyr neu rieni sy’n defnyddio mam fenthyg
I fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP), rhaid i’r ddau riant mabwysiadol neu’r ddau riant sy’n defnyddio mam fenthyg rannu’r cyfrifoldeb dros y plentyn:
- o ddyddiad disgwyl neu ddyddiad geni’r plentyn, os ydych chi’n defnyddio mam fenthyg
- o’r dyddiad y lleolir y plentyn gyda chi os ydych chi’n mabwysiadu neu’n maethu er mwyn mabwysiadu
Rhaid i’r ddau riant fodloni’r meini prawf gwaith ac enillion hefyd. Mae’r meini prawf yn wahanol yn dibynnu ar ba un ohonoch sydd am ddefnyddio’r absenoldeb ²¹â€™r tâl ar y cyd i rieni.
Mae’r meini prawf cymhwystra yn wahanol os ydych yn rhieni biolegol.
Gallwch . Bydd angen i chi wybod:
- dyddiad disgwyl neu ddyddiad geni’ch plentyn os ydych chi’n defnyddio mam fenthyg, neu’r dyddiad paru os ydych chi’n mabwysiadu neu’n maethu er mwyn mabwysiadu
- eich statws cyflogaeth a’ch enillion chi a statws ac enillion eich partner
- p’un a allwch chi a’ch partner gael Tâl Mabwysiadu Statudol neu Dâl Tadolaeth Statudol
Os yw’r ddau riant am rannu’r SPL ²¹â€™r ShPP
Rhaid i’r ddau riant fodloni’r un meini prawf cymhwystra.
I fod yn gymwys i gael SPL ac ShPP, mae’n rhaid i chi aros gyd²¹â€™r un cyflogwr hyd nes i chi ddechrau’ch SPL. Mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cyflogi’n barhaol ganddo am o leiaf 26 wythnos, erbyn naill ai:
- diwedd yr wythnos rydych chi neu’ch partner yn cael eich paru â phlentyn os ydych chi’n mabwysiadu
- diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad y disgwylir y plentyn os ydych chi’n defnyddio mam fenthyg
I fod yn gymwys ar gyfer SPL, mae’n rhaid i chi fod yn ‘gyflogeion’ (nid ‘gweithwyr’) – gwiriwch eich statws cyflogaeth. Os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn ‘weithiwr’, efallai y gallwch rannu ShPP ond nid SPL.
I fod yn gymwys ar gyfer ShPP, mae’n rhaid i’r naill ²¹â€™r llall ohonoch ennill o leiaf £125 yr wythnos ar gyfartaledd. Os ydych fel arfer yn ennill £125 neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, a gwnaethoch ennill llai yn ystod rhai wythnosau dim ond oherwydd eich bod ar ffyrlo o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, gallech fod yn gymwys o hyd.
Os mai dim ond un o’r rhieni sydd eisiau cymryd yr SPL ²¹â€™r ShPP
Rhaid i’r ddau riant fodloni rhai meini prawf cymhwystra.
Meini prawf y rhiant sy’n cymryd yr SPL ²¹â€™r ShPP
Mae’n rhaid i’r rhiant sydd am gymryd yr absenoldeb ²¹â€™r tâl aros gyd²¹â€™r un cyflogwr hyd nes iddo ddechrau ei SPL.
Mae’n rhaid iddo fod wedi’i gyflogi’n barhaol gan yr un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos, erbyn naill ai:
- diwedd yr wythnos rydych chi neu’ch partner yn cael eich paru â phlentyn os ydych chi’n mabwysiadu
- diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad y disgwylir y plentyn os ydych chi’n defnyddio mam fenthyg
I fod yn gymwys i gael SPL, rhaid iddo fod yn ‘gyflogai’ (nid ‘gweithiwr’) – gwiriwch ei statws cyflogaeth. Os yw’n ‘weithiwr’, efallai y bydd yn gallu cael ShPP ond nid SPL.
I fod yn gymwys i gael ShPP, rhaid iddo ennill o leiaf £125 yr wythnos ar gyfartaledd. Os enillodd lai n²¹â€™r swm oedd ei angen oherwydd ffyrlo o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, gall fod yn gymwys o hyd.
Meini prawf y rhiant arall
Rhaid i’r rhiant arall:
- bod wedi gweithio am o leiaf 26 wythnos allan o’r 66 wythnos cyn yr wythnos y lleolwyd y plentyn gyda chi (nid oes angen i’r 26 wythnos fod yn olynol)
- bod wedi ennill cyfanswm o £390 o leiaf yn ystod 13 o’r 66 wythnos (ychwanegwch at ei gilydd yr wythnosau pan dalwyd y symiau uchaf – nid oes angen iddynt fod yn olynol)
Os enillodd lai n²¹â€™r swm oedd ei angen oherwydd ffyrlo o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, gall fod yn gymwys o hyd.
4. Yr hyn a gewch
Gallwch rannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb a hyd at 37 wythnos o dâl rhyngoch chi.
Mae’r swm gwirioneddol yn dibynnu ar faint o absenoldeb a thâl mamolaeth neu absenoldeb a thâl mabwysiadu (neu Lwfans Mamolaeth) rydych chi neu’ch partner yn ei gymryd. Os ydych chi neu’ch partner yn gymwys, gallwch wneud y canlynol:
- cymryd llai n²¹â€™r 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu a defnyddio’r gweddill fel SPL
- cymryd llai n²¹â€™r 39 wythnos o dâl mamolaeth neu dâl mabwysiadu (neu Lwfans Mamolaeth) a defnyddio’r gweddill fel ShPP
Gallwch wirio pryd y gallwch chi a’ch partner gymryd eich absenoldeb a faint o dâl statudol a gewch gan ddefnyddio’r offeryn cynllunio Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni.
Faint o dâl a gewch
Telir ShPP ar y gyfradd o £187.18 yr wythnos, neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog, pa un bynnag sydd isaf.
Mae hyn yr un fath â Thâl Mamolaeth Statudol (SMP) ac eithrio bod SMP yn ystod y 6 wythnos gyntaf yn cael ei dalu ar 90% o’r hyn a enillwch (heb uchafswm).
Enghraifft
Mae merch yn penderfynu dechrau ei chyfnod mamolaeth 4 wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i’r babi gael ei eni, ac mae hi’n rhoi rhybudd y bydd yn dechrau SPL o 10 wythnos ar ôl yr enedigaeth (gan gymryd cyfanswm o 14 wythnos o absenoldeb mamolaeth). Mae hi fel arfer yn ennill £200 yr wythnos.
Telir £180 iddi (90% o’i henillion wythnosol cyfartalog) fel SMP yn ystod 6 wythnos gyntaf ei habsenoldeb mamolaeth, yna £187.18 yr wythnos ar gyfer yr 8 wythnos nesaf. Unwaith y bydd hi’n trosglwyddo i SPL, bydd hi’n cael tâl o £187.18 yr wythnos o hyd.
5. Pryd y gallwch ddechrau
Dim ond ar ôl i’r plentyn gael ei eni neu ei leoli gyda’ch teulu i gael ei fabwysiadu y gallwch chi ddechrau Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) neu Dâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP).
Gallwch wirio pryd y gallwch chi a’ch partner ddechrau’ch absenoldeb gan ddefnyddio’r offeryn cynllunio Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni.
Er mwyn i SPL ddechrau
Mae’n rhaid i’r fam (neu’r unigolyn sy’n cael absenoldeb mabwysiadu) naill ai:
- dychwelyd i’r gwaith, sy’n dod ag unrhyw absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben
- rhoi ‘hysbysiad rhwymol’ i’r cyflogwr o’r dyddiad y mae’n bwriadu dod â’r absenoldeb i ben (ni allwch fel arfer newid y dyddiad a roddwch mewn hysbysiad rhwymol)
Gallwch ddechrau SPL tra bydd eich partner yn dal i fod ar absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu, cyn belled â’i fod wedi rhoi hysbysiad rhwymol i’w derfynu.
Gallwch roi hysbysiad rhwymol a dweud pryd rydych yn bwriadu cymryd eich SPL ar yr un pryd.
Ni all mam ddychwelyd i’r gwaith cyn diwedd y 2 wythnos orfodol o absenoldeb mamolaeth yn dilyn yr enedigaeth (4 wythnos os yw’n gweithio mewn ffatri). Os ydych yn mabwysiadu, mae’n rhaid i’r person sy’n hawlio tâl mabwysiadu gymryd o leiaf 2 wythnos o absenoldeb mabwysiadu.
Os nad yw’r fam neu’r mabwysiadwr yn cael absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu
Mae’n rhaid i’r fam neu’r mabwysiadwr ddod ag unrhyw dâl mamolaeth, tâl mabwysiadu neu Lwfans Mamolaeth i ben fel y gall gael SPL, neu fel y gall y partner gael SPL.
Er mwyn i ShPP ddechrau
Mae’n rhaid i’r fam (neu’r unigolyn sy’n cael tâl mabwysiadu) roi hysbysiad rhwymol i’r cyflogwr o’r dyddiad y mae’n bwriadu dod ag unrhyw dâl mamolaeth neu fabwysiadu i ben.
Os yw’r unigolyn dan sylw yn cael Lwfans Mamolaeth, mae’n rhaid iddo roi rhybudd i’r Ganolfan Byd Gwaith yn lle hynny.
Ni all ailgychwyn tâl mamolaeth, Lwfans Mamolaeth na thâl mabwysiadu unwaith y bydd wedi dod i ben.
Gallwch ddechrau ShPP tra bydd eich partner yn dal i gael tâl mamolaeth, tâl mabwysiadu neu Lwfans Mamolaeth, cyn belled â’i fod wedi rhoi hysbysiad rhwymol i’w derfynu.
Gallwch roi hysbysiad rhwymol a dweud pryd rydych yn bwriadu cymryd eich ShPP ar yr un pryd.
Newid y penderfyniad i ddod ag absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben
Efallai y bydd y fam neu’r mabwysiadwr yn gallu newid y penderfyniad i ddod â’r absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben yn gynnar. Mae’n rhaid iddo roi gwybod i’r cyflogwr.
Gall ond newid y penderfyniad os yw’r canlynol yn wir:
- nid yw’r dyddiad gorffen arfaethedig wedi mynd heibio
- nid yw eisoes wedi dychwelyd i’r gwaith
Mae’n rhaid i un o’r canlynol fod yn berthnasol hefyd:
- rydych yn cael gwybod yn ystod y cyfnod hysbysu o 8 wythnos nad yw’r naill n²¹â€™r llall ohonoch yn gymwys i gael SPL neu ShPP
- mae’r fam neu bartner y mabwysiadwr wedi marw
- mae’r fam yn dweud wrth ei chyflogwr llai na 6 wythnos ar ôl yr enedigaeth (a rhoddodd hysbysiad i’w chyflogwr cyn yr enedigaeth)
6. Trefnu blociau o absenoldeb
Gallwch drefnu hyd at 3 bloc ar wahân o Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) yn hytrach na chymryd y cyfan ar unwaith, hyd yn oed os nad ydych yn rhannu’r absenoldeb gyda’ch partner.
Os yw’ch partner hefyd yn gymwys ar gyfer SPL, gallwch gymryd hyd at 3 bloc o absenoldeb yr un. Gallwch gymryd absenoldeb ar wahanol adegau neu ar yr un pryd.
Gallwch gymryd mwy na 3 bloc o absenoldeb, os yw’ch cyflogwr yn cytuno.
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr am eich cynlluniau ar gyfer absenoldeb pan fyddwch yn gwneud cais am SPL. Gallwch newid y cynlluniau hyn yn nes ymlaen, ond mae’n rhaid i chi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr cyn yr hoffech ddechrau bloc o absenoldeb.
Gallwch wirio pryd y gallwch chi a’ch partner gymryd eich absenoldeb gan ddefnyddio’r offeryn cynllunio Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni.
Rhannu blociau o absenoldeb
Os bydd eich cyflogwr yn cytuno, gallwch rannu blociau’n gyfnodau byrrach o wythnos o leiaf.
Enghraifft
Mae mam yn gorffen ei chyfnod mamolaeth ddiwedd mis Hydref ac yn cymryd gweddill ei habsenoldeb fel SPL. Mae hi’n ei rannu gyda’i phartner, sydd hefyd yn gymwys. Maent yn cymryd mis Tachwedd cyfan fel eu blociau cyntaf o SPL. Yna mae’r partner yn dychwelyd i’r gwaith.
Mae’r fam hefyd yn dychwelyd i’r gwaith ym mis Rhagfyr. Mae hi’n rhoi rhybudd i’w chyflogwr y bydd yn mynd ar absenoldeb eto ym mis Chwefror – dyma ei hail floc o SPL. Mae ei chyflogwr yn cytuno ar batrwm gwaith o bythefnos ymlaen, bythefnos i ffwrdd yn ystod y bloc.
Diwrnodau ‘Cadw mewn cysylltiad yn ystod Absenoldeb ar y Cyd i Rieni’ (SPLIT)
Gallwch chi a’ch partner weithio hyd at 20 diwrnod tra byddwch yn cymryd SPL. Gelwir y rhain yn ddiwrnodau ‘Cadw mewn cysylltiad yn ystod Absenoldeb ar y Cyd i Rieni’ (SPLIT).
Mae’r diwrnodau hyn yn ychwanegol at y 10 diwrnod ‘cadw mewn cysylltiad’ (neu KIT) sydd ar gael i’r rheini sydd ar absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu.
Mae diwrnodau KIT a SPLIT yn ddewisol – mae’n rhaid i chi a’ch cyflogwr gytuno arnynt.
7. Gwneud cais am absenoldeb a thâl
I gael Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) neu Dâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP), mae’n rhaid i chi:
- dilyn y rheolau ar gyfer dechrau SPL ac ShPP
- rhoi o leiaf 8 wythnos o rybudd ysgrifenedig i’ch cyflogwr o ddyddiadau eich absenoldeb
Gallwch ddefnyddio a grëwyd gan Acas i:
- rhoi rhybudd i’ch cyflogwr eich bod yn bwriadu cymryd SPL ac ShPP
- rhoi rhybudd i’ch cyflogwr pryd y bydd yr unigolyn, boed y fam neu’r mabwysiadwr, yn dod â’i absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben, a phryd y bydd yn rhoi’r gorau i gael tâl mamolaeth neu fabwysiadu
- trefnu dyddiadau eich absenoldeb
Os oes gan eich cyflogwr ei ffurflenni ei hun, gallwch ddefnyddio’r rheini yn lle.
Gallwch newid eich meddwl yn nes ymlaen am faint o SPL neu ShPP rydych yn bwriadu ei gymryd a phryd rydych am ei gymryd. Mae’n rhaid i chi roi rhybudd o unrhyw newidiadau o leiaf 8 wythnos cyn dechrau unrhyw absenoldeb.
Efallai na fyddwch yn cael SPL neu ShPP os nad ydych yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol.
Rhoi rhagor o wybodaeth
Gall eich cyflogwr ofyn i chi am ragor o wybodaeth cyn pen 14 diwrnod ar ôl i chi wneud cais am SPL neu ShPP. Gall ofyn am:
- copi o’r dystysgrif geni
- datganiad o’r man geni ²¹â€™r dyddiad geni (os nad yw’r enedigaeth wedi’i chofrestru eto)
- enw a chyfeiriad cyflogwr eich partner neu ddatganiad nad oes gan eich partner gyflogwr
Os ydych chi’n mabwysiadu neu’n maethu plentyn rydych chi’n bwriadu ei fabwysiadu, gall eich cyflogwr ofyn am:
- enw a chyfeiriad yr asiantaeth fabwysiadu neu’r awdurdod lleol
- y dyddiad y cawsoch eich paru â’r plentyn
- y dyddiad y bydd y plentyn yn dechrau byw gyda chi
- enw a chyfeiriad cyflogwr eich partner neu ddatganiad nad oes gan eich partner gyflogwr
Mae’n rhaid i chi roi’r wybodaeth hon cyn pen 14 diwrnod i’r dyddiad y gofynnir i chi amdani.