Adnewyddu eich trwydded yrru

Adnewyddu eich:

  • trwydded yrru lawn
  • trwydded yrru dros dro

Mae’n costio £14 pan rydych yn gwneud cais ar-lein.

Mae’n rhaid ichi adnewyddu trwydded cerdyn-llun bob 10 mlynedd - byddwch yn derbyn nodyn atgoffa cyn bod eich trwydded bresennol yn dod i ben.

I adnewyddu eich trwydded, mae’n rhaid ichi:

  • fod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr (mae )
  • peidio â bod wedi eich gwahardd rhag gyrru

Bydd angen ichi wneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntafÌý´Ç²õ:

  • nad ydych wedi gwneud cais am drwydded yrru dros dro o’r blaen
  • gwnaethoch gais am drwydded yrru dros dro cyn 1 Mawrth 1973

Mae ffordd wahanol i:

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn ichi ddechrau

Os yw eich enw neu deitl wedi newid ers ichi gael eich trwydded yrru bresennol, ni allwch ei hadnewyddu ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch wneud cais mewn Swyddfa’r Post neu drwy’r post.

Mewngofnodi i adnewyddu ar-lein

Bydd angen ichi fewngofnodi i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi yn barod, byddwch yn gallu eu creu.

Byddwch yn cael gwybod pan rydych yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n golygu defnyddio dull adnabod â ffotograff fel pasbort neu drwydded yrru.

Ar ôl ichi adnewyddu ar-lein

Bydd eich trwydded newydd yn ddilys o’r dyddiad y mae eich cais yn cael ei gymeradwyo, nid o ddyddiad dod i ben eich trwydded bresennol.

Faint mae’n ei gostio

Mae adnewyddu eich trwydded yn costio £14. Gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd Mastercard, Visa, Electron neu Delta (nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded cyfnod byr am resymau meddygol).

Pa mor hir mae’n ei gymryd

Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn wythnos os ydych yn gwneud cais ar-lein.

Mae’n rhaid ichi anfon eich hen drwydded yrru cerdyn-llun i DVLA pan fyddwch yn derbyn eich trwydded newydd. Bydd y cyfeiriad i’w ddefnyddio yn cael ei roi ichi pan fyddwch yn gorffen y cais.

Data personol

Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.

Gwneud cais mewn Swyddfa’r Post

Byddwch yn cael llythyr atgoffa yn y post. Ewch ag ef i sy’n delio ag adnewyddu trwyddedau cerdyn-llun DVLA.

Bydd hefyd angen ichi gymryd:

  • eich trwydded cerdyn-llun os ydyw gennych
  • y ffi o £21.50

Os nad oes gennych lythyr atgoffa, bydd arnoch angen eich trwydded cerdyn-llun i wneud cais mewn Swyddfa’r Post.

Ni allwch wneud cais mewn Swyddfa’r Post os yw eich enw wedi newid. Bydd angen ichi wneud cais drwy’r post.

Gwneud cais drwy’r post

Gallwch gael ‘pecyn D1W’ o ffurflenni o sy’n delio ag adnewyddu trwyddedau cerdyn-llun DVLA neu dreth cerbyd.

Mae angen ichi gynnwys y pethau canlynol gyda’ch ffurflenni wedi’u llenwi:

  • ffotograff math pasbort wedi’i argraffu yn ddiweddar (peidiwch â llofnodi cefn y ffotograff)
  • eich trwydded cerdyn-llun bresennol, os ydyw gennych
  • siec neu archeb bost am £17, yn daladwy i DVLA (nid oes ffi yn daladwy os oes gennych drwydded yrru cyfnod byr am resymau meddygol neu os ydych yn 70 oed neu’n hÅ·n)

Mae hefyd angen ichi gynnwys dogfennau adnabod os ydych wedi newid eich enw.

Anfonwch y cais i:

DVLA
Abertawe
SA99 1DH

Ar ôl ichi wneud cais mewn Swyddfa’r Post neu drwy’r post

Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn 3 wythnos. Efallai y bydd yn cymryd yn hirach os bydd angen gwirio eich manylion personol neu feddygol.

Gallwch barhau i yrru tra rydych yn aros am eich trwydded newydd gyrraedd.