Adrodd pryder am atwrnai, dirprwy neu warcheidwad

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus helpu os oes:

Gallai eich pryder fod ynghylch, er enghraifft, camddefnyddio arian neu benderfyniadau nad ydynt er lles gorau’r person y maent yn gyfrifol amdano.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Sut i roi gwybod

Gallwch naill ai:

Fel arfer, fe gewch chi ymateb ynghynt wrth ddefnyddio’r ffurflen.

Y naill ffordd ²Ô±ð³Ü’r llall, dylech gynnwys y canlynol yn eich adroddiad:

  • manylion y rhoddwr ²Ô±ð³Ü’r cleient (gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni)
  • y dyddiad y gwnaethoch sylwi ar y pryder am y tro cyntaf
  • unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r pryder – er enghraifft, cofnodion ariannol
  • beth rydych chi’n ei wybod am alluedd meddyliol y rhoddwr ²Ô±ð³Ü’r cleient, gan gynnwys copïau o unrhyw adroddiadau galluedd meddyliol neu enwau’r rheini sy’n dal yr adroddiadau hyn
  • eich manylion cyswllt

Hyd yn oed os nad oes gennych chi’r holl wybodaeth, bydd yn dal yn bosib i chi roi gwybod inni am bryder sydd gennych.

Ar ôl i chi wneud eich adroddiad, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried a oes ganddi’r awdurdod cyfreithiol i ymchwilio.

Cysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
opg.safeguardingunit@publicguardian.gov.uk
Ffôn: 0115 934 2777
Ffôn testun: 0115 934 2778
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth gostau galwadau

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Ffyrdd eraill o roi gwybod am bryder

Gallwch chi hefyd gysylltu â:

  • Ganolfan Byd Gwaith i drafod pryderon am fudd-daliadau
  • eich am bryderon yn ymwneud â gofal neu ddiogelu
  • ²Ô±ð³Ü’ yn Lloegr os ydych yn poeni am rywun sy’n byw mewn cartref gofal

Ffoniwch 999 os yw rhywun mewn perygl taer ar unwaith, neu eich heddlu lleol os credwch fod rhywun wedi cyflawni trosedd.