Trosolwg

Mae atwrneiaeth arhosol (LPA) yn ddogfen gyfreithiol sy鈥檔 gadael i chi (y 鈥榬hoddwr鈥) benodi un neu fwy o bobl (a elwir yn 鈥榓twrneiod鈥) i鈥檆h helpu i wneud penderfyniadau neu i wneud penderfyniadau ar eich rhan.

Mae hyn yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros beth fydd yn digwydd i chi os cewch ddamwain neu salwch ac os na fyddwch yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun (byddwch 鈥榟eb alluedd meddyliol鈥).

Mae鈥檔 rhaid i chi fod yn 18 oed neu鈥檔 h欧n a bod 芒 galluedd meddyliol (gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun) pan rydych yn gwneud eich LPA.

Nid oes rhaid i chi fyw yn y DU na bod yn ddinesydd Prydeinig.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae 2 fath o atwrneiaeth arhosol:

  • iechyd a lles
  • eiddo a materion ariannol

Gallwch ddewis gwneud un math neu鈥檙 ddau.

Mae proses wahanol yn a .

Sut i wneud atwrneiaeth arhosol

  1. Dewiswch eich atwrnai (gallwch gael mwy nag un).

  2. Llenwch y ffurflenni i鈥檞 penodi fel atwrnai.

  3. Cofrestrwch eich LPA gyda Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (gall hyn gymryd hyd at 16 wythnos).

Mae鈥檔 costio 拢82 i gofrestru LPA oni bai eich bod yn cael gostyngiad neu esemptiad.

Gallwch ganslo eich LPA os nad oes arnoch ei hangen mwyach neu os ydych eisiau gwneud un newydd.

Atwrneiaeth arhosol iechyd a lles

Defnyddiwch yr LPA hon i roi p诺er i atwrnai wneud penderfyniadau am bethau fel:

  • eich trefn ddyddiol, er enghraifft, ymolchi, gwisgo, bwyta
  • gofal meddygol
  • symud i gartref gofal
  • triniaeth cynnal bywyd

Dim ond pan nad ydych yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun y bydd yn cael ei defnyddio.

Atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol

Defnyddiwch yr LPA hon i roi i atwrnai b诺er i wneud penderfyniadau am arian ac eiddo ar eich rhan chi, er enghraifft:

  • rheoli cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
  • talu biliau
  • casglu budd-daliadau neu bensiwn
  • gwerthu eich cartref

Gellir ei defnyddio cyn gynted ag y mae wedi鈥檌 chofrestru, gyda鈥檆h caniat芒d chi.

Help i benderfynu a ddylech wneud atwrneiaeth arhosol

Cysylltwch 芒 Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus os oes arnoch angen help.

Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ff么n (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ff么n testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus