Atwrneiod ar gyfer eiddo a materion ariannol

Fel atwrnai ar gyfer eiddo a materion ariannol, rydych yn gwneud (neu鈥檔 helpu鈥檙 rhoddwr i wneud) penderfyniadau am bethau fel:

  • arian, treth a biliau
  • cyfrifon banc a chyfrifon cymdeithasau adeiladu
  • eiddo a buddsoddiadau
  • pensiynau a budd-daliadau

Gallwch ddechrau gwneud penderfyniadau tra bo鈥檙 rhoddwr yn dal i fod 芒 galluedd meddyliol os yw鈥檙:

  • atwrneiaeth arhosol yn dweud y cewch wneud hynny

  • mae鈥檙 rhoddwr yn rhoi caniat芒d i chi

Fel arall, dim ond pan nad oes ganddynt alluedd meddyliol y gallwch ddechrau gwneud penderfyniadau.

Gallwch ddefnyddio arian y rhoddwr i edrych ar 么l ei gartref a phrynu unrhyw beth y mae arno ei angen o ddydd i ddydd (er enghraifft, bwyd).

Trafodwch benderfyniadau sy鈥檔 effeithio ar drefniadau byw鈥檙 rhoddwr, ei ofal meddygol neu ei drefn ddyddiol gyda鈥檌 atwrnai iechyd a lles, os oes ganddo un.

Enghraifft

Os byddwch yn penderfynu gwerthu cartref y rhoddwr, trafodwch ble y bydd y rhoddwr yn byw gyda鈥檌 atwrnai iechyd a lles.

Edrych ar 么l arian ac eiddo

Mae鈥檔 rhaid i chi gadw arian y rhoddwr ar wah芒n i鈥檆h arian chi, oni bai bod gennych rywbeth gyda鈥檆h gilydd fel cyfrif banc ar y cyd neu eich bod yn berchen ar gartref gyda鈥檆h gilydd.

Rheoli arian a chyfrifon y rhoddwr

Bydd banciau a sefydliadau eraill (fel cwmn茂au cyfleustodau a darparwyr pensiynau) yn gofyn am brawf eich bod yn atwrnai. Defnyddiwch eich atwrneiaeth arhosol i brofi y gallwch weithredu ar ran y rhoddwr.

Efallai y bydd angen i chi brofi manylion eraill, megis:

  • eich enw, eich cyfeiriad a鈥檆h dyddiad geni

  • enw neu gyfeiriad y rhoddwr

Efallai y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth arall hefyd, fel rhif cyfrif.

Gwario arian ar anrhegion a rhoddion

Oni bai bod yr LPA yn dweud fel arall, gallwch wario arian ar:

  • anrhegion i ffrind, aelod o deulu neu rai a fo鈥檔 adnabod y rhoddwr ar adeg pan fyddech fel arfer yn rhoi anrhegion (fel pen-blwyddi neu unrhyw ddathliad arall)
  • rhoi rhoddion i elusen na fyddai鈥檙 rhoddwr yn ei gwrthwynebu, er enghraifft elusen y maent wedi rhoi rhoddion iddi o鈥檙 blaen

Mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod am unrhyw fath arall o rodd, hyd yn oed os yw鈥檙 rhoddwr wedi eu rhoi o鈥檙 blaen. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:

  • talu ffioedd ysgol neu brifysgol rhywun
  • gadael i rywun fyw yn eiddo鈥檙 rhoddwr heb dalu rhent y farchnad (mae unrhyw beth y maent yn ei dalu islaw rhent y farchnad yn cyfrif fel rhodd)
  • benthyciadau di-log

Mae鈥檔 rhaid i chi wirio bod y rhoddwr yn gallu fforddio rhoi鈥檙 anrheg neu rodd, hyd yn oed os yw wedi gwario arian ar y mathau hyn o bethau o鈥檙 blaen. Er enghraifft, ni allwch roi ei arian i ffwrdd pe bai hynny鈥檔 golygu na allai fforddio talu ei gostau gofal.

Darllenwch y canllawiau i gael rhagor o wybodaeth am roi anrhegion neu roddion.

Prynu a gwerthu eiddo

Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol:

  • os yw鈥檙 gwerthiant yn is na gwerth y farchnad
  • os ydych am brynu鈥檙 eiddo eich hun
  • os ydych yn ei roi i rywun arall

Gwneud ewyllys

Gallwch wneud cais am ewyllys statudol os oes angen i鈥檙 rhoddwr wneud ewyllys ond na all ei wneud ei hun.

Ni chewch newid ewyllys y rhoddwr.

Gellir eich gorchymyn i ad-dalu arian y rhoddwr os ydych yn ei gamddefnyddio neu鈥檔 gwneud penderfyniadau er lles eich hun.