Ein llywodraethiant

Dyma鈥檙 prif gyrff gwneud penderfyniadau, gweithredol, rheoli a chynghori yng Nghyllid a Thollau EF (CThEF).


Sefydlwyd CThEF gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau (CRCA) 2005, sy鈥檔 rhoi pwerau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr adran i Gomisiynwyr a benodir gan y Goron.

Bwriad statws CThEF fel adran anweinidogol yw sicrhau bod y system dreth yn cael ei gweinyddu鈥檔 deg ac yn ddiduedd.

John-Paul Marks yw鈥檙 Prif Ysgrifennydd Parhaol a鈥檙 Prif Weithredwr, sy鈥檔 gyfrifol am berfformiad y sefydliad a chyflwyno鈥檙 strategaeth adrannol.

Angela MacDonald yw鈥檙 Ail Ysgrifennydd Parhaol a鈥檙 Dirprwy Brif Weithredwr, sy鈥檔 gyfrifol am wasanaeth cwsmeriaid a gweithgarwch gorfodi a chydymffurfio ar draws yr holl drethi.

Ynghyd 芒鈥檙 Pwyllgor Gweithredol, maen nhw鈥檔 gyfrifol am redeg CThEF.

Mae gennym Arweinydd Anweithredol, Y Fonesig Jayne-Anne Gadhia sydd, ynghyd 芒鈥檙 Bwrdd, yn darparu her a chyngor i鈥檙 Ysgrifenyddion Parhaol a鈥檙 Pwyllgor Gweithredol ar ddylunio strategaeth CThEF ac ar ei gweithredu, gan gynnwys adolygu a herio perfformiad yn erbyn cynllun busnes yr adran.

Mae rhagor o wybodaeth am ein strwythur i鈥檞 gweld yn ein siart sefydliadol, ac yn Natganiad Llywodraethiant ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol (gweler tudalen 84).

Comisiynwyr CThEF

Mae ein Comisiynwyr yn gyfrifol am gasglu a rheoli refeniw, gorfodi gwaharddiadau a chyfyngiadau, a swyddogaethau eraill, megis talu credydau treth. Maen nhw鈥檔 arfer y swyddogaethau hyn yn enw鈥檙 Goron.

Mae gan y Comisiynwyr hawl hefyd i benodi swyddogion Cyllid a Thollau sy鈥檔 gorfod cydymffurfio 芒鈥檜 cyfarwyddiadau. Mae鈥檙 ffordd y mae鈥檙 Comisiynwyr yn cynnal eu busnes yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau. Tri Chomisiynydd sy鈥檔 gwneud penderfyniadau ynghylch ein hachosion mwyaf a鈥檔 hachosion mwyaf sensitif, a hynny o dan gadeiryddiaeth y Comisiynydd Sicrwydd Treth.

Ar hyn o bryd, mae gan CThEF chwech Comisiynydd:

Bwrdd CThEF

Mae Bwrdd CThEF yn gynghorol. Mae鈥檔 darparu her a chyngor ar berfformiad, cyflawni, strategaethau, gallu a risgiau CThEF.

Nid yw鈥檔 cynghori ar ddatblygu polisi na materion trethdalwyr unigol.

Cadeirydd y bwrdd yw Ysgrifennydd y Siecr i鈥檙 Trysorlys.

Aelodau鈥檙 Bwrdd

Mae鈥檙 Bwrdd yn cynnwys aelodau o Bwyllgor Gweithredol a Chyfarwyddwyr Anweithredol CThEF.

Cadeirydd: James Murray AS, Ysgrifennydd y Siecr i鈥檙 Trysorlys

Aelodau:

Adroddiadau

Mae鈥檙 adran yn adrodd ar y ffordd y mae鈥檙 Bwrdd yn gweithredu yn y Datganiad Llywodraethiant Corfforaethol yn yr adroddiad a chyfrifon blynyddol. Mae hyn yn cynnwys cofnod o bwy sy鈥檔 bresennol yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

Cyfarfodydd Bwrdd CThEF

Mae鈥檙 Bwrdd yn cwrdd yn fisol. Gallwch ddarllen crynodeb o gyfarfodydd Bwrdd CThEF:

  • (ODT, 15.5 KB)

  • (ODT, 11.8 KB)

Mae crynodebau cyfarfod Bwrdd CThEF blynyddoedd blaenorol ar gael ar wefan yr Archifau Gwladol:

Aelodau anweithredol y Bwrdd

Mae gan aelodau anweithredol y Bwrdd doreth o brofiadau o ystod o gefndiroedd, gan gynnwys dadansoddi data, adnoddau dynol, TG, cyfrifeg a鈥檙 proffesiwn treth. Mae eu sgiliau a鈥檜 cefndiroedd proffesiynol yn ychwanegu safbwynt allanol i鈥檙 cyngor y mae鈥檙 Bwrdd yn ei gynnig i helpu llunio strategaeth a herio perfformiad.

Cafodd aelodau anweithredol o鈥檙 Bwrdd eu penodi yn dilyn ymarferion recriwtio a gynhaliwyd yn unol ag arweiniad Swyddfa鈥檙 Cabinet.

Is-bwyllgorau鈥檙 Bwrdd

Mae strwythur pwyllgor y bwrdd yn cynnwys:

  • y Pwyllgor Archwilio a Risg

  • y Pwyllgor Enwebu

Dirprwyir gwaith i bwyllgorau鈥檙 Bwrdd, lle y gall grwpiau bach o aelodau anweithredol ac aelodau鈥檙 Pwyllgor Gweithredol archwilio i faterion yn fynylach a chyflwyno eu canfyddiadau i鈥檙 Bwrdd i鈥檞 trafod ac i benderfynu arnynt.

Y Pwyllgor Archwilio a Risg

Mae鈥檙 Pwyllgor Archwilio a Risg yn rhoi sicrwydd i鈥檙 Bwrdd a鈥檙 Prif Swyddog Cyfrifyddu ar fanwl gywirdeb datganiadau ariannol a chryfder prosesau rheoli risg ar draws CThEF.

Mae ei gwmpas yn cwmpasu pob agwedd ar fusnes CThEF, gan gynnwys goruchwyliaeth briodol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Mae鈥檙 pwyllgor yn cynghori鈥檙 Bwrdd a鈥檙 Prif Swyddog Cyfrifyddu ar y canlynol:

  • prosesau a chamau sicrwydd mewn perthynas 芒 rheoli risgiau yng nghyd-destun CThEF

  • y broses strategol ar gyfer risg, rheoli a llywodraethiant y polis茂au cyfrifyddu, y cyfrifon, adroddiad blynyddol y Comisiynydd Sicrwydd Treth ac adroddiad blynyddol y sefydliad, gan gynnwys Cyfrifon Adnoddau, Datganiad Ymddiriedolaeth a鈥檙 Cyfrifon Cronfa Yswiriant Gwladol

  • argymell y camau i鈥檞 cymryd er mwyn ymateb i adolygiadau o鈥檙 prosesau a ddefnyddir mewn achosion treth sydd wedi鈥檜 setlo.

  • y gweithgarwch sydd wedi鈥檌 drefnu a chanlyniadau archwiliadau mewnol ac allanol

  • i ba raddau y mae鈥檙 ymatebion a roddir gan reolwyr o ran materion a nodwyd gan weithgarwch archwilio yn ymatebion digonol

  • cynigion o ran tendro gwasanaethau archwilio gan gontractwyr sy鈥檔 darparu gwasanaethau archwilio i鈥檙 adran, pan fo angen

  • polis茂au gwrth-dwyll, chwythu鈥檙 chwiban

  • prosesau a threfniadau ar gyfer ymchwiliadau arbennig

Aelodaeth

Cadeirydd: Michael Hearty, Cyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

Gwahoddir y Prif Ysgrifennydd Parhaol a鈥檙 Prif Weithredwr i bob cyfarfod, a dylent fynychu o bryd i鈥檞 gilydd. Disgwylir i鈥檙 Prif Swyddog Cyllid fynychu pob cyfarfod llawn, ynghyd 芒鈥檙 Pennaeth Archwilio Mewnol, Pennaeth Risg, a chynrychiolydd o鈥檙 Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae aelodau gweithredol eraill yn mynychu yn 么l galw鈥檙 agenda.

y Pwyllgor Enwebu

Mae鈥檙 Pwyllgor Enwebu鈥檔 craffu ac yn cynghori ar y canlynol:

  • cynllunio ar gyfer olyniaeth ExCom, y Bwrdd ac uwch reolwyr a thalent, perfformiad a gwobrau ar lefel uwch

  • systemau ar gyfer nodi a datblygu arweinyddiaeth, talent a photensial uchel

  • cymhellion a gwobrau i uwch swyddogion, a chynghori ar effeitholrwydd y gwobrau hyn o ran gwella perfformiad

Aelodaeth

Cadeirydd:听Jayne Anne Gadhia, Prif Gyfarwyddwr Anweithredol

Aelodau:

  • Patricia Gallan, Cyfarwyddwr Anweithredol a chadeirydd y Pwyllgor Pobl

  • John-Paul Marks, Prif Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Weithredwr CThEF

Y Pwyllgor Gweithredol

Y Pwyllgor Gweithredol (Excom) yw prif fforwm gweithredol yr adran a鈥檙 prif le y mae Comisiynwyr yn gwneud eu penderfyniadau. Mae portffolios o gyfrifoldeb gan unigolion ar y pwyllgor. Mae鈥檙 portffolios hyn yn cwmpasu pob maes busnes CThEF a swyddogaeth y gwasanaeth corfforaethol.

Mae鈥檙 Pwyllgor Gweithredol yn goruchwylio ac yn sicrhau ansawdd holl waith CThEF ac yn gyfrifol am osod a chyflwyno strategaeth. Mae鈥檙 Pwyllgor hefyd yn goruchwylio perfformiad yr adran, yng nghyd-destun amcanion y presennol a鈥檙 dyfodol.

O fewn hwb perfformiad pwrpasol, gan arddangos dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt gan y pwyllgor, mae鈥檔 dadansoddi perfformiad CThEF yn erbyn targedau, ac yn ystyried sut i wella perfformiad ym mhob maes. Mae hyn yn cynnwys gwella鈥檙 gwasanaeth i gwsmeriaid a gwerth am arian.

Cyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol (Excom)

Gallwch ddarllen crynodeb o gyfarfodydd Excom:

  • (ODT, 24.1 KB)

  • (ODT, 21.8 KB)

  • (ODT, 22.7 KB)

Mae crynodebau cyfarfodydd y blynyddoedd blaenorol ar gael ar wefan yr Archifau Cenedlaethol:

  • Crynodebau cyfarfodydd Excom:

Is-bwyllgorau鈥檙 Pwyllgor Gweithredol

Mae鈥檙 Pwyllgor Gweithredol yn cael cefnogaeth ychwanegol gan bedwar is-bwyllgor:

  • y Pwyllgor Strategaeth
  • y Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio
  • y Pwyllgor Gweithredol sy鈥檔 goruchwylio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol
  • y Pwyllgor Safonau Proffesiynol

Y Pwyllgor Strategaeth

Mae鈥檙 Pwyllgor Strategaeth yn goruchwylio strategaeth CThEF ar lefel uchel a sut y caiff y strategaeth honno ei gweithredu ar draws yr adran.

Y Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio

Mae鈥檙 Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio yn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn symud CThEF tuag at gyflawni ein hamcanion strategol a chymeradwyo鈥檙 pwyntiau dylunio, buddsoddi a chyflawni allweddol yng nghylch bywyd y rhaglen.

Y Pwyllgor Gweithredol sy鈥檔 goruchwylio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol

Mae鈥檙 Pwyllgor Gweithredol sy鈥檔 goruchwylio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol yn darparu trosolwg cyfunol o gynnydd Troi Treth yn Ddigidol yn erbyn atebolrwydd unigol a chyfunol ExCom y cytunwyd arnynt. Mae鈥檔 darparu llwybr uwchgyfeirio y tu hwnt i Fwrdd y Rhaglen lle bo鈥檔 briodol.

Y Pwyllgor Safonau Proffesiynol

Mae鈥檙 Pwyllgor Safonau Proffesiynol yn goruchwylio鈥檙 ffordd y mae CThEF yn gweinyddu鈥檙 system dreth ac yn gweithredu polis茂au yn unol 芒鈥檌 werthoedd. Mae鈥檙 pwyllgor yn ystyried sut y gallai gweithredoedd CThEF effeithio ar ffydd yn y system dreth a鈥檙 argraff mae鈥檙 cyhoedd yn ei chael o degwch. Mae鈥檔 cynnig her hollbwysig i鈥檙 ffordd y mae CThEF yn arfer ei bwerau, yn cefnogi arfer da yn y defnydd o鈥檌 bwerau a鈥檌 fesurau diogelu.

Ceir manylion pellach ynghylch cylch gorchwyl llawn y pwyllgor yn:听 (ODT, 15 KB)

Gallwch ddarllen crynodebau o gyfarfodydd diweddaraf y pwyllgor:

  • (ODT, 13.6 KB)

  • (ODT, 10.8 KB)

  • (ODT, 9.85 KB)

  • (ODT, 10.4 KB)

Mae crynodebau cyfarfodydd o flynyddoedd blaenorol ar gael gan yr Archifau Cenedlaethol:

Gallwch ddarllen crynodebau blynyddol o waith y pwyllgor:

-听 (ODT, 15 KB)

  • (ODT, 13.9 KB)

Aelodaeth

Mae鈥檙 Pwyllgor Safonau Proffesiynol yn cynnwys y Pwyllgor Gweithredol a dau Gyfarwyddwr Anweithredol. Mae hwn yn cael ei gefnogi gan bedwar ymgynghorydd annibynnol.

Cyfarwyddwyr Anweithredol Ymgynghorwyr Annibynnol
Patricia Gallan QPM Katerina Hadjimatheou
Paul Morton Emma Borg
Kirsty Britz
Glyn Fullelove