Cyfarwyddyd ymarfer 20: hawliau cartref a cheisiadau o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996
Diweddarwyd 11 Gorffennaf 2022
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Prif ddiben Deddf Cyfraith Teulu 1996 fel y鈥檌 newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (a newidiwyd ei hunan gan Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o鈥檙 Rhyw Arall) 2019) yw gwarchod hawl priod neu bartner sifil i feddiannu鈥檙 cartref. Nid yw鈥檙 hawl hon yn fudd gor-redol ond mae鈥檔 ffurfio arwystl ar y cartref y bydd modd ei warchod ar y gofrestr trwy rybudd a gytunwyd (rheol 82 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Cyn 14 Chwefror 1983, byddai modd gwarchod arwystl o鈥檙 fath ar y gofrestr hefyd trwy rybuddiad. Mae鈥檙 arwystl yn codi ar ba un bynnag yw鈥檙 diweddaraf o鈥檙 dyddiadau canlynol:
- y dyddiad pan fydd y priod neu bartner sifil arall yn caffael y cartref
- dyddiad y briodas neu鈥檙 bartneriaeth sifil
- 1 Ionawr 1968
er na ragwelir y bydd yn cael ei geisio nes bydd y briodas neu bartneriaeth sifil yn ymddangos mewn perygl.
Nid oes angen unrhyw warchodaeth o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 fel y鈥檌 newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 mewn achosion lle mae鈥檙 cartref yn cael ei ddal ar y cyd, yn gyfreithiol ac yn fuddiol fel ei gilydd, gan y priod neu鈥檙 partner sifil a鈥檙 priod arall neu鈥檙 partner sifil arall.
Os oes gan y priod neu鈥檙 partner sifil hawliau cartref o ran budd y priod arall neu鈥檙 partner sifil arall o dan ymddiried, nid oes modd cofrestru rhybudd o鈥檙 arwystl os nad oes neb, byw neu heb ei eni, sydd neu a allai ddod yn fuddiolwyr o dan yr ymddiried (Adrannau 31(4), (5) a (13) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996). Mae hyn yn golygu, os yw鈥檙 tir yn cael ei ddal ar ymddiried, y bydd angen i ni fod yn fodlon nad oes gan neb fudd yn yr ymddiried heblaw鈥檙 naill briod neu鈥檙 partner sifil neu鈥檙 llall.
1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau
Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail cop茂au ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf 鈥 Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr 鈥 derbyn cop茂au ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.
Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond cop茂au ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o鈥檙 dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chop茂au ardystiedig.
Wrth uwchlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir o鈥檙 gwreiddiol gan ddefnyddio鈥檙 datganiadau ardystio sydd ar gael.
Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gop茂au gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.
2. Ydy鈥檙 ystad neu fudd yn y cartref wedi ei gofrestru?
Mae鈥檔 hanfodol gwybod a yw ystad neu fudd y priod arall neu鈥檙 partner sifil arall yn y cartref yn cael ei ddal o dan deitl cofrestredig neu ddigofrestredig. Os yw鈥檔 cael ei ddal o dan deitl digofrestredig, rhaid gwneud cais i鈥檙 Adran Pridiannau Tir i gofrestru pridiant tir Dosbarth F 鈥 gweler Tir digofrestredig.
Os yw鈥檔 cael ei ddal o dan deitl cofrestredig, mae cofrestru pridiant tir Dosbarth F yn aneffeithiol o ran gwarchod hawliau meddiannaeth y priod neu鈥檙 partner sifil. Rhaid gwneud cais i gofrestru rhybudd 鈥 gweler Cais am rybudd.
Os nad yw鈥檔 hysbys a yw ystad neu fudd y priod arall neu鈥檙 partner sifil arall yn y cartref wedi ei gofrestru, dylid gwneud cais am chwiliad swyddogol o鈥檙 map mynegai i swyddfa briodol Cofrestrfa Tir EF gan ddefnyddio ffurflen SIM. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 10: map mynegai 鈥 chwiliadau swyddogol i gael rhagor o fanylion.
Os nad oes angen darpariaethau indemniad arnoch o ran chwiliad o鈥檙 map mynegai, gallech ystyried defnyddio MapSearch. Mae鈥檙 gwasanaeth hwn ar gael yn ddi-d芒l i gwsmeriaid e-wasanaethau Busnes sydd 芒 mynediad i鈥檙 porthol ac mae鈥檔 darparu canlyniadau chwilio ar unwaith.
Pan fydd chwiliad o鈥檙 map mynegai yn cael ei wneud mewn perthynas 芒 chais o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 fel y鈥檌 newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, mae鈥檔 bwysig bod y nodyn canlynol yn cael ei ysgrifennu ar ben y ffurflen SIM:
鈥淢ae鈥檙 chwiliad hwn yn cael ei wneud yn unig at ddibenion Deddf Cyfraith Teulu 1996 fel y鈥檌 newidiwyd gan Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004.鈥
Bydd hyn yn ein galluogi i:
- osgoi codi unrhyw faterion a allai godi fel arall ar union derfynau鈥檙 eiddo
- rhoi manylion unrhyw brydles
Bydd tystysgrif swyddogol canlyniad y chwiliad yn cael ei chyhoeddi gennym cyn pen diwrnod neu 2 wedi derbyn y cais a bydd yn dadlennu unrhyw ystad(au) gofrestredig neu fudd(buddion) yn y cartref.
3. Ffurflenni cais
Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn pennu鈥檙 ffurflenni cais canlynol.
- Ffurflen HR1. Cais i gofrestru rhybudd o hawliau cartref (rheol 82 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Gweler Cais am rybudd a Gorchymyn llys yn parhau hawliau
- Ffurflen HR2. Cais i adnewyddu cofrestriad o ran hawliau cartref (rheol 82 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Gweler Adnewyddu gwarchodaeth
- Ffurflen HR3. Cais morgeisai am chwiliad swyddogol o ran hawliau cartref (rheol 158 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Gweler Chwiliad swyddogol gan forgeisai
- Ffurflen HR4. Cais i ddileu rhybudd hawliau cartref. Gweler Cais i ddileu rhybudd
4. Cais am rybudd
Pan fo鈥檙 teitl i ystad neu fudd y priod arall neu鈥檙 partner sifil arall yn y cartref wedi ei gofrestru a bod gan y priod neu鈥檙 partner sifil hawliau meddiannaeth sy鈥檔 arwystl ar yr eiddo yn 么l darpariaethau adrannau 31(2) neu 31(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, dylid gwneud cais i warchod yr arwystl trwy gofnodi rhybudd a gytunwyd yn y gofrestr teitl. I wneud cais, dylech gynnwys trafodiad 鈥榬hybudd o hawliau cartref (HR1)鈥 yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen HR1.
Gall trawsgludwr ardystio ym mhanel 10 ffurflen HR1 fod ganddo gopi swyddfa o unrhyw orchymyn llys a wnaed o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.
Nid oes dim i鈥檞 dalu.
Sylwer: Mae adran 77 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn sefydlu hawl i weithredu am dorri dyletswydd statudol yn erbyn unrhyw un sy鈥檔 gwneud cais am rybudd heb achos rhesymol. Mae鈥檙 hawl o blaid unrhyw berson sy鈥檔 dioddef niwed o ganlyniad.
5. Gorchymyn llys yn parhau hawliau
Fel arfer, bydd hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 fel y鈥檌 newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 dim ond yn parhau yn ystod bodolaeth y briodas neu鈥檙 bartneriaeth sifil (gweler Darfyddiad hawliau). Fodd bynnag, mae adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, yn darparu, os digwydd anghydfod priodasol neu ddieithriad, y gall y llys orchymyn yn ystod bodolaeth y briodas neu鈥檙 bartneriaeth sifil, gyfarwyddyd bod hawliau cartref y priod neu鈥檙 partner sifil i barhau er y gall y briodas neu bartneriaeth sifil ddod i ben.
Os bydd y llys yn gwneud gorchymyn o鈥檙 fath ac na warchodwyd hawliau鈥檙 priod neu鈥檙 partner sifil eisoes, dylid gwneud cais mor fuan ag y bo modd i gofrestru rhybudd yn unol 芒 Deddf Cyfraith Teulu 1996 fel y鈥檌 newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004. (Os yw鈥檙 hawliau wedi eu gwarchod ar y gofrestr eisoes, gweler Adnewyddu gwarchodaeth).
I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad 鈥榬hybudd o hawliau cartref (HR1)鈥 ac uwchlwytho ffurflen HR1 ynghyd 芒 chopi swyddfa o鈥檙 gorchymyn llys. Fel arall, lle bo trawsgludwr yn gweithredu, gellir cwblhau鈥檙 dystysgrif ym mhanel 10 ffurflen HR1 yn lle dangos y gorchymyn llys.
Nid oes dim i鈥檞 dalu.
6. Adnewyddu gwarchodaeth
Os yw鈥檙 llys yn gwneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 pan fo hawliau鈥檙 priod neu鈥檙 partner sifil wedi eu gwarchod ar y gofrestr eisoes trwy rybudd neu rybuddiad, dylid gwneud cais mor fuan ag y bo modd i adnewyddu鈥檙 warchodaeth gynharach rhag ofn i鈥檙 priod arall neu鈥檙 partner sifil arall geisio ei ddileu heb ddadlennu bodolaeth y gorchymyn llys.
I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad 鈥榓dnewyddu hawliau cartref鈥 ac uwchlwytho ffurflen HR2 ynghyd 芒 chopi swyddfa o鈥檙 gorchymyn. Mae tystysgrif trawsgludwr ym mhanel 8 ffurflen HR2 yn ddigonol i gydymffurfio 芒鈥檔 gofynion. Bydd yr adnewyddiad yn cael ei beri ar y gofrestr trwy gofnodi rhybudd a gytunwyd. Nid yw鈥檙 adnewyddiad hwn o gofrestriad yn effeithio ar flaenoriaeth yr arwystl gwreiddiol (paragraff 4(5), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996).
Nid oes dim i鈥檞 dalu.
7. Darfyddiad hawliau
Mae modd darfod hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil yn y ffyrdd canlynol.
- trwy farwolaeth y naill briod neu bartner sifil neu鈥檙 llall (adran 31(8)(a) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996), ond gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth ar b诺er y llys i wneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996
- trwy ddiweddu鈥檙 briodas neu bartneriaeth sifil heblaw trwy farwolaeth (adran 31(8)(b) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996), ond gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth ar b诺er y llys i wneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996
- trwy orchymyn y llys (paragraff 4(1)(c), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996)
- trwy i鈥檙 priod neu鈥檙 partner sifil ryddhau鈥檙 hawliau鈥檔 wirfoddol yn ysgrifenedig (paragraff 5(1), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996)
8. Cais i ddileu rhybudd
Rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd trwy gynnwys y trafodiad 鈥榙ileu hawliau cartref鈥 yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen HR4, a rhaid cynnwys y dystiolaeth briodol. Lle gwneir y cais yn dilyn un o鈥檙 digwyddiadau a ddisgrifir yn Darfyddiad hawliau, dylai鈥檙 dystiolaeth gynnwys:
- tystysgrif marwolaeth
- copi swyddfa o鈥檙 gorchymyn terfynol neu鈥檙 gorchymyn dirymu priodas (a elwid yn archddyfarniad terfynol o ysgariad neu ddirymedd cyn 6 Ebrill 2022)
- copi swyddfa o orchymyn llys yn diweddu鈥檙 hawliau cartref
- copi swyddfa o鈥檙 gorchymyn terfynol neu orchymyn rhagdybiaeth marwolaeth, neu o鈥檙 gorchymyn ymwahanu, yn ymwneud 芒鈥檙 bartneriaeth sifil
- rhyddhad o鈥檙 hawliau cartref, wedi ei lofnodi gan y priod neu鈥檙 partner sifil naill ai trwy lythyr neu gan ddefnyddio ffurflen HR4
Os yw鈥檙 llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 y cyfeirir ato ar y gofrestr (gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth), bydd angen i鈥檙 ceisydd gyflwyno tystiolaeth foddhaol hefyd bod y gorchymyn hwn wedi peidio 芒 bod yn effeithiol (gweler paragraff 4(2)(b), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996).
Nid oes dim i鈥檞 dalu.
9. Cais i dynnu rhybuddiad i ffwrdd
Mae modd gwneud cais i dynnu rhybuddiad i ffwrdd trwy un o鈥檙 ffyrdd canlynol:
- trwy dynnu鈥檙 rhybuddiad yn 么l o dan reol 222 o Reolau Cofrestru Tir 2003. I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad 鈥榯ynnu rhybuddiad yn 么l鈥 ac uwchlwytho ffurflen WCT, wedi ei lofnodi gan y priod neu drawsgludwr y priod
- trwy ddileu鈥檙 rhybuddiad o dan reol 223 o Reolau Cofrestru Tir 2003 gan y priod arall. I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad 鈥榙ileu rhybudd鈥 ac uwchlwytho ffurflen CCD
- trwy uwchlwytho llythyr eglurhaol, ynghyd 芒鈥檙 dystiolaeth briodol sy鈥檔 cadarnhau un o鈥檙 digwyddiadau a ddisgrifir yn y 3 phwynt bwled cyntaf yn Darfyddiad hawliau. Os yw鈥檙 llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 y cyfeirir ato yn y gofrestr (gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth), bydd hefyd yn angenrheidiol i鈥檙 ceisydd ddarparu tystiolaeth foddhaol bod y gorchymyn hwn wedi peidio 芒 chael effaith (gweler paragraff 4(2)(b), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996). I wneud cais, dylid cynnwys y trafodiad 鈥榙ileu rhybuddiad鈥 neu 鈥榯ynnu rhybuddiad yn 么l鈥 priodol ac uwchlwytho鈥檙 dystiolaeth y cyfeirir ati uchod yn lle鈥檙 ffurflen gais
Nid oes dim i鈥檞 dalu.
10. Cyflwyno rhybudd i鈥檙 perchennog cofrestredig
Caiff rhybudd ei gyflwyno bob amser ar y perchennog cofrestredig pan ddaw unrhyw gais i gofnodi neu adnewyddu hawl cartref.
11. Gwarchodaeth yn gyfyngedig i un cartref yn unig
Nid oes modd gwarchod hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil ond o ran un cartref ar unrhyw adeg arbennig, pa un ai yw ystad neu fudd y priod arall neu bartner sifil arall yn y cartref yn cael ei ddal o dan deitl cofrestredig neu ddigofrestredig (paragraff 2, Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996). Rhaid i drawsgludwr, felly, ddarganfod a oes gan ei gleient unrhyw warchodaeth eisoes o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 ac yna rhaid dadlennu鈥檙 sefyllfa ar ffurflen HR1.
12. Chwiliad swyddogol gan forgeisai
O dan adran 56 o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 rhaid i forgeisai t欧 preswyl sy鈥檔 dwyn achos i ddiogelu eu gwarant, roi rhybudd o鈥檙 achos i鈥檙 priod neu鈥檙 partner sifil sydd 芒鈥檌 hawliau meddiannaeth yn cael eu diogelu naill ai trwy:
- pridiant tir Dosbarth F (yn achos tir digofrestredig)
- rhybudd neu rybuddiad (yn achos tir cofrestredig)
Gall morgeisai tir cofrestredig wneud cais gan ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF am chwiliad swyddogol i ddatgelu a oes rhybudd neu rybuddiad wedi ei gofrestru i warchod hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil. Gweler .
Dylai ceiswyr e-wasanaethau busnes, Business Gateway a鈥檙 Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol ddewis yr opsiwn priodol o鈥檙 ddewislen briodol.
Fel arall, gellir gwneud ceisiadau ar ffurflen HR3. Gweler Cyfeiriad swyddfa Cofrestrfa Tir EF i weld i ba swyddfa dylid anfon cais.
Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru am yr hyn sydd i鈥檞 dalu. Os yw鈥檙 t欧 preswyl yn ddigofrestredig, dylai鈥檙 morgeisai wneud chwiliad swyddogol yn yr Adran Pridiannau Tir gan ddefnyddio ffurflen K15 鈥 gweler Tir digofrestredig.
13. Hawliau meddiannaeth methdalwr
Mae gan briod neu bartner sifil methdalus, sydd 芒 hawl i feddiannu t欧 preswyl yn rhinwedd ystad neu fudd llesiannol, hawliau meddiannaeth mewn perthynas 芒鈥檙 ymddiriedolwr mewn methdaliad o dan yr amgylchiadau sy鈥檔 cael eu hamlinellu yn adran 337 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Mae hyn yn berthnasol boed gan briod neu bartner sifil y methdalwr unrhyw hawliau meddiannaeth o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 neu beidio.
Mae modd cofnodi rhybudd o hawl meddiannaeth y methdalwr ar y gofrestr ar yr amod bod y cais (gan ddefnyddio ffurflen HR1) yn cael ei helaethu i ddatgan:
- bod y methdalwr yn gwneud cais o dan adran 337 o Ddeddf Ansolfedd 1986
- bod budd y methdalwr yn yr eiddo wedi ei freinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad (y dylid ei enwi)
14. Cyfeiriad swyddfa Cofrestrfa Tir EF lle dylid anfon cais
- os oes gennych gytundeb gyda th卯m cwsmeriaid, dylech anfon eich ceisiadau papur at eich t卯m cwsmeriaid
- os nad oes gennych gytundeb gyda th卯m cwsmeriaid, argymhellwn eich bod yn anfon eich ceisiadau papur i swyddfa arbennig, yn dibynnu ar yr ardal weinyddol y lleolir eich busnes.
15. Tir digofrestredig
Dylid anfon pob cais o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 o ran tir digofrestredig i鈥檙 cyfeiriad canlynol:
Land Charges Department
PO Box 292
Plymouth
PL5 9BY
(DX8249 Plymouth 3)
Ff么n: 0300 006 6616
16. Pethau i鈥檞 cofio
Er mwyn osgoi gorfod anfon ymholiadau, cyn cyflwyno eich cais inni, gwnewch yn siwr:
- bod yr ystad neu fudd yn y cartref wedi ei gofrestru
- eich bod yn dewis y trafodiad cywir ac yn uwchlwytho鈥檙 ffurflen gywir
- ffurflen HR1 : cofrestru rhybudd o hawliau cartref
- ffurflen HR2 : adnewyddu cofrestriad o ran hawliau cartref
- ffurflen HR3 : chwiliad swyddogol gan forgeisai o ran hawliau cartref
- ffurflen HR4 : dileu rhybudd hawliau cartref
- ffurflen WCT : tynnu rhybuddiad yn 么l
- ffurflen CCD : diddymu rhybuddiad
- bod hawliau meddiannaeth wedi eu gwarchod eisoes o ran cartref arall
- lle bo鈥檔 berthnasol, eich bod wedi uwchlwytho鈥檙 gorchymyn llys priodol neu wedi cwblhau鈥檙 dystysgrif trawsgludwr briodol y cyfeirir atynt yn ffurflenni HR1 a HR2
- lle bo鈥檔 berthnasol, eich bod wedi talu鈥檙 ff茂oedd cywir
Mae rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar osgoi ymholiadau ar gael ar Hyb Hyfforddi Cofrestrfa Tir EF.
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.