Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 40: cynlluniau Cofrestrfa Tir EF, atodiad 4, cytundebau terfyn a therfynau wedi eu pennu

Diweddarwyd 22 Ebrill 2025

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae cofrestru gyda therfynau cyffredinol yn ddigonol ar gyfer y rhan fwyaf o deitlau. Fodd bynnag, ceir adegau lle y bydd angen rhywbeth mwy manwl gywir ar berchennog. Ceir 2 brif ffordd i wneud hyn: llunio cytundeb terfyn neu bennu terfyn.

Dylid nodi y gall y broses o gytuno ar linell terfyn gyda chymydog, boed at ddibenion llunio cytundeb terfyn neu ddibenion pennu terfyn, greu gwahaniaethau barn cryf, efallai lle nad oedd rhai wedi bodoli cyn hynny. O dan rai amgylchiadau, gallai hyn arwain at anghydfod yngl欧n 芒鈥檙 terfyn.

2. Cytundebau terfyn

Gall dau neu ragor o berchnogion ddod i gytundeb yngl欧n 芒鈥檙 terfyn rhwng eu heiddo. Gall y cytundeb ymwneud 芒 lleoliad y terfyn cyfreithiol, neu gynnal a chadw鈥檙 nodwedd terfyn (er enghraifft perth) neu鈥檙 ddau. Mae鈥檙 atodiad hwn yn ymdrin 芒鈥檙 cytundebau terfyn hynny sy鈥檔 ymwneud 芒 lleoliad y terfyn cyfreithiol yn unig.

Er enghraifft, efallai bydd cymdogion yn cytuno mai canol perth yw terfyn cyfreithiol eu heiddo (ac y bydd pob un ohonynt yn cadw eu hochr o鈥檙 berth o dan uchder penodol). Enghraifft bosibl arall fyddai lle y mae postyn a ffens rheiliau a wal friciau yn rhedeg yn agos rhwng y 2 eiddo a bod y perchnogion yn cytuno ar ba un ohonynt fydd yn dynodi鈥檙 terfyn cyfreithiol.

Mater i gynghorwyr cyfreithiol yw cynghori eu cleientiaid, yn enwedig yr amgylchiadau o ran (i) a yw cytundeb terfyn yn briodol ar eu cyfer, (ii) ffurf y cytundeb a (iii) a ddylid gwneud cais i鈥檞 gofnodi yn y gofrestr. Fodd bynnag, efallai y bydd y sylwadau canlynol o gymorth.

2.1 Gweithredu cytundebau terfyn

Ceir rhagdybiaeth wrthbrofadwy nad yw cytundeb terfyn yn cynnwys trosglwyddiad unrhyw dir, a bod y lleoliad y cytunwyd arno鈥檔 cyd-fynd 芒 gwir leoliad y terfyn cyfreithiol. Ni fydd y rhagdybiaeth yn wrthbrofadwy dim ond oherwydd 鈥渁mgylchiadau o amheuaeth neu ansicrwydd鈥 o ran a oes trosglwyddiad unrhyw dir yn gysylltiedig neu beidio. Gweler Neilson v Poole (1969) 20 P&CR 909 at 918 and 919. Fodd bynnag, lle y mae鈥檙 lleoliad y cytunwyd arno鈥檔 wahanol i鈥檙 hyn a welir ar gynllun teitl, gall y cytundeb fod wedi nodi lleoliad presennol y terfyn cyfreithiol dim ond os yw鈥檙 lleoliad y cytunwyd arno o fewn cwmpas y rheol terfynau cyffredinol: gweler cyfarwyddyd ymarfer 77: newid y gofrestr trwy dynnu tir o gynllun teitl.

Lle y sefydlwyd ar y llaw arall bod trosglwyddiad tir yn gysylltiedig, yn ddarostyngedig i鈥檙 gofyniad posibl i鈥檙 cytundeb fod yn ysgrifenedig (gweler Cytundeb terfyn syml) mae鈥檙 cytundeb terfyn yn peri rhwymau ar barti i drosglwyddo unrhyw ran o鈥檙 tir sy鈥檔 dod o fewn ochr terfyn a gytunwyd y parti arall, os gelwir arno i wneud hynny: Neilson v Poole (1969) 20 P&CR 909 at 918 and 919.

O dan amgylchiadau lle mae鈥檔 amlwg bod trosglwyddiad tir wedi ei gynnwys, efallai bydd yn well gan y cymdogion (neu鈥檔 dilyn y cytundeb terfyn) drosglwyddo neu drawsgludo鈥檙 tir yn 鈥榝furfiol鈥. Dim ond bryd hynny, ar gofrestriad, y bydd y trosglwyddiad yn effeithiol yn 么l y gyfraith 鈥 ac mae hyn yn wir hyd yn oed os mai dim ond darn bach neu ddibwys o dir sydd o dan sylw. Efallai mai dyma鈥檙 dull mwyaf priodol lle y cafwyd anghydfod rhwng y cymdogion a bod dymuniad i ddatrys y mater unwaith ac am byth. Mae bron yn sicr o fod yn briodol, beth bynnag fo鈥檙 berthynas, lle y mae鈥檙 terfyn y cytunwyd arno鈥檔 cynnwys trosglwyddiad o ddarn sylweddol o dir.

Ymddengys bod 鈥渃ytundeb i osod terfynau terfyn aneglur yn rhwymo鈥檙 part茂on ac yn rhwymo鈥檙 olynwyr鈥: Haycock v Neville [2007] EWCA Civ 78 at [25] and Neilson v Poole (1969) 20 P&CR 909. Yn White -v- Alder (2025) EWCA Civ 392, canfu鈥檙 Llys Ap锚l fod cytundeb terfyn a oedd yn gosod terfynau aneglur yn rhwymo olynwyr mewn teitl er nad oeddent yn gwybod dim amdano.

2.2 Cytundeb terfyn syml

Mae cytundeb terfyn nad yw鈥檔 cynnwys trosglwyddiad tir bwriadol, neu mewn geiriau eraill nad oes ganddo 鈥渄diben gwaredol鈥 yn syrthio y tu allan i gwmpas adran 2(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989 鈥 sy鈥檔 ymwneud 芒 鈥渃hontract i werthu neu warediad arall budd mewn tir鈥. O ganlyniad, nid oes yn rhaid i gytundeb terfyn o鈥檙 fath fod yn ysgrifenedig er mwyn bod yn orfodadwy: Yeates v Line [2012] EWHC 3085 (Ch) at [29]. Mae hyn yn wir hefyd lle mai dim ond 鈥渢rosglwyddiadau tir dibwys sy鈥檔 fwriadol gysylltiedig鈥 a bod egwyddor de minimis yn gymwys: Joyce v Rigolli [2004] EWCA Civ 79 at [32]; [45]; Yeates v Line [2012] EWHC 3085 (Ch) at [30]. Ond yn amlwg, mae鈥檔 synhwyrol os yw鈥檔 bosibl, i wneud y cytundeb yn ysgrifenedig ac i鈥檙 part茂on llofnod鈥檙 ddogfen. Mae鈥檙 cofrestrydd yn annhebygol o barhau 芒 chais i newid y gofrestr trwy gofnodi cytundeb terfyn (gweler Cofnodi cytundeb terfyn yn y gofrestr) oni bai bod y ceisydd yn cyflwyno copi o gytundeb wedi ei lofnodi.

Ni cheir ffurf benodedig ar gyfer cytundeb terfyn ysgrifenedig, hyd yn oed lle y mae鈥檙 tir o dan sylw鈥檔 gofrestredig. Mae鈥檙 canlynol yn dangos ffurf bosibl ar gyfer cytundeb terfyn syml lle y mae鈥檙 holl eiddo dan sylw鈥檔 gofrestredig.

鈥淐ytundeb Terfyn Gwneir y cytundeb hwn ar 15 Gorffennaf 2014 rhwng John Smith o 10 Acacia Avenue, y mae鈥檙 teitl iddo wedi ei gofrestru o dan rif teitl XX12345 a Mary Brown o 12 Acacia Avenue, y mae鈥檙 teitl iddo wedi ei gofrestru o dan rif teitl XX67891.

Mae鈥檙 part茂on yn cytuno bod y terfyn cyfreithiol rhwng tir o fewn eu teitlau cofrestredig priodol ac sy鈥檔 rhedeg rhwng y pwynt wedi ei nodi ag 鈥楢鈥 i鈥檙 pwynt wedi ei nodi 芒 鈥楤鈥 ar y cynllun atodedig wedi ei nodi 芒 llinell goch a dynnwyd rhwng y pwyntiau hynny.

Arwyddwyd

[Tyst (Llofnod, enw a chyfeiriad)]

Arwyddwyd

[Tyst (Llofnod, enw a chyfeiriad)]

Byddai鈥檔 synhwyrol i鈥檙 ddau barti, ac unrhyw dystion, llofnodi a dyddio鈥檙 cynllun sydd ynghlwm wrth y cytundeb. A siarad yn gyffredinol, y gorau fydd ansawdd y cynllun, yn enwedig manylder lleoliad y terfyn cyfreithiol, y mwyaf defnyddiol fydd y cytundeb i鈥檙 part茂on a鈥檜 holynwyr yn y teitl. Efallai yr hoffech sicrhau felly bod y cynllun yn cydymffurfio 芒鈥檙 canllawiau yn Cyfarwyddyd ymarfer 40 atodiad 2: canllawiau ar gyfer paratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF. Ond bydd achosion lle y bydd yr amgylchiadau arbennig yn golygu bod cynllun mwy sylfaenol yn ddigonol.

Nid yw hyn i awgrymu y bydd angen cynllun o ryw fath bob amser. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn ddigonol nodi鈥檙 terfyn mewn geiriau yn unig. Er enghraifft, gallai鈥檙 cytundeb gynnwys cymal yn debyg i鈥檙 canlynol:

鈥淢ae鈥檙 part茂on yn cytuno mai鈥檙 terfyn cyfreithiol rhwng y tir o fewn eu teitlau cofrestredig priodol yw llinell ganol y wal sy鈥檔 rhedeg rhwng eu heiddo.鈥

Ymddengys na fyddai鈥檔 rhaid i forgeisai fod yn barti i gytundeb terfyn fel rheol. Gan gymryd nad yw鈥檙 rhagdybiaeth y cyfeiriwyd ati yn gynharach yn yr adran hon yn cael ei gwrthbrofi, terfyn cyfreithiol ystad y morgeisiwr fydd y terfyn a gytunwyd arno o鈥檙 cychwyn 鈥 ac felly ar yr adeg yr arwystlwyd yr ystad. Ond mae cysylltiad y morgeisiai yn fater y byddai鈥檔 rhaid ichi roi cyngor i鈥檆h cleientiaid yn ei gylch, gan gadw amgylchiadau penodol eich cleientiaid mewn cof.

2.3 Cofnodi cytundeb terfyn yn y gofrestr

Lle y mae cymdogion yn cytuno ar leoliad y terfyn cyffredinol, eu bod am geisio atal unrhyw droi鈥檔 么l ar y cytundeb (yn enwedig pan fo un eiddo wedi ei werthu) lle nad oes rheswm arbennig i amau mai鈥檙 lleoliad y cytunwyd arno yw lleoliad y terfyn cyfreithiol, efallai y byddai鈥檔 briodol creu cytundeb ysgrifenedig a鈥檌 gofnodi yn y cofrestri unigol.

Lle y mae鈥檙 lleoliad yr un fath ond credir bod trosglwyddiad o ddarn bach o dir yn gysylltiedig, mae鈥檔 bosibl y bydd y cymdogion unwaith yn rhagor am wneud cais i gofnodi鈥檙 cytundeb terfyn yn y gofrestr. Byddent yn dibynnu ar eu gallu i orfodi, os yw鈥檔 angenrheidiol, y rhwymedigaeth i drosglwyddo a gr毛wyd gan y cytundeb terfyn.

Mae gan y cofrestrydd b诺er i newid y gofrestr teitl am nifer o ddibenion, ac un o鈥檙 rhain yw 鈥榙iweddaru鈥檙 gofrestr鈥: paragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. O ganlyniad, oni bai bod yr holl eiddo o dan sylw鈥檔 ddigofrestredig, gellir nodi cytundeb terfyn yn y gofrestr. Rhaid gwneud cais i newid y gofrestr ar ffurflen AP1, gan nodi鈥檙 teitl neu deitlau. Dylai ceiswyr gyflwyno copi o鈥檙 cytundeb terfyn. Rhaid talu鈥檙 ffi benodedig i wneud cais i newid y gofrestr.

Os yw popeth mewn trefn o ran y cais, gwneir cofnod tebyg i鈥檙 canlynol yng nghofrestri eiddo鈥檙 teitlau cofrestredig o dan sylw:

鈥淢ae cytundeb dyddiedig [dyddiad] a wneir rhwng [y part茂on i鈥檙 cytundeb] yn ymwneud 芒 [y terfyn o dan sylw 鈥 er enghraifft terfyn de orllewinol] y tir yn y teitl hwn.

NODYN: Copi yn y ffeil.鈥

Os nad yw morgeisai cofrestredig yn barti i gytundeb terfyn ac nad yw ei gydsyniad i newid yn cael ei gyflwyno, byddwn yn anfon rhybudd am y cais at y morgeisai.

Oni bai y pennir hynny o dan adran 60 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, terfyn cyffredinol yw terfyn ystad gofrestredig fel y鈥檌 dangosir at ddibenion y gofrestr. Sylwer mai felly y mae hyd yn oed os oes cytundeb terfyn a鈥檌 fod wedi ei gofnodi yn y gofrestr. Nid yw鈥檙 cofrestrydd yn gwarantu mewn unrhyw ffordd mai lle y nodwyd hynny gan y part茂on yn y cytundeb terfyn y mae鈥檙 terfyn cyfreithiol. Os yw鈥檙 part茂on am sicrhau bod union linell y terfyn cyfreithiol yn cael ei dangos at ddibenion y gofrestr, dylent wneud cais am derfyn wedi ei bennu.

3. Terfynau wedi eu pennu

Terfyn cyffredinol yw terfyn ystad gofrestredig fel y鈥檌 dangosir at ddibenion y gofrestr, oni bai y鈥檌 dangosir fel terfyn wedi ei bennu o dan adran 60 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Yn wahanol i derfyn cyffredinol, mae terfyn wedi ei bennu yn dangos 鈥渦nion linell terfyn ystad gofrestredig鈥. Nid yw鈥檙 Ddeddf yn diffinio 鈥渦nion鈥.

Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn pennu terfyn yn yr ystyr o ddatrys anghytundeb o ran lleoliad union linell terfyn. Yn lle hynny, gyda鈥檙 union linell wedi ei nodi, bydd Cofrestrfa Tir EF yn ei wneud yn amlwg o鈥檙 gofrestr bod y terfyn wedi ei bennu. Cyfeirir at y ffaith fod y terfyn o dan sylw鈥檔 derfyn wedi ei bennu yng nghofrestr eiddo pob teitl yr effeithir arno. Caiff lleoliad cyffredinol y terfyn ei nodi ar gynllun teitl pob teitl cofrestredig yr effeithir arno, yn aml gyda phwyntiau 芒 llythrennau arnynt yn dangos stent y terfyn sy鈥檔 cael ei bennu. Cedwir copi o鈥檙 cynllun terfyn wedi ei bennu (gweler isod) a gellir cyfeirio ato er mwyn gweld yr union linell.

Nid yw bob amser yn bosibl i berchennog wneud cais i ddangos terfyn yn y gofrestr fel pe bai wedi ei bennu. Yn benodol, efallai na fydd ceisydd yn gallu cyflwyno鈥檙 dystiolaeth angenrheidiol i sefydlu union linell y terfyn.

4. Gwneud cais am derfyn wedi ei bennu

Y ffordd fwyaf amlwg o fynd ati i bennu terfyn yw gwneud cais am derfyn wedi ei bennu.

Gall y dewis hwn fod yn briodol lle ceir cytundeb rhwng y cymdogion ynghylch ble yn union mae terfyn yn gorwedd. Weithiau ceir cytundeb o鈥檙 cychwyn cyntaf. Os na, gall y cymdogion gyfarwyddo arbenigwr annibynnol ar y cyd, fel y gwnaeth y part茂on yn Jones v Murrell [2016] EWHC 3036 (QB). Yn yr achos hwn, roedd yn rhaid i鈥檙 llys ystyried dyfarniad terfyn a wnaed gan arolygwr tir siartredig a benodwyd ar y cyd gan y part茂on i ddynodi safle鈥檙 terfyn cyfreithiol. Cofnododd y llythyr cyfarwyddyd gytundeb y part茂on i gael eu rhwymo gan ddyfarniad yr arbenigwr. Nododd y llys na allai鈥檙 naill barti na鈥檙 llall herio dyfarniad yr arbenigwr dim ond ar y sail y gallai fod yn anghywir. Os nad yw鈥檙 cymdogion am adael i鈥檙 terfyn cyfreithiol gael ei ddynodi gan arbenigwr, efallai y byddant yn mynd ymhellach ac yn cytuno i ddefnyddio adroddiad yr arbenigwr i gefnogi cais am derfyn wedi ei bennu.

4.1 Rhagarweiniadau

Y cam cyntaf yw i union linell y terfyn gael ei ddynodi o ba bynnag dystiolaeth sydd ar gael. Rhaid ei ddynodi trwy gynllun neu gynllun a disgrifiad geiriol a rhaid i鈥檙 cynllun ddangos nodweddion diriaethol amgylchynol digonol i alluogi lleoliad cyffredinol y terfyn i gael ei ddynodi ar fap yr Arolwg Ordnans. Gweler Gofynion cynllun terfyn wedi ei bennu. Pan fo鈥檙 terfyn cyfreithiol i鈥檞 ddynodi gan arbenigwr, dylid cyfarwyddo鈥檙 arbenigwr i ddangos y terfyn hwn ar gynllun o鈥檙 fath.

Rhaid nodi holl berchnogion tir cyffiniol y terfyn hefyd, yn ogystal 芒 chyfeiriad lle gellir anfon rhybudd atynt. Ystyr 鈥減erchnogion鈥 yw鈥檙 rheiny a chanddynt ystad gyfreithiol mewn tir (rhydd-ddaliol neu brydlesol) neu arwystl cofrestredig.

Lle nad yw鈥檙 tir cyffiniol yn gofrestredig, bydd yn rhaid i鈥檙 ceisydd ddarparu tystiolaeth o deitl dogfennol y perchennog cyffiniol. Mae angen hon arnom i gadarnhau mai hwn yn wir yw perchennog y tir cyffiniol. Mae angen inni wneud yn siwr hefyd nad yw鈥檙 gweithredoedd yn cynnwys tystiolaeth sy鈥檔 dangos y terfyn mewn lleoliad gwahanol. (Yn ddelfrydol, dylai鈥檙 perchennog cyffiniol gyflwyno鈥檙 gweithredoedd gwreiddiol gyda ffurflen FR1 a gwneud cais am gofrestriad cyntaf).

Oherwydd y rheol terfynau cyffredinol a graddfa cynlluniau teitl, mae鈥檔 bosibl y gall trydydd parti berchen ar dir rhwng 2 eiddo (draen, er enghraifft), er bod yr amlinelliad coch ar y 2 gynllun teitl yn cyffinio. Dylai ceiswyr fod yn ymwybodol o鈥檙 posibilrwydd hwn.

Ar 么l i berchennog cofrestredig wneud hyn i gyd, mae mewn sefyllfa i wneud cais i鈥檙 cofrestrydd ddangos y terfyn yn y gofrestr fel un wedi eu pennu.

4.2 Y cais ar gyfer terfyn wedi ei bennu

Rhaid gwneud y cais ar ffurflen DB. Dim ond un ffurflen gais sy鈥檔 ofynnol, waeth faint o derfynau sy鈥檔 cyffinio. Mae ffi sefydlog yn daladwy. Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru.

Ar 么l cael y cais neu yn dilyn ymholiadau pellach o dan reol 17 o Reolau Cofrestru Tir 2003, rhaid i鈥檙 cofrestrydd benderfynu a yw鈥檔 fodlon bod: (i) y cynllun, neu鈥檙 cynllun a鈥檙 disgrifiad geiriol, yn dynodi鈥檙 union linell terfyn sy鈥檔 cael ei hawlio, (ii) bod y ceisydd wedi dangos achos dadleuadwy mai鈥檙 union linell terfyn yw鈥檙 lleoliad a ddangosir, a (iii) y gall ddynodi holl berchnogion tir cyffiniol y terfyn a bod ganddo gyfeiriad lle gellir anfon rhybudd at bob perchennog. Os yw鈥檔 fodlon, rhaid iddo roi rhybudd o鈥檙 cais i鈥檙 perchnogion cyffiniol, oni bai bod y dystiolaeth y dibynnir arni ac a gyflwynir gyda鈥檙 cais yn cynnwys cytundeb ysgrifenedig gyda鈥檙 perchnogion cyffiniol o ran y llinell terfyn neu orchymyn llys yn pennu鈥檙 llinell terfyn. Dylid cwblhau Panel 9 ffurflen DB lle y ceir cytundeb gan y perchennog(perchnogion) cyffiniol. Os nad yw鈥檙 cofrestrydd yn fodlon o ran (i), (ii) a (iii), rhaid iddo ddileu鈥檙 cais.

Mae鈥檔 bosibl y bydd y dystiolaeth a gyflwynwyd i fodloni鈥檙 cofrestrydd bod yr union linell terfyn yn y lleoliad a ddangosir yn cynnwys cynlluniau neu ddatganiadau o fewn gweithredoedd cyn-gofrestru, datganiadau statudol, datganiadau o wirionedd neu ddatganiadau eraill wedi eu llofnodi. Pan fo ceisydd yn dibynnu ar adroddiad arbenigwr, dylid cyflwyno copi o鈥檙 adroddiad hwnnw. Dylid nodi nad yw casgliad arbenigwr ynghylch safle鈥檙 terfyn cyfreithiol yn derfynol ar y pwynt, er y gall rwymo鈥檙 part茂on sy鈥檔 cyfarwyddo鈥檙 arbenigwr. Rhaid i鈥檙 cofrestrydd fod yn fodlon o hyd y dangoswyd achos dadleuadwy dros osod union linell y terfyn lle nodwyd hynny yn asesiad yr arbenigwr. Dyma felly pam fo angen cyflwyno adroddiad yr arbenigwr. Os oes rheswm arbennig i feddwl na fyddai鈥檙 cofrestrydd yn fodlon ynghylch cyflwyno achos dadleuadwy, efallai y byddai鈥檔 well ystyried dilyn y drefn drosglwyddo a esbonnir yn Trosglwyddiadau a therfynau wedi eu pennu heb gais.

Os ceir gwrthwynebiad i鈥檙 cynllun a phenderfynir nad yw鈥檙 gwrthwynebiad yn ddi-sail, bydd yn rhaid cyfeirio鈥檙 mater at adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys Haen Gyntaf, oni bai y gall y part茂on ddod i benderfyniad.

4.3 Y cynllun terfyn wedi ei bennu

Gwelir isod y bydd yn rhaid fel arfer i arolygwr tir siartredig neu weithiwr proffesiynol cymwysedig addas arall ardystio cynllun terfyn wedi ei bennu gyda thystysgrif. Ond hyd yn oed pan nad yw hyn yn angenrheidiol, argymhellir y dylai gweithiwr proffesiynol o鈥檙 fath baratoi鈥檙 cynllun.

Fel rheol bydd arolygwr tir yn arolygu鈥檙 terfyn i fod wedi ei bennu mewn un o 2 ffordd.

  • Trwy ddefnyddio mesuriadau o nodweddion parhaol.
  • Trwy ddefnyddio cyfesurynnau Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans.

Byddai defnyddio cyfesurynnau鈥檙 Grid Cenedlaethol yn addas dim ond mewn ardaloedd lle ceir ychydig iawn o nodweddion parhaol addas neu lle y byddai mesuriadau t芒p wedi bod yn eithriadol hir. Mae defnyddio cyfesurynnau鈥檔 galw am offer arolygu arbenigol ac mae鈥檔 debygol mai dyma鈥檙 fyddai鈥檙 dewis mwyaf drud wrth derfynu鈥檙 terfyn neu geisio ei hail-lunio.

Gellir marcio lleoliad y terfyn sydd i鈥檞 bennu ar y ddaear trwy nodwedd megis ffens neu fur. Fodd bynnag nid yw hyn yn ofynnol ac efallai na fydd bob amser yn bosibl. Mae rhai datblygiadau tai a chanddynt erddi agored yn y blaen yn cynnwys cyfamodau sy鈥檔 gwahardd codi ffensys. Ffordd arall o farcio terfyn yw defnyddio 鈥渁rwyddion daear parhaol鈥: gweler Defnyddio arwyddion daear parhaol. Bydd yn rhaid nodi eu lleoliad ar y cynllun gyda鈥檙 cais.

4.4 Gofynion cynllun terfyn wedi ei bennu

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd 芒 chyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 2: cyfarwyddyd ar baratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF, sy鈥檔 disgrifio gofynion cynllun cyffredinol sy鈥檔 gymwys i bob cais. Rhaid i鈥檙 cynllun sy鈥檔 cefnogi cais i bennu terfyn:

  • ddangos yn eglur stent y terfyn i鈥檞 bennu trwy gyfeirnod addas megis lliwio neu amlinellu

  • nodi dechrau a diwedd y terfyn pendant ac unrhyw drobwyntiau ynddo, yn ddelfrydol trwy bwyntiau 芒 llythrennau arnynt a rhaid iddo gynnwys datganiad sy鈥檔 disgrifio鈥檙 terfyn wedi ei bennu. Er enghraifft, 鈥淢ae union linell y terfyn sydd i鈥檞 bennu rhwng pwyntiau A-B-C-Ch ac yn rhedeg ar hyd llinell ganol y wal sy鈥檔 rhannu鈥

  • dangos yn eglur ddigon o fanylion amgylchynol i adnabod lleoliad cyffredinol y terfyn ar fap yr Arolwg Ordnans, a dangos ei raddfa, er enghraifft, pwynt y gogledd

  • bod wedi ei dynnu鈥檔 gywir i raddfa ddatganedig 鈥 y raddfa ffafriedig yw dim llai na 1:200 ac yn ddelfrydol dim mwy na maint A3 (gellir defnyddio mwy nag un cynllun os oes angen)

  • disgrifio鈥檙 berthynas gyda nodweddion diriaethol lle y mae鈥檙 terfyn yn cyfateb 芒 hwy 鈥 er enghraifft, ar ba ochr o鈥檙 nodwedd ddiriaethol mae鈥檙 terfyn yn rhedeg, a/neu trwy ba bwynt o鈥檙 nodwedd ddiriaethol mae鈥檙 terfyn yn mynd

  • disgrifio鈥檙 pwyntiau cyfeirio, ac o ble o鈥檙 pwyntiau cyfeirio y cymerwyd y mesuriadau, er enghraifft, 鈥渃ornel gogledd-orllewinol yr adeilad鈥, 鈥渃ornel de orllewinol y postyn鈥, yn eglurhad y cynllun. Os yw mesuriad i鈥檞 gymryd o bwynt cyfeirio nad yw鈥檔 rhan o nodwedd ddiriaethol ar y ddaear, rhaid marcio鈥檙 pwynt hwn ag 鈥渁rwydd daear parhaol鈥. Gweler Defnyddio arwyddion daear parhaol.

  • cynnwys gwybodaeth a manylion perthnasol yn unig 鈥 dylid hepgor unrhyw wybodaeth ddiangen a allai orlenwi鈥檙 cynllun neu efallai wrth-ddweud yr wybodaeth berthnasol a rhaid tynnu ymaith unrhyw gyfesurynnau a welir ar y cynllun nad ydynt yn gyfesurynnau鈥檙 Grid Cenedlaethol

  • cael ei lofnodi gan y ceisydd(ceiswyr), a lle y mae panel 9 ffurflen DB wedi ei gwblhau, y cymydog(cymdogion)

  • ni ddylai gynnwys unrhyw ddatganiad o ymwadiad neu ardystiad sy鈥檔 taflu amheuaeth ar gywirdeb y cynllun megis 鈥渁t ddibenion adnabod yn unig鈥

Mae gofynion cynllun manwl pellach yn dibynnu ar a yw鈥檙 terfyn wedi ei bennu gan fesuriadau neu Gyfesurynnau Grid Cenedlaethol a gwelir y rhain isod.

4.4.1Gofynion ar gyfer cynlluniau terfyn wedi ei bennu lle defnyddir mesuriadau

Yn ogystal 芒鈥檙 gofynion a nodir uchod, rhaid i unrhyw fesuriadau ar y cynllun:

  • fod yn gywir i +/-10mm
  • gael eu mesur yn llorweddol 鈥 mewn geiriau eraill, nid ar hyd llethr
  • gael eu mesur o o leiaf 2 bwynt diffiniedig ar nodweddion diriaethol parhaol amgylchynol fel corneli adeiladau, ac yn ddelfrydol o ddwy ochr y terfyn

Sylwer: Ystyr 鈥渘odweddion parhaol鈥 yn y cyd-destun hwn yw鈥檙 rheiny mae鈥檔 rhesymol tybio y byddant yn aros yno am o leiaf 10 mlynedd. Nid yw mesuriadau o nodweddion sy鈥檔 destun tyfiant neu ddirywiad naturiol yn dderbyniol. Gweler hefyd Defnyddio arwyddion daear parhaol.

Yn dilyn ymgyngoriadau 芒 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), Y Gymdeithas Arolwg (TSA) a鈥檙 Arolwg Ordnans, cytunwyd fel arfer dda bod arolygwyr tir siartredig neu weithwyr proffesiynol cymwysedig eraill yn ardystio cynlluniau a baratowyd ganddynt gyda thystysgrif o ran eu cywirdeb fel a ganlyn:

鈥淭ystiaf fod y mesuriadau ar y cynllun hwn yn gywir i +/- 10mm鈥.

Gwelir enghraifft o gynllun terfyn wedi ei bennu yn defnyddio mesuriadau yn Enghraifft o gynllun terfyn wedi ei bennu yn seiliedig ar fesuriadau.

4.4.2Gofynion ar gyfer cynlluniau terfyn wedi ei bennu lle defnyddir cyfesurynnau

Yn ogystal 芒鈥檙 gofynion a osodir yn Gofynion cynllun terfyn wedi ei bennu, mae鈥檙 canlynol yn gymwys lle y mae鈥檙 cynllun terfyn wedi ei bennu yn seiliedig ar gyfesurynnau, neu lle y defnyddir cyfesurynnau fel pwyntiau cysylltiol ar gyfer mesuriadau.

Yr unig gyfesurynnau a fydd yn dderbyniol yw cyfesurynnau鈥檙 Grid Cenedlaethol. Os c芒nt eu defnyddio, rhaid iddynt gael cywirdeb absoliwt o +/-300mm a chywirdeb cymharol o +/-10mm. Dylid cofnodi鈥檙 cyfesurynnau fel cyfres o ddau rif metrig wyth digid gyda鈥檙 dwyreiniadau gyntaf, ee Dwyreiniad (m) 652,968.97, Gogleddiad (m) 303,713.39. Os bydd cyfesurynnau o鈥檙 fath yn ymddangos ar y cynllun bydd angen i鈥檙 Arolwg Ordnans, Arolygydd Tir Siartredig neu weithiwr proffesiynol cymwysedig priodol arall ardystio eu cywirdeb gyda鈥檙 dystysgrif ganlynol:

鈥淭ystiaf fod gan gyfesurynnau鈥檙 Grid Cenedlaethol a welir ar y cynllun hwn gywirdeb absoliwt o +/-300mm a chywirdeb cymharol o +/-10mm. Mae unrhyw fesuriadau a ddangosir yn gywir i +/-10mm.鈥

Mae鈥檙 dystysgrif hon yn golygu:

  • bod cyfesurynnau鈥檙 Grid Cenedlaethol o fewn radiws o 300mm o gyfesurynnau gwir y Grid Cenedlaethol ar gyfer y pwyntiau hynny

  • bod y pellter diriaethol ar y llawr rhwng y pwyntiau am yr hyn y rhoddir cyfesurynnau鈥檙 Grid Cenedlaethol o fewn 10mm o鈥檙 pellter rhwng y pwyntiau hynny fel y cyfrifwyd o鈥檙 cyfesurynnau hynny.

Mae tystysgrif yn yr un geiriau ond sy鈥檔 nodi lleoliad y terfyn gyda mwy o gywirdeb (trwy gyfeirio at gywirdeb absoliwt o +/-200mm er enghraifft) yn dderbyniol wrth gwrs.

4.4.3Defnyddio arwyddion daear parhaol

Mae arwyddion daear parhaol yn darparu lleoliadau cyfeirio parhaol ar gyfer gosod pwyntiau rheoli wrth arolygu tir ac fe鈥檜 bwriedir i鈥檞 defnyddio am gyfnod o amser hir. Lle ceir diffyg rheolaeth o nodweddion diriaethol parhaol amgylchynol megis adeiladau, gall arolygwyr tir ddefnyddio arwyddion daear parhaol fel pwyntiau rheoli.

Gall enghreifftiau o arwyddion daear parhaol gynnwys:

  • disg efydd wedi ei osod mewn concrid
  • piben haearn wedi ei llenwi 芒 choncrid
  • nod croes ar adeilad concrid sy鈥檔 bodoli neu ar ben uchaf craig
  • twll wedi ei ddrilio mewn concrid ac wedi ei lenwi 芒 phlwm, neu wialen fetel wedi ei rhoi yn y ddaear gyda nod yn y canol i ddynodi鈥檙 union bwynt
  • arwyddion arolygu tir angoredig a wnaed i鈥檙 pwrpas.

Tra gellir defnyddio bothau neu bolion pren i nodi terfyn mewn cae, nid arwyddion daear parhaol ydynt oherwydd gellir eu symud yn rhwydd ac mae modd iddynt bydru.

4.5 Enghraifft o gynllun terfyn wedi ei bennu yn seiliedig ar fesuriadau

Enghraifft o gynllun terfyn wedi ei bennu yn seiliedig ar fesuriadau(PDF, 1MB)

5. Trosglwyddiadau a therfynau wedi eu pennu heb gais

Efallai y bydd cymdogion am i鈥檙 terfyn cyffredin fod mewn lleoliad arbennig er mwyn, er enghraifft, caniat谩u mynediad hawdd i gerbydau, neu ar gyfer adeiladu estyniad. Gall hyn fod yn lleoliad gwahanol i leoliad y terfyn cyfreithiol. Yn fwy tebygol, efallai na fydd yn glir a yw鈥檙 terfyn newydd mewn lleoliad gwahanol i leoliad y terfyn cyfreithiol: yn aml bydd gan gymdogion farn wahanol ar union leoliad terfyn cyfreithiol, a gallai鈥檙 ddau fod yn farn resymol. Pan fo鈥檙 cymdogion am i鈥檙 鈥渢erfyn newydd鈥 hwn, fod yn derfyn cyfreithiol, ac i gael ei ddangos fel terfyn wedi ei bennu os nad yw eisoes yn cael ei ddangos felly, efallai y byddant am ystyried y drefn ganlynol. Mae鈥檔 cynnwys tair elfen: nodi union linell y terfyn newydd; naill ai trosglwyddiadau ar y cyd neu drosglwyddiad unigol er mwyn sicrhau bod y terfyn newydd yn derfyn cyfreithiol os nad yw felly eisoes; ac yna cais i鈥檙 cofrestrydd i bennu鈥檙 ffin o dan reol 122 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Byddai鈥檔 rhaid i鈥檙 cymdogion gofio y gallai hawliau trydydd parti megis cyfamodau cyfyngu effeithio ar y tir a drosglwyddwyd i鈥檙 cymydog arall. (Wrth gwrs, mae鈥檔 annhebygol y bydd hyn o bwys os yw teitl y cymydog arall eisoes yn ddarostyngedig i鈥檙 un cyfamod cyfyngu neu unrhyw hawl arall o dan sylw).

5.1 Rhagarweiniadau

Y cam cyntaf yw nodi union linell y terfyn newydd yn yr un modd ag y mae鈥檔 rhaid nodi union linell y terfyn cyfreithiol lle gwneir cais am derfyn penodol. Yn arbennig, bydd angen cynllun yn dangos y terfyn newydd i鈥檙 lefel cywirdeb sy鈥檔 ofynnol ar gyfer cais terfyn penodol. Gweler Rhagarweiniadau.

5.2 Trosglwyddiadau

Gellir wedyn defnyddio copi o鈥檙 cynllun mewn trosglwyddiadau o bob cymydog i鈥檙 llall. Byddai angen i bob trosglwyddiad fod ar ffurflen TP1. Gellid cwblhau ail ran panel 3 (鈥淓iddo鈥) fel bod yr 鈥淴鈥 yn y blwch cyntaf, ac yna datganiad tebyg i鈥檙 canlynol:

鈥淢ae鈥檙 eiddo wedi ei nodi ar y cynllun atodedig, sef unrhyw dir o fewn y rhif teitl a nodir ym mhanel 1 i [gorllewin ac ati] y llinell [a liwir yn goch ac ati].鈥

Sylwch fod yn rhaid i鈥檙 trosglwyddwr lofnodi鈥檙 copi o鈥檙 cynllun a ddefnyddir yn y ffurflen TP1.

Ym Mhanel 9, gellid gosod yr 鈥淴鈥 yn y trydydd blwch, ac yna datganiad i鈥檙 perwyl:

鈥淢ae鈥檙 trosglwyddwr wedi cael gan y trosglwyddai ar gyfer yr eiddo unrhyw dir o fewn teitl y trosglwyddai i [ddwyrain ac ati] y llinell [a liwir yn goch ac ati].鈥

Yn amlwg, os yw鈥檙 gydnabyddiaeth yn wahanol 鈥 efallai swm o arian yn cael ei dalu yn ychwanegol 鈥 byddai angen addasu鈥檙 datganiad hwn. (Os mai dim ond un cymydog sy鈥檔 trosglwyddo tir, ac felly dim ond un ffurflen TP1 sydd, mae鈥檔 debygol y bydd panel 9 yn cael ei gwblhau yn y ffordd arferol, gan gyfeirio at swm o arian.) Mae鈥檙 pwyntiau arferol gyda throsglwyddiadau鈥檔 berthnasol. Yn arbennig, os bydd y teitlau鈥檔 ddarostyngedig i arwystlon, mae鈥檔 bosibl y bydd angen rhyddhau鈥檙 tir a drosglwyddir gan bob un o鈥檙 trosglwyddiadau o鈥檙 arwystlon presennol a鈥檜 hailarwystlo gan y trosglwyddai (neu gellid cyflawni gweithredoedd arwystl amnewidiol); byddwn yn gofyn am y dystiolaeth arferol bod unrhyw ofynion treth tir toll stamp wedi eu bodloni.

5.3 Cais am derfyn wedi ei bennu

Ar gais i gofrestru鈥檙 trosglwyddiadau, gall y cymdogion ofyn i鈥檙 cofrestrydd arfer ei b诺er o dan reol 122 o Reolau Cofrestru Tir 2003 i bennu鈥檙 terfyn rhwng eu teitlau priodol. Gellid gwneud y cais ym mhanel 12 ffurflen TP1, neu mewn llythyr eglurhaol. Nid oes ffi yn daladwy, ac eithrio鈥檙 ffi briodol ar gyfer cofrestru鈥檙 trosglwyddiadau. Os mai dim ond un trosglwyddiad sy鈥檔 gysylltiedig, yna dylai鈥檙 cais gael ei wneud gan y trosglwyddai.

Gall Rheol 122 weithredu dim ond i鈥檙 graddau y mae trosglwyddiad o deitl cofrestredig. Felly ni fyddai鈥檙 dull hwn yn bosibl lle mai dim ond un trosglwyddiad oedd yn gysylltiedig a鈥檌 fod o deitl difgofrestredig, ac efallai na chredir ei bod yn briodol pan oedd trosglwyddiadau鈥檔 cael eu cynnwys yn y ddwy ochr ond dim ond un oedd allan o deitl cofrestredig.

6. Pethau i鈥檞 cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.